![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011440w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 5 Ebrill 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Mai 2001 |
(2) Mae'r holl gyfrannau a grybwyllir yn y Rheoliadau hyn yn gyfrannau a gyfrifir yn ôl eu pwysau ac, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fe'u cyfrifir yn ôl cyfanswm pwysau'r cynnyrch.
(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at yr Atodlen fel cyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Cwmpas y Rheoliadau
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble.
(3) Yn y rheoliad hwn -
Disgrifiadau neilltuedig
4.
Ni chaiff neb roi label gydag unrhyw fwyd a werthir ganddo, na'i arddangos gydag unrhyw fwyd a gynigir neu a ddatgelir ganddo i'w werthu neu sydd yn ei feddiant er mwyn ei werthu, p'un a yw'r label ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, sef papur lapio neu gynhwysydd sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo neu a ffurfir ohonynt oni bai -
Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig
5.
- (1) Heb ragfarnu Rheoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol -
(2) Yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 25% o sylwedd sych sy'n deillio o goffi ac yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 45% o sylwedd sych sy'n deillio o sicori, gellir ychwanegu'r gair "concentrated" at y disgrifiad neilltuedig.
(3) Bydd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff 1(b) ac (c) uchod yn yr un maes gwelediad â'r disgrifiad neilltuedig sy'n ofynnol gan baragraff (1)(a) uchod.
Dull marcio neu labelu
6.
Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch dynodedig â hwy o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y byddai'n ofynnol marcio neu labelu'r bwyd â hwy o dan Reoliadau 1996.
Cosbi a gorfodi
7.
- (1) Os bydd unrhyw berson yn torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio â hwy, bydd y person hwnnw'n euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r darpariaethau hynny yn ei ardal ac yn eu gweithredu.
(3) Rhaid i'r dulliau a ddefnyddir i benderfynu faint o garbohydrad rhydd a thoddadwy a gynhwysir mewn echdynion coffi gydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC[5] ynghylch cyflwyno dulliau Cymunedol o samplu a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd i bobl eu bwyta a rhaid iddynt gael eu dilysu neu eu safoni.
Darpariaeth drosiannol
8.
Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi -
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
9.
Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi y bwriadwyd i'r bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef gael ei allforio i wlad (heblaw Aelod-wladwriaeth) a chanddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
10.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
Diwygio a diddymu
11.
- (1) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II) hepgorir is-baragraff (e).
(2) Hepgorir y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Coffi a Chynyrchion Coffi 1978 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru) -
(3) Diddymir drwy hyn Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1982[13]) a Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1987 [14] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15]).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Ebrill 2001
Colofn 1 | Colofn 2 | |
Disgrifiadau neilltuedig | Cynhyrchion Echdynion Coffi | |
1.
"Coffee extract" neu "Soluble coffee extract" neu "Instant coffee" neu Soluble coffee |
Echdynnyn coffi ar ffurf powdr, gronynnau, fflawiau, ciwbiau neu ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn llai na 95%, ac nad yw'n cynnwys sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi. | |
2.
"Coffee extract" neu "Soluble coffee extract" neu "Instant coffee" neu "Soluble coffee" |
gyda'r gair "paste" neu'r geiriau "in paste form" ar eu hôl bob tro | Echdynnyn coffi ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%, nac yn cynnwys unrhyw sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi. |
3.
"Coffee extract" neu "Soluble coffee extract" neu "Instant coffee" neu "Soluble coffee" |
gyda'r gair "liquid" neu'r geiriau "in liquid form" ar eu hôl bob tro | Echdynnyn coffi ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%. |
SYLWER: Gall y cynnyrch gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 12% |
Colofn 1 | Colofn 2 | |
Disgrifiadau neilltuedig | Cynhyrchion Echdynion Coffi | |
1.
"Chicory extract" neu "Instant chicory" neu "Soluble chicory" |
Echdynnyn sicori ar ffurf powdr, gronynnau, ffawiau, ciwbiau neu'r ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn llai na 95%. SYLWER: Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori. |
|
2.
"Chicory extract" neu "Instant chicory" neu "Soluble chicory" |
gyda'r geiriau "paste" neu'r geiriau "in paste form" ar eu hôl bob tro |
Echdynnyn sicori ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%. SYLWER: Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori. |
3.
"Chicory extract" neu "Instant chicory" neu "Soluble chicory" |
gyda'r geiriau "liquid" neu'r geiriau "in liquid form" ar eu hôl bob tro | Echdynnyn sicori ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%. |
SYLWER: Gall y cynnyrch hwn gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 35% |
3.
Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.
[2] rosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion ("the Ministers") o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999 Rhif 672).back
[3] OS 1996 Rhif 1499; OS 1998 Rhif 1398 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back
[4] OS 1976 Rhif 509; OS 1982 Rhif 255 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back
[5] OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.50.back
[6] OS 1978 Rhif 1420; OS 1982 Rhif 254, 1987 Rhif 1986, 1990 Rhif 2486, 1991 Rhif 1476, 1992 Rhif 2596, 1995 Rhif 3187, 1996 Rhif 1499 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back