BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012678w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2678 (Cy.219)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 17 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 35(2), 138(7) ac (8) a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], a pharagraffau 2, 3, 4 a 5 o Atodlen 8 a pharagraff 1(5) o Atodlen 12 iddi, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru.

Diddymu ac eithrio
    
2.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) diddymir Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999[3].

    (2) Bydd Atodlen 6 i'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd, gydag addasiadau, gan y Rheoliadau hynny yn parhau yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyhoeddir, yn unol â'r Atodlen honno fel y'i cymhwyswyd gydag addasiadau, cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Dehongli
     3.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall:

    (2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen iddynt, sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.

Torri terfynau amser rhagnodedig
     4. Ni fydd methiant gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r awdurdod neu'r corff llywodraethu o'r ddyletswydd honno.

Cyfyngiadau ar newid categori ysgol
    
5.  - (1) Rhaid i ysgol beidio â newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir oni fydd corff llywodraethu'r ysgol yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd y corff llywodraethu (fel corff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau o dan Atodlen 3 i'r Ddeddf am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad gweithredu.

    (2) Ni chaiff ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol gymunedol ac ni chaiff ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol oni bai bod unrhyw gytundeb trosglwyddo a chytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau sy'n ofynnol o dan Atodlen 4 wedi'u gwneud.

    (3) Ni chymerir bod newid categori ysgol o dan y Rheoliadau hyn yn awdurdodi ysgol i sefydlu corff sefydledig, neu i ymuno neu ymadael â chorff o'r fath.

Cynigion
    
6.  - (1) Bydd rheoliadau 7 i 18 yn gymwys mewn perthynas â chynigion o dan baragraff 2 neu (yn ôl fel y digwydd) baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf o'r math a grybwyllir ym mharagraff (2).

    (2) Mae'r cynigion hynny yn gynigion - 

Cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf ac Atodlen 6 iddi
    
7.  - (1) Mae Rhan I o Atodlen 1 yn effeithiol ar gyfer cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, mewn perthynas â'r cynigion a grybwyllir yn rheoliad 6.

    (2) Mae darpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, sydd wedi'u cymhwyso felly wedi'u nodi yn Rhan II o Atodlen 1 fel y'u haddaswyd; gan roi cyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol (y mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u breinio ynddo bellach) yn lle cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gweithredu'r cynigion
    
8. Ar y dyddiad gweithredu rhaid i'r ysgol newid categori yn unol â'r cynigion.

Trosglwyddo staff
    
9. Mae Atodlen 2 yn effeithiol mewn perthynas â throsglwyddo staff.

Yr offeryn llywodraethu
    
10.  - (1) Bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn sicrhau bod offeryn llywodraethu newydd yn cael ei wneud ar gyfer yr ysgol erbyn diwedd y cyfnod gweithredu yn unol â'r Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf .

    (2) Daw'r offeryn llywodraethu newydd yn effeithiol o ddyddiad ei wneud er mwyn ailgyfansoddi'r corff llywodraethu ond ni fydd yn effeithio ar gyfansoddiad y corff llywodraethu sy'n arwain yr ysgol tra'n aros am y dyddiad gweithredu.

    (3) At bob diben arall, daw'r offeryn llywodraethu newydd yn effeithiol o'r dyddiad gweithredu.

    
11.  - (1) Rhaid i'r offeryn llywodraethu newydd ar gyfer ysgol sy'n newid ei chategori gael ei wneud ar y ffurf a nodir yn y Rhan berthnasol o Atodlen 3.

    (2) Cydymffurfir yn ddigonol â pharagraff (1) os yw'r offeryn llywodraethu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf a nodir yn y Rhan berthnasol o Atodlen 3.

    
12. Bydd Atodlen 12 i'r Ddeddf, o ran ei chymhwyso at yr offerynnau llywodraethu newydd a grybwyllir yn rheoliad 11, yn effeithiol gyda'r is-baragraffau a nodir yn Rhan VI o Atodlen 3 wedi'u rhoi yn lle is-baragraffau (2) i (6) o baragraff 3 o Atodlen 12.

Ailgyfansoddi'r corff llywodraethu
    
13.  - (1) Rhaid i'r corff llywodraethu presennol a'r awdurdod addysg lleol sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r cyfnod gweithredu (a beth bynnag o fewn cyfnod o dri mis gan ddechrau ar y dyddiad gweithredu), fod y corff llywodraethu yn cael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn llywodraethu newydd a'r Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf.

    (2) Rhaid i'r corff llywodraethu presennol arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn mewn ffordd a fydd yn caniatáu i'r awdurdod addysg lleol gyflawni ei swyddogaethau yntau o dan baragraff (1).

Llywodraethwyr presennol yn parhau yn eu swyddi
    
14.  - (1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw aelod o gorff llywodraethu presennol y mae offeryn llywodraethu newydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r corff o dan y Rheoliadau hyn.

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliad 15, bydd llywodraethwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn parhau o'r dyddiad gweithredu (neu ddyddiad gwneud yr offeryn llywodraethu newydd os yw'n ddiweddarach) yn llywodraethwr yn y categori cyfatebol sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu newydd (pan fydd categori cyfatebol yn bodoli).

    (3) Bydd aelod o gorff llywodraethu presennol sy'n parhau yn llywodraethwr o dan baragraff (2) yn dal ei swydd am weddill y tymor y cafodd ei benodi neu ei ethol ar ei gyfer yn wreiddiol.

    (4) Ni chaiff trafodion y corff llywodraethu eu hannilysu am fod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr mewn categori penodol na'r hyn y darperir ar ei gyfer gan yr offeryn llywodraethu newydd, tra'n aros i'r llywodraethwyr gormodol gael eu diswyddo o dan reoliad 15.

Llywodraethwyr gormodol
    
15.  - (1) Os bydd - 

bydd y nifer yn y categori hwnnw y mae ei angen i ddileu'r gormodedd yn peidio â dal eu swyddi yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Ar sail eu cyfnod yn eu swydd y penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal eu swyddi, a'r llywodraethwr sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod di-dor byrraf ar hyn o bryd (p'un ai fel llywodraethwr un categori neu fwy nag un) fydd y cyntaf i beidio â dal ei swydd.

    (3) Os bydd angen at ddibenion paragraff (2) dewis un neu fwy o lywodraethwyr o blith gr p sy'n gyfartal o ran eu cyfnod yn eu swydd, gwneir hynny drwy dynnu enwau ar hap.

    (4) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â llywodraethwyr cyfetholedig ychwanegol a enwebir gan gategori penodol o berson fel petaent yn gategori ar wahân o lywodraethwyr.

    (5) Ni fydd unrhyw weithdrefn a nodir yn yr offeryn llywodraethu newydd ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sefydledig gormodol yn gymwys ar gyfer ailgyfansoddi'r corff llywodraethu o dan y Rheoliadau hyn.

Tir
    
16. Mae Atodlen 4 yn effeithiol mewn perthynas â thir.

Darpariaethau trosiannol
    
17. Os bydd ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, neu'n ysgol sefydledig, bydd unrhyw beth a wneir cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran III o'r Ddeddf (trefniadau derbyn) yn effeithiol, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, fel petai wedi'i wneud gan y corff llywodraethu.

    
18. Os bydd ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn newid categori i ddod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir, bydd unrhyw beth a wneir cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran III o'r Ddeddf (trefniadau derbyn) yn effeithiol, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, fel petai wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol.

    
19. Rhaid cyfrif unrhyw gyfnod ymgynghori cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r ddyletswydd o dan adran 28(5) o'r Ddeddf fel y mae'n effeithiol gydag addasiadau yn rhinwedd rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn a Rhan I o Atodlen 1 iddynt.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001



ATODLEN 1
Rheoliad 7



RHAN I

DARPARIAETHAU ADRAN 28 O'R DDEDDF AC ATODLEN 6 IDDI SY'N CAEL EFFAITH MEWN PERTHYNAS Â'R CYNIGION A GRYBWYLLIR YN RHEOLIAD 6

     1. Bydd is-adrannau adran 28 o'r Ddeddf, a'r paragraffau yn Rhan II o Atodlen 6 iddi, y cyfeirir atynt yn ngholofn 1 o Dablau 1 i 3 isod yn cael effaith mewn perthynas â'r cynigion a grybwyllir yn rheoliad 6 gyda'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen hon mewn perthynas â'r darpariaethau hynny[
9].

     2. Bydd darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 isod yn cael effaith fel pe rhoddid y geiriau yng ngholofn 3 o'r tabl hwnnw yn lle'r geiriau y cyfeirir atynt yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.


