BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 2780 (Cy.233)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
19 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Trefn y rheoliadau
Atodlenni
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol -
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Awst 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "anifail a ffermir" ("farmed animal") yw anifail sy'n cael ei gadw, ei besgi neu ei fridio i gynhyrchu bwyd;
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw -
(a) unrhyw berson a benodir i fod yn arolygydd at Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981; a
(b) person a benodir felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan awdurdod lleol mewn perthynas â'i gyfrifoldebau gorfodi o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr "arolygydd milfeddygol" ("veterinary inspector") yw person a benodir yn arolygydd milfeddygol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority"), mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae i "golchion" yr un ystyr ag sydd i "swill" yn y Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999;
ystyr "Gorchymyn BSE Rhif 2" ("the BSE (No. 2) Order") yw Gorchymyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (rhif 2) 1996[3];
mae i "gwastraff anifeiliaid" yr un ystyr ag "animal waste" yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 90/667/EEC sy'n nodi'r rheolau milfeddygol ar gyfer gwaredu a phrosesu gwastraff anifeiliaid, ar gyfer ei osod ar y farchnad ac ar gyfer atal pathogenau mewn porthiant sy'n deillio o anifeiliaid neu bysgod ac yn diwygio Cyfarwyddeb 90/425/EEC;
mae i "gwastraff arlwyo" yr un ystyr â "catering waste" yng Ngorchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999;
ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2001/9/EC[4] ynghylch y mesurau rheoli sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi Penderfyniad y Cyngor 2000/766/EC ar waith ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy a bwydo protein anifeiliaid;
ystyr "Penderfyniad y Cyngor" ("the Council Decision") yw Penderfyniad y Cyngor 2000/755/EC[5] ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy a bwydo protein anifeiliaid;
ystyr "protein anifeiliaid wedi'i brosesu" ("processed animal protein") yw blawd cig ac esgyrn, blawd cig, blawd esgyrn, blawd gwaed, plasma wedi'i sychu a chynhyrchion gwaed eraill; protein wedi'i hydroleiddio, blawd carnau, blawd cyrn, blawd offal dofednod, blawd plu, criwsion sych, bwyd pysgod, dicalcium phosphate, gelatin ac unrhyw gynhyrchion tebyg eraill gan gynnwys cymysgeddau, porthiant, ychwanegion bwyd a rhag-gymysgeddau sy'n cynnwys y cynhyrchion hyn;
mae "safle" ("premises") yn cynnwys unrhyw le, stondin neu strwythur symudol;
mae i "sgil-gynnyrch anifeiliaid" yr un ystyr ag "animal by-product" yng Ngorchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999[6]; ac
ystyr "wedi'i gymeradwyo o dan y GSGA" ("ABPO approved"), mewn perthynas â safle, yw wedi'i gymeradwyo o dan erthygl 7 o Orchymyn Sgil-gynhyrchio Anifeiliaid 1999, yn unol ag erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/667/EEC[7] sy'n nodi'r rheolau milfeddygol ar gyfer gwaredu a phrosesu gwastraff anifeiliaid, ar gyfer ei osod ar y farchnad ac ar gyfer atal pathogenau mewn porthiant sy'n deillio o anifeiliaid neu bysgod ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb 90/425/EC, at ddibenion rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid risg-isel; a dehonglir "cymeradwyaeth o dan yr ABPO" yn unol â hynny.
(2) Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) uchod ac a welir ym Mhenderfyniad y Cyngor neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y Penderfyniadau hynny.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn a'u cymhwyso, trinnir deunydd fel porthiant p'un a yw'n cael ei ddefnyddio neu a yw wedi'i fwriadu i gael ei ddefnyddio yn borthiant ar ei ben ei hun neu fel cynhwysyn mewn rhywbeth a ddefnyddir felly neu y bwriedir ei ddefnyddio felly.
Cymhwyso
3.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phrotein anifeiliaid wedi'i brosesu a fwriedir ar gyfer bwydo anifeiliaid (heb gynnwys pobl).
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol -
(a) gwastraff arlwyo;
(b) wyau a chynhyrchion wyau; neu
(c) golchion.
Bwydo protein anifeiliaid wedi'i brosesu i anifeiliaid a ffermir
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni chaiff neb fwydo unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu i anifail a ffermir.
(2) Ni fydd y gwaharddiad ym mharagraff (1) uchod yn gymwys i'r canlynol -
(a) bwydo blawd pysgod i anifeiliaid a ffermir, heblaw cilgnowyr, -
(i) os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu yng Nghymru ar safle sydd wedi'i gymeradwyo ac yn cael ei ddefnyddio fel y'i crybwyllir yn rheoliad 5 isod;
(ii) os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys y rhan honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno;
(iii) os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu
(iv) os yw'r blawd pysgod hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn trydedd wlad a'i fod, cyn ei werthu neu ei gyflenwi yng Nghymru, wedi'i ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb y Comisiwn 98/88/EC[8] ac yn cael ei gludo yn uniongyrchol o'r man archwilio ar y ffin yn unol â'r amodau a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1 heb gael ei storio yn y cyfamser heblaw yn unol ag amodau paragraff 5 o Atodlen 1;
(b) bwydo gelatin sy'n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi'r cil ar gyfer caenu ychwanegion o fewn ystyr Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC[9] ynghylch ychwanegion mewn porthiant i anifeiliaid a ffermir;
(c) bwydo dicalcium phosphate i anifeiliaid a ffermir -
(i) os yw'r dicalcium phosphate hwnnw wedi'i gynhyrchu yng Nghymru ar safle sydd wedi'i gymeradwyo ac yn cael ei ddefnyddio fel y'i crybwyllir yn rheoliad 6 isod;
(ii) os yw'r dicalcium phosphate hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys y rhan honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu
(iii) os yw'r dicalcium phosphate hwnnw wedi'i gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno;
(ch) bwydo proteinau wedi'u hydroleiddio i anifeiliaid a ffermir -
(i) os yw'r proteinau wedi'u hydroleiddio wedi'u cynhyrchu yng Nghymru ar safle sydd wedi'i gymeradwyo ac yn cael ei ddefnyddio fel y'i crybwyllir yn rheoliad 7 isod;
(ii) os yw'r proteinau wedi'u hydroleiddio wedi'u cynhyrchu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys y rhan honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu
(iii) os yw'r proteinau wedi'u hydroleiddio wedi'u cynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall ar safle sydd wedi'i gymeradwyo gan awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth honno yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth honno; neu
(d) bwydo llaeth a chynhrychion llaeth i anifeiliaid a ffermir.
Cynhyrchu blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr
5.
- (1) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw safle ar gyfer cynhyrchu blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr oni bai -
(a) bod y safle wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn; a
(b) bod y blawd pysgod yn cael ei gludo o'r safle a'i storio yn y cyfamser yn unol â'r amodau a bennir ym mharagraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 1.
