BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012682w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 17 Gorffennaf 2001 | ||
Yn dod i rym | 31 Gorffennaf 2001 |
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid ac eithrio -
(3) Bydd Rhan 1 o Atodlen 6 yn effeithiol at ddibenion dehongli Atodlen 6.
(4) Yn y Rheoliadau hyn -
Dyletswyddau perchenogion a cheidwaid anifeiliaid
3.
- (1) Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid gymryd pob cam rhesymol -
(2) Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid (ac eithrio pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1.
(3) Wrth benderfynu a yw'r amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1, rhaid i berchennog a cheidwad yr anifeiliaid roi sylw i'w rhywogaeth, ac i radd eu datblygiad, eu haddasiad a'u dofiad, ac i'w hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol.
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri
4.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 2.
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri)
5.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri) sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 3.
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid lloi sy'n cael eu caethiwo ar gyfer eu magu a'u pesgi
6.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 4.
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid gwartheg
7.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid gwartheg a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 5.
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid moch
8.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid moch sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio -
Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid cwningod
9.
Rhaid i berchenogion a cheidwaid cwningod sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 7.
Codau lles statudol
10.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflogi person neu'n ei gymryd ymlaen i ofalu am anifeiliaid sicrhau bod y person sy'n gofalu am yr anifeiliaid -
(2) Ni chaiff unrhyw berson sy'n cadw anifeiliaid, neu sy'n peri neu'n fwriadol yn caniatáu i anifeiliaid gael eu cadw, ofalu amdanynt oni bydd yn gallu cael gweld yr holl godau lles statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r anifeiliaid tra bydd yn gofalu amdanynt, ac yn gydnabyddus â darpariaethau'r codau hynny.
Pwerau personau awdurdodedig
11.
Os yw person awdurdodedig o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cadw mewn ffordd sy'n debygol o achosi poen, dioddefaint neu anaf diangen, neu mewn unrhyw ffordd arall yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, gall gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw, o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad, gymryd unrhyw gamau sydd ym marn y person awdurdodedig yn rhesymol angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a rhaid i'r person awdurdodedig roi ei resymau dros fynnu'r camau hynny.
Pwerau mynediad
12.
Caiff person awdurdodedig sy'n arfer pwerau mynediad o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968[3] at ddibenion y Rheoliadau hyn fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu hi sy'n gweithredu at ddibenion -
yn ogystal ag unrhyw berson sy'n mynd gydag ef neu hi o dan y pwerau a ddarperir o dan adran 6(3) o'r Ddeddf honno.
Tramgwyddau
13.
- (1) Mae person sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithiol -
yn euog o dramgwydd o dan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968.
(2) Mewn unrhyw achos yn erbyn perchennog neu geidwad anifeiliaid am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(1) neu 3(2) (fel y'u darllenir ynghyd â rheoliad 3(3)), gall y perchennog neu'r ceidwad, yn ôl fel y digwydd, ddibynnu ar y ffaith eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw argymhelliad perthnasol a gynhwysir mewn cod lles statudol fel pe bai'n tueddu i sefydlu eu bod wedi cydymffurfio â'r rheoliad perthnasol.
Diddymiadau
14.
Drwy hyn diddymir Rheoliadau Lles Da Byw 1994[10] a Rheoliadau Lles Da Byw (Diwygio) 1998[11] mewn perthynas â Chymry yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]
D. Elis-Thomas
Llywydd
17 Gorffennaf 2001
3.
Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid cael digon o oleuadau (naill ai'n sefydlog neu'n symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.
4.
Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.
5.
Os yw'n ymddangos bod unrhyw anifail yn sâl neu wedi'i anafu -
6.
- (1) Os oes angen, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych, lle bo hynny'n briodol.
(2) Er gwaethaf is-baragraff (1), yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau penodol a ganlyn -
Cadw cofnodion
7.
Rhaid cadw cofnod -
8.
Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, yn ôl fel y digwydd, a rhaid trefnu ei fod ar gael i berson awdurdodedig tra bydd wrthi'n archwilio neu pan fydd person o'r fath yn gofyn amdano fel arall.
Rhyddid i symud
9.
Rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud, o roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol, mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
10.
Os bydd anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid iddynt gael y lle priodol ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol.
Adeiladau a llety
11.
Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir i adeiladu'r llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad â hwy, beidio â bod yn niweidiol iddynt a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.
12.
Rhaid i'r adeiladau a'r ffitiadau ar gyfer sicrhau anifeiliaid gael eu hadeiladu a'u cynnal a'u cadw fel nad oes ymylon nac allwthiadau llym yn debygol o beri anaf iddynt.
