BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012292w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2292 (Cy.180)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 


TREFNIANT Y RHEOLIADAU


RHAN I

CYFFREDINOL
1 Enwi, cychwyn a chymhwyso
2 Dehongli cyffredinol

RHAN II

DEISEBAU A REFFERENDA
3 Dehongli Rhan II
4 Y rhif dilysu
5 Cyhoeddusrwydd i'r rhif dilysu
6 Deisebau ar gyfer refferendwm
7 Deisebau ôl-gyhoeddiad a deisebau ôl-gyfarwyddyd
8 Cyfuno deisebau
9 Dilysrwydd deisebau
10 Materion ffurfiol deiseb
11 Y weithdrefn ar ôl i ddeiseb ddod i law
12 Archwilio deisebau gan y cyhoedd
13 Cyhoeddusrwydd i ddeisebau dilys
14 Cyhoeddusrwydd i ddeisebau annilys a'r deisebau hynny na fydd yr awdurdod yn gweithredu mewn perthynas â hwy
15 Cyfyngiadau sy'n ymwneud â chyhoeddusrwydd
16 Amseru'r refferendwm
17 Y camau cyn y refferendwm

RHAN III

CYFARWYDDIADAU A REFFERENDA
18 Yr amgylchiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu refferendwm odanynt
19 Y camau yn sgîl cyfarwyddyd
20 Gofynion ynghylch cynigion
21 Yr amser ar gyfer cynnal refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd
22 Cyhoeddusrwydd ar gyfer refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd

RHAN IV

CAMAU SYDD I'W CYMRYD AR ÔL REFFERENDA
23 Y camau os caiff cynigion y refferendwm eu cymeradwyo
24 Y camau os caiff cynigion y refferendwm eu gwrthod

RHAN V

PWERAU DIOFYN CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
25 Pwerau diofyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

ATODLEN

  1 Datganiad Deiseb

  2 Yr amgylchiadau penodol y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu cynnal refferendwm odanynt

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 34, 35, 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1]:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli cyffredinol
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Ac eithrio yn y diffiniad o "swyddog priodol" yn rheoliad 3, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran a ddilynir gan rif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Ddeddf.



RHAN II

DEISEBAU A REFFERENDA

Dehongli Rhan II
    
3. Yn y Rhan hon - 

Y rhif dilysu
     4.  - (1) Heb fod yn fwy na phedair wythnos ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod lleol gyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod fel y'i dangosir yn y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol a gyhoeddwyd ac sy'n effeithiol ar gyfer ardal yr awdurdod am y cyfnod sy'n dechrau ar 16 Chwefror 2001[3].

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r rhif a gyhoeddir yn unol â pharagraff (1) gael ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod cyn 1 Ebrill 2002.

    (3) Os yw'r rhif a gyhoeddir yn 2002 yn unol â pharagraff (4) yn llai na'r rhif a gyhoeddir yn 2001, y rhif lleiaf yw'r rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y rhif lleiaf hwnnw ac sy'n diweddu yn union cyn 1 Ebrill 2002.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ym mhob blwyddyn sy'n dechrau gyda'r flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2002, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 15 Chwefror, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod gyhoeddi'r rhif sy'n hafal i 10 y cant o nifer yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod a ddangosir yn y fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr honno, neu, yn ôl fel y digwydd, yn y cofrestrau sy'n effeithiol ar gyfer yr ardal honno ar yr 15 Chwefror hwnnw[4].

    (5) Os yw'r cyfan o'r cyfnod o 12 mis sy'n dechrau gyda'r 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn y mae paragraff (4) yn gymwys iddi yn syrthio o fewn cyfnod moratoriwm, ni fydd y paragraff hwnnw yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd y mae rhan o'r cyfnod hwnnw o 12 mis yn syrthio.

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r rhif a gyhoeddir bob blwyddyn yn unol â pharagraff (4) gael ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn ystod y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau gyda'r 1 Ebrill yn y flwyddyn honno.

    (7) Os yw'r rhif a gyhoeddir mewn unrhyw flwyddyn ar ôl 2002 yn unol â pharagraff (4) yn llai na'r rhif a gyhoeddwyd yn y flwyddyn flaenorol, y rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn perthynas ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad cyhoeddi'r rhif lleiaf ac yn diweddu yn union cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn honno fydd y rhif lleiaf hwnnw.

    (8) Mewn cysylltiad â chyflawni'r dyletswyddau a osodir gan baragraffau (1) a (4), caiff y swyddog priodol wneud cais ysgrifenedig i swyddog cofrestru etholiadol roi gwybodaeth i'r swyddog priodol sy'n berthnasol i'r rhif sydd i'w gyhoeddi yn unol â'r naill neu'r llall o'r paragraffau hynny; a rhaid i swyddog cofrestru etholiadol sy'n cael cais o'r fath gydymffurfio ag ef o fewn y cyfnod o saith diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y daw'r cais i law.