(2) Pan wneir cais iddo o dan y rheoliad hwn am gymeradwyo safle ar gyfer cynhyrchu blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r safle at y diben hwn, os yw wedi'i fodloni, ar ôl i'r safle gael ei archwilio gan arolygydd milfeddygol, -
(a) y caiff y safle ei neilltuo ar gyfer cynhyrchu blawd pysgod yn unig;
(b) bod safle wedi'i gymeradwyo o dan y GSGA; ac
(c) y bydd y person a fydd yn defnyddio'r safle ar gyfer cynhyrchu blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr yn gallu cynnal a defnyddio'r safle yn unol â'r gymeradwyaeth o dan y GSGA a sicrhau bod blawd pysgod yn cael ei gludo o'r safle a'i storio yn y cyfamser yn unol â'r amodau a bennir ym mharagraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 1.
(3) Rhaid i'r person sy'n rhedeg unrhyw fusnes ar safle a gymeradwyir o dan y rheoliad hwn sicrhau -
(a) bod y blawd pysgod ar y safle yn cael ei gynhyrchu yn unol â'r gymeradwyaeth a hynny gan gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn y rhoddir y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt;
(b) bod unrhyw berson a gyflogir ganddo, ac unrhyw berson a wahoddir i'r safle, yn cydymffurfio â'r darpariaethau hyn; ac
(c) bod unrhyw arolygydd, ac unrhyw berson sy'n gweithredu o dan gyfrifoldeb arolygydd, yn cael cyfleusterau digonol i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas a'r safle a'u bod yn cael unrhyw gymorth rhesymol a chyfle i weld unrhyw gofnodion (gan gynnwys unrhyw gofnodion sy'n cael eu cadw ar ffurf electronig) ag y bydd ar unrhyw adeg resymol yn gofyn amdanynt at y diben hwnnw.
Cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir
6.
- (1) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw safle ar gyfer cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir oni bai -
(a) bod y safle wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn; a
(b) bod y safle'n cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn unol â'r amodau a bennir yn Atodlen 2.
(2) Pan wneir cais iddo o dan y rheoliad hwn am gymeradwyo safle ar gyfer cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r safle at y diben hwn, os yw wedi'i fodloni, ar ôl i'r safle gael ei archwilio gan arolygydd milfeddygol, -
(a) bod y safle wedi'i gymeradwyo o dan y GSGA; a
(b) y bydd y person a fydd yn defnyddio'r safle ar gyfer cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir yn gallu cynnal a defnyddio'r safle yn unol â'r gymeradwyaeth o dan y GSGA a'r amodau a bennir yn Atodlen 2.
(3) Rhaid i'r person sy'n rhedeg unrhyw fusnes ar safle a gymeradwyir o dan y rheoliad hwn sicrhau -
(a) bod y dicalcium phosphate ar y safle yn cael ei gynhyrchu yn unol â'r gymeradwyaeth a hynny gan gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn y rhoddir y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt;
(b) bod unrhyw berson a gyflogir ganddo, ac unrhyw berson a wahoddir i'r safle, yn cydymffurfio â'r darpariaethau hyn; ac
(c) bod unrhyw arolygydd, ac unrhyw berson sy'n gweithredu o dan gyfrifoldeb arolygydd, yn cael cyfleusterau digonol i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r safle a'u bod yn cael unrhyw gymorth rhesymol a chyfle i weld unrhyw gofnodion (gan gynnwys unrhyw gofnodion sy'n cael eu cadw ar ffurf electronig) ag y byddant ar unrhyw adeg resymol yn gofyn amdanynt at y diben hwnnw.
Cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir
7.
- (1) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw safle ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir oni bai -
(a) bod y safle wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn; a
(b) bod y safle'n cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn unol â'r amodau a bennir yn Atodlen 3.
(2) Pan wneir cais iddo o dan y rheoliad hwn am gymeradwyo safle ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r safle at y diben hwn, os yw wedi'i fodloni, ar ôl i'r safle gael ei archwilio gan arolygydd milfeddygol -
(a) y caiff y safle ei neilltuo ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir yn unig;
(b) bod y safle wedi'i gymeradwyo o dan y GSGA ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio sy'n deillio o bysgod, plu a chrwyn; ac
(c) y bydd y person a fydd yn defnyddio'r safle ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir yn gallu cynnal a defnyddio'r safle yn unol â'r gymeradwyaeth o dan y GSGA a'r amodau a bennir yn Atodlen 4.
(3) Rhaid i'r person sy'n rhedeg unrhyw fusnes ar safle a gymeradwyir o dan y rheoliad hwn sicrhau -
(a) bod y protein wedi'i hydroleiddio ar y safle yn cael ei gynhyrchu yn unol â'r gymeradwyaeth a hynny gan gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn y rhoddir y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt;
(b) bod unrhyw berson a gyflogir ganddo, ac unrhyw berson a wahoddir i'r safle, yn cydymffurfio â'r darpariaethau hyn; ac
(c) bod unrhyw arolygydd, ac unrhyw berson sy'n gweithredu o dan gyfrifoldeb arolygydd, yn cael cyfleusterau digonol i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r safle a'u bod yn cael unrhyw gymorth rhesymol a chyfle i weld unrhyw gofnodion (gan gynnwys unrhyw gofnodion sy'n cael eu cadw ar ffurf electronig) ag y byddant ar unrhyw adeg resymol yn gofyn amdanynt at y diben hwnnw.
Cymeradwyo safleoedd, atal cymeradwyaeth a'i thynnu'n ôl
8.
- (1) Rhaid i gais am gymeradwyo safle o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod -
(a) ar gyfer cynhyrchu blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr;
(b) ar gyfer cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliad a ffermir; neu
(c) ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir,
gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol gan neu ar ran y person sy'n rhedeg neu sy'n bwriadu rhedeg y busnes ar y safle y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig am ei benderfyniad ar gais a wneir iddo yn unol â'r rheoliad hwn; ac, os yw'n gwrthod cymeradwyo'r safle y gwneir cais mewn perthynas ag ef, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig am ei resymau dros wrthod.
(3) Rhaid i gymeradwyaeth i safle o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod bennu -
(a) enw a chyfeiriad y person y rhoddir y gymeradwyaeth iddo a chyfeiriad y safle a gymeradwyir;
(b) y defnyddir y safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddir y gymeradwyaeth ar ei gyfer; ac
(c) yr amodau y rhoddir y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(4) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas ag unrhyw safle a gymeradwyir o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod -
(a) nad yw'r safle wedi'i gymeradwyo o dan y GSGA;
(b) bod y safle'n cael ei ddefnyddio heblaw yn unol â'r gymeradwyaeth o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod;
(c) na chydymffurfiwyd ag unrhyw amod a bennir mewn Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â chymeradwyo'r safle o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod;
(ch) bod gwaith arolygu'r safle at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei rwystro; neu
(d) nad oes gwaith i gynhyrchu blawd pysgod, dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio ar y safle y rhoddwyd y gymeradwyaeth mewn perthynas ag ef yn cael ei wneud yno mwyach,
caiff benderfynu atal y gymeradwyaeth i'r safle sy'n ymwneud â'r defnydd hwnnw neu ei thynnu'n ôl.