13.
Rhaid i gylchrediad aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder aer cymharol a chrynodiadau nwy gael eu cadw o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifeiliaid.
14.
Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.
15.
Os nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo yna rhaid darparu golau artiffisial priodol.
16.
Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys heb olau artiffisial.
Anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau
17.
Rhaid i anifeiliaid na chedwir mohonynt mewn adeiladau, pan fo angen a phan fo'n bosibl, gael eu hamddiffyn rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd a chael y cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.
Offer awtomatig neu fecanyddol
18.
Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.
19.
Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.
20.
Pan fydd iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial -
21.
Rhaid i'r system wrth-gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg yn y system, ac, os canfyddir unrhyw ddiffyg (adeg archwilio neu brofi'r system yn unol â'r paragraff hwn neu ar unrhyw adeg arall), rhaid ei gywiro ar unwaith.
Bwyd, d r a sylweddau eraill
22.
Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachus sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn swmp digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i fodloni eu hanghenion maethiadol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.
23.
Rhaid peidio â rhoi bwyd neu ddiod i unrhyw anifail mewn modd, a rhaid i'r bwyd neu'r ddiod honno beidio â chynnwys unrhyw sylwedd, a all beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
24.
Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fydd milfeddyg yn gweithredu wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.
25.
Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad o dd r yfed ffres bob dydd neu allu bodloni eu hangen i gael diod drwy ddulliau eraill.
26.
Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.
27.
Rhaid peidio â rhoi unrhyw sylwedd arall, ac eithrio y rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffilactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol i anifeiliaid oni ddangoswyd gan astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu gan brofiad cynefin nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.
Gweithdrefnau bridio
28.
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.
(2) Ni fydd is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint neu'r anaf lleiaf posibl neu am ennyd neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn peri anaf parhaol.
29.
Rhaid peidio â chadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.
Llonyddu â thrydan
30.
Ni chaiff neb roi cerrynt trydan i unrhyw anifeiliaid er mwyn eu llonyddu.
(b) rhaid i isafswm arwynebedd y cawell ar gyfer pob iâr ddodwy allu cael ei ddefnyddio heb gyfyngiad a gall gynnwys y fan lle mae'r plât ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff (a elwir fel arall yn gard wyau) wedi'i roi cyhyd â bod modd defnyddio'r fan honno;
(c) rhaid darparu cafn bwyd nad yw ei hyd yn llai na 10 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell ac y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad;
(ch) ac eithrio pan ddarperir pigynnau dr, rhaid i'r cawell gael sianel yfed barhaol na fydd yn llai na 10cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell, ac y gellir ei defnyddio heb gyfyngiad;
(d) pan geir pwyntiau yfed wedi'i plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn yfed neu ddau gwpan yfed o fewn cyrraedd y cawell;
(dd) rhaid i uchder y cawell, am 65% o'i arwynebedd, beidio â bod yn llai na 40 cm, ac am weddill yr arwynebedd, rhaid iddo beidio â bod yn llai na 35 cm (ceir yr uchder drwy gyfrwng llinell fertigol o'r llawr i'r pwynt agosaf yn y to a cheir yr arwynebedd drwy luosi 450cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell);
(e) rhaid adeiladu llawr y cawell fel y gall gynnal yn ddigonol bob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed; ac
(f) rhaid i ogwyddiad y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd, pan yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryalog, a 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr.
2.
Rhaid i gewyll batri gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal yn y fath fodd ag i atal unrhyw anaf neu ddioddefaint diangen i ieir dodwy i'r graddau sy'n bosibl yn sefyllfa bresennol technoleg.
3.
Rhaid i ddyluniad a maint agoriad y cawell fod yn gyfryw fel y gellir rhoi ieir dodwy i mewn neu eu codi allan heb beri anaf na dioddefaint diangen iddynt.
4.
Rhaid i'r cewyll fod wedi'u cyfarparu a'u cynnal yn addas i rwystro'r ieir dodwy rhag dianc.
5.
Ac eithrio pan fydd triniaeth therapiwtig neu broffilactig yn mynnu fel arall, rhaid i bob iâr ddodwy gael cyfle i fynd at fwyd iachus, maethlon a hylan bob dydd mewn swmp digonol i'w cynnal mewn iechyd da ac i fodloni eu hanghenion maethiadol, ac i dr yfed ffres digonol bob amser.
6.