Cyhoeddusrwydd i'r rhif dilysu
     5. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i rif gael ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 4(1) neu (4), rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad - 

Deisebau ar gyfer refferendwm
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 7, 8(8) a 19, rhaid i awdurdod gynnal refferendwm yn rhinwedd y Rhan hon os yw'n cael deiseb ddilys (ond ni fydd yn ofynnol iddo gynnal refferendwm o'r fath os yw'n cael deiseb nad yw'n ddeiseb ddilys).

    (2) Gall deiseb gael ei chyflwyno i awdurdod lleol - 

Deisebau ôl-gyhoeddiad a deisebau ôl-gyfarwyddyd
    
7.  - (1) Mewn perthynas â deiseb sy'n dod i law ar ôl i awdurdod roi hysbysiad ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm a'r dyddiad y cynhelir y refferendwm hwnnw (boed yn unol â'r Rhan hon, â chyfarwyddyd o dan reoliad 18, neu ag adran 27 (refferendwm yn achos cynigion sy'n cynnwys maer etholedig)) ynghylch cynigion sy'n cynnwys maer sydd wedi'i ethol yn uniongyrchol, ni fydd dim yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm nac i gymryd unrhyw gamau heblaw'r rhai a bennir ym mharagraff (2) a rheoliad 12.

    (2) Y camau a bennir yn y paragraff hwn yw sicrhau bod y swyddog priodol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r ddeiseb ddod i law - 

    (3) Os - 

rhaid i'r awdurdod beidio â chymryd dim camau pellach mewn perthynas â'r ddeiseb a, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddo gydymffurfio â gofynion paragraff (4).

    (4) Rhaid i'r awdurdod hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb - 

    (5) Os - 

rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y swyddog priodol yn dyfarnu, yn unol â'r Rhan hon, a yw'r ddeiseb yn ddeiseb ddilys.

    (6) Os yw'r swyddog priodol yn dyfarnu nad yw deiseb o'r disgrifad ym mharagraff (5) yn ddeiseb ddilys, rhaid i'r swyddog priodol gydymffurfio â rheoliad 14(1) ond, yn ddarostyngedig i hynny - 

    (7) At ddibenion paragraffau (3) i (5) - 

Cyfuno deisebau
    
8.  - (1) Os oes mwy nag un ddeiseb sy'n ymwneud â'r un ardal wedi'i pharatoi, ar unrhyw adeg cyn eu cyflwyno i'r awdurdod gall y deisebau hynny gael eu cyfuno; ac yna trinnir y deisebau hynny at bob diben arall yn y Rhan hon fel un ddeiseb.

    (2) Os nad yw deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno o dan baragraff (1) yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol, rhaid i'r awdurdod beidio ag ystyried y ddeiseb gyfun oni bai bod datganiad yn cyd-fynd â hi, wedi'i lofnodi gan drefnydd y ddeiseb mewn perthynas â'r ddeiseb gyfun, fod y ddeiseb gyfun yn cael ei chyflwyno gyda chytundeb trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4),(5) a (6), os caiff awdurdod fwy nag un ddeiseb sy'n ymwneud â'r un ardal, os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni eu bod yn ddilys ym mhob ystyr heblaw'r un a grybwyllir yn rheoliad 9(1)(a), rhaid i'r swyddog priodol gyfuno'r deisebau hynny yn unol â pharagraff (7); ac yna trinnir y deisebau hynny at bob diben arall yn y Rhan hon fel un ddeiseb.

    (4) Rhaid i'r swyddog priodol beidio â chyfuno deisebau os yw wedi'i fodloni bod y ddeiseb gyntaf sy'n dod i law'r awdurdod (gan gynnwys deisebau cyfansoddol sy'n cael eu cyfuno yn unol â pharagraff (1)) yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeiseb ddilys.

    (5) Pan fydd deiseb gyfun (sydd wedi'i chyfuno yn unol â pharagraff (3)) yn cynnwys nifer o lofnodion etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod sy'n hafal i'r rhif dilysu neu'n fwy nag ef ac sydd, mewn ystyron eraill, yn ddeiseb ddilys, rhaid i'r swyddog priodol beidio â chyfuno unrhyw ddeiseb arall â'r ddeiseb gyfun honno.

    (6) Rhaid i'r swyddog priodol

    (7) Rhaid i ddeisebau gael eu cyfuno yn y drefn y deuant i law ac eithrio, os daw mwy nag un ddeiseb i law ar yr un diwrnod - 

    (8) Os bydd - 

rhaid i'r awdurdod hwnnw wneud dyfarniad ynglyn â'r ddeiseb y bydd yn cynnal refferendwm mewn perthynas â hi.

