BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012283w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 21 Mehefin 2001 | ||
Yn dod i rym | 28 Gorffennaf 2001 |
o'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw awdurdod pethnasol arall, na chyngor cymuned;
o'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw awdurdod perthnasol arall na chyngor cymuned;
Maint pwyllgorau safonau
3.
Rhaid i bwyllgor safonau gynnwys nid llai na phump ac nid mwy na naw o aelodau.
Aelodaeth pwyllgorau safonau
4.
Rhaid i aelodaeth pwyllgor safonau beidio â chynnwys personau heblaw -
5.
- (1) Os yw cyfanswm aelodau pwyllgor safonau yn eilrif, rhaid i o leiaf hanner y rhif hwnnw fod yn aelodau annibynnol.
(2) Os yw cyfanswm aelodau pwyllgor safonau yn odrif, rhaid i'r mwyafrif o'r rhif hwnnw fod yn aelodau annibynnol.
6.
- (1) Rhaid i berson sydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol yr oedd y person hwnnw yn aelod ohono.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 16(2), caiff person sydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, ar ôl y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn aelod o unrhyw awdurdod perthnasol, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau i awdurdod perthnasol nad yw'r person hwnnw wedi bod yn aelod ohono.
7.
- (1) Rhaid i berson sydd wedi bod yn swyddog o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau i unrhyw awdurdod perthnasol yr oedd y person hwnnw yn swyddog ohono.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 16(2), caiff person sydd wedi bod yn swyddog o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw'n aelod mwyach, ar ôl y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn swyddog o unrhyw awdurdod perthnasol, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau i awdurdod perthnasol nad yw'r person hwnnw wedi bod yn swyddog ohono.
8.
- (1) Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, rhaid i'r canlynol, sef -
beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod perthnasol hwnnw.
(2) Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen, rhaid i gadeirydd bwrdd yr awdurdod hwnnw beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.
(3) Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol neu'n awdurdod tân, rhaid i'r canlynol, sef -
awdurdod o'r fath beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.
9.
- (1) Ni chaiff aelodaeth pwyllgor safonau awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth gynnwys mwy nag un aelod sy'n aelod hefyd o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw.
(2) Ni chaiff aelodaeth pwyllgor safonau awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen gynnwys mwy nag un aelod sy'n aelod hefyd o fwrdd yr awdurdod hwnnw.
10.
Rhaid i aelodaeth pwyllgor safonau sydd i gyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol, sef -
gynnwys o leiaf un aelod pwyllgor cymunedol.
11.
Rhaid i aelod o awdurdod lleol sydd hefyd yn aelod o gyngor cymuned sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw beidio â bod yn aelod pwyllgor cymunedol i bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.
Dyrannu seddau i grwpiau Gwleidyddol
12.
Nid yw pwyllgor safonau i gael ei ystyried yn gorff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[10] yn gymwys iddo.
Penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau safonau
13.
- (1) Pan fydd lle gwag yn codi ar gyfer swydd fel aelod annibynnol o bwyllgor safonau, rhaid i'r awdurdod perthnasol o dan sylw gyhoeddi hysbyseb mewn nid llai na dau bapur newydd (nad ydynt yn cael eu cyhoeddi gan yr awdurdod perthnasol hwnnw) sy'n cylchredeg yn ei ardal.
(2) Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod hysbysu'r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod perthnasol fod yr awdurdod perthnasol yn ceisio penodi aelod annibynnol i'w bwyllgor safonau.
(3) Caiff awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbyseb mewn cysylltiad ag unrhyw le gwag ar gyfer swydd fel aelod annibynnol ar bwyllgor safonau'r awdurdod perthnasol hwnnw mewn unrhyw bapur newydd y mae'n ei gyhoeddi.
14.
Rhaid i awdurdod perthnasol -
15.
- (1) Rhaid i awdurdod perthnasol sefydlu panel a fydd yn cynnwys nid mwy na phum aelod panel.
(2) Rhaid i un aelod panel fod yn aelod panel lleyg.
(3) Rhaid i banel a sefydlir o dan baragraff (1) gan awdurdod lleol gynnwys un aelod panel sy'n aelod o gyngor cymuned sydd wedi'i leoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
16.
