BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012496w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2496 (Cy. 200)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), 4(2)(d), 4(3), 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
    
2. Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000[3] yn cael eu diwygio - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000.

Maent yn gwneud darpariaethau i'r Gofrestr o athrawon ac athrawesau sy'n cael ei chadw gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gofnodi telerau gorchmynion disgyblu sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr. Mae'r ceryddon sy'n cael eu rhoi gan y naill neu'r llall o'r Cynghorau hyn i aros ar y Gofrestr am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y mae'r cerydd yn cael ei roi.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd i'r wybodaeth hon gael ei throsglwyddo i gyflogwyr ar gais.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/1979 (Cy.140).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090301 3


  Prepared 6 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012496w.html