Tabl/Table 1
Colofn/column 1 Colofn/column 2 Colofn/column 3
Adran/section 28(5) "under this section" "under paragraph 2 or 3 of Schedule 8"
Adran/section 28(5) "the relevant body or promoters" "the relevant body"
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 6 "section 28, 29 or 31" "paragraph 2 or 3 of Schedule 8"
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 7(1) "section 28, 29 or 31" "paragraph 2 or 3 of Schedule 8"
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(2) "such persons or bodies as may be prescribed" "the local education authority and the governing body"

     3. Bydd darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 isod yn cael effaith fel petai'r geiriau neu'r ddarpariaeth y cyfeirir atynt yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw wedi'u hepgor.


Tabl/Table 2
Colofn/column 1 Colofn/column 2
Atodlen/Schedule 6 Paragraff/paragraph 6 "or proposed school"
Atodlen/Schedule 6 Paragraff/paragraph 7 is-baragraff/sub-paragraph (2)
Atodlen/Schedule 6 Paragraff/paragraph 8(4) "or (in the case of a new school) is proposed to be"
Atodlen/Schedule 6 Paragraff/paragraph 10 is-baragraff/sub-paragraph (4)

     4. Bydd darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 o Dabl 3 isod yn cael effaith fel pe rhoddid y ddarpariaeth neu'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw yn lle'r ddarpariaeth honno.


Tabl/Table 3
Colofn/column 1 colofn/column 2
Adran/section 28(3)     " (3) Proposals under paragraph 2 or 3 of Schedule 8 shall - 

    (a) contain the following information - 

      (i) the name of the relevant body publishing the proposals,

      (ii) the date on which it is proposed that the change of category should take place,

      (iii) a statement explaining the effect of paragraph 7 of Schedule 6 including the date by which objections should be sent to the National Assembly for Wales,

      (iv) a statement that it is proposed to change the category of the school stating the current category and the proposed new category,

      (v) the rationale of the proposal,

      (vi) a statement identifying the admission authority for the school after the change of category has taken place and drawing attention to any proposed change in that admission authority,

      (vii) if the new category of school is a voluntary school, a statement that it is proposed that the school will - 

    (a) have (or continue to have) a foundation established otherwise than under this Act, or

    (b) belong (or continue to belong) to a group of schools for which a foundation body acts, as the case may be,

      (viii) if the new category of school is a foundation school, a statement that the school will - 

    (a) have (or continue to have) a foundation established otherwise than under this Act, or

    (b) belong (or continue to belong) to a group of schools for which a foundation body acts, or

    (c) be a foundation school not falling within either of sub-paragraphs

      (viii) (a) or (b) above;

      (ix) if the new category of school is a foundation special school, a statement that it is proposed that the school will have a foundation established otherwise than under this Act;

      (x) if it is proposed that the school will have (or continue to have) a foundation other than by belonging to a group of schools for which a foundation body acts, the identity of that foundation;

      (xi) if it is proposed that the school will belong (or continue to belong) to a group of schools for which a foundation body acts or will act, the identity of that body and the identity of the other schools in the group for which the foundation body performs or will perform the functions set out in section 21(4); and

      (xii) if at the time the proposal is published section 15 applies to the school, a statement that that section applies by virtue of subsection (1), (4) or (6) of that section, as the case may be; and

    (b) be published - 

      (i) by being posted in a conspicuous place in the area served by the school;

      (ii) in at least one newspaper circulating in the area served by the school; and

      (iii) by being posted at or near the main entrance to the school or, if there is more than one main entrance, all of them."

Adran/section 28(7)     " (7) Where any proposals are published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8, the relevant body shall send to the National Assembly for Wales - 

    (a) a copy of the published proposals;

    (b) evidence of consultation before the proposals were published including - 

      (i) copies of the consultation documents, and

      (ii) the views and responses from the persons consulted;

    (c) a map showing the location of the school and all other maintained schools within a radius of 3.218688 kilometres (2 miles), where the school is a primary school or 4.828032 kilometres (3 miles) where the school is a secondary school;

    (d) the following information relating to the school for the school year in which the proposals were published and (except for the information specified in sub-paragraph (i)), the previous school year - 

      (i) the lower and upper age limits of the pupils attending the school,

      (ii) the capacity of the school or in the case of a special school the number of pupils for whom the school is organised to make provision, and

      (iii) the number of pupils at the school,

    and a forecast of the matters specified in sub-paragraphs (ii) and (iii) for each of the subsequent five years;

    (e) a list of all the maintained schools within the radius of the school mentioned in paragraph (c) above stating which schools are maintained by different local education authorities together with the information referred to in paragraph (d) in respect of each such school;

    (f) in the case of a special school - 

      (i) details of the special educational needs of pupils for whom the school is organised to make provision,

      (ii) details of the information referred to in sub-paragraph (i) in respect of each community special or foundation special school within the radius of the school mentioned in paragraph (c), and

      (iii) details of all local education authorities which maintain statements of special educational needs for pupils at the school;

    (g) a breakdown of any costs involved in the change of category;

    (h) information about whether the school is a day or boarding school or a school taking both day and boarding pupils;

    (i) a statement as to whether the school has been inspected under section 10 of the School Inspections Act 1996[10](b) during the period starting three years before the date of the publication of the proposals and, where the school has been inspected during that period, the date of the inspection and details of the outcome of the inspection;

    (j) if the school is a voluntary or foundation school with a religious character, a statement as to whether the school has been inspected under section 23 of the School Inspections Act 1996 during the period starting three years before the date of publication of the proposals and, where the school has been so inspected during that period, the date of the inspection and details of the outcome of the inspection;

    (k) if the proposal is that a school should become a voluntary aided school - 

      (i) an estimate of the probable expenses of the school for the five years commencing on the implementation date for which the governing body will be liable under Schedule 3; and

      (ii) a statement that the governing body for a period of at least five years commencing on the implementation date will be willing and able to carry out their obligations under Schedule 3 (upon the assumption that they will receive a grant under paragraph 5 of Schedule 3 of 85 per cent of qualifying expenditure);

    (l) details of the exercise in relation to the school of any power granted to the local education authority or to the National Assembly for Wales under Chapter IV of Part I during the period starting three years before the date of the publication of the proposals;

    (m) details of the exercise, in relation to the governing body, of any power granted to the local education authority or to the National Assembly for Wales under Schedule 15, during the period starting three years before the date of publication of the proposals;

    (n) details of the tenure (freehold or leasehold) on which the site of the school is held and, if the premises are held on a lease, details of the lease;

    (o) details of any trusts on which the school premises are held or it is proposed will be held;

    (p) particulars of the body or authority to whom, on the date on which it is proposed that the school should change category, it is proposed that land or other property should be transferred in accordance with regulations."

Adran/Section 28(8)     " (8) Schedule 6 has effect in relation to the procedure for dealing with proposals under paragraph 2 or 3 of Schedule 8."

Adran/Section 28(10)     " (10) In this section 'the relevant body' means, in the case of proposals published by a local education authority, the authority, or, in the case of proposals published by a governing body, the governing body."

Adran/Section 28(11)     " (11) In this Part 'area' (without more) means a local education authority area."

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 7(3)     " (3) Any objections under this paragraph shall be sent to the National Assembly for Wales - 

    (a) within two months after the date of publication of the proposals, except where paragraph (b) of this sub paragraph applies; and

    (b) within one month after the date of publication of the proposals, where the proposals are in respect of a school to which section 15 applies."

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(1)     " (1) Proposals published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8 require approval under this paragraph."

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(3)     " (3) Any approval given under this paragraph may be expressed to take effect only if - 

    (a) a scheme relating to any charity connected with the school is made by a date specified in the approval,

    (b) the National Assembly for Wales gives notice under regulation 6(1) of the Education (Foundation Body) (Wales) Regulations 2001[11] (that a foundation body shall become operative and that a school shall form part of a group for which the foundation body shall act) by a date specified in the approval,

    (c) the National Assembly for Wales makes a declaration under regulation 21(3) of those Regulations (that the school shall form part of a group for which a foundation body acts) by a date specified in the approval,

    (d) the National Assembly for Wales makes a declaration under regulation 22(1) of those Regulations (that the school shall leave a group for which a foundation body acts) by a date specified in the approval.".

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(5)     " (5) Sub-paragraph (1) does not prevent the governing body or local education authority by whom any proposals have been published under paragraph 2 of Schedule 8 from withdrawing such proposals by notice in writing given to the National Assembly for Wales at any time before the proposals are approved under this paragraph.

    (6) Sub-paragraph (1) does not prevent the governing body by whom proposals have been published under paragraph 3 of Schedule 8 from withdrawing such proposals with the consent (in writing) of the National Assembly for Wales at any time before the proposals are approved under this paragraph."