    (9) Cyn gwneud dyfarniad o dan baragraff (8) - 

    (10) Os oes deiseb gyfun yn deillio o gyfuno deisebau cyfansoddol nad ydynt yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol, trinnir y ddeiseb gyfun at ddibenion y Rhan hon fel pe bai'n cynnig y dylai'r awdurdod weithredu trefniadau gweithrediaeth nad yw'r math o weithrediaeth wedi'i phennu odani.

    (11) At ddibenion y rheoliad hwn, trinnir newidiadau cyfansoddiadol fel yr un newidiadau cyfansoddiadol - 

Dilysrwydd deisebau
    
9.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd deiseb yn ddeiseb ddilys - 

    (2) Ni fydd deiseb yn annilys dim ond oherwydd methiant i fodloni unrhyw ofyniad yn rheoliad 10 os gellir darganfod y newid cyfansoddiadol y ceisir y refferendwm mewn perthynas ag ef.

    (3) Os oes person yn llofnodi deiseb ond nad yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 10(3)(a) wedi'i chynnwys, neu os nad yw wedi'i chynnwys ar ffurf ddarllenadwy, caiff llofnod y person hwnnw ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).

    (4) Os oes person yn llofnodi deiseb fwy nag unwaith, caiff ail lofnod y person hwnnw neu ei lofnod wedyn ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).

    (5) Caiff unrhyw lofnod ar ddeiseb sy'n dwyn dyddiad mwy na 12 mis cyn dyddiad y ddeiseb ei anwybyddu wrth ddyfarnu a yw'r ddeiseb yn bodloni gofynion paragraff (1)(a).

Materion ffurfiol deiseb
    
10.  - (1) Rhaid i ddeiseb ddatgan ar bob dalen - 

    (2) Rhaid i ddeiseb gynnwys, ar bob dalen, ddatganiad yn y termau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu mewn termau i'r un perwyl.

    (3) Mewn perthynas â phob person sy'n llofnodi deiseb, rhaid i'r wybodaeth ganlynol gael ei rhoi - 

    (4) Rhaid i ddeiseb gynnwys, datganiad sy'n cynnwys enw a chyfeiriad llawn y person (y cyfeirir ato fel "trefnydd y ddeiseb" yn y Rhan hon) y mae gohebiaeth sy'n ymwneud â'r ddeiseb i gael ei hanfon ato, neu rhaid i ddatganiad o'r fath gyd-fynd â'r ddeiseb.

    (5) Os caiff deisebau eu cyfuno cyn eu cyflwyno i'r awdurdod - 

Y weithdrefn ar ôl i ddeiseb ddod i law
    
11.  - (1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddeiseb ddod i law, rhaid i'r swyddog priodol - 

    (2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddeiseb ddod i law, a heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol ddyfarnu ynghylch dilysrwydd y ddeiseb.

    (3) Os ail ddeiseb (neu ddeiseb ddilynol) ("deiseb ddiweddarach") yw'r ddeiseb, na ellir ei chyfuno'n gyfreithlon â deiseb gynharach am reswm a grybwyllir ym mharagraff (4), (5) neu (6) o reoliad 8, rhaid i'r swyddog priodol gymryd y camau a bennir ym mharagraff (4) isod ac unrhyw gamau eraill a gyfarwyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (4) Y camau a bennir yn y paragraff hwn yw bod rhaid i'r swyddog priodol, o fewn y cyfnod hysbysu - 

Archwilio deisebau gan y cyhoedd
    
12. Am y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau gyda dyddiad y ddeiseb, rhaid i'r awdurdod sicrhau bod deiseb ar gael yn ei brif swyddfa i aelodau'r cyhoedd ei archwilio ar bob adeg resymol a hynny yn ddi-dâl.

Cyhoeddusrwydd i ddeisebau dilys
    
13.  - (1) Os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni bod deiseb yn ddilys, o fewn y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a naill ai trefnydd y ddeiseb neu os yw'r ddeiseb wedi'i chyfuno yn unol â rheoliad 8(3) trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol - 

    (2) Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad - 

Cyhoeddusrwydd i ddeisebau annilys a'r deisebau hynny na fydd yr awdurdod yn gweithredu mewn perthynas â hwy
    
14.  - (1) Os yw'r swyddog priodol wedi'i fodloni nad yw deiseb yn ddeiseb ddilys, o fewn y cyfnod hysbysu, rhaid i'r swyddog priodol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb (os oes un) o'i dyfarniad ac o'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw.

    (2) Os yw'r awdurdod wedi gwneud dyfarniad o dan reoliad 8(8) rhaid i'r swyddog priodol, o fewn y cyfnod hysbysu, hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb ynghylch dyfarniad yr awdurdod a'r rhesymau dros y dyfarniad hwnnw.

    (3) Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad - 

    (4) Os yw deiseb yn annilys dim ond am nad yw'n cydymffurfio â rheoliad 9(1)(a), rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (1) a'r datganiad sydd i'w gyhoeddi gan yr awdurdod o dan baragraff (3) gynnwys datganiad hefyd y gall y ddeiseb annilys gael ei chyfuno ag unrhyw ddeisebau dilynol a gyflwynir i'r awdurdod.

