BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012683w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif. 2683 (Cy. 224)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 17 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 19 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion yr is-adran honno gan Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000[3] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, ac amcanion, ansawdd aer, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 19 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diffiniadau
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Dyletswydd i sicrhau bod ansawdd aer amgylchynol yn cael ei gwella
    
3.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau ym mhob parth ledled Cymru nad yw crynodiadau'r llygrynnau perthnasol yn yr aer amgylchynol, o'u hasesu yn unol â rheoliadau 4 i 7, yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yn Atodlen 1 o'r dyddiadau a bennir yn yr Atodlen honno ymlaen.

    (2) Rhaid i'r mesurau a gymerir  - 

Asesu ansawdd aer amgylchynol
    
4. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn unol â rheoliadau 5 i 7.

Dosbarthu parthau
    
5.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw  - 

    (2) Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth  - 

    (3) Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.

    (4) Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai  - 

    (5) Penderfynir ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.

    (6) Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.

    (7) Rhaid i'r dosbarthiad parthau y mae paragraff (1) yn gofyn amdano gynnwys unrhyw barthau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu dosbarthu fel rhai sy'n uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer  - 

Adolygu dosbarthiadau
    
6.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad pob parth o dan reoliad 5 o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn unol â Rhan II o Atodlen 2.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad unrhyw barth o dan reoliad 5 hefyd os ceir newidiadau arwyddocaol mewn gweithgarwch sy'n effeithio ar grynodiadau amgylchynol unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol yn y parth.

Dull asesu ansawdd aer amgylchynol
    
7.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth drwy ddilyn y dull penodedig ar gyfer pob llygryn perthnasol yn unol â'i ddosbarthiad cyfredol.

    (2) Os oes parth wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(a) neu (b) mewn perthynas â llygryn perthnasol  - 

    (3) Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.

    (4) Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(a), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod isafswm nifer y pwyntiau samplu sefydlog y penderfynwyd arnynt yn unol ag Atodlen 4 yn cael ei ddefnyddio i samplu crynodiadau'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw.

    (5) Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod nifer y pwyntiau samplu sefydlog a ddefnyddir i samplu'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw, a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, yn ddigon i ddod o hyd i grynodiadau'r llygryn hwnnw yn unol â Rhan I o Atodlen 3 a Rhan I o Atodlen 5.

    (6) Nodir dulliau cyfeirio ar gyfer  - 

yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.

    (7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gorsafoedd mesur i roi data cynrychioliadol ar grynodiadau PM2.5 wedi'u gosod ac yn cael eu gweithredu, gan ddefnyddio unrhyw ddull ar gyfer samplu a mesur PM2.5 y mae'n credu ei fod yn addas, a bod pwyntiau samplu PM2.5 yn cael eu cyd-leoli â phwyntiau samplu PM10 lle bynnag y bo modd.

    (8) Ar gyfer parthau sydd wedi'u dosbarthu o dan reoliad 5(1)(b) neu (c), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a nodir yn Rhan II o Atodlen 5 yn cael ei chrynhoi.

    (9) Ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, rhaid i'r cyfaint gael ei safoni ar dymheredd o 293°K a phwysedd o 101.3 kPa.

Cynlluniau gweithredu
    
8.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi'r mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os ceir unrhyw risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide, er mwyn lleihau'r risg hwnnw ac i gyfyngu ar barhad digwyddiad o'r fath.

    (2) Y trothwy sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1.2 o Ran I o Atodlen yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide, a'r trothwy a nodir ym mharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide.

Y camau sydd i'w cymryd os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn
    
9.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch  - 

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (8) a (9), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio, ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrynnau o dan sylw o fewn y terfynau amser a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo sicrhau y caiff y cynllun neu'r rhaglen eu gweithredu.

    (4) Rhaid i'r cynllun neu'r rhaglen gynnwys o leiaf yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 7.

    (5) Os yw lefel mwy nag un llygryn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn mewn unrhyw barth, rhaid paratoi cynllun integredig sy'n ymdrin â'r holl lygrynnau o dan sylw.

    (6) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(a) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni o dan y rheoliad hwn ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd allyriannau sydd wedi'u creu gan bobl.

    (7) Rhaid i gynlluniau neu raglenni ar gyfer PM10 a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn anelu hefyd at leihau crynodiadau PM2.5.

    (8) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(b)(i) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd achosion heblaw digwyddiadau naturiol.

