BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012275w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2275 (Cy. 165 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 68(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (4) Onid yw'n ymddangos bod yna fwriad i'r gwrthwyneb, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn Neddf 1974 neu yn Neddf 2000 (yn ôl fel y digwydd).

Cymhwyso darpariaethau Rhan III o Ddeddf 1974 at Swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 2000
     2. At ddibenion adran 23(11) o Ddeddf 1974, bydd swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys swyddogaethau'r Comisiynydd o dan Ran III o Ddeddf 2000.

Cymhwyso darpariaethau Rhan III o Ddeddf 1974 at Swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 2000
3.At ddibenion adrannau 23(12), (12A), (12B) a (13), a 23A o Ddeddf 1974 ac Atoden 4 iddi, bydd swyddogaethau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru yn cynnwys ei swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000.

Treuliau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru neu Gomisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 i gynnwys treuliau o dan Ran III o Ddeddf 2000
    
4. At ddibenion paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1974, bydd treuliau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 1974 yn cynnwys treuliau'r Comisiwn, neu dreuliau Comisiynydd Lleol yng Nghymru, o dan Ran III o Ddeddf 2000.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


O dan adran 68(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Deddf 2000), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â thrin swyddogaethau Comisiynydd Lleol yng Nghymru a'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (Deddf 1974) fel pe baent yn cynnwys swyddogaethau penodedig o dan Ran III o Ddeddf 2000. Hefyd caiff y rheoliadau ddarparu i dreuliau'r Comisiwn o dan Ddeddf 1974 gynnwys treuliau Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf 2000.

Yn y rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 68(3), mae rheoliad 2 yn cymhwyso adran 23(11) (gofyniad i Gomisiynydd Lleol gynhyrchu adroddiad blynyddol ynghylch cyflawni swyddogaethau) o Ddeddf 1974 at swyddogaethau Comisiynydd Lleol o dan Ran II o Ddeddf 2000.

Mae Rheoliad 3 yn cymhwyso adrannau 23(12) (gofyniad i'r Comisiwn gynnal adolygiad bob tair blynedd o weithrediad Rhan III), (12A) (disgresiwn i'r Comisiwn roi cyngor a chanllawiau ynghylch Rhan III), (12B) (y personau y mae'n rhaid ymgynghori â hwy mewn perthynas â chanllawiau adran 23(12A)), (13) (cymhwyso Atodlen 4 at y Comisiwn), adran 23A (Adroddiadau Blynyddol o'r Comisiwn) ac Atodlen 4 (Y Comisiynau) at swyddogaethau'r Comisiwn o dan Ran III o Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 4 yn cymhwyso paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 1974 fel bod treuliau'r Comisiwn o dan y Ddeddf honno yn cynnwys treuliau'r Comisiwn neu dreuliau Comisiynydd o dan Ran III o Ddeddf 2000.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1974 p.7.back

[3] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 090279 3


  Prepared 26 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012275w.html