- (1) Rhaid i banel a sefydlir o dan reoliad 15 uchod -
(2) Rhaid i benodiadau aelodau annibynnol o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol gael eu gwneud gan yr awdurdod perthnasol y mae'n rhaid iddo roi sylw i argymhellion y panel.
17.
Os yw'r awdurdod perthnasol o dan sylw yn barnu ei bod yn briodol, caiff hysbyseb a gyhoeddir o dan reoliad 13(1) -
Cyfnod swydd aelodau pwyllgorau safonau
18.
- (1) Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau i awdurdod sy'n aelod o'r awdurdod hwnnw beidio â bod yn fwy -
p'un bynnag yw'r byrraf.
(2) Rhaid i aelod o'r fath roi'r gorau i fod yn aelod o'r pwyllgor safonau hwnnw os yw'r aelod hwnnw'n rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r awdurdod lleol o dan sylw.
19.
- (1) Os yw awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol neu'n awdurdod tân, rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw sy'n aelod o awdurdod o'r fath beidio â bod yn fwy -
p'un bynnag yw'r byrraf.
(2) Rhaid i aelod o'r fath roi'r gorau i fod yn aelod o'r pwyllgor safonau hwnnw os yw'r aelod hwnnw'n rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r awdurdod perthnasol o dan sylw.
20.
Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau sy'n aelod annibynnol o'r pwyllgor hwnnw beidio â bod yn llai na phedair blynedd nac yn fwy na chwe blynedd.
Ailbenodi aelodau o bwyllgorau safonau
21.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 18 a pharagraff (2) o reoliad 19 uchod, gall aelod o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol sy'n aelod o'r awdurdod hwnnw gael ei ailbenodi am un tymor olynol pellach.
(2) Rhaid i aelod annibynnol o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol beidio â gwasanaethu am fwy nag un cyfnod fel aelod o'r fath.
Cadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau safonau
22.
- (1) Rhaid i aelodau pwyllgor safonau ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith aelodau annibynnol y pwyllgor hwnnw.
(2) Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd yw'r busnes cyntaf y mae'n rhaid ei drafod yng nghyfarfod cyntaf pwyllgor safonau.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) uchod, y cadeirydd fydd yn llywyddu mewn cyfarfodydd pwyllgor safonau.
(4) Os yw'r cadeirydd yn absennol o gyfarfod pwyllgor safonau, yna is-gadeirydd y pwyllgor, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.
(5) Os bydd cadeirydd ac is-gadeirydd pwyllgor safonau yn absennol o un o gyfarfodydd y pwyllgor hwnnw, rhaid i'r aelod annibynnol o'r pwyllgor safonau hwnnw y bydd aelodau'r pwyllgor hwnnw yn ei ddewis lywyddu.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid i gadeirydd pwyllgor safonau gael ei ethol am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol -
(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid i is-gadeirydd pwyllgor safonau gael ei ethol am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol -
(8) Gall person a etholir yn gadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddog priodol yr awdurdod perthnasol o dan sylw.
(9) Pan fydd lle gwag yn swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn cael ei lenwi, rhaid i'r person a benodir felly ddal ei swydd am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol -
Pleidleisio
23.
- (1) Mae gan aelod o bwyllgor safonau nad yw'n aelod o'r awdurdod perthnasol o dan sylw hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwnnw.
(2) Rhaid i gwestiwn y mae pwyllgor safonau i benderfynu arno gael ei benderfynu drwy fwyafrif o'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw gan yr aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod ac yn pleidleisio arno.
(3) Os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan y person sy'n cadeirio cyfarfod y pwyllgor safonau ail bleidlais, sef pleidlais fwrw.
Cworwm
24.
Rhaid peidio â thrafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod pwyllgor safonau oni bai -
Cyfarfodydd pwyllgorau safonau
25.
- (1) Rhaid i bob pwyllgor safonau gynnal o leiaf un cyfarfod yn ystod pob cyfnod o 12 mis ar ôl 31 Rhagfyr 2001.
(2) Rhaid i bob pwyllgor safonau gynnal o leiaf un cyfarfod ar 31 Rhagfyr 2001 neu cyn hynny.