(5) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu atal cymeradwyaeth sy'n ymwneud ag unrhyw safle neu ei thynnu'n ôl, rhaid iddo roi hysbysiad o'r atal neu'r tynnu'n ôl i'r person sy'n rhedeg y busnes ar y safle (neu, yn achos atal neu dynnu'n ôl o dan baragraff (4)(d) uchod, i'r person a oedd gynt yn rhedeg y busnes ar y safle), ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn meddiannu'r safle ar hyn o bryd.
(6) Rhaid i hysbysiad am atal cymeradwyaeth neu ei thynnu'n ôl gynnwys yr wybodaeth ganlynol -
(a) crynodeb o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i atal y gymeradwyaeth i'r safle neu ei thynnu'n ôl a'r defnydd ar y safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y mae'r gymeradwyaeth wedi'i hatal neu wedi'i thynnu'n ôl ar ei gyfer;
(b) y rheswm dros yr atal neu'r tynnu'n ôl; ac
(c) y dyddiad y daw'r atal neu'r tynnu'n ôl i rym (a all fod yr un dyddiad â'r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad).
(7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thynnu cymeradwyaeth yn ôl oni bai -
(a) ei bod yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(i) nad yw'r person sy'n defnyddio'r safle neu a oedd yn defnyddio'r safle ddiwethaf ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer yn dymuno parhau i ddefnyddio'r safle felly mwyach;
(ii) nad yw'r disgrifiad o gynhyrchu y mae'r safle wedi'i gynhyrchu ar ei gyfer yn cael ei wneud yno mwyach;
(iii) o atal y gymeradwyaeth, na fydd y person a oedd gynt yn defnyddio'r safle, nac unrhyw berson arall a fyddai ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer yn defnyddio'r safle yn unol â'r gymeradwyaeth neu ag un neu ragor o'r amodau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r gymeradwyaeth;
(iv) os nad yw'r gymeradwyaeth wedi'i hatal eisoes, na fyddai ei hatal yn galluogi'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer i gymryd camau adfer o fewn cyfnod rhesymol ar ôl yr atal i alluogi'r safle i gael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth neu ag un neu ragor o'r amodau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r gymeradwyaeth; a
(b) ei fod wedi rhoi hysbysiad i'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer neu, os nad yw'r safle'n cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, i'r person diwethaf y mae'n hysbys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn defnyddio'r safle at y diben hwnnw, ei fod yn bwriadu tynnu'r gymeradwyaeth yn ôl a'i fod wedi rhoi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y person hwnnw mewn perthynas â'r bwriad hwnnw.
(8) Os -
(a) oes ataliad ar gymeradwyaeth i safle o dan y rheoliad hwn wedi dod i rym; neu
(b) bod cymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl;
rhaid trin y safle fel pe na bai wedi'i gymeradwyo ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer ac y mae'r gymeradwyaeth wedi'i hatal neu wedi'i thynnu'n ôl mewn perthynas ag ef.
(9) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol godi ataliad ar gymeradwyaeth os yw wedi'i fodloni -
(a) nad yw'r rheswm dros yr atal yn gymwys mwyach; a
(b) y bydd y person a fyddai'n defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer yn defnyddio'r safle yn unol â'r gymeradwyaeth a'r amodau a bennir yn yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r gymeradwyaeth.
Gwerthu neu gyflenwi protein anifeiliaid wedi'i brosesu a fwriedir i fwydo anifeiliaid a ffermir
9.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni chaiff neb werthu na chyflenwi unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu a fwriedir i fwydo unrhyw anifail a ffermir.
(2) Ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) uchod yn gymwys i werthu neu gyflenwi -
(a) y blawd pysgod y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(a) uchod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr;
(b) gelatin sy'n deillio o anifeiliaid heblaw cilgnowyr ar gyfer caenu ychwanegion o fewn ystyr Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn porthiant;
(c) y dicalcium phosphate y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(c) uchod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir;
(ch) y protein wedi'i hydroleiddio y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2) (ch) uchod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir; neu
(d) llaeth a chynhyrchion llaeth.
Masnachu ag Aelod-wladwriaethau eraill
10.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, ni chaiff neb anfon unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu i Aelod-wladwriaeth arall.
(2) Os yw'r amodau a bennir ym mharagraff (3) isod wedi'i bodloni, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) uchod yn gymwys -
(a) i'r bwyd anifeiliaid anwes y cyfeirir ato ym mhennod 4 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 92/118/EEC;
(b) i brotein anifeiliaid wedi'i brosesu nad yw wedi'i fwriadu i fwydo unrhyw anifail a ffermir;
(c) i'r blawd pysgod y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(a) uchod a gludwyd a'i storio yn y cyfamser yn unol ag Atodlen 1, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr;
(ch) i gelatin sy'n deillio o anifeiliaid heblaw cilgnowyr ar gyfer caenu ychwanegion o fewn ystyr Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn porthiant;
(d) i'r dicalcium phosphate y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(c) uchod, a gynhyrchir yn unol ag Atodlen 2, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir;
(dd) i'r protein wedi'i hydroleiddio y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(ch) uchod, a gynhyrchwyd yn unol ag Atodlen 2, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir; neu
(e) i laeth a chynhyrchion llaeth.
(3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod -
(a) bod yr Aelod-wladwriaeth a gyrchir
(i) wedi awdurdodi derbyn protein anifeiliaid wedi'i brosesu o'r Deyrnas Unedig at ddibenion erthygl 3(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn; a
(ii) wedi awdurdodi anfon protein anifeiliaid wedi'i brosesu o'r Deyrnas Unedig dim ond i safleoedd yn yr Aelod-wladwriaeth heblaw safleoedd sy'n cynhyrchu porthiant ar gyfer anifeiliaid a ffermir;
(b) bod tystysgrif swyddogol yn cyd-fynd â'r protein anifeiliaid wedi'i brosesu fel y'i nodir yn Atodiad V i Benderfyniad y Comisiwn neu, yn achos dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio, tystysgrif swyddogol fel y'i pennir yn Atodiad IV i Benderfyniad y Comisiwn;
(c) bod y protein anifeiliaid wedi'i brosesu -
(i) yn cael ei gludo mewn cynwysyddion neu gerbydau sydd o dan sêl ac wedi'u gorchuddio, mewn ffordd sy'n atal colli dim byd; a
(ii) yn cael ei gludo'n uniongyrchol i ffatri bwyd anifeiliaid anwes neu ffatri fwyd yn yr Aelod-wladwriaeth a gyrchir; ac
(ch) bod hysbysiad yn cael ei roi i arolygydd milfeddygol gan neu ar ran y person sy'n anfon y protein anifeiliaid wedi'i brosesu mewn digon o bryd ac mewn modd digonol i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i roi gwybod am gyrchfan pob llwyth a anfonir i'r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth a gyrchir, yn unol â gweithdrefn ANIMO a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 91/398/EEC[10] fel y mae'n cael ei gymhwyso am y tro at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn.
