BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012537w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2537 (Cy.212)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 10 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.     (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddaliadau amaethyddol, y mae'r cyfan neu ran ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru, ac y mae ceisiadau am daliad yn unol a'r System Integredig Gweinyddu a Rheoli yn cael eu gwneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson y cyfeirir penderfyniad ato, ceisydd ar gyfer adolygiad neu berson sy'n apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw olynydd, ysgutor, ymddiredolwr mewn methdaliad, derbynnydd neu ddatodwr i berson neu geisydd o'r fath.

Cymhwyso
     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i benderfyniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 isod mewn perthynas â daliadau a weinyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993[18].

Penderfyniadau y mae modd eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn
     4. Gellir adolygu'r penderfyniadau canlynol ac apelio yn eu herbyn yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn  - 

Adolygu penderfyniadau - Cam 1
    
5.  - (1) Caiff person y mae penderfyniad a grybwyllir yn rheoliad 4 uchod yn cael ei gyfeirio ato, wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ymhen heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r person hwnnw am y penderfyniad i'w adolygu, am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.

    (2) Rhaid i gais am adolygiad fod yn ysgrifenedig ar ffurf a bennwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo nodi  - 

    (3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Swyddfa Ranbarthol y gwnaed y penderfyniad gwreiddiol ynddi.

    
6.  - (1) Pan wneir cais o dan reoliad 5 uchod, rhaid i bennaeth Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r penderfyniad a bennir ynddo.

    (2) Wrth adolygu penderfyniad caiff y pennaeth y Swyddfa Ranbarthol - 

     7.  - (1) Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 6 uchod caiff pennaeth Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (2) Rhaid i bennaeth y Swyddfa Ranbarthol roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.

    (3) Mewn achos pan na fydd penderfyniad yn darparu'r rhwymedi a bennir gan y ceisydd yn unol â rheoliad 5(2)(d) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig cyfle i'r ceisydd gael adolygiad o'i benderfyniad o dan y rheoliad hwn gan yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol.

Adolygu penderfyniadau - Cam 2
    
8.  - (1) Caiff person y mae penderfyniad a adolygwyd yn unol â rheoliad 7 uchod yn cael ei gyfeirio ato, wneud cais i Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol ymhen heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r ceisydd am y penderfyniad a adolygwyd, am adolygiad pellach o'r penderfyniad hwnnw.

    (2) Rhaid i gais am adolygiad pellach fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu  - 

    (3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ wedi'i farcio "ar gyfer yr Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol ".

    
9.  - (1) Pan wneir cais o dan reoliad 8 uchod, rhaid i Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol adolygu'r penderfyniad a bennir ynddo.

    (2) Wrth adolygu penderfyniad caiff yr Uned Apelau  - 

     10.  - (1) Yn dilyn adolygiad o benderfyniad yn unol â rheoliad 9 uchod caiff Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (2) Rhaid i'r Uned Apelau roi ei benderfyniad o dan baragaff (1) uchod yn ysgrifenedig, gan nodi'r ffeithiau y seilir y penderfyniad arnynt a'r rhesymau dros y penderfyniad.

    (3) Mewn achos pan na fydd penderfyniad yn darparu'r rhwymedi a bennir gan y ceisydd yn unol â rheoliad 8(2)(d) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig cyfle i'r ceisydd apelio yn erbyn y penderfyniad a adolygwyd i bersonau a benodir ganddo.

Cam 3 - Apelau i bersonau a apwyntiwyd
    
11.  - (1) Caiff person y mae rheoliad 10(3) yn gymwys iddo, wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn pen 30 diwrnod yn dilyn dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod iddo neu iddi am y penderfyniad o dan reoliad 10 uchod, am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw gan bersonau a benodwyd ganddo.

    (2) Pan fydd y penderfyniad sydd i'w adolygu yn benderfyniad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 10(1)(b) neu (c) gall y ceisydd ategu'r cais gwreiddiol o dan reoliad 8(2) uchod fel y bydd natur y penderfyniad hwnnw yn gofyn amdano.

    (3) Mae cais o dan y rheoliad hwn i'w drin fel un sydd wedi'i wneud os daw i law'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu swyddfeydd ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ wedi'i farcio "ar gyfer yr Ysgrifenyddiaeth Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol" a bod y ffi ganlynol wedi'i amgáu gyda'r cais:

     12.  - (1) Pan wneir cais o dan reoliad 11, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi y personau hynny y mae yn credu eu bod yn briodol i adolygu'r penderfyniad a rhoi copïau o'r canlynol i'r personau hynny  - 

    (2) Rhaid i'r personau a benodir o dan y rheoliad hwn adolygu'r penderfyniad ac fe gânt  - 

    (3) Yn dilyn eu hadolygiad o'r mater rhaid i'r personau a benodir gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (4) Ar ôl ystyried y materion a adroddir iddynt o dan baragraff (3) uchod caiff y Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (5) Wrth ddod i'w benderfyniad yn unol â pharagraff (4) uchod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i'r casgliadau a'r argymhellion a adroddir iddo gan y personau a benodir o dan y rheoliad hwn ond nid yw yn rhwym i ddilyn y cyfan neu unrhyw ran o'r argymhellion hynny.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn yn ysgrifenedig a phan na fydd yn mabwysiadu'r argymhellion a adroddir iddo, rhaid iddo nodi  - 

    (7) Os y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud penderfyniad yn unol a pharagraff (4)(b) neu (c) uchod, rhaid dychwelyd y ffi y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 11(3) uchod i'r ceisydd.

    (8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw daliad ar ffurf ffi neu ad-daliad treuliau, i unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (1) uchod, fel y gwel ei bod yn briodol.

