BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hadau (Ffïoedd) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012533w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2533 (Cy.210)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau (Ffïoedd) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 10 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 16 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1) ac (1A)(e) a 36 o Ddeddf Hadau ac Isrywogaethau Planhigion 1964[1] ar ôl ymgynghori yn unol â'r adran 16(1) a enwyd â chynrychiolwyr y cyfryw fuddiannau y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn ymwneud â hwy, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2001, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2001.

Diwygio
    
2. Yn lle Atodlenni 1 i 6 i Reoliadau Hadau (Ffioedd) 1985[2] rhoddir yr Atodlenni a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Gorffennaf 2001



YR ATODLEN
Rheoliad 2


DARPARIAETHAU I'W RHOI YN LLE'R ATODLENNI I REOLIADAU HADAU (FFIOEDD) 1985







EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985 (fel y'u diwygiwyd). Maent yn rhagnodi ffioedd diwygiedig o ran materion sy'n codi o dan Reoliadau Hadau Grawn 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Betys 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Llysiau 1993 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) 1985 (fel y'u diwygiwyd) (rheoliad 2). Maent hefyd yn darparu i ffioedd gael eu talu am arholiadau i arolygwyr cnydau a samplwyr hadau.

Rhestrir y materion y rhagnodir y ffioedd diwygiedig mewn perthynas â hwy yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ac argreffir y ffioedd a oedd yn daladwy cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym mewn llythrennau italig wrth ochr y ffioedd diwygiedig. Cyflwynwyd ffioedd newydd am archwilio cnydau a gynhyrchwyd o isrywogaethau a gafodd eu cynnig at y Rhestr Genedlaethol ond heb eu hychwanegu ati (neu at y rhestr gyfatebol mewn Aelod-wladwriaeth arall) y bwriadwyd iddynt gynhyrchu hadau ardystiedig, hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, hadau ardystiedig o'r ail genhedlaeth neu hadau ardystiedig o'r drydedd genhedlaeth.

Cynyddwyd yr holl ffioedd bump y cant wedi'i dalgrynnu i'r pum ceiniog agosaf ac eithrio yn achos y ffi flynyddol ar gyfer Gorsafoedd Trwyddedig ar gyfer Profi Hadau sydd wedi'i thalgrynnu i'r £1 agosaf.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Gellir cael copïau oddi wrth Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 5(1), (2) a (3); gweler adran 38(1) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/272) i gael diffiniad o "the Minister". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Hadau ac Isrywogaethau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac o dan erthygl 2(a) ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] O.S. 1985/981; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/610 a 1999/1553 a 1865.back

[3] 1998 p.38back

[4] S.I. 1993/2005, amended by S.I. 1995/1482, 1997/616 and 1999/1860.back

[5] The figures in italics are the fees which were charged under these Regulations before the coming into force of the Seeds (Fees) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 (S.I. 2001/2533 (W.210) on 16 July 2001; where no figure is stated no fee was previously charged for the matter.back

[6] S.I. 1993/2009, amended by S.I. 1993/2529, 1996/1453, 1997/616 and 1999/1864.back

[7] The figures in italics are the fees which were charged under these Regulations before the coming into force of the Seeds (Fees) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 (S.I. 2001/2533 (W.210) on 16 July 2001; where no figure is stated no fee was previously charged for the matter.back

[8] S.I. 1993/2007, amended by S.I. 1994/1423, 1996/1451, 1997/616 and 1999/1862.back

[9] The figures in italics are the fees which were charged under these Regulations before the coming into force of the Seeds (Fees) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 (S.I. 2001/2533 (W.210) on 16 July 2001; where no figure is stated no fee was previously charged for the matter.back

[10] S.I. 1993/2006, amended by S.I. 1997/616 and 1999/1861.back

[11] The figures in italics are the fees which were charged under these Regulations before the coming into force of the Seeds (Fees) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 (S.I. 2001/2533 (W.210) on 16 July 2001; where no figure is stated no fee was previously charged for the matter.back

[12] S.I. 1993/2008, amended by S.I. 1996/1452, 1997/616 and 1999/1863.back

[13] The figures in italics are the fees which were charged under these Regulations before the coming into force of the Seeds (Fees) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 (S.I. 2001/2533 (W.210) on 16 July 2001; where no figure is stated no fee was previously charged for the matter.back

[14] S.I. 1985/980, amended by S.I. 1987/1098, 1990/611 and 1993/2530.back

[15] The figures in italics are the fees which were charged under these Regulations before the coming into force of the Seeds (Fees) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 (S.I. 2001/2533 (W.210) on 16 July 2001.back



English version



ISBN 0 11090339 0


  Prepared 14 September 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012533w.html