(4) Os oes protein anifeiliaid wedi'i brosesu wedi'i anfon i Aelod-wladwriaeth arall ac nad yw'r Aelod-wladwriaeth a gyrchir, yn unol â gweithdrefn ANIMO a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 91/398/EEC fel y mae'n cael ei gymhwyso at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn, wedi rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol fod y llwyth wedi cyrraedd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol fynd ati ar unwaith i gymryd y camau priodol sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion erthygl 3(1)(e) o Benderfyniad y Comisiwn.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7) isod, ni chaiff neb fewnforio unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu o Aelod-wladwriaeth arall.
(6) Os yw'r amodau a bennir ym mharagraff (7) isod wedi'u bodloni, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (5) uchod yn gymwys -
(a) i'r bwyd anifeiliaid anwes y cyfeirir ato ym mhennod 4 o Atodiad I i Gyfarwyddeb 92/118/EEC;
(b) i brotein anifeiliaid wedi'i brosesu nad yw wedi'i fwriadu i fwydo unrhyw anifail a ffermir;
(c) i'r blawd pysgod y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(a) uchod a gludwyd a'i storio yn y cyfamser yn unol ag Atodlen 1, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr;
(ch) i gelatin sy'n deillio o anifeiliaid heblaw cilgnowyr ar gyfer caenu ychwanegion o fewn ystyr Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn porthiant;
(d) i'r dicalcium phosphate y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(c) uchod, a gynhyrchir yn unol ag Atodlen 2, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir;
(dd) i'r protein wedi'i hydroleiddio y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(ch) uchod, a gynhyrchwyd yn unol ag Atodlen 3, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir; neu
(e) i laeth a chynhyrchion llaeth.
(7) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) uchod -
(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol
(i) wedi awdurdodi derbyn protein anifeiliaid wedi'i brosesu o'r Aelod-wladwriaeth at ddibenion erthygl 3(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn; a
(ii) wedi awdurdodi anfon protein anifeiliaid wedi'i brosesu o'r Aelod-wladwriaeth dim ond i safleoedd yng Nghymru heblaw safleoedd sy'n cynhyrchu porthiant ar gyfer anifeiliaid a ffermir ;
(b) bod y person sy'n bwriadu ei fewnforio, cyn i'r protein anifeiliaid wedi'i brosesu gael ei fewnforio, wedi rhoi hysbysiad o'r bwriad i fewnforio i arolygydd milfeddygol;
(c) bod tystysgrif swyddogol yn cyd-fynd â'r protein anifeiliaid wedi'i brosesu fel y'i nodir yn Atodiad V i Benderfyniad y Comisiwn neu, yn achos dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio, tystysgrif swyddogol fel y'i pennir yn Atodiad IV i Benderfyniad y Comisiwn;
(ch) bod y protein anifeiliaid wedi'i brosesu -
(i) yn cael ei gludo mewn cynwysyddion neu gerbydau sydd o dan sêl ac wedi'u gorchuddio, mewn ffordd sy'n atal colli dim byd; a
(ii) yn cael ei gludo'n uniongyrchol i ffatri bwyd anifeiliaid anwes neu ffatri fwyd yn yr Aelod-wladwriaeth a gyrchir; a
(d) bod hysbysiad yn cael ei roi i arolygydd milfeddygol gan neu ar ran y person sy'n anfon y protein anifeiliaid wedi'i brosesu mewn digon o bryd ac mewn modd digonol i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i roi gwybod am gyrraedd pob llwyth a anfonir i'r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth a gyrchir, yn unol â gweithdrefn ANIMO a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 91/398/EEC fel y mae'n cael ei gymhwyso at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn.
Masnachu â thrydydd gwledydd
11.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, ni chaiff neb allforio unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu i drydedd wlad.
(2) Os yw'r amodau a bennir ym mharagraff (3) isod wedi'u bodloni, ni fydd y gwaharddiad ym mharagraff (1) uchod yn gymwys i'r canlynol -
(a) i'r bwyd anifeiliaid anwes y cyfeirir ato ym mhennod 4 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 92/118/EEC;
(b) i brotein anifeiliaid wedi'i brosesu nad yw wedi'i fwriadu i fwydo unrhyw anifail a ffermir;
(c) i'r blawd pysgod y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(a) uchod, a gludwyd a'i storio yn y cyfamser yn unol ag Atodlen 1, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr;
(ch) i gelatin sy'n deillio o anifeiliaid heblaw cilgnowyr ar gyfer caenu ychwanegion o fewn ystyr Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn porthiant;
(d) i'r dicalcium phosphate y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(c) uchod, a gynhyrchwyd yn unol ag Atodlen 2, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir;
(dd) i'r protein wedi'i hydroleiddio y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(ch) uchod, a gynhyrchir yn unol ag Atodlen 3, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir; neu
(e) i laeth a chynhyrchion llaeth.
(3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod -
(a) bod y wladwriaeth a gyrchir wedi gwneud cytundeb gyda'r Deyrnas Unedig at ddibenion erthygl 3(2)(a) o Benderfyniad y Comisiwn -
(i) mai dim ond i safleoedd heblaw safleoedd sy'n cynhyrchu porthiant ar gyfer anifeiliaid a ffermir yr awdurdodir anfon protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n cael ei fewnforio o'r Deyrnas Unedig; a
(ii) na fydd yn awdurdodi allforio protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n cael ei fewnforio o'r Deyrnas Unedig oni bai ei fod yn cael ei ymgorffori mewn cynnyrch sydd wedi'i arfaethu i'w ddefnyddio yn y pen draw fel bwyd i anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cadw, eu pesgi neu eu bridio i gynhyrchu bwyd; a
(b) bod tystysgrif swyddogol yn cyd-fynd â'r protein anifeiliaid wedi'i brosesu fel y'i nodir yn Atodiad V i Benderfyniad y Comisiwn neu, yn achos dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio, tystysgrif swyddogol fel y'i pennir yn Atodiad IV i Benderfyniad y Comisiwn.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) isod, ni chaiff neb fewnforio unrhyw brotein anifeiliaid wedi'i brosesu o drydedd wlad.
(5) Os yw'r amod a bennir ym mharagraff (6) isod wedi'i fodloni, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (4) uchod yn gymwys i'r canlynol -
(a) i'r bwyd anifeiliaid anwes y cyfeirir ato ym mhennod 4 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 92/118/EEC;
(b) i brotein anifeiliaid wedi'i brosesu nad yw wedi'i fwriadu i fwydo unrhyw anifail a ffermir;
(c) i'r blawd pysgod y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(a) uchod a gludwyd a'i storio yn y cyfamser yn unol ag Atodlen 1, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr;
(ch) i gelatin sy'n deillio o anifeiliaid heblaw cilgnowyr ar gyfer caenu ychwanegion o fewn ystyr Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn porthiant;
(d) i'r dicalcium phosphate y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(c) uchod, yn unol ag Atodlen 2, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir;
(dd) i'r protein wedi'i hydroleiddio y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(ch) uchod, a gynhyrchir yn unol ag Atodlen 3, i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir; neu
(e) i laeth a chynhyrchion llaeth.