    (5) Mewn achos y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad - 

Cyfyngiadau sy'n ymwneud â chyhoeddusrwydd
    
15.  - (1) Rhaid i awdurdod beidio â thynnu unrhyw wariant at ddibenion - 

    (2) Rhaid peidio â chymryd dim byd ym mharagraff (1) fel pe bai'n atal awdurdod rhag tynnu gwariant ar gyhoeddi unrhyw wybodaeth ffeithiol neu ei darparu fel arall ar gyfer unrhyw berson (boed yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny neu beidio) cyn belled ag y caiff ei chyflwyno'n deg.

    (3) Wrth ddyfarnu at ddibenion paragraff (2) a yw unrhyw wybodaeth wedi'i chyflwyno'n deg, rhaid rhoi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.

Amseru'r refferendwm
    
16.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) a rheoliad 21, rhaid i refferendwm o ganlyniad i ddeiseb ddilys gael ei gynnal heb fod yn hwyrach - 

    (2) Rhaid peidio â chynnal refferendwm cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonir cynigion a datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 17(9).

    (3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal refferendwm drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25.

    (4) Ni all refferendwm o dan y Rhan hon gael ei gynnal - 

Y camau cyn y refferendwm
     17.  - (1) Cyn cynnal refferendwm o dan y Rhan hon, rhaid i'r awdurdod - 

    (2) Rhaid i'r math o weithrediaeth y penderfynir arno o dan baragraff (1)(a)(i) gynnwys maer etholedig.

    (3) Cyn cynnal refferendwm o dan y Rhan hon, rhaid hefyd i'r awdurdod  - 

    (4) Cyn llunio cynigion o dan baragraff (3)(a) a (b), rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i ymgynghori ag etholwyr llywodraeth leol ardal yr awdurdod ac â phersonau eraill sydd â buddiant ynddi.

    (5) Rhaid i gynigion yr awdurdod o dan baragraff (3)(a) gynnwys - 

    (6) Wrth lunio cynigion o dan baragraff (3)(a), rhaid i'r awdurdod ystyried i ba raddau y mae'n debyg y bydd y cynigion, o'u rhoi ar waith, yn helpu i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd yr arferir swyddogaethau'r awdurdod, o roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

    (7) O ran cynigion yr awdurdod o dan baragraff (3)(b) - 

    (8) Wrth lunio cynigion o dan baragraff (3)(a) a (b) rhaid i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.

    (9) Heb fod yn hwyrach na dau fis cyn y dyddiad y mae'r refferendwm i gael ei gynnal, rhaid i'r awdurdod anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - 

    (10) Rhaid i'r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.



RHAN III

CYFARWYDDIADAU A REFFERENDA

Yr amgylchiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynnu refferendwm odanynt
    
18.  - (1) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei gwneud yn ofynnol, drwy gyfarwyddyd ysgrifenedig i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), i'r awdurdod gynnal refferendwm ynghylch a ddylai weithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys gweithrediaeth o unrhyw fath a ganiateir gan neu o dan adran 11 a bennir yn y cyfarwyddyd - 

    (2) Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfarwyddyd yn unol â pharagraff (1)(a), caiff bennu yn y cyfarwyddyd - 

    (3) Os caiff math o weithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig ei bennu mewn deiseb, rhaid i gyfarwyddyd a roddir mewn ymateb i gais y person sy'n drefnydd deiseb mewn perthynas â'r ddeiseb honno beidio â'i gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm ar gynigion sy'n cynnwys unrhyw fath arall o weithrediaeth.

    (4) Os caiff math o weithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig ei bennu mewn deiseb y llunnir cynigion o ganlyniad iddi o dan reoliad 17(3), rhaid i gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraff (1)(a) mewn perthynas â'r cynigion hynny beidio â'i gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm ynghylch cynigion sy'n cynnwys unrhyw fath arall o weithrediaeth.

Y camau yn sgîl cyfarwyddyd
     19.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), pan ddaw cyfarwyddyd i law o dan reoliad 18 y pennir mater y cyfeirir ato yn unrhyw un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw ynddo, rhaid i'r awdurdod y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wneud y canlynol ar unwaith - 

    (2) Os yw'r awdurdod, ar y diwrnod y daw'r cyfarwyddyd i law - 

rhaid i'r awdurdod ei fodloni ei hun bod y ddeiseb yn ddilys yn unol â Rhan II o'r Rheoliadau hyn; ac, yn ddarostyngedig i baragraff (3)(b), ni fydd unrhyw effaith bellach i'r cyfarwyddyd.