Hysbysu Penderfyniadau
    
13.  - (1) Rhaid hysbysu'r ceisydd o unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 6, 9 neu 12 uchod more fuan ag sy'n ymarferol wedi iddo gael ei wneud gan ddefnyddio post y mae dosbarthiad wedi'i gofnodi i'r cyfeiriad a ddangosir yn y cais am adolygiad.

    (2) Yn achos penderfyniad o dan reoliad 12, rhaid hysbysu darganfyddiadau ac argymhellion y personau a benodwyd ynghyd â'r penderfyniad.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
19].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Gorffennaf 2001



YR ATODLEN
Rheoliad 4

Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid

Atodiad Ardal Lai Ffafriol y Cynllun Premiwn Blynyddol Defaid

Cynllun Premiwn Arbennig Cig Eidion

Cynllun Premiwn Buchod Sugno

Cynllun Taliadau Anarddwys

Cynllun Taliadau Arwynebedd Tir Âr

Cynllun Tir Mynydd



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â daliadau (p'un a ydynt wedi'u lleoli yn gyfan gwbl yng Nghymru neu'n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig), a weinyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993. Maent yn cyflwyno hawliau cyfreithiol am y tro cyntaf i geisio adolygiad o benderfyniadau penodol gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chymorthdaliadau amaethyddol a chwotas penodol ac i apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny ar ôl eu hadolygu. Maent yn gymwys o'r flwyddyn IACS 2001 ymlaen ac hefyd i daliadau Tir Mynydd a wneir yn 2001.

Nodir y mathau o benderfyniadau y gellir eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn yn rheoliad 4. Penderfyniadau yw'r rhain i wrthod, gostwng neu adennill yn gyfan gwbl neu'n rhannol daliadau a wnaed o dan y cynlluniau a nodir yn yr Atodlen a phenderfyniadau mewn perthynas â chwotau da byw at ddibenion y polisi amaethyddiaeth cyffredin.

Gweithredir y weithdrefn ar gyfer adolygu drwy gais a wneir heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn rhoi gwybod i'r ceisydd am y penderfyniad sydd i'w adolygu (rheoliad 5).

Cam 1
Cynhelir yr adolygiad yn y lle cyntaf gan bennaeth y Swyddfa Ranbarthol y Cynulliad Cenedlaethol lle gwnaed y penderfyniad gwreiddiol. Rhoddir pwerau penodol mewn perthynas ag adolygiadau o'r fath, ac yn dilyn adolygiad rhaid rhoi'r penderfyniad ar ffurf benodedig (rheoliadau 5-7).

Cam 2
Caiff ceisydd sydd heb ei fodloni gan ganlyniad yr adolygiad gan bennaeth Swyddfa Ranbarthol wneud cais am adolygiad pellach gan Uned Apelau Cymorthdaliadau Amaethyddol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r broses yn debyg i'r un ar gyfer Cam 1 ac fe'i nodir yn rheoliadau 8-10.

Cam 3
Caiff ceisydd sydd yn parhau yn anfodlon wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael adolygiad ar y penderfyniad gan banel o bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 11(1)).

Mae ffi o £100 yn daladwy mewn perthynas â chais o'r fath sydd i'w glywed ar lafar a £50 os yw'r cais i gael ei ystyried yn ysgrifenedig yn unig (rheoliad 11(3)).

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi personau i gynnal y cam hwn o'r adolygiad (rheoliad 12(1)).

Mae'n rhaid i bersonau a benodir o dan reoliad 12 adolygu penderfyniad yr Uned Cymorthdaliadau Amaethyddol Canolog ac mae ganddynt bwer i ystyried gwybodaeth ychwanegol neu i wahodd sylwadau oddi wrth y ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 12(2)).

Yn dilyn eu hadolygiad o'r penderfyniad rhaid i'r personau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau ffeithiol a'u hargymhellion i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 12(3)).

Mae angen i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud penderfyniad gan roi sylw i'r casgliadau a'r argymhellion a gyflwynir iddo gan y personau a benodir (rheoliad 12(4) a (5)).

Mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad yn ysgrifenedig a rhoi manylion llawn y ffeithiau a'r rhesymau dros ei benderfyniad (rheoliad 12(6)).

Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod ceisydd wedi bod yn llwyddiannus yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn yr adolygiad rhaid iddo ad-dalu'r ffi a dalwyd (rheoliad 12(7)).

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau i bersonau a benodir ganddo o dan reoliad 12(1) (rheoliad 12(8)).

Rhaid i benderfyniadau gael eu hysbysu yn unol â rheoliad 13.


Notes:

[1] 1972 p.68. Dynodwyd y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 2(2) gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] O.J. L391, 31.12.1992, t.36.back

[3] O.J. L27, 4.2.1995, t.3.back

[4] O.J. L156, 7.7.1995, t.27.back

[5] O.J. L197, 22.8.1995, t.2.back

[6] O.J. L94, 9.4.1999, t.1.back

[7] O.J. L212, 30.7.1998, t.23.back

[8] O.J. L340, 31.12.1999, t.29.back

[9] O.J. L314, 14.12.2000, t.8.back

[10] O.J. L355, 5.12.1992, t.1.back

[11] O.J. L338, 28.12.1994, t.16,back

[12] O.J. L329, 30.12.1995, t.18.back

[13] O.J. L206, 16.8.1996, t.4.back

[14] O.J. L335, 24.12.1996, t.1.back

[15] O.J. L94, 9.4.1997, t.1.back

[16] O.J. L182, 21.7.2000, t.4.back

[17] O.J. L72, 14.03.2001, t.6.back

[18] O.S. 1993/1317 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1134, O.S. 1997/1148, O.S. 1999/1820 ac O.S. 2000/2573.back

[19] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090347 1


  Prepared 12 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012537w.html