BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012197w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 12 Mehefin 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Gorffennaf 2001 |
1. | Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli |
2. | Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig |
3. | Llygru dyfroedd a reolir |
4. | Cynnwys hysbysiadau adfer |
5. | Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer |
6. | Iawndal am hawliau mynediad etc |
7. | Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer |
8. | Apelau i lys ynadon |
9. | Apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru |
10. | Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol |
11. | Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl |
12. | Addasu hysbysiad adfer |
13. | Apelau i'r Uchel Lys |
14. | Atal hysbysiad adfer |
15. | Cofrestrau |
1. | Safleoedd arbennig |
2. | Iawndal am hawliau mynediad etc |
3. | Cofrestrau |
(ch) tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad os nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;
(d) tir o fewn safle niwclear;
(dd) tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran -
sef tir sy'n cael ei defnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;
(e) tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu -
ar unrhyw adeg;
(f) tir sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 1991 (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear)[3]; ac
(i) tir -
(2) At ddibenion paragraff (1)(b) uchod, mae "tarau asid gwastraff" yn darau -
(3) Ym mharagraff (1)(ch) uchod, mae i "awdurdodiad" a "proses ragnodedig" yr un ystyr ag "authorisation" a "prescribed process" yn Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol)[4] ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli yn ganolog neu yn lleol).
(4) Ym mharagraff (1)(d) uchod, ystyr "safle niwclear" yw -
ac mae i "trwydded safle niwclear" , "trwyddedai" a "cyfnod cyfrifoldeb" yr ystyr a roddir i "nuclear site licence", "licensee" a "period of responsibility" gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965[5].
(5) At ddibenion paragraff (1)(dd) uchod, dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae'n rhaid i dir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl neu gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu gael ei drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.
(6) Ym mharagraff (1)(dd) uchod -
(7) Ym mharagraff (1)(e) uchod, mae i "arf cemegol" yr un ystyr â "chemical weapon" yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996[8]) gan anwybyddu is-adran (2) o'r adran honno.
Llygru dyfroedd a reolir
3.
At ddibenion rheoliad 2(1)(a), mae'r rheoliad hwn yn gymwys i dir -
Cynnwys hysbysiadau adfer
4.
- (1) Rhaid i hysbysiad adfer ddweud (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3)) -
(d) manylion y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;
(dd) y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;
(e) rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniadau yngln â'r pethau y mae'n ofynnol i'r person priodol eu gwneud o ran gwaith adfer, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78E(5) wedi'u cymhwyso;
(f) pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas â'r tir halogedig o dan sylw -
(ff) pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w gwneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6) wedi'u cynhwyso;
(g) pan fydd adran 78E(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad adfer ddweud pa gyfran o gost peth sydd i'w wneud o ran gwaith adfer y mae pob un o'r personau priodol yn atebol i'w thalu mewn perthynas â'r peth hwnnw, rhesymau'r awdurdod gorfodi am y gyfran y mae wedi penderfynu arni, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(7) wedi'u cymhwyso;
(ng) pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad -
(h) pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;
(i) pan fwriedir cyflwyno'r hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4), ei bod yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr, oherwydd y sylweddau sydd yn y tir, arno neu odano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;
(j) y gall person y cyflwynwyd hysbysiad adfer iddo fod yn euog o drosedd[12] am fethu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion yr hysbysiad;
(l) y cosbau y gellir eu cymhwyso ar ôl collfarn am drosedd o'r fath[13];
(ll) enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi sy'n cyflwyno'r hysbysiad; ac
(m) dyddiad yr hysbysiad.
(2) Rhaid i hysbysiad adfer esbonio -
Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, rhaid i'r awdurdod gorfodi, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad adfer, anfon copi ohono at bob un o'r personau canlynol, nad yw'n berson y mae'r hysbysiad i fod i gael ei gyflwyno iddo -
(2) Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu odano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol i neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) uchod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
Iawndal am hawliau mynediad etc.
6.
Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith -
Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer
7.