    (3) Mewn achos y mae paragraff (2) yn gymwys iddo - 

    (4) Pan ddaw cyfarwyddyd i law o dan reoliad 18 y pennir mater y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) neu (e) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw ynddo, rhaid i'r awdurdod y rhoddir y cyfarwyddyd iddo gymryd y camau sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi ei effaith i'r cyfarwyddyd ar unwaith.

    (5) Os yw - 

trinnir y cyfarwyddyd fel pe bai wedi'i ddiddymu o ddyddiad dyfarniad y swyddog priodol ymlaen.

    (6) Mewn achos y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, rhaid i'r awdurdod hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb o ddyddiad dyfarniad y swyddog priodol; a rhaid cynnwys yr hysbysiad hwnnw yn yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan reoliad 13(1).

Gofynion ynghylch cynigion
    
20.  - (1) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 19(1)(c), rhaid i'r awdurdod - 

    (2) Heb ragfarnu paragraff (1)(a), rhaid i gynigion o dan reoliad 19(1)(c) gynnwys - 

    (3) O ran cynigion yr awdurdod o dan reoliad 19(1)(ch) - 

    (4) Wrth lunio cynigion o dan reoliad 19(1)(c) ac (ch), rhaid i awdurdod - 

    (5) Heb fod yn hwyrach na dau fis cyn y dyddiad y cynhelir y refferendwm, rhaid i'r awdurdod anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru - 

Yr amser ar gyfer cynnal refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd
    
21.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), rhaid peidio â chynnal refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd o dan reoliad 18 yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda dyddiad y cyfarwyddyd neu, mewn achos y mae paragraff (6) o reoliad 7 yn gymwys iddo, y dyddiad a drinnir, yn unol â'r paragraff hwnnw, fel dyddiad y cyfarwyddyd.

    (2) Rhaid peidio â chynnal refferendwm cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonir cynigion a datganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 20(5).

    (3) Ni all refferendwm o dan y Rhan hon gael ei gynnal - 

    (4) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cynnal refferendwm drwy arfer y pwer a roddir gan reoliad 25.

    (5) Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru - 

rhaid i'r awdurdod gynnal y refferendwm heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad cyfarwyddyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer refferendwm a fynnir drwy gyfarwyddyd
    
22.  - (1) Rhaid i'r awdurdod y rhoddir cyfarwyddyd o dan reoliad 18 iddo, heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl dyddiad y cyfarwyddyd, gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad - 

    (2) Caiff awdurdod gynnwys yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi yn unol â pharagraff (1) unrhyw wybodaeth ffeithiol arall ynghylch y cyfarwyddyd, neu ei darparu fel arall ar gyfer unrhyw berson (boed yn unol ag unrhyw ddyletswydd i wneud hynny neu beidio) cyn belled ag y caiff ei chyflwyno'n deg.

    (3) Wrth ddyfarnu at ddibenion paragraff (2) a yw unrhyw wybodaeth wedi'i chyflwyno'n deg, rhaid roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi am y tro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38.



RHAN IV

CAMAU SYDD I'W CYMRYD AR ÔL REFFERENDA

Y camau os caiff cynigion y refferendwm eu cymeradwyo
    
23. Os cymeradwyo'r cynigion a fu'n destun y refferendwm yw canlyniad refferendwm a gynhaliwyd o dan Ran I neu yn unol â chyfarwyddyd o dan Ran III - 

Y camau os caiff cynigion y refferendwm eu gwrthod.
    
24.  - (1) Os gwrthod y cynigion a fu'n destun y refferendwm yw canlyniad refferendwm a gynhelir o dan Ran II neu yn unol â chyfarwyddyd o dan Ran III - 

    (2) Rhaid i gynigion wrth-gefn manwl gynnwys - 

    (3) Wrth lunio cynigion wrth-gefn manwl, rhaid i'r awdurdod

    (4) Ac eithrio i'r graddau y pennir cynigion wrth-gefn manwl sy'n cynnwys trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen mewn cyfarwyddyd o dan reoliad 18(1) - 

    (5) Os caiff cynigion wrth-gefn manwl eu llunio yn unol â pharagraff (1)(b), rhaid i'r awdurdod anfon copi ohonynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r awdurdod roi'r cynigion wrth-gefn manwl ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwysir yn unol â rheoliad 17(7)(a)(ii) neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 20(3)(a)(iii).

    (7) Os caiff cynigion wrth-gefn manwl eu seilio ar gynigion a gymeradwyir o dan is-adran (1) o adran 28 (cymeradwyo cynigion wrth-gefn amlinellol), estynnir yr amserlen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) i'r graddau y ceir unrhyw oedi wrth wneud y rheoliadau angenrheidiol o dan adran 11(5) neu 32 (yn ôl fel y digwydd).



