BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012787w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2787 (Cy.237)

COMISIYNYDD PLANT, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001

  Wedi'i wneud 25 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym
  At bob diben heblaw Rheoliad 21(1) 26 Awst 2001 
  At ddibenion Rheoliad 21(1) 1 Hydref 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y per a roddwyd iddo gan adrannau 73(4)(b) a (5), 74(1) i (3) a (6), 76(1), (1A), (2), (4) a (5), 77(2), 78(1A) a (6), 118(4) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] a pharagraffau 6(4) ac 8 o Atodlen 2 iddi:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 a deuant i rym at ddibenion paragraff (1) o reoliad 21 ar 1 Hydref 2001 ac at bob diben arall ar 26 Awst 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad - 



RHAN II

ADOLYGU A MONITRO TREFNIADAU

Cyngor a chymorth a ragnodir
    
2. Dyma'r math o gyngor a chymorth a ragnodir at ddibenion adran 73(4)(b) o'r Ddeddf - 

Rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig
    
3.  - (1) Caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo roi gwybodaeth i'r Comisiynydd, wedi'i chofnodi ar unrhyw ffurf, y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus ei chael at ddibenion

    (2) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) - 



RHAN III

ARCHWILIO ACHOSION

Archwiliadau
    
4. Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yn y Rhan hon caiff y Comisiynydd archwilio achosion plant penodol y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt.

Achosion sy'n agored i'w harchwilio
    
5. Yn ddarostyngedig i reoliad 6, caiff y Comisiynydd archwilio achosion plant penodol - 

os yw'r achosion yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau o'r fath neu ag effaith arfer y swyddogaethau hynny ar y plant a enwyd.

Yr amgylchiadau y gellir archwilio odanynt
    
6. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff y Comisiynydd archwilio achos plentyn penodol:

Y weithdrefn ar gyfer cynnal archwiliad
    
7.  - (1) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal archwiliad rhaid iddo - 

    (2) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal archwiliad rhaid iddo baratoi datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad hwnnw ac anfon copïau ohono - 

Rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad
    
8.  - (1) Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd - 

    (2) Dyma'r personau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt - 

Presenoldeb tystion
    
9.  - (1) Caiff y Comisiynydd, os bernir ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwiliad, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo fod yn bresennol yn bersonol gerbron y Comisiynydd i roi gwybodaeth, esboniadau neu gymorth.

    (2) Y personau y mae'r paragraff hwn yn berthnasol iddynt yw personau y mae'n ofynnol iddynt - 

    (3) Ni chaiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn bersonol mewn unrhyw le yn unol â pharagraff (1) ond os rhoddwyd i'r person hwnnw hysbysiad ysgrifenedig rhesymol o ddyddiad arfaethedig ei bresenoldeb a'r wybodaeth, yr esboniadau neu'r cymorth y mae ar y Comisiynydd eu hangen.

    (4) Mewn cysylltiad â phresenoldeb personol o'r fath, caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i adran 74(4) o'r Ddeddf, roi gwysion tystion a gweinyddu llwon neu gadarnhadau a chaiff ganiatáu i berson gael ei gynrychioli gerbron y Comisiynydd.



RHAN IV

RHOI CYMORTH

Rhoi cymorth mewn achosion
    
10.  - (1) Caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), roi cymorth perthnasol i blentyn perthnasol - 

    (2) Mae'r achosion a ragnodir at ddibenion adran 76(1)(b) o'r Ddeddf yn achosion sy'n ymwneud - 

    (3) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymorth perthnasol, caiff y Comisiynydd gymryd i ystyriaeth y cymorth ariannol a'r cymorth arall sydd ar gael i'r plentyn perthnasol mewn perthynas â'r achosion, y gyn neu'r sylwadau o dan sylw, gan gynnwys cymorth o dan Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999.

    (4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "cymorth perthnasol" yw - 

    (5) Nid yw paragraff (4) yn effeithio ar y gyfraith a'r arferion ynghylch pwy gaiff gynrychioli person mewn perthynas ag unrhyw achos.

Amodau
    
11.  - (1) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu rhoi cymorth ariannol i blentyn perthnasol yn unol â rheoliad 10 gall y cymorth gael ei roi o dan y naill neu'r llall neu o dan y ddau o'r amodau a bennir ym mharagraff (2).

    (2) Dyma'r amodau - 

    (3) At ddibenion paragraff (2)(a) nid yw'n berthnasol a yw'r symiau a delir gan bartïon eraill yn daladwy yn rhinwedd penderfyniad gan lys neu dribiwnlys, cytundeb a wnaed er mwyn osgoi achos neu er mwyn dod ag achos i ben, neu fel arall.