- (1) Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1) -
(b) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad -
(c) bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth benderfynu mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth fethu â phenderfynu bod rhyw berson yn ychwanegol at yr apelydd yn berson priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(d) bod yr awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, wedi methu â gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6);
(dd) pan fydd dau neu ragor o bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, bod yr awdurdod gorfodi -
(e) bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau is-adran (1) neu (3) o adran 78H (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;
(f) pan gyflwynwyd yr hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4) heb gydymffurfio ag adran 78H(1) neu (3), na fuasai'n rhesymol i'r awdurdod gorfodi farnu bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd sylweddau yn y tir, arno, neu odano, bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol, neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;
(ff) bod yr awdurdod gorfodi wedi methu'n afresymol â chael ei fodloni, yn unol ag adran 78H(5)(b), fod pethau priodol yn cael eu gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, o ran gwaith adfer heb gyflwyno hysbysiad;
(g) bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd yngln â llygru dyfroedd a reolir);
(ng) bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78K (atebolrwydd mewn perthynas â sylweddau halogi sy'n dianc i dir arall);
(h) bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun b er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(b), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
(i) bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun b er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(e), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
(j) bod yr awdurdod gorfodi, wrth bwyso a mesur at ddibenion adran 78N(3)(e), a fyddai'n ceisio adennill y cyfan neu gyfran o'r gost a dynnwyd ganddo wrth wneud rhyw beth penodol o ran gwaith adfer -
(l) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);
(ll) nad yw cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad fel cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth yn rhesymol ddigonol at y diben;
(m) bod yr hysbysiad yn darparu i berson sy'n gweithredu yn rhinwedd swydd berthnasol[14] fod yn atebol yn bersonol i dalu'r cyfan neu ran o gost gwneud unrhyw beth o ran gwaith adfer, yn groes i ddarpariaethau adran 78X(3)(a);
(n) bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau adran 78YB (cydadwaith Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 â deddfiadau eraill), ac -
(o) y cafwyd rhyw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.
(2) Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos -
(3) Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r awdurdod apeliadol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg na'r camgymeriad yn un o sylwedd.
Apelau i lys ynadon
8.
- (1) Rhaid i apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon yn erbyn hysbysiad adfer fod ar ffurf c yn ar gyfer gorchymyn ac, yn ddarostyngedig i adran 78L(2) a (3) a rheoliadau 7(3), 12 a 13, bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980[15] yn gymwys i'r achos.
(2) Rhaid i apelydd, yr un pryd ag y mae'n gwneud c yn, -
(b) adneuo copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef a chyflwyno copi ohono i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol na chafodd ei enwi felly yn yr hysbysiad adfer; ac
(c) adneuo datganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) o is-baragraff (a) uchod.
(3) Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac ar ba seiliau y mae'r apêl yn cael ei gwneud.
(4) Ar apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon -
(b) rhaid i unrhyw berson sy'n dod o fewn paragraff (2)(a)(ii), (iii) neu (iv) uchod gael ei hysbysu ynghylch gwrandawiad y g yn ac unrhyw wrandawiad ar gyfer cyfarwyddiadau, a chyfle i gael ei wrando yn y gwrandawiadau hynny, yn ychwanegol at yr apelydd a'r awdurdod gorfodi; ac
(c) caiff y llys wrthod caniatáu cais gan yr apelydd i roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer, pan fydd y cais yn cael ei wneud ar ôl i'r llys hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.
(5) Bydd Rheol 15 o Reolau Llysoedd Achosion Teuluol (Achosion Priodasol etc.) 1991[16] (dirprwyo gan glerc ynadon) yn gymwys at ddibenion apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon fel y mae'n gymwys at ddibenion Rhan II o'r Rheolau hynny.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr "adneuo" yw adneuo gyda chlerc yr ynadon.
Apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
9.
- (1) Rhaid i apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud drwy hysbysiad iddo ("hysbysiad apêl"), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddweud -
(2) Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, -
a chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) uchod; a
(b) cyflwyno copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol nad yw wedi'i enwi felly yn yr hysbysiad adfer.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig ac ymdrinnir â'r apêl fel un y rhoddwyd y gorau iddi ar y dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr hysbysiad hwnnw.
(4) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) uchod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar unrhyw adeg ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.
(5) Pan roir y gorau i apêl, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol
10.
- (1) Cyn penderfynu apêl, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os yw'n credu ei bod yn briodol, -
a rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) uchod os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd am gael eu gwrando mewn perthynas â'r apêl.