(6) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) uchod yw yr ymdrinnir â'r protein anifeiliaid wedi'i brosesu yn unol â'r amodau a bennir yn erthygl 8 o Gyfarwyddeb 97/78/EC[11].
Gweithgynhyrchu porthiant
12.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw borthiant, gan gynnwys bwyd anifeiliaid anwes, sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid heblaw anifeiliaid a ffermir, ac sy'n cynnwys protein anifeiliaid wedi'i brosesu, ar safle sy'n paratoi bwyd i anifeiliaid a ffermir.
(2) Os oes porthiant yn cael ei gynhyrchu heb brotein anifeiliaid wedi'i brosesu heblaw blawd pysgod, dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio, caiff gael ei weithgynhyrchu ar safle sy'n paratoi bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr.
Cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr
13.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw safle ar gyfer cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr os yw'r safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil.
(2) At ddibenion paragraff 6 o Atodiad 1 i Benderfyniad y Comisiwn, mae safleoedd sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cael eu defnyddio i baratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil wedi'u hawdurdodi i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr.
(3) Ni fydd y gwaharddiad ym mharagraff 1 uchod yn gymwys i safleoedd a ddefnyddir ar gyfer paratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod ar gyfer rhywogaethau eraill o anifeiliaid -
(a) os yw'r blawd pysgod yn bodloni gofynion rheoliad 4(2)(a) uchod;
(b) os yw deunydd bwyd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn cael ei gludo a'i storio ar wahân yn llwyr i ddeunydd bwyd y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid cnoi cil;
(c) os yw'r cyfleusterau storio, cludo, gweithgynhyrchu a phecynnu ar gyfer porthiant cyfansawdd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn digwydd ar wahân yn llwyr; ac
(ch) os yw'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid o rywogaethau eraill yn cynnal profion rhigolaidd ar y porthiant sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil er mwyn sicrhau nad oes dim protein anifeiliaid wedi'i brosesu y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid a ffermir gan reoliad 4 uchod yn bresennol yn y porthiant hwnnw.
(4) Ni chaiff neb gynhyrchu unrhyw borthiant sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr oni bai bod y porthiant yn cael ei labelu'n glir i ddangos y geiriau "contains fishmeal - cannot be fed to ruminant animals".
(5) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gerbyd ar gyfer cludo porthiant swmp sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo unrhyw fwyd i anifeiliaid cnoi cil.
(6) Os caiff cerbyd a ddefnyddir i gludo porthiant swmp sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid i'r person sy'n defnyddio'r cerbyd ar gyfer cludo'r porthiant swmp sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr sicrhau y caiff ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r porthiant swmp hwnnw ac wedyn.
Cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir
14.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw safle ar gyfer cynhyrchu porthiant sy 'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr os yw'r safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil.
(2) At ddibenion paragraff 3 o Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn, mae safleoedd sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cael eu defnyddio i baratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil wedi'u hawdurdodi i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr.
(3) Ni fydd y gwaharddiad ym mharagraff (1) uchod yn gymwys i safleoedd a ddefnyddir ar gyfer paratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio ar gyfer rhywogaethau eraill o anifeiliaid -
(a) os yw'r dicalcium phosphate yn bodloni gofynion rheoliad 4(2)(c) uchod;
(b) os yw deunydd bwyd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn cael ei gludo a'i storio ar wahân yn llwyr i ddeunydd bwyd y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid cnoi cil;
(c) os yw'r cyfleusterau storio, cludo, gweithgynhyrchu a phecynnu ar gyfer porthiant cyfansawdd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn digwydd ar wahân yn llwyr; ac
(ch) os yw'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio i anifeiliaid o rywogaethau eraill yn cynnal profion rhigolaidd ar y porthiant sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil er mwyn sicrhau nad oes dim protein anifeiliaid wedi'i brosesu y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid a ffermir gan reoliad 4 uchod yn bresennol yn y porthiant hwnnw.
(4) Ni chaiff neb gynhyrchu unrhyw borthiant sy'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr oni bai bod y porthiant yn cael ei labelu'n glir i ddangos y geiriau "contains dicalcium phosphate from defatted bones - cannot be fed to ruminant animals".
(5) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gerbyd ar gyfer cludo porthiant swmp sy'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo unrhyw fwyd i anifeiliaid cnoi cil.
(6) Os caiff cerbyd a ddefnyddir i gludo porthiant swmp sy'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid i'r person sy'n defnyddio'r cerbyd ar gyfer cludo'r porthiant swmp sy'n cynnwys dicalcium phosphate o esgyrn wedi'u diseimio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr sicrhau y caiff ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r porthiant swmp hwnnw ac wedyn.
Cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir
15.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw safle ar gyfer cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr os yw'r safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil.
(2) At ddibenion paragraff 2 o Atodiad III i Benderfyniad y Comisiwn, mae safleoedd sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cael eu defnyddio i baratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil wedi'u hawdurdodi i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr.
(3) Ni fydd y gwaharddiad ym mharagraff (1) uchod yn gymwys i safleoedd a ddefnyddir ar gyfer paratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio ar gyfer rhywogaethau eraill o anifeiliaid -
(a) os yw'r protein wedi'i hydroleiddio yn bodloni gofynion rheoliad 4(2)(ch) uchod;
(b) os yw deunydd bwyd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn cael ei gludo a'i storio ar wahân yn llwyr i ddeunydd bwyd y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid cnoi cil;
(c) os yw'r cyfleusterau storio, cludo, gweithgynhyrchu a phecynnu ar gyfer porthiant cyfansawdd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn digwydd ar wahân yn llwyr; ac
(ch) os yw'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i anifeiliaid o rywogaethau eraill yn cynnal profion rhigolaidd ar y porthiant sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil er mwyn sicrhau nad oes dim protein anifeiliaid wedi'i brosesu y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid a ffermir gan reoliad 4 uchod yn bresennol yn y porthiant hwnnw.
(4) Ni chaiff neb gynhyrchu unrhyw borthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr oni bai bod y porthiant yn cael ei labelu'n glir i ddangos y geiriau "contains hydrolysed protein - cannot be fed to ruminant animals".
(5) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gerbyd ar gyfer cludo porthiant swmp sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo unrhyw fwyd i anifeiliaid cnoi cil.
(6) Os caiff cerbyd a ddefnyddir i gludo porthiant swmp sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid i'r person sy'n defnyddio'r cerbyd ar gyfer cludo'r porthiant swmp sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr sicrhau y caiff ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r porthiant swmp hwnnw ac wedyn.
