[New search]
[Help]
2001 Rhif 2781 (Cy.234)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
25 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 173(1), (2) a (4) a 175(1A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiadau
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991[3] yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rheoliad 17, ym mharagraff (2), yn lle "£30.39" rhowch "£31.39".
(3) Yn Rheoliad 18,
(a) ym mharagraff (1), yn lle "£30.39" rhowch "£31.39";
(b) ym mharagraff (2),
(i) yn is-baragraff (a) yn lle "£27.65" rhowch "£28.81"; a
(ii) yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle "£55.31" rhowch "£57.63.".
Diddymu
3.
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000[4] wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gwneud darpariaeth i aelod o gyngor plwyf yn Lloegr neu o gyngor cymuned yng Nghymru sy'n gynghorydd gael taliad yn lwfans presenoldeb nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau ac i aelod o gyngor o'r fath nad oes ganddo hawl i gael taliad o'r fath gael taliad yn lwfans colled ariannol nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau.
Mae adran 175 o Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu i aelod o awdurdod lleol neu o unrhyw gorff arall y mae'r adran honno'n gymwys iddo lwfans am fynd i gynhadledd neu gyfarfod nad yw'n fwy nag unrhyw swm a bennir mewn rheoliadau neu y penderfynir arnynt o danynt.
Mae Rheoliad 17 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 yn pennu swm at ddibenion adran 175 o Ddeddf 1972 ac mae Rheoliad 18 o'r Rheoliadau hynny'n pennu symiau at ddibenion adran 173 o'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 17 a 18 o Reoliadau 1991 drwy gynyddu'r symiau perthnasol, ac yn diddymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000.
Notes:
[1]
1972 p. 70. Diwygiwyd adran 173 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65), adran 24(1) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), Atodlen 11, paragraff 26. Mewnosodwyd adran 175(1) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Atodlen 11, paragraff 27. I gael y diffiniad o "prescribed" gweler adran 270 o Ddeddf 1972.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1991/351; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2000/2492.back
[4]
O.S. 2000/2492.back
[5]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090330 7
|
Prepared
31 August 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012781w.html