BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012679w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2679 (Cy. 220)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 17 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Awst 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Diwygio'r prif Reoliadau
     3.  - (1) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraff (2) isod.

    (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 95/31/EC" ychwanegir y geiriau ", and by Directive 2000/51/EC insofar as it relates to E965 (ii) syrup maltitol "[
4] ar y diwedd.

Diwygiad canlyniadol
     4.  - (1) I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth a bennir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) 1999[5] yn gymwys i Gymru, bydd effaith paragraff 3(1) o'r rheoliad hwnnw yn peidio mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno.

    (2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at y prif Reoliadau fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio hyd at a chan gynnwys y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn.

    (3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) uchod yn cyfeirio atynt  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123), a hynny drwy ddiweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/31/EC ynghylch meini prawf purdeb penodol er mwyn ymdrin â diwygiad i'r cyfeiriad a wnaed gan Gyfarwyddeb 2000/51/EC i'r graddau yr amnewidiodd y Gyfarwyddeb honno fanylebau newydd ar gyfer syrop maltitol a thrwy ddiweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1995/3123: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1996/1477, 1997/814 a 1999/982.back

[4] Y cyfeiriad ar gyfer Cyfarwyddeb 2000/51/EC yw OJ Rhif L198, 4.8.2000, t.41.back

[5] OS 1999 /982.back

[6] OS 1981/1063: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1983/1211 a 1995/3123.back

[7] OS 1984/1566: yr offerynnau diwygio perthnasol yw OS 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.back

[8] OS 1992/1978, yr offeryn diwygio perthnasol yw OS 1995/3123.back

[9] OS 1995/3187, y ceir diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[10] OS 1996/1499 y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090300 5


  Prepared 6 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012679w.html