BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011690w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1690 (Cy.120)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 1 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r sefyliadau hynny y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddiannau sy'n debygol o gael eu heffeithio'n sylweddol gan y Rheoliadau, mae Cynylliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

Diwygio Rheoliadau blaenorol mewn perthynas â Chymru
    
2. I'r graddau y mae Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995[3] yn gymwys i Gymru, fe'u diwygir drwy fewnosod - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mai 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995 mewn perthynas â Chymru wrth weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/50/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/321/EC ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol.

Mae'r Rheoliadau yn estyn y gofynion cyfansoddol ar gyfer y fformwlâu hyn sydd yn Rheoliadau 1995 drwy ychwanegu gofyniad na fyddant yn cynnwys gwaddodion plaleiddiaid unigol dros lefel o 0.01 mg/kg, wrth o'u mesur pan fyddant yn barod i'w defnyddio neu wrth eu hailgyfansoddi yn ôl cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr (rheoliad 2(b)), ac maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol (rheoliad 2(a)). Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p. 16; diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40).back

[2] Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1995/77 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[4] OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35.back

[5] J Rhif L139, 2.6.1999, t.29.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090269 6


  Prepared 18 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011690w.html