RHAN V

SWYDDOGAETHAU PELLACH

Y berthynas â phlant
    
12.  - (1) Rhaid i'r Comisiynydd gymryd camau rhesymol i sicrhau - 

    (2) Wrth arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff (1) rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i beth yw anghenion ac amgylchiadau plant o'r fath yn ei farn resymol ef.



RHAN VI

ADRODDIADAU

Adroddiadau
    
13.  - (1) Pan ddaw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r rheoliadau hyn i ben, rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno adroddiad.

    (2) Pan ddaw adolygiad swyddogaethau, adolygiad trefniadau, monitro yn unol ag adran 73(1) o'r Ddeddf neu asesiad yn unol ag adran 73(1A) o'r Ddeddf i ben, fe gaiff y Comisiynydd gyflwyno adroddiad.

    (3) Rhaid i adroddiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) nodi - 

    (4) Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o adroddiad o'r fath - 

    (5) Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi

Camau pellach yn sgil adroddiad
    
14.  - (1) Os yw'r Comisiynydd wedi cyflwyno adroddiad o dan baragraff (1) o reoliad 13 sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â darparydd gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru, y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i'r Ddeddf, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn tri mis o ddyddiad anfon copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

    (2) Os yw'r Comisiynydd wedi cyflwyno adroddiad o dan baragraff (2) o reoliad 13 sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â pherson a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y Comisiynydd ofyn mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn tri mis o ddyddiad anfon copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

    (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) ystyr "yr wybodaeth berthnasol" yw unrhyw wybodaeth, esboniadau neu gymorth i alluogi'r Comisiynydd i benderfynu a yw'r person o dan sylw wedi cydymffurfio â'r argymhelliad neu a fydd yn cydymffurfio ag ef, neu esboniad ar y rheswm dros beidio â chymryd camau o'r fath neu dros beidio â bwriadu eu cymryd.

    (4) Pan wneir gofyniad o dan baragraff (1) neu gais o dan baragraff (2) rhaid iddo gynnwys datganiad y gall methiant i ymateb o fewn y tri mis gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

    (5) Os yw'r Comisiynydd yn credu'n rhesymol, pan gaiff yr wybodaeth berthnasol, nad yw'r camau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r argymhelliad neu nad yw'r rheswm am beidio â chymryd camau o'r fath neu am beidio â bwriadu eu cymryd, yn ddigonol, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad ysgrifenedig at y person o dan sylw yn nodi'r diffygion, sef hysbysiad y mae angen ymateb iddo o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.

    (6) Os na chaiff y Comisiynydd ymateb yn unol â'r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (5) o fewn un mis neu os yw'n anfodlon ar yr ymateb, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad atodol sy'n mynnu ymateb atodol o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.

    (7) Rhaid i'r hysbysiad atodol gynnwys datganiad y gall methiant i roi'r hyn sy'n ymateb atodol boddhaol ym marn y Comisiynydd, neu fethiant i ymateb o gwbl, gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

    (8) Rhaid i'r Comisiynydd gadw cofrestr yn cynnwys manylion - 

    (9) Rhaid i unrhyw gofrestr a gedwir o dan baragraff (8) fod yn agored i'w harchwilio gan unrhyw un ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Comisiynydd a chaiff y Comisiynydd wneud trefniadau i gopïau o'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio mewn unrhyw fan arall neu fannau eraill neu drwy unrhyw fodd arall y mae'n credu eu bod yn briodol.

    (10) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.

Adroddiadau Blynyddol
    
15.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Prif Weinidog, y mae'n rhaid iddo gynnwys - 

    (2) Rhaid i'r Comisiynydd hefyd gynhyrchu fersiwn o'r adroddiad blynyddol sydd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn addas ar gyfer plant.

    (3) Rhaid i'r adroddiadau cyntaf y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) gael eu cyflwyno yn 2002.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn, anfon copi o'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) - 

Cyhoeddi adroddiadau
    
16.  - (1) Rhaid i'r Comisiynydd drefnu bod copïau o adroddiadau a gyflwynir o dan baragraffau (1) neu (2) o reoliad 13 ac o dan reoliad 15 ar gael i'w harchwilio yn swyddfa'r Comisiynydd ar bob adeg resymol ac mewn unrhyw fannau eraill neu drwy unrhyw gyfrwng arall, gan gynnwys drwy gyfrwng electronig, y mae'r Comisiynydd yn credu eu bod yn briodol.

