BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012278w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2278 (Cy.168)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 82(8) a (9) a 105(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Disgrifiadau o gyflogeion
     3. Mae'r disgrifiadau canlynol o gyflogeion yn cael eu pennu at dibenion adran 82(8) o'r Ddeddf  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 82(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cyflogedig penodol mewn awdurdodau perthnasol yng Nghymru ("y cod ymddygiad"). Awdurdodau perthnasol yw cynghorau cymuned, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau'r heddlu.

O dan adran 82(8) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu'r disgrifiadau o weithwyr cyflogedig nad yw'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r disgrifiadau hynny o weithwyr cyflogedig, sef athrawon a diffoddwyr tân sy'n weithwyr cyflogedig i awdurdodau perthnasol yng Nghymru.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1947 p.41.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090285 8


  Prepared 27 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012278w.html