BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012069w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2069 (Cy.141)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 24 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 51 ac 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

ac mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1)(a) a (b)
     2. Rhaid i'r cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1)(a) a (b) (cynigion drafft ar gyfer sefydlu corff corfforaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 16(1) neu (3)) ac y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 51(2) roi'r wybodaeth ganlynol - 

Yr wybodaeth sydd i'w cynnwys yn y cynigion drafft a ddisgrifir yn adran 51(1)(c)
     3. Rhaid i'r cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1)(c) (cynigion drafft ar gyfer diddymu unrhyw gorfforaeth addysg bellach gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 27) ac y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 51(2) roi'r wybodaeth ganlynol - 

Amser a dull cyhoeddi'r cynigion o dan adran 51(1)
    
4.  - (1) Rhaid i'r cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1) (cynigion drafft ar gyfer sefydlu corff corfforaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 16(1) neu (3) neu ar gyfer diddymu unrhyw gorfforaeth addysg bellach gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 27) ac y mae'n ofynnol eu cyhoeddi gan y Cyngor Cenedlaethol o dan adran 51(2) gael eu cyhoeddi (yn unol â pharagraffau (2) a (4)) o leiaf bedwar mis cyn y dyddiad a bennir yn y cynigion drafft ar gyfer sefydlu neu ddiddymu'r gorfforaeth addysg bellach.

    (2) Rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi crynodeb o'r cynigion - 

    (3) Rhaid i'r crynodeb ddatgan bod modd cael copi o'r cynnig drafft yn rhad ac am ddim oddi wrth y Cyngor Cenedlaethol a rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol anfon copi o'r cynnig drafft at unrhyw berson sy'n gofyn amdano.

    (4) Rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol anfon copi o'r cynnig drafft - 

Y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau
    
5. Mae'r cyfnod y cyfeirir ato yn adran 51(2)(b), pan ellir cyflwyno sylwadau y mae'n rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol eu hystyried, yn gyfnod o un mis gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r olaf o'r digwyddiadau a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) neu (4) uchod yn digwydd.

Cyhoeddi etc. y gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a)
    
6.  - (1) Mae'r materion canlynol yn cael eu rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a) (gorchmynion o dan adran 16(1) heblaw gorchmynion sy'n cael eu gwneud er mwyn rhoi effaith i gynnig gan y Cyngor Cenedlaethol) - 

    (2) Rhaid i'r crynodeb ddatgan bod modd cael copi o'r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gorchymyn drafft at unrhyw berson sy'n gofyn amdano.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gorchymyn drafft - 

Cyhoeddi etc. y gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b)
    
7.  - (1) Mae'r materion ym mharagraff (2) yn cael eu rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b) (gorchmynion sy'n cael eu gwneud o dan adran 16(3) heblaw gorchmynion sy'n cael eu gwneud er mwyn rhoi effaith i gynnig gan y Cyngor Cenedlaethol).

    (2) Rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi cyn pen deufis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu corff corfforaethol trwy anfon copi - 

Diddymu a darpariaethau trosiannol
    
8.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992[5] ("Rheoliadau 1992") yn cael eu diddymu.

    (2) At ddibenion rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn rhaid ymdrin ag unrhyw beth a wnaed yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 1992 fel petai wedi'i wneud o dan y ddarpariaeth gyfatebol yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad

24 Mai 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru) yn rhagnodi cynnwys, ac amser a dull cyhoeddi, cynigion drafft sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor Cenedlaethol") ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach a'u diddymu.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer amser a dull cyhoeddi gorchmynion drafft ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 16 (1) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, pan nad yw'r gorchmynion hynny yn cael eu gwneud er mwyn rhoi effaith i gynigion a wnaed gan y Cyngor Cenedlaethol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 ac yn ailddeddfu eu darpariaethau gyda diwygiadau sy'n deillio o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a'r fframwaith newydd ar gyfer ysgolion a gynhelir a geir yn Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.


Notes:

[1] 1992 p.13.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).back

[3] 1996 p.56back

[4] 1998 p.31. Gweler adran 69 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 (O.S.1999/1814).back

[5] O.S. 1992/2361.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090250-5


  Prepared 5 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012069w.html