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 10(1)     " (1) Where any proposals published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8 have been approved under paragraph 8 then (subject to the following provisions of this paragraph) the proposals shall be implemented in the form in which they were so approved in accordance with regulations made under paragraph 5 of Schedule 8."

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 10(2)     " (2) In the case of proposals published by the governing body at the request of the governing body or in the case of proposals published by the local education authority at the request of the local education authority, the National Assembly for Wales - 

    (a) may modify the proposals after consulting - 

      (i) in the case of proposals published by the local education authority, the governing body,

      (ii) in the case of proposals published by the governing body, the local education authority; and

    (b) where any approval under paragraph 8 was given in accordance with sub- paragraph (3) of that paragraph, may specify a later date by which the event in question must occur."




RHAN II

DARPARIAETHAU ADRAN 28 O'R DDEDDF A RHAN II O ATODLEN 6 IDDI A GYMHWYSIR GAN RAN I O'R ATODLEN HON FEL Y'U HADDASWYD

ADRAN 28

    (3) Proposals under paragraph 2 or 3 of Schedule 8 shall - 

    (a) contain the following information - 

      (i) the name of the relevant body publishing the proposals,

      (ii) the date on which it is proposed that the change of category should take place,

      (iii) a statement explaining the effect of paragraph 7 of Schedule 6 including the date by which objections should be sent to the National Assembly for Wales,

      (iv) a statement that it is proposed to change the category of the school stating the current category and the proposed new category,

      (v) the rationale of the proposal,

      (vi) a statement identifying the admission authority for the school after the change of category has taken place and drawing attention to any proposed change in that admission authority,

      (vii) if the new category of school is a voluntary school, a statement that it is proposed that the school will - 

    (a) have (or continue to have) a foundation established otherwise than under this Act, or

    (b) belong (or continue to belong) to a group of schools for which a foundation body acts, as the case may be,

      (viii) if the new category of school is a foundation school, a statement that the school will - 

    (a) have (or continue to have) a foundation established otherwise than under this Act, or

    (b) belong (or continue to belong) to a group of schools for which a foundation body acts, or

    (c) be a foundation school not falling within either of sub-paragraphs (viii) (a) or (b) above;

      (ix) if the new category of school is a foundation special school, a statement that it is proposed that the school will have a foundation established otherwise than under this Act;

      (x) if it is proposed that the school will have (or continue to have) a foundation other than by belonging to a group of schools for which a foundation body acts, the identity of that foundation;

      (xi) if it is proposed that the school will belong (or continue to belong) to a group of schools for which a foundation body acts or will act, the identity of that body and the identity of the other schools in the group for which the foundation body performs or will perform the functions set out in section 21(4); and

      (xii) if at the time the proposal is published section 15 applies to the school, a statement that that section applies by virtue of subsection (1), (4) or (6) of that section, as the case may be; and

    (b) be published - 

      (i) by being posted in a conspicuous place in the area served by the school;

      (ii) in at least one newspaper circulating in the area served by the school; and

      (iii) by being posted at or near the main entrance to the school or, if there is more than one main entrance, all of them.

    (5) Before publishing any proposals under paragraph 2 or 3 of Schedule 8, the relevant body shall consult such persons as appear to them to be appropriate; and in discharging their duty under this subsection the relevant body shall have regard to any guidance given from time to time by the National Assembly for Wales.

    (7) Where any proposals are published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8, the relevant body shall send to the National Assembly for Wales - 

    (a) a copy of the published proposals;

    (b) evidence of consultation before the proposals were published including - 

      (i) copies of the consultation documents, and

      (ii) the views and responses from the persons consulted;

    (c) a map showing the location of the school and all other maintained schools within a radius of 3.218688 kilometres (2 miles), where the school is a primary school or 4.828032 kilometres (3 miles) where the school is a secondary school;

    (d) the following information relating to the school for the school year in which the proposals were published and (except for the information specified in sub-paragraph (i)), the previous school year - 

      (i) the lower and upper age limits of the pupils attending the school,

      (ii) the capacity of the school or in the case of a special school the number of pupils for whom the school is organised to make provision, and

      (iii) the number of pupils at the school,

    and a forecast of the matters specified in sub-paragraphs (ii) and (iii) for each of the subsequent five years;

    (e) a list of all the maintained schools within the radius of the school mentioned in paragraph (c) above stating which schools are maintained by different local education authorities together with the information referred to in paragraph (d) in respect of each such school;

    (f) in the case of a special school - 

      (i) details of the special educational needs of pupils for whom the school is organised to make provision,

      (ii) details of the information referred to in sub-paragraph (i) in respect of each community special or foundation special school within the radius of the school mentioned in paragraph (c), and

      (iii) details of all local education authorities which maintain statements of special educational needs for pupils at the school;

    (g) a breakdown of any costs involved in the change of category;

    (h) information about whether the school is a day or boarding school or a school taking both day and boarding pupils;

    (i) a statement as to whether the school has been inspected under section 10 of the School Inspections Act 1996 during the period starting three years before the date of the publication of the proposals and, where the school has been inspected during that period, the date of the inspection and details of the outcome of the inspection;

    (j) if the school is a voluntary or foundation school with a religious character, a statement as to whether the school has been inspected under section 23 of the School Inspections Act 1996 during the period starting three years before the date of publication of the proposals and, where the school has been so inspected during that period, the date of the inspection and details of the outcome of the inspection;

    (k) if the proposal is that a school should become a voluntary aided school - 

      (i) an estimate of the probable expenses of the school for the five years commencing on the implementation date for which the governing body will be liable under Schedule 3; and

      (ii) a statement that the governing body for a period of at least five years commencing on the implementation date will be willing and able to carry out their obligations under Schedule 3 (upon the assumption that they will receive a grant under paragraph 5 of Schedule 3 of 85 per cent of qualifying expenditure);

    (l) details of the exercise in relation to the school of any power granted to the local education authority or to the National Assembly for Wales under Chapter IV of Part I during the period starting three years before the date of the publication of the proposals;

    (m) details of the exercise, in relation to the governing body, of any power granted to the local education authority or to the National Assembly for Wales under Schedule 15, during the period starting three years before the date of publication of the proposals;

    (n) details of the tenure (freehold or leasehold) on which the site of the school is held and, if the premises are held on a lease, details of the lease;

    (o) details of any trusts on which the school premises are held or it is proposed will be held;

    (p) particulars of the body or authority to whom, on the date on which it is proposed that the school should change category, it is proposed that land or other property should be transferred in accordance with regulations.

    (8) Schedule 6 has effect in relation to the procedure for dealing with proposals under paragraph 2 or 3 of Schedule 8.

    (10) In this section 'the relevant body' means, in the case of proposals published by a local education authority, the authority, or, in the case of proposals published by a governing body, the governing body.

    (11) In this Part 'area' (without more) means a local education authority area.



SCHEDULE 6,


PART II

     6. This Part of this Schedule applies to proposals published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8, which relate to a school in Wales.

     7.  - (1) Any person may make objections to any proposals published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8.

    (3) Any objections under this paragraph shall be sent to the National Assembly for Wales - 

    (a) within two months after the date of publication of the proposals, except where paragraph (b) of this sub-paragraph applies; and

    (b) within one month after the date of publication of the proposals, where the proposals are in respect of a school to which section 15 applies.

     8.  - (1) Proposals published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8 require approval under this paragraph.

    (2) Where any proposals require approval under this paragraph, the National Assembly for Wales may - 

    (a) reject the proposals,

    (b) approve them without modification, or

    (c) approve them with such modifications as it thinks desirable after consulting the local education authority and the governing body.

    (3) Any approval given under this paragraph may be expressed to take effect only if - 

    (a) a scheme relating to any charity connected with the school is made by a date specified in the approval,

    (b) the National Assembly for Wales gives notice under regulation 6(1) of the Education (Foundation Body) (Wales) Regulations 2001 (that a foundation body shall become operative and that a school shall form part of a group for which the foundation body shall act) by a date specified in the approval,

    (c) the National Assembly for Wales makes a declaration under regulation 21(3) of those Regulations (that the school shall form part of a group for which a foundation body acts) by a date specified in the approval,

    (d) the National Assembly for Wales makes a declaration under regulation 22(1) of those Regulations (that the school shall leave a group for which a foundation body acts) by a date specified in the approval.

    (4) When deciding whether or not to give any approval under this paragraph the National Assembly for Wales shall have regard to the school organisation plan for the area in which the school is situated.

    (5) Sub-paragraph (1) does not prevent the governing body or local education authority by whom any proposals have been published under paragraph 2 of Schedule 8 from withdrawing such proposals by notice in writing given to the National Assembly for Wales at any time before the proposals are approved under this paragraph.