Defnyddio a storio porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod, dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio
16.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni chaiff neb ddefnyddio na storio unrhyw borthiant, heblaw'r bwyd anifeiliaid anwes y cyfeirir ato gan bennod 4 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC[12], sy'n cynnwys unrhyw -
(a) blawd pysgod;
(b) dicalcium phosphate sy'n deillio o esgyrn wedi'u diseimio; neu
(c) protein wedi'i hydroleiddio,
ar fferm lle mae anifeiliaid cnoi cil yn cael eu cadw, eu pesgi neu eu bridio i gynhyrchu bwyd.
(2) Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys i ddefnyddio neu storio unrhyw borthiant sy'n cynnwys unrhyw flawd pysgod, dicalcium phosphate sy'n deillio o esgyrn wedi'u diseimio neu brotein wedi'i hydroleiddio ar unrhyw fferm lle mae anifeiliaid cnoi cil yn cael eu cadw os oes mesurau digonol yn cael eu rhoi ar waith ar y fferm i atal y porthiant rhag cael ei fwydo i'r anifeiliaid cnoi cil hynny.
Cofnodion sy'n ymwneud â phrotein anifeiliaid wedi'i brosesu
17.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n traddodi protein anifeiliaid wedi'i brosesu gadw, am ddwy flynedd ar ôl dyddiad y traddodi, (neu, yn achos protein anifeiliaid wedi'i brosesu a gynhyrchwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, am ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y cafodd ei fewnforio i'r Deyrnas Unedig) gofnod sy'n dangos -
(a) dyddiad y traddodi a natur y protein anifeiliaid wedi'i brosesu a draddodwyd;
(b) pwysau'r llwyth a draddodwyd ac, oni bai ei fod wedi'i draddodi'n rhydd, nifer a phwysau'r pecynnau, y paletau neu'r cynwysyddion eraill y mae'n cael ei draddodi ynddynt;
(c) cyrchfan y llwyth a draddodwyd;
(ch) enw a chyfeiriad y traddodai;
(d) rhif cofrestru'r cerbyd y caiff y llwyth ei gludo ynddo; ac
(dd) enw a chyfeiriad gweithredydd y cerbyd hwnnw.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n derbyn llwyth o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu gadw, am ddwy flynedd ar ôl dyddiad derbyn y llwyth, gofnod sy'n dangos -
(a) dyddiad derbyn y llwyth a natur y protein anifeiliaid wedi'i brosesu a dderbyniwyd ;
(b) ei bwysau pan ddaeth i law ac, oni bai ei fod wedi'i draddodi'n rhydd, nifer a phwysau'r pecynnau, y paletau neu'r cynwysyddion eraill y cafodd ei draddodi ynddynt;
(c) o ba le y cafodd ei draddodi;
(ch) enw a chyfeiriad y person a'i traddododd;
(d) rhif cofrestru'r cerbyd y cafodd ei draddodi ynddo; ac
(dd) enw a chyfeiriad gweithredydd y cerbyd hwnnw.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n derbyn llwyth o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu gadw, am ddwy flynedd ar ôl dyddiad unrhyw ddefnyddio, gwaredu neu draddodi pellach, gofnod sy'n dangos -
(a) yn achos unrhyw ddefnyddio, natur y protein anifeiliaid wedi'i brosesu a ddefnyddiwyd a manylion pob defnyddio, pwysau unrhyw ran o'r llwyth a ymgorfforwyd mewn cynnyrch a natur a dyddiad gweithgynhyrchu unrhyw gynnyrch o'r fath;
(b) yn achos gwaredu, y pwysau a waredwyd, dyddiad y gwaredu hwnnw, ble a sut y cafodd ei waredu ac enw'r person a'i gwaredodd; ac
(c) yn achos traddodi pellach, yr wybodaeth a fynnir gan baragraff (1) uchod.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n rheoli cerbyd y caiff protein anifeiliaid wedi'i brosesu ei gludo ynddo gadw, am ddwy flynedd o ddyddiad dechrau cludo llwyth penodol o brotein o'r fath (neu, yn achos mewnforio, o'r dyddiad y daeth y deunydd i'r Deyrnas Unedig), gofnod o'r canlynol -
(a) y person a'r lle y cafodd y llwyth ei gludo oddi wrthynt a natur y protein anifeiliaid wedi'i brosesu a draddodwyd;
(b) y dyddiad y cafodd ei gasglu oddi wrth y person hwnnw;
(c) y pwysau a draddodwyd ac, oni bai ei fod wedi'i draddodi'n rhydd, nifer a phwysau'r pecynnau, y paletau neu'r cynwysyddion eraill y mae'n cael ei draddodi ynddynt;
(ch) rhif cofrestru'r cerbyd y cafodd ei gludo ynddo, ac enw a chyfeiriad y gyrrwr ac, os yw'r cerbyd yn cynnwys ôl-gerbyd, rhif yr ôl-gerbyd ;
(d) y person a'r lle y cafodd neu yr oedd i gael ei anfon atynt; ac
(dd) dyddiad neu ddyddiad arfaethedig ei anfon at y person hwnnw.
(5) Rhaid i yrrwr cerbyd y mae llwyth o brotein anifeiliaid wedi'i brosesu yn cael ei gludo ynddo gael dogfen sy'n cofnodi'r wybodaeth a fynnir gan baragraff (4) uchod yn ei feddiant ar bob adeg pan fydd ganddo ofal y cerbyd hwnnw.
(6) Mewn perthynas â cherbyd sydd heb rif cofrestru, bydd y gofyniad i gadw cofnod o'r rhif cofrestru yn unol â pharagraffau (1)(d), (2)(d) a (4)(ch) uchod yn ofyniad i gadw unrhyw fanylion sy'n caniatáu i'r cerbyd y cafodd y llwyth ei gludo ynddo gael ei adnabod.
Pwerau mynediad
18.
- (1) Os gofynnir iddo wneud hynny, bydd gan arolygydd, ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw safle (heblaw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) er mwyn darganfod -
(a) a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn cael ei thorri neu wedi cael ei thorri ar y safle; neu
(b) a oes unrhyw dystiolaeth ar y safle i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael ei thorri.
(2) Os oes Ynad Heddwch, ar ôl cael hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod yna sail resymol dros fynd i unrhyw safle (ac eithrio safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig) at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod a naill ai -
(a) bod mynediad i'r safle wedi'i wrthod, neu y disgwylir iddo gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b) y byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yna frys yngln â'r achos, neu nad yw'r safle'n cael ei feddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro;
caiff yr Ynad Heddwch drwy gyfrwng gwarant a lofnodir ganddo awdurdodi arolygydd i fynd i'r safle, drwy ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen.
(3) Caiff arolygydd sy'n mynd i unrhyw safle yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddir odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol, ac wrth ymadael ag unrhyw safle gwag y mae wedi mynd iddo yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo sicrhau ei fod yn cael ei gau yr un mor effeithiol yn erbyn mynediad diawdurdod â phan ddaeth o hyd iddo.
Samplu a gwiriadau ac archwiliadau eraill
19.