    (9) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(b)(ii) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd lefelau PM10 heblaw'r rhai sy'n cael eu hachosi gan drin ffyrdd â thywod yn y gaeaf.

Parthau lle mae'r lefelau yn is na'r gwerth terfyn
    
10.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol yn is na'r gwerthoedd terfyn.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau'r llygrynnau perthnasol yn y parthau hyn yn cael eu cadw yn is na'r gwerthoedd terfyn a rhaid iddo ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gyson â datblygu cynaliadwy.

Gwybodaeth gyhoeddus
    
11.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r drefn.

    (2) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol sulphur dioxide, nitrogen dioxide gael ei diweddaru  - 

    (3) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.

    (4) Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys  - 

    (5) Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.

    (6) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid trefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn gynnwys y map o'r parthau y cyfeirir ato yn rheoliad 2 ac unrhyw ddiwygiad iddo, a chynlluniau gweithredu, cynlluniau a rhaglenni a baratoir o dan reoliadau 8 a 9.

    (7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyhoedd yn cynnwys cyrff gofal iechyd a chyrff sydd â diddordeb yn ansawdd yr aer amgylchynol a chyrff sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.

    (8) Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan y rheoliad hwn fod yn glir, cynhwysfawr a hawdd ei chael.

Diddymu Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 a darpariaethau trosiannol
    
12.  - (1) Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989[4], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy hyn yn cael eu diddymu fel a ganlyn.

    (2) Diddymir rheoliad 2(1) (gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant) a rheoliad 4(1)(gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer) o 1 Ionawr 2005 ymlaen.

    (3) Diddymir rheoliadau 3 (mesur sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant), 5 (mesur plwm yn yr aer) a 7 (mesur nitrogen dioxide yn yr atmosffer).

    (4) Diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen dioxide yn yr atmosffer) o 1 Ionawr 2010 ymlaen.

    (5) O 19 Gorffennaf 2001 tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos y cydymffurfiwyd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer gronynnau mewn daliant[5], rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad.

Dyddiad



ATODLEN 1
Rheoliadau 2, 8(2), 9(1), 11(5)


GWERTHOEDD TERFYN, GODDEFIANNAU, ETC.




RHAN I

SULPHUR DIOXIDE

     1.1 Gwerthoedd terfyn sulphur dioxide


     Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant[6] Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
     1. Terfyn gwerth fesul - awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

1 awr 350 µg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 24 gwaith y flwyddyn galendr 150 µg/m3 (43%) ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2005 1 Ionawr 2005
     2. Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl

24 awr 125 µg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith y flwyddyn galendr Dim un 1 Ionawr 2005
     3. Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau

Y flwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) 20 µg/m3 Dim un 19 Gorffennaf 2001

     1.2 Trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide
500 µg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.

     1.3 Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide
Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf :



RHAN II

NITROGEN DIOXIDE (NO2) AC OCSIDAU NITROGEN (NOx)

     2.1 Gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen
     Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
     1. Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

1 awr 200µg/m3 o NO2 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr 50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 phob 12 mis wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2010 1 Ionawr 2010
     2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu pobl

Y flwyddyn galendr 40µg/m3 o NO2 50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2010 1 Ionawr 2010
     3. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant

Y flwyddyn galendr 30 µg/m3 o NOx Dim un 19 Gorffennaf 2001

     2.2 Trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide
400 µg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.

     2.3 Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide
Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf:



RHAN III

MATER GRONYNNOL (PM10)

     Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
     1. Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl

24 awr Rhaid peidio â mynd yn uwch na 50µg/m3 o PM10 fwy na 35 gwaith y flwyddyn galendr 50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005. 1 Ionawr 2005
     2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl

Blwyddyn galendr 40 µg/m3 o PM10 20% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng bob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005. 1 Ionawr 2005



RHAN IV

PLWM

     Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 0.5 µg/m3 100% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005. Ionawr 2005



ATODLEN 2
Rheoliad 5(5)


TROTHWYON ASESU UCHAF AC ISAF A GORMODEDDAU




RHAN I

Trothwyon asesu uchaf ac isaf

Bydd y trothwyon asesu uchaf ac isaf canlynol yn gymwys:



RHAN II

Darganfod enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf

Rhaid crynhoi enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar sail crynodiadau yn ystod y pum mlynedd blaenorol os oes data digonol ar gael. Bernir yr aed yn uwch na'r trothwy asesu os yw cyfanswm yr enghreifftiau o fynd yn uwch na'r crynodiad rhifyddol yn ystod y pum mlynedd hynny yn fwy na thair gwaith nifer yr enghreifftiau a ganiateir bob blwyddyn.