    (6) Sub-paragraph (1) does not prevent the governing body by whom proposals have been published under paragraph 3 of Schedule 8 from withdrawing such proposals with the consent (in writing) of the National Assembly for Wales at any time before the proposals are approved under this paragraph.

     10.  - (1) Where any proposals published under paragraph 2 or 3 of Schedule 8 have been approved under paragraph 8 then (subject to the following provisions of this paragraph) the proposals shall be implemented in the form in which they were so approved in accordance with regulations made under paragraph 5 of Schedule 8.

    (2) In the case of proposals published by the governing body at the request of the governing body or in the case of proposals published by the local education authority at the request of the local education authority, the National Assembly for Wales - 

    (a) may modify the proposals after consulting - 

      (i) in the case of proposals published by the local education authority, the governing body,

      (ii) in the case of proposals published by the governing body, the local education authority; and

    (b) where any approval under paragraph 8 was given in accordance with sub-paragraph (3) of that paragraph, may specify a later date by which the event in question must occur.

    (3) If the National Assembly for Wales is satisfied - 

    (a) that implementation of the proposals would be unreasonably difficult; or

    (b) that circumstances have so altered since approval was given under paragraph 8 that implementation of the proposals would be inappropriate,

it may determine that sub-paragraph (1) shall cease to apply to the proposals.

    (5) Where - 

    (a) any approval under paragraph 8 was given in accordance with sub-paragraph (3) of that paragraph, and

    (b) the event specified under that sub-paragraph does not occur by the date in question (whether as specified under that sub-paragraph or as specified under sub-paragraph (2)(b) above),

sub-paragraph (1) above shall cease to apply to the proposals.

    (6) Where, by virtue of sub-paragraph (3) or (5), sub-paragraph (1) ceases to apply to any proposals, those proposals shall be treated for the purposes of this Schedule as if they had been rejected under paragraph 8.



ATODLEN 2
Rheoliad 9


TROSGLWYDDO STAFF




RHAN 1

     1.  - (1) Os bydd - 

    (a) ysgol gymunedol neu ysgol a reolir yn wirfoddol yn newid categori i ddod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir; neu

    (b) fod ysgol arbennig gymunedol yn newid categori i ddod yn ysgol arbennig sefydledig,

bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo a'r awdurdod addysg lleol yn effeithiol o'r dyddiad gweithredu ymlaen fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a'r corff llywodraethu.

     2. Heb ragfarnu paragraff 1 - 

    (a) bydd holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r awdurdod addysg lleol o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef yn cael eu trosglwyddo i'r corff llywodraethu ar y dyddiad gweithredu yn rhinwedd y paragraff hwn; a

    (b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef yngln â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig wedi'i wneud gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef.

     3. Yn ddarostyngedig i baragraff 4, bydd paragraff 1 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi yn union cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol o dan sylw yn unig.

     4. Ni fydd paragraff 1 yn gymwys - 

    (a) i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn dod i ben ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu; neu

    (b) i unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd yn unig.

     5. At ddibenion paragraff 3 rhaid ymdrin â pherson a benodwyd cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu ymlaen neu o ddyddiad ar ôl hynny fel petai'r person hwnnw wedi'i gyflogi gan yr awdurdod addysg lleol yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud yn yr ysgol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o dan ei gontract cyflogaeth gyda'r awdurdod addysg lleol.

     6. Nid yw paragraffau 1 a 2 yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan weithiwr cyflogedig i derfynu'r contract os bydd newid sylweddol i'w amodau gwaith yn cael ei wneud er anfantais i'r gweithiwr, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi dim ond am fod y Rheoliadau hyn yn peri bod yna newid cyflogwr.



RHAN II

     7.  - (1) Os bydd - 

    (a) ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn newid categori i ddod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir; neu

    (b) fod ysgol arbennig sefydledig yn newid categori i ddod yn ysgol arbennig gymunedol,

bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo a'r corff llywodraethu yn effeithiol o'r dyddiad gweithredu ymlaen fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a'r awdurdod addysg lleol.

     8. Heb ragfarnu paragraff 7 - 

    (a) bydd holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ar y dyddiad gweithredu yn rhinwedd y paragraff hwn; a

    (b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef yngln â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef.

     9. Yn ddarostyngedig i baragraff 10, bydd paragraff 7 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o dan sylw.

     10. Ni fydd paragraff 7 yn gymwys i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn dod i ben ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu.

     11. At ddibenion paragraff 9 rhaid ymdrin â pherson a benodwyd cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu ymlaen neu o ddyddiad ar ôl hynny fel petai'r person hwnnw wedi'i gyflogi gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud yn yr ysgol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o dan ei gontract cyflogaeth gyda'r corff llywodraethu.

     12. Nid yw paragraffau 7 ac 8 yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan weithiwr cyflogedig i derfynu'r contract os bydd newid sylweddol yn cael ei wneud i'w amodau gwaith er anfantais i'r gweithiwr, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi dim ond am fod y Rheoliadau hyn yn peri bod yna newid cyflogwr.



RHAN III

     13.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig gyda chymeriad crefyddol yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir gyda chymeriad crefyddol.

    (2) Pan oedd gan athro neu athrawes mewn ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn rhinwedd adran 60(2) o'r Ddeddf, hawliau na roddwyd mohonynt iddo ef neu iddi hi ar neu ar ôl y dyddiad gweithredu gan adran 60 fel athro neu athrawes mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, bydd yr hawliau hynny'n parhau ganddo ef neu ganddi hi nes peidio â chael ei gyflogi fel athro neu ei chyflogi fel athrawes yn yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir.



ATODLEN 3
Rheoliadau 11 a 12


OFFERYNNAU LLYWODRAETHU




RHAN I

Offeryn Llywodraethu:Ysgolion Sefydledig ac Ysgolion Arbennig Sefydledig

     1. Enw'r ysgol yw


     2. Y categori y mae'r ysgol yn perthyn iddo yw


     3. Enw'r corff llywodraethu yw


     4. Cynnwys y corff llywodraethu fydd:

    (a) x o rieni-lywodraethwyr;

    (b) x o lywodraethwyr yr AALl;

    (c) x o athrawon-lywodraethwyr;

         (os yw'n gymwys

    (ch) un llywodraethwr staff;)

         (os yw'n gymwys

    (d) x o lywodraethwyr sefydledig;)

         (os yw'n gymwys

    (dd) x o lywodraethwyr partneriaeth;)

    (e) x o lywodraethwyr cyfetholedig (gan gynnwys unrhyw lywodraethwyr y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 neu 7 isod);

    (f) y pennaeth (ac eithrio unrhyw bryd y mae wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu'r ysgol nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr).

     5. Cyfanswm y llywodraethwyr


(ac eithrio unrhyw bryd y mae'r pennaeth wedi rhoi hysbysiad fel y nodir uchod nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, a chyfanswm y llywodraethwyr bryd hynny fydd
).

           (os yw'n gymwys

     6. Bydd x llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr/llywodraethwyr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer eu penodi gan noddwr yr ysgol neu o blith noddwyr yr ysgol.)

           (os yw'n gymwys

     7. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan y Fforwm Gweithredu Addysg ar gyfer y Parth Gweithredu Addysg y mae'r ysgol yn ysgol gyfranogol ar ei gyfer.)

           (Pan yw'r ysgol i gael llywodraethwyr sefydledig

     8. Yn ddarostyngedig i reoliad 14 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 sy'n darparu i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swyddi, nodwch enw unrhyw gorff sefydledig neu berson sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig. Os oes mwy nag un person o'r fath nodwch ar ba sail y mae penodiadau o'r fath yn cael eu gwneud wrth newid categori ac ar ôl hynny pan fydd swyddi gwag i'w llenwi).

           (os yw'n gymwys

     9.

    (a) Rhaid i ddeiliad y swydd ganlynol fod yn llywodraethwr sefydledig ex-officio:

           enw'r swydd

    (b) bydd


    [neu
    a
    ar y cyd] yn penodi llywodraethwr sefydledig i weithredu yn lle'r llywodraethwr sefydledig ex-officio y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio o'r swydd a enwir yn (a) uchod, os digwydd bod y llywodraethwr sefydledig ex-officio hwnnw'n methu gweithredu fel llywodraethwr sefydledig, neu'n anfodlon gwneud hynny, neu nad oes deiliad yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn bodoli o'i herwydd.

Ailadroddwch 9(a) a (b) yn ôl yr angen os oes mwy nag un swydd llywodraethwr sefydledig ex-officio.)