- (1) Bydd gan arolygydd b er i gyflawni'r holl wiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff arolygydd -
(a) cymryd samplau o unrhyw brotein, bwyd neu borthiant (ac anfon y samplau, os oes angen hynny, i gael eu profi mewn labordy);
(b) archwilio unrhyw gofnod (gan gynnwys unrhyw gofnod a gedwir ar ffurf electronig) y mae'n credu ei fod yn berthnasol i unrhyw wiriadau ac archwiliadau o dan y Rheoliadau hyn;
(c) cipio a chadw unrhyw gofnod y mae ganddo neu ganddi reswm dros gredu y gall fod ei angen yn dystiolaeth mewn achos o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, a'i gwneud yn ofynnol bod y cofnod hwnnw'n cael ei gyflwyno;
(ch) mynd ag unrhyw berson arall gydag ef neu hi y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i gyflawni unrhyw wiriadau ac archwiliadau o dan y Rheoliadau hyn;
(d) archwilio unrhyw gynhyrchu, storio, cludo neu weithrediad arall sy'n cael ei gyflawni o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw beth sy'n cael ei ddefnyddio i farcio ac adnabod protein, bwyd neu borthiant; ac
(dd) mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn sy'n gweithredu at unrhyw un o ddibenion y Comisiwn sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn gydag ef neu hi.
Rhwystro
20.
- (1) Ni chaiff neb -
(a) rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sydd wrthi yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;
(b) methu, heb esgus rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu
(c) rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol i unrhyw berson sydd wrthi'n gweithredu'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) uchod fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno pe bai'n gwneud hynny.
Tramgwyddo a chosbi
21.
- (1) Bydd person sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored -
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol neu i garchar am gyfnod na fydd yn fwy na thri mis neu'r ddau;
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd neu'r ddau.
(2) Pan yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o'r canlynol, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar eu rhan -
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a fu'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bydd ef neu hi, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Tramgwyddau oherwydd bai person arall ac amddiffyniad gofal dyladwy
22.
- (1) Os bydd unrhyw dramgwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a gall person gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y paragraff hwn yn y rheoliad hwn p'un a ddygir achos yn erbyn y person cyntaf a grybwyllwyd neu beidio.
(2) Mewn unrhyw achos am dragwydd o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob gofal daladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ganddo ef ei hun neu gan berson o dan ei reolaeth.
(3) Os yw'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (2) uchod mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson arall, ni fydd gan y person a gyhuddir hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, oni bai -
(a) o leiaf saith diwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b) o fewn un mis i'w ymddangosiad cyntaf os yw wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig,
ei fod wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth i enwi neu i helpu i enwi'r person arall hwnnw ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny.
(4) Ym mharagraff (3) uchod dehonglir unrhyw gyfeiriad at ymddangos gerbron llys fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at gael eich dwyn gerbron llys.
Gorfodi
23.
- (1) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (2) isod, caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi a'u gweithredu gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, gyfarwyddo bod rhaid i'r ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill
24.
- (1) Gall unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sydd i'w rhoi neu i'w cyflwyno i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn gael eu rhoi neu eu cyflwyno naill ai -
(a) drwy fynd ag ef at y person hwnnw;
(b) yn achos corff corfforaethol, drwy fynd ag ef at eu hysgrifennydd neu eu clerc yn eu swyddfa gofrestredig neu eu prif swyddfa, neu drwy ei anfon drwy'r post ato ef neu ati hi yn y swyddfa honno; neu
(c) yn achos unrhyw berson arall, drwy ei adael, neu drwy ei anfon drwy'r post ato ef neu ati hi, yn eu cyfeiriad arferol neu'r un diwethaf a oedd yn hysbys.
(2) Os oes hysbysiad neu ddogfen arall i gael eu rhoi neu eu cyflwyno i berchennog, gweithredwr neu feddiannydd unrhyw safle ac nad yw, ar ôl ymholiadau rhesymol, yn ymarferol cael enw a chyfeiriad y person y dylent gael eu rhoi neu eu cyflwyno iddo, neu os yw'r safle heb feddiannydd, gall y ddogfen gael ei rhoi neu ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw drwy gyfrwng disgrifiad "perchennog", "gweithredwr" neu "meddiannydd" y safle (gan enwi'r safle) a -
(a) ei chyflwyno i ryw berson ar y safle; neu
(b) os nad oes person ar y safle y gellir ei chyflwyno iddo, drwy ei gosod, neu drwy osod copi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r safle.
Diwygio Rheoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Porthiant ac Arolygu) 1999
25.
- (1) Diwygir Rheoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Porthiant ac Arolygu) 1999[13] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o "premises" mewnosodir y diffiniad canlynol - "processed animal protein has the same meaning as in the Processed Animal Protein (Wales) Regulations 2001"[14];.
(3) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (1) mewnosodir y paragraff canlynol -
"
(1) An authorised officer, on producing, if so required, a duly authenticated document showing his authority, shall have the right at all reasonable hours to enter any premises and there take such samples -
(a) as are necessary to enable the Official ELISA tests for the identification of ruminant protein in feeding-stuff intended for ruminants to be carried out; or
(b) of any protein, feed or feeding-stuff, whether or not intended for ruminants, as are necessary to enable -
(i) the Official ELISA tests to be carried out for the identification of ruminant protein; or
(ii) tests to be carried out for the identification of processed animal protein, or the identification of any type or description of processed animal protein, in the protein, feed or feeding-stuff.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Gorffennaf 2001
ATODLEN 1rheoliadau 4(2)(a) a 5
Yr amodau ar gyfer cludo blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr
1.
Rhaid i flawd pysgod sy'n cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall neu o drydedd wlad i'w ddefnyddio i weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr gael ei gludo'n uniongyrchol o'r safle archwilio ar y ffin i'r sefydliad sy'n gweithgynhyrchu'r bwyd anifeiliaid drwy gyfrwng cerbyd nad yw'n cael ei ddefnyddio i gludo deunyddiau bwyd eraill ar yr un pryd.
2.
Os oes cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo blawd pysgod sy'n cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth eraill neu o drydedd wlad i'w ddefnyddio i weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr yn cael ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r blawd pysgod ac ar ôl hynny.
3.
Rhaid i flawd pysgod i'w ddefnyddio wrth weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr gael ei gludo'n uniongyrchol o'r safle lle mae'r blawd pysgod yn cael ei gynhyrchu i'r safle sy'n gweithgynhyrchu'r bwyd anifeiliaid drwy gyfrwng cerbyd nad yw'n cael ei ddefnyddio ar yr un pryd i gludo deunyddiau bwyd eraill.
4.
Os oes cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo blawd pysgod i'w ddefnyddio i weithgynhyrchu bwyd i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr yn cael ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r blawd pysgod ac ar ôl hynny.
5.
Dim ond os gwneir hynny mewn safleoedd storio neilltuedig y caniateir storio blawd pysgod yn y cyfamser.
ATODLEN 2rheoliad 6
Yr amodau ar gyfer cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir
1.