Rhaid i'r ieir dodwy dderbyn gofal gan bersonél sydd â gwybodaeth a phrofiad digonol o'r system gynhyrchu a ddefnyddir.
7.
Rhaid i'r haid neu'r grwp o ieir dodwy gael eu harchwilio'n drwyadl o leiaf unwaith y dydd a rhaid trefnu bod ffynhonnell o olau (sefydlog neu symudol) ar gael sy'n ddigon cryf i weld pob aderyn yn glir.
8.
Rhaid peidio â defnyddio llety sy'n cynnwys mwy na thair haen o gewyll onid oes dyfeisiau neu fesurau addas yn ei gwneud yn bosibl archwilio pob haen yn drwyadl heb anhawster.
9.
- (1) Pan fydd yn ymddangos nad yw ieir dodwy mewn iechyd da neu eu bod yn dangos newidiadau ymddygiad, rhaid cymryd camau i ddarganfod yr achos a chymryd y camau adfer priodol.
(2) Pan fydd angen cymryd camau adfer o dan is-baragraff (1) uchod, rhaid rhoi ystyriaeth i'r mathau canlynol o gamau -
(3) Os olrheinir achos y mae problemau iechyd neu ymddygiad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod i ffactor amgylcheddol yn yr uned gynhyrchu nad yw'n hanfodol ei adfer ar unwaith, rhaid cymryd camau adfer cyn gynted ag sy'n ymarferol, a beth bynnag pan yw'r llety yn cael ei wagio nesaf a chyn i'r llwyth nesaf o ieir dodwy gael eu rhoi yno.
10.
- (1) Bob tro y mae'r holl gewyll a gedwir gyda'i gilydd yn cael eu gwagio rhaid eu glanhau'n a'u diheintio'n drylwyr cyn rhoi'r llwyth nesaf o ieir dodwy yno.
(2) Pan fydd ieir yn y cewyll, rhaid cadw'r arwynebau a'r holl offer yn foddhaol lân.
(5) Rhaid i bob llo allu sefyll, troi o amgylch, gorwedd, gorffwyso a thacluso'i hun heb rwystr.
(6) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8), rhaid i bob llo a gedwir ar ddaliad y cedwir dau neu fwy o loi arno allu gweld o leiaf un llo arall.
(7) Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys i unrhyw lo sy'n cael ei gadw wedi'i ynysu ar ddaliad ar gyngor milfeddyg.
(8) At ddibenion cyfrifo nifer y lloi a gedwir ar ddaliad er mwyn penderfynu a yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw lo a gedwir wedi'i ynysu ar y daliad hwnnw ar gyngor milfeddygol.
Darpariaethau trosiannol ar gyfer llety
2.
- (1) Hyd at 1 Ionawr 2004, ni fydd is-baragraffau (1), (3) a (4) o baragraff 1 yn gymwys mewn perthynas â llety a oedd yn cael ei ddefnyddio cyn 1 Ionawr 1998.
(2) Hyd at 1 Ionawr 2004, yn achos llety y dechreuwyd ei ddefnyddio ar ôl 1 Ionawr 1994 ond cyn 1 Ionawr 1998 -
Archwilio
3.
Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad gael ei archwilio gan berchennog neu geidwad y lloi o leiaf ddwywaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
4.
Rhaid i loi a gedwir y tu allan gael eu harchwilio gan berchennog neu geidwad y lloi o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
5.
Pan fydd angen, rhaid ynysu lloi sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych.
Tenynnau
6.
- (1) Rhaid peidio â rhoi tenynnau ar loi, ac eithrio lloi a gedwir mewn adeilad gyda'i gilydd y gellir rhoi tennyn arnynt am gyfnod nad yw'n hwy nag awr pan gânt eu bwydo â llaeth neu amnewidyn llaeth.
(2) Pan ddefnyddir tenynnau yn unol â'r is-baragraff blaenorol, rhaid iddynt beidio â pheri poen nac anaf i'r lloi a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(3) Rhaid dylunio pob tennyn i osgoi risg tagu neu boen neu anaf ac i ganiatáu i'r llo orwedd, gorffwys, sefyll a thacluso'i hun heb rwystr.
Adeiladau â golau artiffisial
7.
Pan gedwir lloi mewn adeilad â golau artiffisial yna, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol sydd ar gael fel arfer rhwng 9.00 am a 5.00 pm.
Glanhau a diheintio
8.
- (1) Rhaid i adeiladau, corau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer lloi gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir i atal trawsheintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i dail, biswail a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael eu symud cyn amled ag y mae angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
Lloriau
9.