(3) Rhaid i swyddog monitro awdurdod perthnasol neu gynrychiolydd swyddog monitro awdurdod perthnasol fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o bwyllgor safonau'r awdurdod hwnnw.
Darpariaethau cymwysadwy Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
26.
- (1) Yn ddarostyngedig i'r addasiadau a nodir ym mharagraffau (2) i (9) isod, bydd darpariaethau canlynol Deddf 1972, sef -
yn gymwys fel petai pwyllgor safonau yn brif gyngor at ddibenion y darpariaethau hynny.
(2) Yn is-adran (3)(a) o adran 100A ac is-adran (1) o adran 100B, yn lle "council" rhowch "relevant authority".
(3) Yn is-adran (4)(b) o adran 100B, yn lle "chairman" rhowch "chairperson".
(4) Yn -
yn lle "offices of the council", rhowch "offices of the relevant authority".
(5) Yn -
hepgorwch "committee or".
(6) Yn is-adran (3) o adran 100H, yn lle "principal council" rhowch "relevant authority".
(7) Yn is-adran (1) o adran 100K, hepgorwch -
(b) "constituent principal council" shall be construed in accordance with section 100E(4) above;", ac
(c) "principal council" shall be construed in accordance with section 100J above".
(8) Hepgorwch is-adran (2) o adran 100K.
(9) Addasir paragraff (2) o Ran III o Atodlen 12A fel a ganlyn -
27.
- (1) Caiff awdurdod lleol, os gwêl yn dda, osod unrhyw hysbysiad ynghylch un o gyfarfodydd ei bwyllgor safonau y mae'n ofynnol ei osod yn ei swyddfeydd yn rhinwedd adran 100A o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, yn swyddfeydd y cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
(2) Caiff awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu bod unrhyw agendâu ac adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd ei bwyllgor safonau y mae, neu y gall fod, yn ofynnol iddynt fod yn agored i aelodau'r cyhoedd eu harchwilio yn ei swyddfeydd yn rhinwedd adran 100B o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, yn agored i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn swyddfeydd y cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
(3) Caiff awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu bod unrhyw gofnodion o gyfarfodydd ei bwyllgor safonau ac unrhyw ddogfennau eraill y mae, neu y gall fod, yn ofynnol iddynt fod yn agored i aelodau'r cyhoedd eu harchwilio yn ei swyddfeydd yn rhinwedd adran 100C o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, yn agored i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn swyddfeydd y cynghorau cymuned sydd wedi'u lleoli yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw.
(4) Yn ddarostyngedig i adran 100A o Ddeddf 1972, fel y'i haddaswyd gan reoliad 26, caiff awdurdod perthnasol fabwysiadu unrhyw ddulliau eraill i roi hysbysiad cyhoeddus ynghylch cyfarfodydd ei bwyllgor safonau y mae'n credu eu bod yn briodol.
Cofnod trafodion pwyllgorau safonau
28.
- (1) Rhaid llunio cofnodion trafodion pwyllgor safonau a'u rhoi mewn llyfr a ddarperir at y diben hwnnw gan swyddog priodol yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhaid iddynt gael eu llofnodi gan gadeirydd y pwyllgor ar ddiwedd y cyfarfod hwnnw neu yn y cyfarfod o'r pwyllgor sy'n dilyn nesaf.
(2) Rhaid i gofnodion trafodion pwyllgor safonau gynnwys -
Cylch gwaith pwyllgorau safonau
29.
- (1) Rhaid i bob awdurdod perthnasol baratoi yn ddi-oed datganiad sy'n nodi cylch gwaith ei bwyllgor safonau.
(2) Rhaid i bob awdurdod perthnasol anfon y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru.
Trefniadau trosiannol
30.
- (1) Os yw awdurdod perthnasol -
bydd y paragraffau canlynol yn gymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, caiff awdurdod perthnasol o'r fath ganiatáu i aelod annibynnol o'r fath barhau i fod yn aelod am ba un bynnag yw'r byrraf o'r cyfnodau canlynol -
(3) Ni fydd paragraff (2) uchod yn gymwys -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
[4] O.S. 2001/2284 (Cy.173).back