Os oes llai na phum mlynedd o ddata ar gael, gall ymgyrchoedd mesur byr eu parhad yn ystod y cyfnod hwnnw yn y flwyddyn ac yn y mannau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf gael eu cyfuno â chanlyniadau a geir o'r wybodaeth o restrau allyriannau a gwaith modelu er mwyn darganfod enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.



ATODLEN 3
Rheoliad 7(3)


LLEOLI PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESUR SULPHUR DIOXIDE, NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN, MATER GRONYNNOL A PHLWM YN YR AER AMGYLCHYNOL


Caiff yr ystyriaethau canlynol eu cymhwyso at fesuriadau sefydlog.



RHAN I

Lleoli ar y raddfa macro



RHAN II

Lleoli ar raddfa micro

Dylid bodloni'r canllawiau canlynol cyn belled ag y bo'n ymarferol:

Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:



RHAN III

Dogfennu ac adolygu'r gwaith o ddewis safleoedd

Dylai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu'r safleoedd yn rheolaidd, gan ailadrodd y gwaith dogfennu, i sicrhau bod y meini prawf dewis yn aros yn ddilys dros amser.



ATODLEN 4
Rheoliad 7(4)


MEINI PRAWF AR GYFER DARGANFOD ISAFSYMIAU'R PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESURIADAU SEFYDLOG CRYNODIADAU'R LLYGRYNNAU PERTHNASOL YN YR AER AMGYLCHYNOL




RHAN I

Isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl a throthwyon rhybuddio mewn parthau a chrynoadau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell wybodaeth



RHAN II

Isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau heblaw crynoadau

Os yw'r crynodiadau uchaf yn uwch na'r trothwy asesu uchaf Os yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf
1 orsaf i bob 20 000 km2 1 orsaf i bob 40 000 km2

Mewn parthau ar ynysoedd, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth batrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl yr ecosystemau neu'r llystyfiant.



ATODLEN 5
Rheoliad 7(5), (8)


AMCANION ANSAWDD DATA A LLUNIO CANLYNIADAU ASESIADAU ANSAWDD AER




RHAN I

Amcanion ansawdd-data

Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer y cywirdeb y mae ei angen ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.

     Sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen Mater gronynnol a phlwm
Mesur di-dor          
Cywirdeb 15 % 25 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90 % 90 %
Mesur dangosol          
Cywirdeb 25 % 50 %
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90 % 90 %
Isafswm amser 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) 14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.)
Modelu          
Cywirdeb: Cyfartaleddau fesul-awr Cyfartaleddau dyddiol Cyfartaleddau blynyddol 50 %-60 % 50 % 30 % 50 %
Amcangyfrif gwrthrychol          
Cywirdeb: 75 % 100 %

Diffinnir cywirdeb y gwaith mesur fel y mae wedi'i nodi yn y "Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements" (ISO 1993)[
8] neu ISO 5725-1 "Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results" (ISO 1994)[9]. Mae'r canrannau yn y tabl yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 98% (bias + dwy waith y gwyriad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau di-dor gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol.

Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth.

Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn.

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer mater gronynnol a phlwm drwy ddulliau y dangoswyd bod eu cywirdeb o fewn y cyfwng hyder 95% mewn perthynas â monitro di-dor wedi bod o fewn 10%.



RHAN II

Canlyniadau asesiadau ansawdd aer

Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i gydategu'r wybodaeth o fesuriadau neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd yr aer:

Os oes modd rhaid llunio mapiau sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad.



ATODLEN 6
Rheoliad 7(6)


DULLIAU CYFEIRIO AR GYFER ASESU CRYNODIADAU SULPHUR DIOXIDE, NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN, MATER gronynnol (PM10 A PM2.5) A PHLWM




RHAN I

Dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi sulphur dioxide;

ISO/FDIS 10498 (Safon ar ffurf drafft) Ambient air - determination of sulphur dioxide - ultraviolet fluorescence method[
10].



RHAN II

Dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen:

ISO 7996: 1985 Ambient air - determination of the mass concentrations of nitrogen oxides - chemiluminescence method[11].



RHAN IIIA

Dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm:

Y dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm fydd y dull a ddisgrifir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/884/EEC[12] nes yr amser pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, pryd y bydd y dull cyfeirio yr un fath ag ar gyfer PM10 sydd wedi'i nodi yn Rhan IV o'r Atodlen hon.