RHAN V

PWERAU DIOFYNCYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Pwerau diofyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    
25. Os bydd awdurdod yn methu â chymryd unrhyw gamau y gellir eu cymryd neu y mae'n rhaid eu cymryd gan yr awdurdod o dan unrhyw un o Rannau II i IV, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymryd y camau hynny ei hun.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



ATODLEN 1
Rheoliad 10(2)


DATGANIAD DEISEB


Dyma dermau'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 10(2) - 



ATODLEN 2
Rheoliad 18(1)(a)


YR AMGYLCHIADAU PENODOL Y CAIFF CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU FYNNU CYNNAL REFFERENDWM ODANYNT




RHAN I

AMGYLCHIADAU SY'N YMWNEUD Â CHYNIGION

     1. Nid yw'r awdurdod wedi llunio cynigion o dan adran 25, adran 31, rheoliad 17(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, reoliad 19(1)(c), ac nid yw'n debyg o wneud hynny oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo felly.

     2. Mae'r awdurdod wedi llunio cynigion o dan adran 25 neu, yn ôl fel y digwydd, adran 31, rheoliad 17(3)(a) neu reoliad 19(1)(c) neu reoliadau o dan adran 30 a 33 - 

     3. Nid yw cynigion yr awdurdod - 

     4. Mae'r cyfnod rhwng unrhyw gamau dilynol a gynigir yn yr amserlen mewn perthynas â rhoi cynigion yr awdurdod ar waith a gynhwyswyd mewn cynigion a luniwyd o dan adran 25, neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(3)(a), rheoliad 19(1)(c) neu reoliadau o dan adran 30, 33 neu 31(7) - 

     5. Mae'r awdurdod wedi methu â rhoi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwyswyd yn y cynigion hynny.

     6. Mae'r awdurdod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.



RHAN II

AMGYLCHIADAU SY'N YMWNEUD Â CHYNIGION WRTH-GEFN

     7. Nid yw'r awdurdod wedi llunio cynigion wrth-gefn amlinellol o dan adran 27(1)(b) neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 17(3)(b) neu reoliad 19(1)(ch), ac nid yw'n debyg o wneud hynny oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo felly.

     8. Mae'r awdurdod wedi llunio cynigion wrth-gefn amlinellol - 

     9. Mae'r cyfnod rhwng unrhyw gamau dilynol a gynigir yn yr amserlen mewn perthynas â rhoi cynigion wrth-gefn amlinellol yr awdurdod ar waith os digwydd bod y refferendwm yn gwrthod y cynigion a luniwyd o dan adran 25, neu, yn ôl fel y digwydd, reoliad 17(3)(a) neu reoliad 19(1)(c), yn afresymol o hir.

     10. Nid yw cynigion wrth-gefn amlinellol yr awdurdod - 

     11. Mae'r awdurdod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf"), caiff pob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol ("awdurdod") yng Nghymru wneud trefniadau i'w swyddogaethau gael eu cyflawni gan weithrediaethau, sy'n gorfod bod yn un o'r mathau a bennir yn adran 11(2) i (4) o'r Ddeddf neu mewn rheoliadau o dan adran 11(5).

Os yw cynigion awdurdod ar gyfer gweithrediaeth o dan adran 25 o'r Ddeddf yn cynnwys maer etholedig, mae adran 27 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gynnal refferendwm cyn cymryd camau i roi'r cynigion ar waith.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod gynnal referendwm heblaw pan fydd yn ofynnol iddo wneud hynny o dan adran 27 o'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynnal refferendwm lle bydd o leiaf 10 y cant o'r etholwyr llywodraeth leol yn ardal awdurdod yn deisebu'r awdurdod i gynnal refferendwm ar y cwestiwn a ddylai'r awdurdod weithredu trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig. Maent hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan amgylchiadau penodedig, i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm ar gynigion sy'n cynnwys unrhyw fath o weithrediaeth a bennir yn adran 11(2) i (4) o'r Ddeddf neu a ragnodir mewn rheoliadau o dan adran 11(5).

Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn ymwneud â deisebau ar gyfer refferenda. Mae rheoliadau 4 a 5 yn berthnasol i'r rhif sydd i'w ddefnyddio er mwyn dyfarnu a oes gan y ddeiseb gefnogaeth o leiaf 10 y cant o etholwyr yr awdurdod ("y rhif dilysu").

Deuir o hyd i'r rhif dilysu bob blwyddyn drwy gyfeirio at nifer yr etholwyr y gwelir eu henwau ar y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol. Ceir darpariaethau arbennig mewn perthynas â deisebau a gyflwynir rhwng dyddiad cyhoeddi rhif dilysu a 1 Ebrill yn y flwyddyn y cyhoeddir y rhif dilysu.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog a benodir at y diben gan yr awdurdod gyhoeddi'r rhif dilysu, ac yn galluogi'r person hwnnw i sicrhau gwybodaeth berthnasol oddi wrth swyddogion cofrestru etholiadol. Rhaid i'r rhif dilysu cyntaf gael ei gyhoeddi heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac, yn y blynyddoedd dilynol, o fewn 14 dydd ar ôl 15 Chwefror ym mhob blwyddyn.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod roi hysbysiad cyhoeddus o'r rhif dilysu ac o'r cyfnod pryd y mae i gael ei ddefnyddio er mwyn dyfarnu a yw deisebau'n ddilys, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau arbennig.