Rhaid i dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir gael ei gynhyrchu o esgyrn sydd wedi'u diseimio.
2.
Rhaid i'r dicalcium phosphate ddeillio o esgyrn o anifeiliaid sy'n ffit i bobl eu bwyta a hynny yn sgîl archwiliad ante mortem ac archwiliad post mortem.
3.
Rhaid i'r dicalcium phosphate gael ei gynhyrchu drwy broses sy'n sicrhau y caiff holl ddeunydd yr esgyrn ei falu'n fân a'i ddiseimio â dwr poeth a'i drin â hydrochloric acid gwanhaëdig (sef crynodiad o 4% o leiaf a pH<1.5) dros gyfnod o ddau ddiwrnod o leiaf gan drin y toddiant ffosfforig a geir drwy wneud hyn â chalch, sy'n arwain at waddod o dicalcium phosphate gyda pH 4 i 7, sy'n derfynol yn cael ei sychu ag aer wedyn gyda thymheredd wrth y fewnfan o 65°C - 325°C a thymheredd yn y pen draw rhwng 30°C - 65°C neu drwy gyfrwng proses gynhyrchu gyfatebol a gymeradwyir yn unol â'r weithdrefn yn erthygl 17 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/662/EEC[16] ynghylch gwiriadau milfeddygol yn y fasnach o fewn y Gymuned gyda golwg ar gwblhau'r farchnad fewnol.
ATODLEN 3rheoliad 7
Yr amodau ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir
1.
Rhaid i brotein wedi'i hydroleiddio o grwyn -
(a) tarddu o grwyn a gafwyd oddi ar anifeiliaid sydd wedi'u cigydda mewn lladd-dy ac y cafwyd bod eu carcasau'n ffit i bobl eu fwyta ar ôl archwiliad ante mortem ac archwiliad post mortem; a
(b) cael ei gynhyrchu drwy gyfrwng proses gynhyrchu sy'n cynnwys mesurau priodol i gadw halogiad y crwyn i'r lleiaf posibl, gan baratoi'r deunydd crai drwy ei halltu, ei galchu, a'i olchi'n drwyadl ac wedyn datguddio'r deunydd i pH o >11 am > 3 awr ar dymheredd >80°C ac wedyn ei drin â gwres ar >140°C am 30 munud ar >3.6 bar; neu drwy gyfrwng proses gynhyrchu gyfatebol a gymeradwyir yn unol â'r weithdrefn yn erthygl 17 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/662/EEC ynghylch gwiriadau milfeddygol yn y fasnach o fewn y Gymuned gyda golwg ar gwblhau'r farchnad fewnol.
2.
Rhaid i'r protein wedi'i hydroleiddio o bysgod, plu a chrwyn gael ei samplu ar ôl ei brosesu a chael bod ei bwysau molecylaidd o dan 10000 Dalton.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ei effaith yng Nghymru i Benderfyniad y Cyngor 2000/766/EC (OJ Rhif L306, 7.12.2000, t.32) ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy a bwydo protein anifeiliaid a Phenderfyniad y Comisiwn 2001/9/EC (OJ Rhif. L 002, 5.01.2001 t.32) ynghylch mesurau rheoli sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi Penderfyniad y Cyngor 2000/766/EC ar waith.
Yn Rheoliad 2 ceir diffiniadau. Maent yn cynnwys diffinio anifail a ffermir fel anifail sy'n cael ei gadw, ei besgi neu ei fridio i gynhyrchu bwyd. Mae Rheoliad 3 yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â phrotein anifeiliaid wedi'i brosesu a fwriedir i fwydo anifeiliaid a ffermir; ac nad yw'r Rheoliadau yn gymwys i wastraff arlwyo, wyau a chynhyrchion wyau na golchion.
Yn ddarostyngedig i eithriadau, mae rheoliad 4 yn gwahardd bwydo protein anifeiliaid wedi'i brosesu i anifeiliaid a ffermir.
Mae Rheoliad 5 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynhyrchu blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr; mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cymeradwyo safleoedd, defnyddio safleoedd a chludo blawd pysgod o safleoedd a gymeradwywyd, gan gynnwys ei storio yn y cyfamser. Gwneir darpariaeth debyg yn rheoliadau 6 a 7 ac Atodlenni 2 a 3 mewn perthynas â chynhyrchu dicalcium phosphate a phrotein wedi'i hydroleiddio i'w bwydo i anifeiliaid a ffermir.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo safleoedd, atal cymeradwyaeth a'i thynnu'n ôl.
Yn rheoliad 9 gwneir darpariaeth ar gyfer gwerthu neu gyflenwi protein anifeiliaid wedi'i brosesu a fwriedir i fwydo anifeiliaid a ffermir. Yn rheoliad 10 gwneir darpariaeth ar gyfer masnachu ag Aelod-wladwriaethau eraill ac mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer masnachu â thrydydd gwledydd.
Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithgynhyrchu porthiant.
Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr.
Yn rheoliad 14 gwneir darpariaeth ar gyfer cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir. Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir. Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio a storio porthiant sy'n cynnwys blawd pysgod, dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio.
Mae rheoliad 17 yn gosod gofynion mewn perthynas â chofnodion sy'n ymwneud â phrotein anifeiliaid wedi'i brosesu ac mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phwerau mynediad. Yn rheoliad 19 darperir ar gyfer samplu a gwiriadau ac archwiliadau eraill. Mae rheoliad 20 yn darparu tramgwyddau rhwystro a rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tramgwyddo a chosbi. Yn rheoliad 22 gwneir darpariaeth ar gyfer tramgwyddau oherwydd bai person arall ac amddiffyniad gofal dyladwy. Mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau ac yn rheoliad 24 gwneir darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiadau a dogfennau eraill. Mae rheoliad 25 yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Porthiant ac Arolygu) 1999.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i gyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau hefyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Polisi Amaethyddol, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1996/3183, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2387, O.S. 1998/3071 ac O.S. 1999/921.back
[4]
OJ Rhif L2, 5.1.2001 t.32.back
[5]
OJ Rhif L306, 7.12.2000, t.32.back
[6]
O.S. 1999/646, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1735 (Cy.122).back
[7]
OJ Rhif L363, 27.12.1990, t.51.back
[8]
OJ Rhif L318, 27.11.1988, t.45.back
[9]
OJ Rhif L270, 14.12.1970, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 1999/70/EC (OJ Rhif L80, 25.3.1999, t.20).back
[10]
OJ Rhif L221, 9.8.1991 t.30.back
[11]
OJ Rhif L24, 30.1.1998, t.9.back
[12]
OJ Rhif L62, 15.3.1993, t.49.back
[13]
O.S. 1999/882.back
[14]
SI 2001/2780 (Cy. 233).back
[15]
1998 p.38.back
[16]
OJ Rhif L395, 30.12.1989, t.13, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 1992/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.1993, t.49).back
English version
ISBN
0 11090360 9
|
Prepared
14 November 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012780w.html