RHAN IIIB

Dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi plwm:

ISO 9855: 1993 Ambient air - Determination of the particulate lead content of aerosols collected in filters. Atomic absorption spectroscopy method[13].



RHAN IV

Dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10

Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 fydd y dull a ddisgrifir yn EN 12341 "Air Quality - Field Test Procedure to Demonstrate Reference Equivalence of Samplung Methods for the PM10 fraction of particulate matter"[14]. Mae'r egwyddor fesur wedi'i seilio ar gasglu'r gyfran PM10 o fater gronynnol amgylchynol ar hidlwr a darganfod y màs grafimetrig.



ATODLEN 7
Rheoliad 9(1), (3), (4)


GWYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y CYNLLUN NEU'R RHAGLEN AR GYFER GWELLA ANSAWDD AER


     1. Lleoli llygredd gormodol


     2. Gwybodaeth gyffredinol


     3. Yr awdurdodau cyfrifol
Enwau a chyfeiriadau'r personau sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwella a'u rhoi ar waith.

     4. Natur y llygredd a'i asesu


     5. Tarddiad y llygredd


     6. Dadansoddiad o'r sefyllfa


     7. Manylion y mesurau neu'r projectau ar gyfer gwelliannau a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996, h.y.


     8. Manylion y mesurau neu'r projectau hynny a fabwysiadwyd gyda golwg ar leihau llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996


     9. Manylion y mesurau neu'r projectau sydd wedi'u cynllunio neu sy'n cael eu hymchwilio at y tymor hir.

     10. Rhestr o'r cyhoeddiadau, y dogfennau, y gwaith, etc. a ddefnyddiwyd i gydategu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn yr Atodlen hon.




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ynghylch asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, a Chyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm, sef "y llygrynnau perthnasol" mewn aer amgylchynol.

Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd crynodiadau'r llygrynnau perthnasol ym mhob parth yng Nghymru yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Nodir gwerthoedd terfyn pob llygryn, ac erbyn pa bryd y mae'n rhaid eu cyrraedd, yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr aer amgylchynol yn cael ei asesu ar gyfer pob parth.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol. Mae rheoliad 5, ynghyd ag Atodlen 2, yn darparu ar gyfer darganfod y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer pob llygryn perthnasol, ac mae rheoliad 5 yn nodi'r gofynion ar gyfer mesur ansawdd aer, neu ei asesu fel arall, yn dibynnu ar lefelau'r llygredd mewn perthynas â'r trothwyon hyn.

Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu dosbarthiad y parthau bob pum mlynedd neu os ceir newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio ar lefelau unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod dulliau penodedig yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer ar gyfer pob llygryn ym mhob parth. Mae Atodlen 3 yn nodi sut y mae'n rhaid pennu'r pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol. Mae Atodlen 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu'r cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn mewn parthau lle nad oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall, ac â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau penodol eraill. Yn Atodlen 5 gwneir darpariaeth ar gyfer amcanion ansawdd data ar gyfer cywirdeb angenrheidiol y dulliau asesu, ac ar gyfer llunio canlyniadau'r asesiadau ansawdd aer. Mae Atodlen 6 yn rhagnodi'r dulliau cyfeirio ar gyfer y dadansoddi'r llygrynnau perthnasol, eu samplu neu eu mesur. Mae rheoliad 7(7) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gorsafoedd mesur yn cyflenwi data ar grynodiadau mater gronynnol PM2.5.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os oes risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide. Nodir trothwyon rhybuddio sulphur dioxide a nitrogen dioxide ym mharagraff 1.2 o Ran I a pharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1, yn y drefn honno.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestrau o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch na'r gwerth terfyn, neu rhwng y gwerth terfyn ac unrhyw oddefiant a ddangosir yn Atodlen 1. Ar gyfer parthau o'r fath, mae rheoliad 9 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun neu raglen, y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 (gan gynnwys lleoliad a tharddiad y llygredd, yr awdurdodau cyfrifol a'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r llygredd).

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol restru parthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol o dan y gwerthoedd terfyn, a hynny er mwyn sicrhau bod lefelau'r llygrynnau hyn yn cael eu cadw o dan y gwerthoedd terfyn, ac er mwyn ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y trefnir bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, a hynny fel rhan o'r drefn. Mae'n rhagnodi amlder a chynnwys yr wybodaeth hon. Os eir yn uwch na'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide, rhaid darparu gwybodaeth bellach, a nodir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1. (Mae hyn yn cynnwys manylion lle ac amser y digwyddiad, rhagolygon, a'r rhagofalon sydd i'w cymryd gan boblogaethau sensitif).

