BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012302w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif. 2302 (Cy. 190)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD,CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001

  Wedi'i gwneud 26 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 27 Mehefin 2001 

Mae Cynulliad Cendedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 57(6) a 63(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw'r Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) (Diddymu) 2001.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Mehefin 2001.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    
2.  - (1) Diddymir trwy hyn Reoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001[3].



Arwyddwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4])


Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

Dyddiedig 26 Mehefin 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru, yn diddymu Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001 (OS 2001/1506 (Cy. 104)), a oedd yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo deiliad trwydded reoli gwastraff i dderbyn a chadw, neu i dderbyn a thrin neu waredu carcasau (neu rannau o garcasau) mathau penodol o anifail a gigyddwyd o ganlyniad i fesurau a gymerwyd mewn cysylltiad â chlwy'r traed a genau.


Notes:

[1] 1990 p.43back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] OS 2001/1506 (Cy.104)back

[4] 1998 p. 38back



English version



ISBN 0 11090253 X


  Prepared 5 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012302w.html