BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012186w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2186 (Cy. 150 )

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 12 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(3) a (4) ac adran 11(1) a (3) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000[1] ac adran 1(1)(b)(ii) o Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Gwasanaethau personol agos eu natur ac amgylchiadau rhagnodedig
     2.  - (1) At ddibenion adran 2(3) o'r Ddeddf mae gwasanaeth a gyflwynir i'r person sy'n derbyn gofal yn bersonol agos ei natur os yw'n cynnwys - 

    (2) Os bydd gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i'r person sy'n derbyn gofal, dyma'r amgylchiadau lle gall y gwasanaeth gynnwys gwasanaeth personol agos ei natur  - 

Personau na ellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt
    
3. Mae person sy'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau o bobl a ddisgrifir yn rheoliad 2(2)(b) i (n) o Reoliadau 1997 wedi'i ragnodi at ddibenion adran 1(1)(b)(ii) o Ddeddf 1996.

Diwygio Rheoliadau 1997
    
4. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1997 yn lle'r geiriau "section 1(1)(b) of the Act" rhoddir "section 1(1)(b)(i) of the Act".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion gofalwyr o dan amgylchiadau penodol, ac yn rhoi i'r awdurdodau lleol y per i gynnig gwasanaethau wedyn i ofalwyr i'w cefnogi yn eu rôl ofalu. Ymhellach, mae'n galluogi'r awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol i ofalwyr yn lle'r gwasanaethau gofalwyr yr aseswyd bod arnynt eu hangen.

O dan adran 2 o'r Ddeddf, gall gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i ofalwr gael ei gyflwyno i'r person sy'n derbyn gofal gyda chytundeb y gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal. Ni chaiff gwasanaeth a gyflwynir felly gynnwys unrhyw beth personol agos ei natur, ac eithrio o dan amgylchiadau rhagnodedig. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer beth sy'n bersonol agos ei natur (rheoliad 2(1)). Maent yn rhagnodi ymhellach o dan ba amgylchiadau y gall gwasanaeth personol agos ei natur gael ei gyflwyno i'r person sy'n derbyn gofal (rheoliad 2(3)). Maent yn pennu hefyd pwy na all gael taliad uniongyrchol yn lle gwasanaethau gofalwyr (rheoliad 3).

Yn olaf, mae'r rheoliadau yn gwneud mân ddiwygiad canlyniadol i'r Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997 (rheoliad 4).


Notes:

[1] 2000 p.16. Cyfeirir at adran 11(1) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back

[2] 1996 p.30. Cyfnewidiwyd paragraff (b) o adran 1(1) o'r Ddeddf hon gan adran 5(b) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16) , a fewnosododd is-baragraffau (i) a (ii). Mae p er yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1(1)(b)(ii) o Ddeddf 1996 i wneud rheoliadau wedi freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymu ynrhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymu (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[3] O.S. 1997/734.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090264 5


  Prepared 16 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012186w.html