(2) Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael eu gwrando mewn gwrandawiad -
(3) Ni fydd dim ym mharagraff (2) uchod yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.
(4) Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (per Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cynnwys ei gasgliadau a'i argymhellion neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.
Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl
11.
- (1) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ar apêl a darparu copi o unrhyw adroddiad a grybwyllir yn rheoliad 10(4).
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr un pryd ag y mae'n hysbysu'r apelydd, anfon copi o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod i Asiantaeth yr Amgylchedd ac at unrhyw berson arall yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
Addasu hysbysiad adfer
12.
- (1) Cyn addasu hysbysiad adfer o dan adran 78L(2)(b) mewn unrhyw ffordd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, rhaid i'r awdurdod apeliadol -
(2) Pan fydd yr apelydd neu unrhyw berson arall yn cael ei wrando, yn unol â pharagraff (1) uchod, bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael ei wrando hefyd.
Apelau i'r Uchel Lys
13.
Gall apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad gan lys ynadon yn unol ag apêl o dan adran 78L(1) gael ei chyflwyno gerbron yr Uchel Lys ar gais unrhyw barti i'r achos y rhoddwyd y penderfyniad ynddo (gan gynnwys unrhyw berson a arferodd ei hawl o dan reoliad 8(4)(b) i gael ei wrando yn ngwrandawiad y gyn).
Atal hysbysiad adfer
14.
- (1) Pan wneir apêl yn briodol yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad tra disgwylir am y penderfyniad terfynol ar yr apêl neu nes y rhoddir y gorau iddi.
(2) Mae apêl yn erbyn hysbysiad adfer yn cael ei gwneud yn briodol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'n cael ei gwneud o fewn y cyfnod a bennir yn adran 78L(1)[17] ac os cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 8(2) a (3) (yn achos apêl i lys ynadon) neu reoliad 9(1) a (2) (yn achos apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru).
Cofrestrau
15.
- (1) Bydd Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith ar gyfer rhagnodi -
(2) Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) fel gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j) -
(3) Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion is-adran (8) o adran 78R fel lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[18].
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
2.
Rhestrir y ffurfiadau creigiau canlynol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) -
Y cyfnod ar gyfer gwneud cais
2.
Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol -
Dull gwneud cais
3.
- (1) Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno neu ei anfon drwy bost rhag-daledig i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.
(2) Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais -
Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer
4.
Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a 5(b) isod, mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol -
(ch) difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol, ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a
(d) colled mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gan neu ar ran y grantwr ac sy'n cael ei wneud yn ofer drwy roi'r hawliau neu drwy eu harfer.
Y sail ar gyfer asesu'r iawndal
5.
- (1) Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G.
(2) Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.
(3) Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.
(4) Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d) uchod, cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.
(5) Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais -
(6) Rhaid i iawndal o dan adran 78G gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.
Talu iawndal a phenderfynu dadleuon
6.
- (1) Telir iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, caiff ei gymhwyso ganddo fel petai'n enillion ar werthiant.
(2) Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy -
(3) Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) uchod neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.
(4) Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf 1961 (y weithdrefn ynglyn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys -
Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer
2.
Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod.
3.
Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
Datganiadau adfer
4.
Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).
5.
Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath -
Datganiadau adfer
6.
Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan y person cyfrifol o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).
7.
Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath -
Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl
8.
Yn achos awdurdod gorfodi, unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod.
9.
Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
Dynodi safleoedd arbennig
10.
Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal, -
Hysbysu adferiad honedig
11.
Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod at ddibenion adran 78R(1)(h) neu(j).
Collfarnau am dramgwyddau o dan adran 78M
12.
Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.
Canllawiau a roddir o dan adran 78V(1)
13.
Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan is-adran (1) o adran 78V ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.
Rheolaethau amgylcheddol eraill
14.
Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) rhag cyflwyno hysbysiad adfer -
15.
Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw -
16.
Pan fydd yr awdurdod, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod II o Ran III o Ddeddf Adnoddau D r 1991 (troseddau llygru)[21], yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath, -
[9] Gweler adran 78A(8) ar gyfer ystyr "affected by".back
[14] Ar gyfer y diffiniad o "person acting in a relevant capacity" gweler adran 78X(4).back
[16] O.S. 1991/1991 (L.32)back
[17] Y cyfnod a bennir yn adran 78L yw'r cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau gyda'r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad arno.back