Mae Rheoliad 6(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gynnal refferendwm yn unol â Rhan II o'r Rheoliadau os yw'r swyddog a benodir ganddynt i ddilysu deisebau wedi'i fodloni bod deiseb sydd wedi dod i law'r awdurdod yn ddilys. Ceir eithriadau i hyn, y darperir ar eu cyfer gan reoliadau 7, 8 a 19. Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm o'r fath os nad yw'r swyddog hwnnw'n fodlon bod deiseb yn ddilys. Mae rheoliad 6(2) yn gwneud darpariaeth ynghylch cyflwyno deisebau.

Mae Rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth arbennig os daw deiseb ("deiseb ôl- gyhoeddiad") i law ar ôl i'r awdurdod roi hysbysiad ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm ar gynigion sy'n cynnwys maer etholedig. O dan yr amgylchiadau hyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a threfnydd y ddeiseb ôl-gyhoeddiad i gael eu hysbysu bod y ddeiseb ôl-gyhoeddiad wedi dod i law, a'u hysbysu o'r ffaith na fwriedir cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â hi. Hefyd rhaid i drefnydd y ddeiseb ôl-gyhoeddiad gael ei hysbysu erbyn pa ddyddiad y caiff person o'r fath ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymyrryd o dan reoliad 18. Gwneir darpariaeth arbennig arall lle daw deiseb i law ar ôl i gyfarwyddyd gael ei roi o dan reoliad 18.

Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer cyfuno deisebau. Gall deisebau gael eu cyfuno gan drefnwyr deisebau cyn eu cyflwyno i'r awdurdod, a chan swyddog priodol yr awdurdod ar ôl i'r deisebau ddod i law'r awdurdod. Ni all deisebau gael eu cyfuno pan fydd y rhif dilysu wedi'i gyrraedd. Ni all deisebau nad ydynt yn cynnig yr un newid cyfansoddiadol (a ddiffinnir yn rheoliad 8(8)) gael eu cyfuno heb gytundeb trefnydd deiseb pob un o'r deisebau cyfansoddol. Os caiff deiseb sy'n pennu math o weithrediaeth ei chyfuno â deiseb lle na phennir y math o weithrediaeth, mae'r ddeiseb gyfun i gael ei thrin at ddibenion eraill y Rheoliadau fel pe bai'n cynnig math o weithrediaeth sydd heb ei bennu.

Mae rheoliadau 9 a 10 yn ymdrin â dilysrwydd a chynnwys deisebau. Rhaid i ddeiseb gael ei llofnodi gan o leiaf yr un nifer o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod â'r rhif dilysu. Mae deiseb i gael ei thrin fel un ddilys, er gwaethaf methu â chydymffurfio â gofynion rheoliad 10, cyn belled ag y gellir darganfod y newid cyfansoddiadol y ceisir y refferendwm mewn perthynas ag ef. Dylai natur y newid cyfansoddiadol gael ei bennu yn y termau a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu mewn termau tebyg. Mae rheoliad 10 hefyd yn darparu ar gyfer enwi "trefnydd y ddeiseb". Os caiff deisebau eu cyfuno cyn eu cyflwyno i'r awdurdod, trefnwyr y deisebau cyfansoddol sydd i ddyfarnu pwy yw trefnydd y ddeiseb mewn perthynas â'r ddeiseb gyfun.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer hysbysu trefnydd y ddeiseb o "dyddiad y ddeiseb" (a ddiffinnir yn rheoliad 3). Rhaid hysbysu trefnydd y ddeiseb a Chynulliad Cenedlaethol Cymru os na all ail ddeiseb (neu ddeiseb ddilynol) gael ei chyfuno â deiseb gynharach am reswm heblaw'r rheswm bod y ddeiseb gynharach yn annilys. Gall trefnydd deiseb y mae swyddog yr awdurdod wedi gwrthod ei chyfuno ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymyrryd o dan reoliad 18.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod drefnu bod deisebau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.

Yn rheoliad 13 pennir y camau y mae'n rhaid eu cymryd pan fydd swyddog yr awdurdod wedi penderfynu bod deiseb yn ddilys.

Yn rheoliad 14 pennir, yn benodol, y camau y mae'n rhaid eu cymryd pan fydd swyddog yr awdurdod wedi penderfynu nad yw deiseb yn ddilys.

Yn rheoliad 15 gosodir cyfyngiadau ar y camau a all gael eu cymryd, a'r gwariant a all gael ei dynnu, gan awdurdod mewn cysylltiad â deisebau.

Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol bod refferendwm yn cael ei gynnal, yn sgîldeiseb ddilys, o fewn chwe mis ar ôl dyddiad y ddeiseb neu o fewn dau fis ar ôl i reoliadau o dan adran 45 o'r Ddeddf (ynghylch cynnal refferenda), ddod i rym, p'un bynnag sydd olaf.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lunio cynigion ar gyfer trefniadau gweithrediaeth sy'n cynnwys maer etholedig ac ymgynghori yn eu cylch cyn cynnal refferendwm. Hefyd rhaid i'r awdurdod lunio amlinelliad o'r cynigion wrth-gefn y mae'r awdurdod yn bwriadu eu rhoi ar waith os gwrthodir y cynigion yn y refferendwm ac ymgynghori yn eu cylch. Wrth lunio cynigion, mae'n ofynnol i'r awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi o dan adran 38 o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 18, yn Rhan III, y mae Atodlen 2 yn berthnasol iddo, yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo awdurdod i gynnal refferendwm ac yn pennu'r materion a all gael eu cynnwys yng nghyfarwyddyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn rheoliad 19 pennir y camau y gall awdurdod eu cymryd pan gaiff gyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae paragraff (2) o'r rheoliad hwnnw yn atal effaith y cyfarwyddyd os yw'r awdurdod wedi cael eu deiseb gyntaf o dan Ran II o'r Rheoliadau ond heb eu bodloni eu hunain ei bod yn ddilys. Os yw'r ddeiseb yn ddilys, mae paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm ar y math o weithrediaeth a gynigir gan y ddeiseb, ac nid oes unrhyw effaith i'r cyfarwyddyd. Os yw'r ddeiseb yn annilys, mae'r cyfarwyddyd yn effeithiol ac mae'n ofynnol i'r awdurdod gynnal refferendwm yn unol â thelerau'r cyfarwyddyd. Gwneir darpariaeth arbennig lle daw deiseb i law ar ôl i gyfarwyddyd gael ei roi o dan reoliad 18.

Mae rheoliad 20 yn cynnwys darpariaethau ynghylch cynnwys y cynigion y mae'r awdurdod i'w llunio. Ymdrinnir ag ymgynghori hefyd.

Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, mae rheoliad 21 yn pennu bod rhaid i refferendwm sy'n ofynnol o dan gyfarwyddyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan reoliad 18 gael ei gynnal o fewn chwe mis ar ôl ddyddiad y cyfarwyddyd.

Yn rheoliad 22 pennir trefniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i refferenda a gynhelir ar gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol a cheir cyfyngiadau ar gyhoeddi gwybodaeth arall gan yr awdurdod ynghylch y cyfarwyddyd a'i ganlyniadau.

Mae Rhan IV yn ymdrin â'r camau sydd i'w cymryd ar ôl cynnal refferendwm o dan Ran II neu o ganlyniad i gyfarwyddyd o dan Ran III.

Os cymeradwyo cynigion y refferendwm yw canlyniad y refferendwm, mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod roi'r cynigion hynny ar waith yn unol â'r amserlen a gynhwyswyd yn y cynigion o dan reoliad 17(3)(a) neu reoliad 19(1)(c), yn ôl fel y digwydd.

Os gwrthod cynigion y refferendwm yw canlyniad y refferendwm, mae rheoliad 24 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lunio cynigion wrth-gefn manwl, oni bai eu bod eisoes yn gweithredu trefniadau amgen neu drefniadau gweithrediaeth. Mae cynigion wrth-gefn manwl i gael eu hanfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Maent i gael eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlen a gyflwynwyd o'r blaen, neu, os ydynt wedi'u seilio ar gynigion wrth-gefn amlinellol a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 28, yn ôl amserlen sy'n adlewyrchu'r angen i wneud rheoliadau o dan adran 11(5) neu 32 (yn ôl fel y digwydd).

Os yw'r awdurdod eisoes yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen, mae rheoliad 24 yn ei gwneud yn ofynnol i'r trefniadau hynny barhau tan y bydd yr awdurdod wedi'i awdurdodi i neu tan y bydd yn ofynnol iddo weithredu trefniadau gwahanol.

Mae rheoliad 25 yn Rhan V yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd unrhyw gamau y caniateir i awdurdod eu cymryd neu y mae'n ofynnol i awdurdod eu cymryd o dan unrhyw un o Rannau II i IV os yw'r awdurdod yn methu â chymryd y camau hynny.


Notes:

[1] 2000 c.22.back

[2] 1972 c.70.back

[3] Adran 13 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2) y rhoddwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p.2), Atodlen 2, paragraff 6 yn ei lle ar 16 Chwefror 2001.back

[4] Gweler adran 13(5) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 y rhoddwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, Atodlen 1, paragraff 6 yn ei lle, ynghylch y cyfnod y mae cofrestrau yn effeithiol ar ei gyfer.back

[5] 1971 p.80.back

[6] 1999.p.27.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090273 9


  Prepared 2 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012292w.html