Pan gedwir lloi mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod -
Gwasarn a man gorwedd
10.
- (1) Rhaid darparu gwasarn priodol ar gyfer pob llo.
(2) Rhaid i bob llo gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd yn lân, yn gysurus ac wedi'i draenio'n dda ac nad yw'n effeithio'n andwyol ar y lloi.
(3) Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad a lloi a gedwir mewn cytiau neu strwythurau dros dro gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n cael ei gynnal yn dda â gwasarn sych.
Cynlaeth buchol
11.
Rhaid i bob llo gael cynlaeth buchol cyn gynted â phosibl ar ôl ei eni a beth bynnag o fewn y chwech awr gyntaf o'i fywyd.
Gofynion deietegol ychwanegol
12.
- (1) Rhaid darparu bwyd sy'n cynnwys digon o haearn i sicrhau lefel hemoglobin gwaed o 4.5mmol/litr o leiaf ar gyfer pob llo.
(2) Rhaid darparu lleiafswm o ddogn dyddiol o fwyd ffibraidd ar gyfer pob llo dros 2 wythnos oed, gan gynyddu'r swmp yn unol â thyfiant y llo o leiafswm o 100g pan yw'n 2 wythnos oed hyd at leiafswm o 250g pan yw'n 20 wythnos oed.
Safnrwymo
13.
Rhaid peidio â safnrwymo lloi.
Bwydo
14.
- (1) Rhaid bwydo pob llo o leiaf ddwywaith y dydd.
(2) Pan gedwir gr p bwydo.
D r yfed
15.
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid darparu swmp digonol o dd r yfed ffres ar gyfer pob llo bob dydd.
(2) Rhaid darparu d r ffres ar gyfer lloi bob amser -
7.
- (1) Rhaid i faintioli unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi'i sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mae hyd y mochyn yn cael ei fesur o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bydd yn sefyll gyda'i gefn yn syth.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn benyw am y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y dydd disgwyliedig iddi ddod â moch bach a'r dydd y bydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.
(3) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn drwy gadw mochyn mewn côr neu gorlan -
ar yr amod nad yw'r cyfnod pan gedwir y mochyn yn hwy nag y mae ei angen i'r diben hwnnw.
(4) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn am gadw mochyn mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i'r côr neu'r gorlan o gôr neu gorlan y mae'r mochyn yn cael ei gadw ynddynt heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.
Adeiladau â golau artiffisial
8.
Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial yna, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol sydd ar gael fel arfer rhwng 9.00 a.m. a 5.00 p.m.
Atal ymladd
9.
- (1) Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad arferol.
(2) Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu hynysu neu eu cadw ar wahân i'r gr p.
Glanhau a diheintio
10.
- (1) Rhaid i adeiladau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir i atal trawsheintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ddom neu tail, biswail a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud cyn amled ag y mae angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
Man gorwedd
11.
- (1) Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n lân, yn gysurus ac nad yw'n effeithio yn andwyol arnynt ac y mae ganddo naill ai wasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.
(2) Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.
Lloriau
12.
Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod -
Bwydo
13.
- (1) Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.
(2) Pan gedwir grp bwydo.
D r yfed
14.
Rhaid darparu cyflenwad digonol o dd r yfed ffres ar gyfer pob mochyn bob dydd.
Cyfoethogi'r amgylchedd
15.
Yn ychwanegol at y mesurau a gymerir fel arfer i rwystro brathu cynffonau a gwendidau eraill ac er mwyn eu galluogi i fodloni eu hanghenion ymddygiad, rhaid i bob mochyn, gan gymryd i ystyriaeth yr amgylchedd a'r dwysedd stocio, gael y cyfle i fynd at wellt neu ddefnydd neu wrthrych arall sy'n addas i fodloni'r anghenion hynny.
Gwahardd defnyddio'r system blwch-chwysu
16.
Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd sy'n golygu cynnal tymheredd uchel a lleithder uchel (a elwir y "system blwch-chwysu").
2.
Pan gedwir unrhyw wningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod y cwningod yn gallu mynd i gysgodi rhag y tywydd (gan gynnwys golau haul uniongyrchol).
[2] OJ Rhif L125, 23.5.96, t.3.back
[4] OJ Rhif L74, 19.3.88, t. 83.back
[5] OJ Rhif L340, 11.12.91, t.28.back
[6] OJ Rhif L.25, 28.1.97, t.24.back
[7] OJ Rhif L76, 24.2.97, t.33.back
[8] OJ Rhif L340, 11.12.91, t.33.back
[9] OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23.back
[10] O.S. 1994/2126, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1709.back