BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011506w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1506 (Cy. 104 )

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 20 Ebrill 2001 
  Yn dod i rym 21 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 57(6) a 63(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 63(1) â'r cyrff hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, darfod a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001.

    (2) Daw'r Rheolidau hyn i rym ar 21 Ebrill 2001 a byddant yn darfod ar 20 Gorffennaf 2001 oni chânt eu hestyn neu eu diddymu cyn hynny gan Reoliadau pellach.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Gwastraff Rhagnodedig
    
2.  - (1) Bydd adran 57 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p er yr Ysgrifennydd Gwladol i'w gwneud yn ofynnol i wastraff gael ei ddebyn, ei drin, ei waredu neu ei draddodi) yn cael effaith yng Nghymru fel pe bai cyfeiriadau at wastraff a reolir yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw wastraff sy'n dod o safleoedd a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947[3] ac yn cynnwys - 

    (2) Dyma'r anifeiliaid y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) a (b) - 

    (3) Ni fydd paragraff (1)(a) yn gymwys i wartheg a anwyd cyn 1 Awst 1996.

Deddfiadau a ragnodir at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
     3. Rhagnodir y deddfiadau canlynol at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (amddiffyniadau yn achos cydymffurfio â chyfarwyddyd) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad

20 Ebrill 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo deiliad trwydded reoli gwastraff, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i dderbyn a chadw, neu i dderbyn a thrin neu waredu carcasau (neu rannau o garcasau) mathau penodol o anifail a gigyddwyd o ganlyniad i fesurau a gymerwyd mewn cysylltiad â chlwy'r traed a'r genau. Y mathau perthnasol o anifail yw gwartheg (os cawsant eu geni ar neu ar ôl 1 Awst 1996), defaid, anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil neu foch. Gellir hefyd roi cyfarwyddiadau mewn perthynas â lludw neu ddeunydd a rendrwyd o ganlyniad i losgi neu rendro carcasau neu rannau o garcasau gwartheg (o unrhyw oed), defaid, anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil neu foch pan gafodd yr anifieiliaid hynny eu cigydda o ganlyniad i fesurau cyfyngu.

Bydd estyn y mathau o wastraff drwy'r Rheoliadau hyn a all fod yn destun cyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 57(1) a (2) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a ddisgrifir uchod yn cael effaith ledled Cymru gyfan. Ni fydd deiliad trwydded yn euog o dramgwydd troseddol o dan unrhyw un o ddarpariaethau penodedig Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 dim ond oherwydd unrhyw beth y bu'n rhaid ei wneud neu ei hepgor er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Bydd y Rheoliadau'n darfod ar 20 Gorffennaf 2001 oni chânt eu hestyn neu eu diddymu cyn hynny.

Mae deiliad trwydded rheoli gwastraff sy'n cael ei gollfarnu o fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 heb esgus rhesymol yn agored i ddirwy hyd at £5000.


Notes:

[1] 1990 p.43back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1947 p.48back

[4] 1990 p.8; gwnaed diwygiadau perthnasol gan adrannau 2, 8 a 9(4) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) a pharagraff 35 o Atodlen 7 i Ddeddf 1991.back

[5] Gwnaed diwygiadau perthnasol gan adran 33 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), adran 120(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), paragraffau 64 a 65 o Atodlen 22 i'r Ddeddf honno, rheoliad 19 o O.S. 1994/1056, paragraff 11 o Ran I o Atodlen 4 i O.S. 1994/1056 a pharagraffau 2 a 4 o Ran I o Atodlen 10 i O.S. 2000/1973.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090201-7


  Prepared 21 May 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011506w.html