     10. Nodwch y weithdrefn ar gyfer dileu unrhyw ormodedd yn nifer y llywodraethwyr sefydledig.

(O dan reoliad 15 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, ni fydd y weithdrefn hon yn gymwys pan fydd cyrff llywodraethu yn cael eu hailgyfansoddi).

     11. Os oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol, disgrifiwch ethos yr ysgol.

     12. Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2) o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, daw'r offeryn llywodraethu hwn i rym ar [mewnosodwch y dyddiad gweithredu].

     13. Cafodd yr offeryn llywodraethu hwn ei wneud drwy orchymyn Awdurdod Addysg Lleol


ar




RHAN II

Offeryn Llywodraethu:Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

     1. Enw'r ysgol yw


     2. Ysgol wirfoddol a gynorthwyir yw'r ysgol.

     3. Enw'r corff llywodraethu yw


     4. Cynnwys y corff llywodraethu fydd:

    (a) x o lywodraethwyr sefydledig (ac eithrio unrhyw bryd y mae'r pennaeth wedi rhoi hysbysiad nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, pan fydd nifer y llywodraethwyr sefydledig yn x);

    (b) x o rieni-lywodraethwyr;

    (c) x o lywodraethwyr yr AALl;

    (ch) x o athrawon-lywodraethwyr; (os yw'n gymwys

    (d) un llywodraethwr staff);

         (os yw'n gymwys

    (dd) x o lywodraethwyr cyfetholedig (mewnosodwch gyfanswm y llywodraethwyr y cyfeirir atynt ym mharagraffau 6, 7 neu 8 isod, os o gwbl);

    (e) y pennaeth (ac eithrio unrhyw bryd y mae wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu'r ysgol nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr).

     5. Cyfanswm y llywodraethwyr


(ac eithrio unrhyw bryd y mae'r pennaeth wedi hysbysu fel y nodir uchod nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, a chyfanswm y llywodraethwyr bryd hynny fydd
).

           (os yw'n gymwys

     6. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan yr is-awdurdod neu (yn ôl fel y digwydd) gan un neu ragor o'r is-awdurdodau mewn perthynas â'r ysgol).

           (os yw'n gymwys

     7. Bydd x llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr/llywodraethwyr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer eu penodi gan noddwr yr ysgol neu o blith noddwyr yr ysgol.)

           (os yw'n gymwys

     8. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan y Fforwm Gweithredu Addysg ar gyfer y Parth Gweithredu Addysg y mae'r ysgol yn ysgol gyfranogol ar ei gyfer.)

     9. Yn ddarostyngedig i reoliad 14 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, sy'n darparu i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swyddi, nodwch enw unrhyw gorff sefydledig neu berson sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig. Os oes mwy nag un person o'r fath, nodwch ar ba sail y mae penodiadau o'r fath yn cael eu gwneud wrth drosglwyddo i'r fframwaith newydd ac ar ôl hynny pan fydd swyddi gwag i'w llenwi.

           (os yw'n gymwys

     10.

    (a) Rhaid i ddeiliad y swydd ganlynol fod yn llywodraethwr sefydledig ex-officio:enw'r swydd

    (b) bydd
    [neu
    a
    ar y cyd] yn penodi llywodraethwr sefydledig i weithredu yn lle'r llywodraethwr sefydledig ex-officio y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio o'r swydd a enwir yn (a) uchod, os digwydd bod y llywodraethwr sefydledig ex-officio hwnnw'n methu gweithredu fel llywodraethwr sefydledig, neu'n anfodlon gwneud hynny, neu nad oes deiliad yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn bodoli o'i herwydd.

Ailadroddwch 10(a) a (b) yn ôl yr angen os oes mwy nag un swydd llywodraethwr sefydledig ex-officio.)

     11. Nodwch y weithdrefn ar gyfer dileu unrhyw ormodedd yn nifer y llywodraethwyr sefydledig.

(O dan reoliad 15 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, ni fydd y weithdrefn hon yn gymwys pan fydd cyrff llywodraethu yn cael eu hailgyfansoddi).

     12. Os oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol, disgrifiwch ethos yr ysgol.

     13. Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2) o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, daw'r offeryn llywodraethu hwn i rym ar [mewnosodwch y dyddiad gweithredu].

     14. Cafodd yr offeryn llywodraethu hwn ei wneud drwy orchymyn Awdurdod Addysg Lleol


ar




RHAN III

Offeryn Llywodraethu: Ysgolion Gwirfoddol a Reolir

     1. Enw'r ysgol yw


     2. Ysgol wirfoddol a reolir yw'r ysgol.

     3. Enw'r corff llywodraethu yw


     4. Cynnwys y corff llywodraethu fydd:

    (a) x o rieni-lywodraethwyr;

    (b) x o lywodraethwyr yr AALl;

    (c) x o athrawon-lywodraethwyr;

           (os yw'n gymwys

    (ch) un llywodraethwr staff;)

    (d) x o lywodraethwyr sefydledig;

    (dd) x o lywodraethwyr cyfetholedig (gan gynnwys unrhyw lywodraethwyr y cyfeirir atynt ym mharagraff 6, 7 neu 8 isod);

    (e) y pennaeth (ac eithrio unrhyw bryd y mae wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu'r ysgol nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr).

     5. Cyfanswm y llywodraethwyr


(ac eithrio unrhyw bryd y mae'r pennaeth wedi hysbysu fel y nodir uchod nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, a chyfanswm y llywodraethwyr bryd hynny fydd
).

           (os yw'n gymwys

     6. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan yr is-awdurdod neu (yn ôl fel y digwydd) gan un neu ragor o'r is-awdurdodau mewn perthynas â'r ysgol).

           (os yw'n gymwys

     7. Bydd x llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr/llywodraethwyr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer eu penodi gan noddwr yr ysgol neu o blith noddwyr yr ysgol.)

           (os yw'n gymwys

     8. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan y Fforwm Gweithredu Addysg ar gyfer y Parth Gweithredu Addysg y mae'r ysgol yn ysgol gyfranogol ar ei gyfer.)

     9. Yn ddarostyngedig i reoliad 14 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 sy'n darparu i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swyddi, nodwch enw unrhyw gorff sefydledig neu berson sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig. Os oes mwy nag un person o'r fath nodwch ar ba sail y mae penodiadau o'r fath yn cael eu gwneud wrth drosglwyddo i'r fframwaith newydd ac ar ôl hynny pan fydd swyddi gwag i'w llenwi).

           (os yw'n gymwys

     10.

    (a) Rhaid i ddeiliad y swydd ganlynol fod yn llywodraethwr sefydledig ex-officio: enw'r swydd

    (b) bydd
    [neu
    a
    ar y cyd] yn penodi llywodraethwr sefydledig i weithredu yn lle'r llywodraethwr sefydledig ex-officio y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio o'r swydd a enwir yn (a) uchod, os digwydd bod y llywodraethwr sefydledig ex-officio hwnnw'n methu gweithredu fel llywodraethwr sefydledig, neu'n anfodlon gwneud hynny, neu nad oes deiliad yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn bodoli o'i herwydd.

Ailadroddwch 10(a) a (b) yn ôl yr angen os oes mwy nag un swydd llywodraethwr sefydledig ex-officio.)

     11. Nodwch y weithdrefn ar gyfer dileu unrhyw ormodedd yn nifer y llywodraethwyr sefydledig.

(O dan reoliad 15 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, ni fydd y weithdrefn hon yn gymwys pan fydd cyrff llywodraethu yn cael eu hailgyfansoddi).

     12. Os oes gan yr ysgol gymeriad crefyddol, disgrifiwch ethos yr ysgol.

     13. Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2) o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, daw'r offeryn llywodraethu hwn i rym ar [mewnosodwch y dyddiad gweithredu].

     14. Cafodd yr offeryn llywodraethu hwn ei wneud drwy orchymyn Awdurdod Addysg Lleol


ar




RHAN IV

Offeryn Llywodraethu: Ysgolion Cymunedol

     1. Enw'r ysgol yw


     2. Ysgol gymunedol yw'r ysgol.

     3. Enw'r corff llywodraethu yw


     4. Cynnwys y corff llywodraethu fydd:

    (a) x o rieni-lywodraethwyr;

    (b) x o lywodraethwyr yr AALl;

    (c) x o athrawon-lywodraethwyr;

           (os yw'n gymwys

    (ch) un llywodraethwr staff;)

    (d) x o lywodraethwyr cyfetholedig (gan gynnwys unrhyw lywodraethwyr y cyfeirir atynt ym mharagraff 6, 7 neu 8 isod);

    (dd) y pennaeth (ac eithrio unrhyw bryd y mae wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu'r ysgol nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr).

     5. Cyfanswm y llywodraethwyr


(ac eithrio unrhyw bryd y mae'r pennaeth wedi hysbysu fel y nodir uchod nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, a chyfanswm y llywodraethwyr bryd hynny fydd
).

