BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011543w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1543 (Cy.108)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 29 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 28BB(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Swyddogaethau rhagnodedig yr Awdurdodau Iechyd yng Nghymru
    
2.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y swyddogaethau canlynol yw swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru at ddibenion adran 28BB o'r Ddeddf (p er yr awdurdodau lleol i wneud taliadau i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ) - 

    (2) Mae unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol yn cael eu hepgor o'r swyddogaethau sy'n cael eu rhagnodi o dan baragraff (1) uchod - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D. Elis Thomas

29 Mawrth 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rhai o swyddogaethau Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, at ddibenion adran 28BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae hyn yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i wneud taliadau i Awdurdodau Iechyd tuag at wariant a dynnir ganddynt mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o'r swyddogaethau sydd wedi'u rhagnodi fel hyn.


Notes:

[1] 1977 p.49; mewnosodwyd adran 28BB gan adran 30 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"). Cychwynnwyd adran 30 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Chymru gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000, O.S. 2000/2991 (Cy. 191) (C.92), ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 28BB o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol. Gweler adran 28BB(2) i gael diffiniad o "prescribed". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28BB a 126(4), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(4) a (5) o Ddeddf 1999.back

[2] Diwygiwyd adran 5(1), a mewnosodwyd adrannau 5(1A) ac (1B), gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1998 (p.49), adran 10(1); diwygiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Addysg 1981 (p.60), Atodlen 3, paragraff 13, Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, Rhan I, paragraff 21, a Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 7.back

[3] 1983 p.20.back

[4] Gweler BS EN 60825-1: 1994 Safety of Laser Products. Diffinnir cynhyrchion laser dosbarth 4 drwy gyfeirio at 'British Standards' sy'n cael ei gyhoeddi gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ("BSI") ac y gellir ei gael oddi wrth BSI, Linford Woods, Milton Keynes, MK14 6LE.back

[5] O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1995/3093, 1997/981, 1999/1627 a 2000/1887.back

[6] O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2451, 1995/644 a 1999/696.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090214-9


  Prepared 1 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011543w.html