Mae rheoliad 12 yn diddymu, ar gyfer Cymru, ac ar wahanol ddyddiadau, rannau o Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 sy'n rhoi effaith i werthoedd terfyn y llygrynnau perthnasol mewn cyfarwyddebau cynharach. Yn eu tro, yr oedd Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 80/779/EEC ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a chanllawiau ar gyfer sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant; Cyfarwyddeb y Cyngor 82/884/EEC ynghylch gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer; a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/203/EEC ynghylch safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen dioxide. Mae'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u diddymu, gyda darpariaethau trosiannol hyd at 2005 a 2010, gan Gyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.

Mae nifer o ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn rhoi pwerau i gyrff cyhoeddus sy'n berthnasol ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm yn yr aer amgylchynol. Dyma'r mwyaf nodedig ohonynt  - 

     1. Darpariaethau sy'n rhoi pwer i'r awdurdodau lleol  - 

     2. Rheoli allyriannau diwydiannol  - 

     3. Rheoli allyriannau trafnidiaeth  - 

Mae cyfres o reoliadau ar allyriannau cerbydau sy'n trawsosod Cyfarwyddebau'r EC yn gosod terfynau ar allyriannau cerbydau gan gynnwys: O.S. 1992 Rhif 2137 (sy'n ymdrin â 91/441/EEC a 91/542/EEC); O.S. 1993 Rhif 2199 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 93/59/EEC); O.S. 1995 Rhif 2210 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 94/12/EC); O.S. 1997 Rhif 1544 (sy'n ymdrin â 96/69/EC) ac O.S. 2000 Rhif 3197 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 98/69/EC). Pennwyd safonau amgylcheddol ar gyfer tanwydd ym 1994 (O.S 1994 Rhif 2295) a 1999 (O.S 1999 3107).

Nodir disgrifiad llawn o'r holl fesurau y ceisir cyrraedd y gwerthoedd terfyn drwyddynt yn "Air Quality Strategy for England, Scotland, Wales and Northern Ireland" a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau, Gweithrediaeth yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, Ionawr 2000 (Cm. 4548).


Notes:

[1] 1998 p.38back

[2] 1972 p.68back

[3] O.S. 2000/2812back

[4] O.S. 1989/317back

[5] OJ L229, 30.8.1980, t.30back

[6] Mae'r ffigurau ar gyfer Goddefiannau ar gyfer pob un o'r llygrynnau perthnasol a roddir yn yr Atodlen hon wedi'u cyfrifo o'r rhai a roddir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 99/30/EC. Rhoes honno ffigur uwchlaw gwerth terfyn pob llygryn perthnasol, gan ostwng yn ôl canrannau blynyddol cyfartal o'r dyddiad y daeth y Gyfarwyddeb honno i rym ym 1999.back

[7] Mae'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer PM10 wedi'u seilio ar y gwerthoedd terfyn dangosol canlynol ar gyfer 1 Ionawr 2010, a gaiff eu hadolygu yng ngoleuni gwybodaeth bellach am yr effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd, ymarferoldeb technegol a phrofiad wrth gymhwyso gwerthoedd terfyn presennol "Cyfnod 1":
     Cyfnod Cyfartaleddu Gwerth terfyn Goddefiant Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
     1. Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 24 awr 50 µg/m3 o PM10 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 7 gwaith y flwyddyn galendr I'w gyfrifo o'r dyddiad ac i fod yn gyfartal â gwerth terfyn Cyfnod 1 1 Ionawr 2010
2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl

Blwyddyn galendr 20 µg/m3 o PM10 50% ar 1 Ionawr 2005 gan ostwng bob12 mis wedyn yn ôl canrannau cyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2010. 1 Ionawr 2010

[8] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back

[9] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back

[10] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back

[11] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back

[12] OJ 1378, 31.12.1982, t.15.back

[13] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back

[14] Cyhoeddiad y "CEN", Sefydliad Safonau Ewrop, cyfeirnod BSEN 12341, sydd ar gael oddi wrth Sefydliad Safonau Prydain "BSI" fel ar gyfer troednodyn (a) uchod.back



English version



ISBN 0 11090348 X


  Prepared 17 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012683w.html