           (os yw'n gymwys

     6. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan yr is-awdurdod neu (yn ôl fel y digwydd) gan un neu ragor o'r is-awdurdodau mewn perthynas â'r ysgol).

           (os yw'n gymwys

     7. Bydd x llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr/llywodraethwyr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer eu penodi gan noddwr yr ysgol neu o blith noddwyr yr ysgol.)

           (os yw'n gymwys

     8. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan y Fforwm Gweithredu Addysg ar gyfer y Parth Gweithredu Addysg y mae'r ysgol yn ysgol gyfranogol ar ei gyfer.)

     9. Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2) o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, daw'r offeryn llywodraethu hwn i rym ar (mewnosodwch y dyddiad gweithredu).

     10. Cafodd yr offeryn hwn ei wneud drwy orchymyn Awdurdod Addysg Lleol


ar




RHAN V

Offeryn Llywodraethu: Ysgolion Arbennig Cymunedol

     1. Enw'r ysgol yw


     2. Ysgol arbennig gymunedol yw'r ysgol.

     3. Enw'r corff llywodraethu yw


     4. Cynnwys y corff llywodraethu fydd:

    (a) x o rieni-lywodraethwyr;

    (b) x o lywodraethwyr yr AALl;

    (c) x o athrawon-lywodraethwyr;

           (os yw'n gymwys

    (ch) un llywodraethwr staff;)

    (d) x o lywodraethwyr cyfetholedig (gan gynnwys unrhyw lywodraethwyr y cyfeirir atynt ym mharagraff 6, 7 neu 8 isod);

    (dd) y pennaeth (ac eithrio unrhyw bryd y mae wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc corff llywodraethu'r ysgol nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr).

           (os yw'n gymwys

    (e) un llywodraethwr cynrychioliadol a benodir gan


    [neu
    a
    ar y cyd].

     5. Cyfanswm y llywodraethwyr


(ac eithrio unrhyw bryd y mae'r pennaeth wedi rhoi hysbysiad fel y nodir uchod nad yw'n dewis bod yn llywodraethwr, a chyfanswm y llywodraethwyr bryd hynny fydd
).

           (os yw'n gymwys

     6. Bydd x llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr/llywodraethwyr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer eu penodi gan noddwr yr ysgol neu o blith noddwyr yr ysgol.)

           (os yw'n gymwys

     7. Bydd un llywodraethwr cyfetholedig yn llywodraethwr y dylid gofyn am enwebiadau ar gyfer ei benodi gan y Fforwm Gweithredu Addysg ar gyfer y Parth Gweithredu Addysg y mae'r ysgol yn ysgol gyfranogol ar ei gyfer.)

     8. Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2) o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, daw'r offeryn llywodraethu hwn i rym ar [mewnosodwch y dyddiad gweithredu].

     9. Cafodd yr offeryn llywodraethu hwn ei wneud drwy orchymyn Awdurdod Addysg Lleol


ar
.



RHAN VI

Is-baragraffau a roddir yn lle is-baragraffau (2) i (6) o baragraff 3 o Atodlen 12 i'r Ddeddf

        " (2) Where the school has, or it is proposed that it will have, foundation governors, the governing body shall not submit the draft to the local education authority unless the following persons have agreed to the contents of the draft, namely - 

      (a) the existing foundation governors; or

      (b) if there are no existing foundation governors, the persons whom it is proposed will be entitled to appoint foundation governors;

      (c) any trustees under a trust deed relating to the school;

      (d) in the case of a Church in Wales School or Roman Catholic Church School, the appropriate diocesan authority.

        (3) On receiving the draft the authority shall consider whether it complies with all applicable statutory provisions, and if - 

      (a) the authority are content with the draft; or

      (b) there is agreement between the authority, the governing body and (if the school has foundation governors or it is proposed that the school will have foundation governors) the persons mentioned in sub-paragraph (2) that the draft should be revised to any extent,

    the Instrument shall be made by order of the authority in the form of the draft or (as the case may be) in the form of the revised draft.

        (4) If, in the case of a school which has foundation governors or it is proposed should have foundation governors, there is at any time disagreement as to the contents of the draft among the bodies and persons mentioned in sub-paragraph (3)(b), any of those bodies or persons may refer the draft to the National Assembly for Wales; and on such a reference the National Assembly shall give such direction as it thinks fit having regard, in particular, to the category of school to which it is proposed the school should belong.

        (5) If neither of paragraphs (a) and (b) of sub-paragraph (3) applies in the case of a school which does not have foundation governors and it is proposed should not have such governors, the authority shall - 

      (a) notify the governing body of the reasons why they are not content with the draft Instrument, and

      (b) give the governing body a reasonable opportunity to reach agreement with the authority on revising the draft;

    and the Instrument shall be made by order of the authority either in the form of a revised draft agreed between the authority and the governing body or (in the absence of such agreement) in such form as the authority thinks fit having regard, in particular, to the category of school to which it is proposed the school should belong.

        (6) When taking any decision as to the name of the school the governing body, the authority and (if the school has foundation governors or it is proposed that it should have foundation governors) the persons mentioned in paragraph (2) shall have regard to any guidance given from time to time by the National Assembly for Wales.".



ATODLEN 4
Rheoliad 16


Trosglwyddo tir




Rhan I

Effaith trosglwyddiadau o dan yr Atodlen hon

     1.  - (1) Pan fydd unrhyw dir yn cael ei drosglwyddo ac yn cael ei freinio mewn unrhyw gorff yn unol â'r Atodlen hon, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau - 

    (a) sy'n cael eu mwynhau gan y trosglwyddwr neu a dynnir gan y trosglwyddwr mewn cysylltiad â'r tir, a

    (b) sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad gweithredu,

yn cael eu trosglwyddo hefyd i'r corff hwnnw, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn breinio ynddo.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon, mewn perthynas ag ysgol, at dir sy'n cael ei drosglwyddo i gorff sefydledig ac yn breinio ynddo, yn gyfeiriad at ei drosglwyddo i'r corff hwnnw a'i freinio ynddo at ddibenion yr ysgolion a gynhwysir yn y grwp y mae'r corff hwnnw'n gweithredu drosto.

    (3) Ni fydd trosglwyddiadau tir o dan yr Atodlen hon yn effeithio ar hawliau'r corff llywodraethu mewn perthynas â'r tir o dan Atodlen 13 i'r Ddeddf.

     2. Wrth ei chymhwyso i drosglwyddiadau o dan yr Atodlen hon, rhaid darllen cyfeiriadau at y dyddiad trosglwyddo yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988[
12] fel cyfeiriadau at y dyddiad gweithredu.



Rhan II

Rheolau yngln â throsglwyddiadau

     3.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, - 

    (a) ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

    (b) os nad oes gan yr ysgol unrhyw ymddiriedolwyr, y corff llywodraethu.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

     4.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o grp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir heblaw meysydd chwarae, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw meysydd chwarae neu dir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

     5.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw meysydd chwarae, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol gymunedol ddod yn ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw meysydd chwarae neu dir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid neu a ddefnyddid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

     6.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig nad yw'n rhan o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys - 

    (a) bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

    (b) bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig sy'n rhan o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys - 

    (a) bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

    (b) bydd unrhyw dir arall a ddelid gan y corff sefydledig, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgolion yn y grp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

     7.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig nad yw'n aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o gr p felly.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

     8.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig nad yw'n aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o gr p felly.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig sy'n aelod o grp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o gr p felly.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y gr p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

     9.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir nad yw'n rhan o grp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys - 

    (a) bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

    (b) bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy'n aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys - 

    (a) bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

    (b) bydd unrhyw dir arall a ddelid gan y corff sefydledig, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

     10.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) nid yw'r ysgol (fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto; ac

    (c) ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o gr p felly.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff llywodraethu, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir nad yw'n aelod o grp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o gr p felly.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

    (5) Mae is-baragraff (6) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy'n aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o gr p felly.

    (6) Mewn achos o'r fath, bydd unrhyw dir a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y gr p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu a ddelid neu a ddefnyddid gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn yn breinio ynddynt, - 

    (a) ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

    (b) os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, y corff llywodraethu.

     11.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir nad yw'n aelod o grp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod (yn ôl fel y digwydd) yn ysgol wirfoddol a reolir neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol yn aelod o gr p felly.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy'n aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod (yn ôl fel y digwydd) yn ysgol wirfoddol a reolir neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol yn aelod o gr p felly.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddynt, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol.

     12.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir nad yw'n rhan o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys - 

    (a) bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

    (b) bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

    (3) Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir sy'n rhan o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys - 

    (a) bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y gr p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

    (b) bydd unrhyw dir arall a ddelid gan y corff sefydledig, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgolion yn y gr p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

     13.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf;

    (b) nid yw'r ysgol (fel ysgol wirfoddol a reolir) yn aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto; ac

    (c) ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grwp felly.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff llywodraethu, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

    (3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir nad yw'n aelod o grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o grwp felly.

    (4) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, heblaw tir a ddelir ar ymddiriedaeth, a ddelid yn union cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.

    (5) Mae is-baragraff (6) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol wirfoddol a reolir sy'n aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod yn ysgol sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen ni fydd yr ysgol (fel ysgol sefydledig) yn aelod o gr p felly.

    (6) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir a ddelid gan y corff sefydledig yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y gr p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir neu a ddelid neu a ddefnyddid gan yr awdurdod addysg lleol at ddibenion yr ysgol honno yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn yn breinio ynddynt, - 

    (a) ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

    (b) os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, y corff llywodraethu.

     14.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol arbennig gymunedol ddod yn ysgol arbennig sefydledig wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir a ddelid neu a ddefnyddid gan awdurdod lleol yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol arbennig gymunedol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r canlynol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn yn breinio ynddynt - 

    (a) ymddiriedolwyr yr ysgol, i'w ddal ganddynt ar ymddiriedaeth at ddibenion yr ysgol; neu

    (b) os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, y corff llywodraethu.

     15.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys - 

    (a) bydd unrhyw dir sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol arbennig sefydledig yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo; a

    (b) bydd unrhyw dir arall a ddelid gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu'r corff llywodraethu, yn union cyn y dyddiad hwnnw, at ddibenion yr ysgol arbennig sefydledig yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol ac yn breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

     16.  - (1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys - 

    (a) pan fydd unrhyw gynigion y dylai ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy'n aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto ddod (yn ôl fel y digwydd) yn ysgol sefydledig, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf; a

    (b) o'r dyddiad gweithredu ymlaen bydd yr ysgol yn aelod o gr p y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

    (2) Pan fydd yr is-baragraff hwn yn gymwys, bydd unrhyw dir, a ddelid gan y corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) uchod yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgolion yn y gr p ac a ddefnyddid at ddibenion yr ysgol yn cael ei drosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) uchod, ac yn rhinwedd y paragraff hwn, yn breinio ynddo.



Rhan III

Trosglwyddiadau sydd heb eu gwneud

     17. Pan fydd, yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas ag unrhyw newid categori - 

    (a) yn ofynnol trosglwyddo unrhyw dir sydd wedi'i freinio mewn awdurdod lleol yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth statudol i gorff llywodraethu ysgol neu i unrhyw ymddiriedolwyr sydd gan ysgol, ond

    (b) bod y tir heb ei drosglwyddo eto,

bydd Rhan II o'r Atodlen hon yn gymwys i'r ysgol fel petai'r tir wedi'i drosglwyddo felly erbyn yr amser hwnnw.



Rhan IV

Trosglwyddo hawliau i ddefnyddio tir

     18.  - (1) Pan fydd paragraff 3, 4, 5 neu 14 yn gymwys i ysgol a bod unrhyw dir a ddelir gan berson neu gorff heblaw awdurdod lleol yn cael ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, at ddibenion yr ysgol, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau - 

    (a) a oedd yn cael eu mwynhau neu yn cael eu tynnu gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â defnyddio'r tir, a

    (b) a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad gweithredu,

yn cael eu trosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i ymddiriedolwyr yr ysgol, neu, os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr, i'r corff llywodraethu, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael eu breinio ynddynt neu ynddo.

    (2) Pan fydd paragraff 6, 9, 12 neu 15 yn gymwys i ysgol a bod unrhyw dir a ddelid gan berson neu gorff heblaw corff llywodraethu'r ysgol yn cael ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, at ddibenion yr ysgol, bydd unrhyw hawliau a rhwymedigaethau - 

    (a) a oedd yn cael eu mwynhau neu yn cael eu tynnu gan y corff llywodraethu mewn cysylltiad â defnyddio'r tir, a

    (b) a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad gweithredu,

yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael eu breinio ynddo.

    (3) Pan fydd paragraff 6, 9, 12 neu 15 yn gymwys i ysgol a bod unrhyw dir a ddelid gan berson neu gorff, heblaw unrhyw ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig sy'n dal unrhyw dir at ddibenion yr ysgol, yn cael ei ddefnyddio yn union cyn y dyddiad gweithredu at ddibenion yr ysgol, bydd unrhyw hawliau neu rwymedigaethau - 

    (a) a oedd yn cael eu mwynhau neu'n cael eu tynnu gan unrhyw ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig o'r fath mewn cysylltiad â defnyddio'r tir, a

    (b) a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad gweithredu,

yn cael eu trosglwyddo ar y dyddiad hwnnw i'r awdurdod addysg lleol, ac yn cael eu breinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau.

    (4) Nid oes dim yn y paragraff hwn yn gymwys i dir y mae unrhyw un o baragraffau 3 i 12 yn gymwys iddo.

    (5) Yn y paragraff hwn - 

    ystyr "cytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau" yw cytundeb - 

    (a) sy'n cael ei wneud at ddibenion is-baragraff (3) rhwng yr awdurdod addysg lleol a'r ymddiriedolwyr neu'r corff sefydledig (yn ôl fel y digwydd) a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw, a

    (b) sy'n darparu bod yr hawliau neu'r rhwymedigaethau o dan sylw yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod ar y dyddiad gweithredu, ac yn cael eu breinio ynddo, p'un ai yn gydnabyddiaeth am swm a delir gan yr awdurdod ac y cytunir arno rhwng y partïon neu beidio.



Rhan V

Tir a eithriwyd rhag cael ei drosglwyddo a chyfyngiadau ar waredu tir tra bydd cynigion ar waith

     19.  - (1) Ni fydd dim yn Rhan II o'r Atodlen hon yn cael yr effaith o drosglwyddo i unrhyw gorff, na breinio ynddo, - 

    (a) unrhyw dir, hawliau neu rwymedigaethau a eithriwyd o dan is-baragraff (2) neu (3),

    (b) unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth,

    (c) unrhyw rwymedigaeth awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr mewn perthynas â phrifswm unrhyw fenthyciad, neu log arno, neu

    (ch) unrhyw rwymedigaeth mewn cyfraith camwedd.

    (2) Os bydd - 

    (a) y trosglwyddai a'r trosglwyddwr arfaethedig wedi cytuno'n ysgrifenedig y dylai unrhyw dir gael ei eithrio rhag gweithrediad Rhan II o'r Atodlen hon, a

    (b) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo'r cytundeb yn ysgrifenedig,

a hynny cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas ag unrhyw newid categori, bydd y tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy'n berthnasol iddo) yn cael ei eithrio felly.

    (3) Yn niffyg cytundeb o dan is-baragraff (2) - 

    (a) os yw'r trosglwyddai neu'r trosglwyddwr arfaethedig wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad Rhan II o'r Atodlen hon, a

    (b) bod y Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn wedi cyfarwyddo ei eithrio,

bydd y tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy'n berthnasol iddo) yn cael ei eithrio felly.

    (4) Gall cytundeb o dan is-baragraff (2) ddarparu bod y tir yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol (fel ysgol mewn categori newydd) ar y telerau a bennir neu a benderfynir yn unol â'r cytundeb; a gall cyfarwyddiadau o dan is-baragraff (3) - 

    (a) rhoi unrhyw hawliau neu osod unrhyw rwymedigaethau a allai fod wedi'u rhoi neu wedi'u gosod gan gytundeb o'r fath, a

    (b) byddant yn effeithiol fel petai wedi'u cynnwys mewn cytundeb o'r fath.

    (5) Yn y paragraff hwn - 

    ystyr "categori newydd" yw un o'r categorïau a nodir yn adran 20(1) o'r Ddeddf;

    ystyr "y trosglwyddai arfaethedig", mewn perthynas ag unrhyw dir, yw'r corff y byddai'r tir yn cael ei drosglwyddo iddo, heblaw am is- baragraff (2) neu (3), o dan Ran II o'r Atodlen hon; a

    dehonglir "y trosglwyddwr arfaethedig" yn unol â hynny.

     20.  - (1) At ddibenion Rhan V o'r Atodlen hon mae'r weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol pan fydd y weithdrefn honno wedi'i chychwyn gan y corff llywodraethu mewn perthynas â'r ysgol ar unrhyw achlysur a bod y weithdrefn honno heb ei therfynu (fel y'i chychwynnwyd ar yr achlysur hwnnw).

    (2) At y dibenion hynny, dylid barnu bod y weithdrefn honno wedi'i chychwyn mewn perthynas ag ysgol ar unrhyw achlysur pan fydd yr awdurdod addysg lleol wedi cael hysbysiad o gyfarfod y corff llywodraethu y bwriedir ystyried cynigiad ynddo ar gyfer penderfyniad i ymgynghori yngln â chynigion i newid categori.

    (3) At y dibenion hynny, dylid barnu bod y weithdrefn honno, fel y'i chychwynnwyd ar unrhyw achlysur, wedi'i therfynu - 

    (a) os na chaiff y cyfarfod ei gynnal;

    (b) os caiff y cyfarfod ei gynnal ond na chaiff y cynigiad ei wneud neu, er bod y cynigiad yn cael ei wneud, nad yw'r penderfyniad yn cael ei basio;

    (c) os nad yw'r ymgynghori yn cael ei gychwyn yn unol ag adran 28(5) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan y Rheoliadau hyn;

    (ch) os nad yw'r cynigion y cychwynnwyd yr ymgynghori mewn perthynas â hwy yn cael eu cyhoeddi;

    (d) os caiff y cynigion a enwyd eu gwrthod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu os cânt eu tynnu'n ôl; neu

    (dd) ar ddyddiad gweithredu'r cynigion hynny.

     21.  - (1) Yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol, rhaid i awdurdod lleol beidio - 

    (a) â gwaredu unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion yr ysgol, na

    (b) â gwneud cytundeb i waredu tir o'r fath,

ac eithrio gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwarediad sy'n cael ei wneud yn unol â chontract a wnaed, neu opsiwn a roddwyd, cyn bod y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'i chychwyn mewn perthynas â'r ysgol.

    (3) Pan fydd cynigion ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall wedi'u cymeradwyo, ni ddylid ymdrin â'r weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall fel un sydd wedi'i therfynu at ddibenion y paragraff hwn mewn perthynas ag unrhyw dir, pan fydd yn ofynnol dod i gytundeb o dan baragraff 2(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (adnabod eiddo, etc.) ar unrhyw fater yngln â'r tir hwnnw, tan y dyddiad y bydd y mater hwnnw yn cael ei benderfynu'n derfynol.

    (4) Ni fydd gwarediad na chontract yn annilys nac yn ddi-rym dim ond am ei fod wedi'i wneud yn groes i'r paragraff hwn ac ni fydd person sy'n caffael tir, neu'n gwneud contract i gaffael tir, oddi wrth awdurdod lleol yn ymboeni i holi a oes unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn wedi'i roi.

    (5) Mae'r paragraff hwn yn effeithiol er gwaethaf unrhyw beth yn adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[13] (p er cyffredinol i waredu tir) neu mewn unrhyw ddeddfiad arall; a bydd y cydsyniad sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy'n ofynnol o dan is-adran (2) o'r adran honno neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.

    (6) Yn y paragraff hwn - 

    (a) mae cyfeiriadau at waredu tir yn cynnwys rhoi neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir, a

    (b) mae cyfeiriadau at wneud contract i waredu tir yn cynnwys rhoi opsiwn i gaffael tir neu fuddiant o'r fath.

     22.  - (1) Yn ystod unrhyw gyfnod pan fydd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall ar waith mewn perthynas ag ysgol, rhaid i awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau, mewn perthynas ag unrhyw dir sydd gan yr awdurdod ac sy'n cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol, heb gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol, y bydd y tir yn peidio â chael ei ddefnyddio neu ei ddal felly i unrhyw raddau o'u plegid.

    (2) Yn achos unrhyw ysgol, os bydd - 

    (a) cynigion bod ysgol yn dod yn ysgol o gategori arall yn cael eu cymeradwyo, a

    (b) bod awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir, wedi cymryd unrhyw gamau yn groes i is-baragraff (1),

bydd y darpariaethau ynglyn â throsglwyddo eiddo yn effeithiol fel petai'r eiddo, yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas â'r newid categori, yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan yr awdurdod at y dibenion yr oedd yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal ar eu cyfer pan gychwynnwyd y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall.

    (3) Yn y paragraff hwn - 

    (a) ystyr "y darpariaethau ynglyn â throsglwyddo eiddo" yw'r Atodlen hon ac adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ac Atodlen 10 iddi, a

    (b) mae'r cyfeiriadau at gymryd camau yn cynnwys meddiannu eiddo at unrhyw ddiben.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac ysgolion sefydledig ddod yn gategori arall o ysgol o fewn y categorïau hynny, ac ar gyfer ysgol arbennig gymunedol ddod yn ysgol arbennig sefydledig ac ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol.

Rheoliad 2: mae'n diddymu Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999, yn ddarostyngedig i eithriadau.

Rheoliad 3: mae'n diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.

Rheoliad 4: mae'n darparu nad yw'r awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu, pan yw'r Rheoliadau'n darparu bod dyletswyddau i'w cyflawni o fewn terfyn amser, yn cael eu rhyddhau o'r ddyletswydd honno os na fyddant yn eu cyflawni o fewn y terfyn amser a osodir.

Rheoliad 5: mae'n gosod cyfyngiadau ar ysgolion sy'n newid categori.

Rheoliad 6: mae'n nodi'r mathau o gynigion y mae rheoliadau 7-18 yn gymwys iddynt.

Rheoliad 7: mae'n darparu ar gyfer sut y mae cynigion ar gyfer newid categori ysgol i gael eu gwneud a sut y mae ymdrin â hwy, drwy gymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 6 iddi mewn perthynas â chynigion o'r fath. Nodir yr addasiadau yn Rhan I o Atodlen 1 ac mae Rhan II o'r Atodlen honno'n dangos effaith addasiadau o'r fath ar adran 28 ac Atodlen 6.

Rheoliad 8: mae'n darparu y bydd yr ysgol ar y dyddiad gweithredu yn newid categori yn unol â'r cynigion.

Rheoliad 9 ac Atodlen 2: maent yn ymdrin â throsglwyddo staff o gyflogaeth awdurdod addysg lleol i gyflogaeth corff llywodraethu a vice versa.

Rheoliadau 10-12 ac Atodlen 3: maent yn ymdrin â gwneud offerynnau llywodraethu newydd ac yn rhagnodi ffurflenni safonol i'w defnyddio. Addasir Atodlen 12 i Ddeddf 1998, wrth ei chymhwyso i'r offerynnau llywodraethu newydd, fel y darperir yn Rhan VI o Atodlen 3.

Rheoliadau 13-15: maent yn darparu ar gyfer ailgyfansoddi'r corff llywodraethu pan fydd ysgol yn newid categori. Caniateir i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swydd a gwneir darpariaeth ar gyfer diswyddo unrhyw lywodraethwyr sy'n ormodol i anghenion yr offeryn llywodraethu newydd.

Rheoliad 16 ac Atodlen 4: maent yn darparu ar gyfer trosglwyddo tir a'r hawliau a'r rhwymedigaethau cysylltiedig.

Rheoliadau 17 a 18: maent yn cynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer achosion lle mae newid yn yr awdurdod derbyn pan fydd ysgol yn newid categori.


Notes:

[1] 1998 p.31. Ar gyfer ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1). Rhagnodwyd y "cyfnod rhagnodedig" ("prescribed period") at ddibenion adran 35(2) gan Reoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2633 (Cy.7)) fel y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Awst 2000.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac, o ran adran 144, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)).back

[3] O.S. 1999/2633 (Cy.7).back

[4] 1998 p31.back

[5] 1996 p.56. Diddymwyd adran 201(1)(a) gan Atodlen 31 i'r Ddeddf.back

[6] Diddymwyd Pennod VI o Ran III gan Atodlen 31 i'r Ddeddf.back

[7] O.S. 1999/1469.back

[8] 1998 p.38.back

[9] Nodir y testun perthnasol fel y cafodd ei addasu yn Rhan II o Atodlen 1.back

[10] 1998 p.31. Ar gyfer ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1). Rhagnodwyd y "cyfnod rhagnodedig" ("prescribed period") at ddibenion adran 35(2) gan Reoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2633 (Cy.7)) fel y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Awst 2000.back

[11] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac, o ran adran 144, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)).back

[12] Diwygiwyd Atodlen 10 gan adran 47(a) o Ddeddf Addysg 1993 (rhoi "local authority" yn lle "local education authority"; gan adran 136(2) o'r Ddeddf (rhoi "Education Transfer Council" yn lle "Education Assessts Board"); a chan bargraffau 3 i 9 o'r Ddeddf.back

[13] 1972 p.70.back



English version



ISBN 0 11090318 8


  Prepared 14 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012678w.html