    (2) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.



RHAN VII

AMRYWIOL

Cyfyngiadau ar arfer swyddogaethau sy'n arferadwy gan bersonau rhagnodedig
    
17. At ddibenion adran 77(2) o'r Ddeddf, rhagnodir Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd[2].

Blynyddoedd ariannol
     18. At ddibenion paragraff 6(4) o Atodlen 2 i'r Ddeddf pennir y cyfnodau canlynol - 

Gwybodaeth
    
19. Os yw gwybodaeth y gofynnir iddi gael ei rhoi o dan baragraff (1) o reoliad 3, paragraff (1)(a) o reoliad 8 neu baragraff (1) o reoliad 14 ("y darpariaethau perthnasol") yn wybodaeth sy'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf arall, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur neu'r ddyfais arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, neu sydd fel arall yn ymwneud â hwy, drefnu bod yr wybodaeth ar gael, neu gyflwyno'r wybodaeth, ar ffurf weladwy a darllenadwy.

    
20. Os yw person yn rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd yn unol â pharagraff (1)(a) o reoliad 8 neu'n bresennol gerbron y Comisiynydd yn unol â rheoliad 9, caiff y Comisiynydd dalu i'r person hwnnw, os yw'n credu bod hynny'n briodol - 

yn unol ag unrhyw raddfeydd, ac o dan unrhyw amodau y gall y Comisiynydd eu pennu.

Cymhwyso cyfeiriadau at blant
    
21.  - (1) At ddibenion Rhan V o'r Ddeddf mae "child" yn cynnwys person 18 oed neu drosodd sy'n dod o fewn is-adran (1B) o adran 78 o'r Ddeddf a dehonglir cyfeiriadau at "child" neu "children" yn Rhan V o'r Ddeddf ac at "plentyn" neu "plant" yn y Rheoliadau hyn yn unol â hynny.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd cyfeiriadau at blentyn yn is-adran (1) o adran 78 o'r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at berson (gan gynnwys plentyn) a oedd ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg cyn i'r paragraff hwn ddod i rym) - 

a dehonglir cyfeiriadau at "child" neu "children" yn Rhan V o'r Ddeddf ac at "plentyn" neu "plant" yn y Rheoliadau hyn yn unol â hynny.

    (3) Rhaid peidio â dehongli cyfeiriadau at "plentyn" neu "plant" a ddehonglir yn unol â pharagraff (1) yn unol â pharagraff (2) hefyd mewn perthynas ag unrhyw amser cyn i baragraff (1) ddod i rym.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
    
22. Wrth arfer ei swyddogaethau rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn [3] fel y cafodd ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig ac yn ddarostynedig i'r cyfryw gymalau cadw a wnaed gan y Deyrnas Unedig sy'n gymwys ar ddyddiad gwneud y rheoliad hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Rhodri Morgan
Prif weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Gorffennaf 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru ("y Comisiynydd") a sefydlwyd o dan Ran V o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf").

Mae Rhan I o'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau ynghylch dehongli.

Mae Rhan II, mewn perthynas â rôl y Comisiynydd wrth adolygu a monitro trefniadau ar gyfer cer i'r Comisiynydd fynnu cael gwybodaeth oddi wrth bersonau rhagnodedig (rheoliad 3).

Mae Rhan III yn rhoi swyddogaethau i'r Comisiynydd ynghylch archwilio achosion plant penodol y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt (rheoliad 4); yn pennu'r mathau o achos a all gael eu harchwilio (rheoliad 5) ac o dan ba amgylchiadau y gall archwiliad gael ei wneud (rheoliad 6); yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliad (rheoliad 7), ynghylch rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd mewn cysylltiad ag archwiliad (rheoliad 8), ac ynghylch bod yn bresennol gerbron y Comisiynydd yn bersonol (rheoliad 9).

Mae Rhan IV yn rhoi per i'r Comisiynydd roi cymorth ariannol a chymorth arall i blant y mae Rhan V o'r Ddeddf yn gymwys iddynt, yn rhagnodi'r achosion a'r gweithdrefnau y gall cymorth o'r fath gael ei roi mewn perthynas â hwy (rheoliad 10) ac yn darparu ar gyfer amodau a all gael eu gosod mewn cysylltiad â rhoi cymorth (rheoliad 11).

Mae Rhan V yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer y trefniadau ynghylch perthynas y Comisiynydd â phlant (rheoliad 12).

Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth ar gyfer adroddiadau penodol a chamau i'w dilyn (rheoliadau 13 a 14), ynghylch adroddiadau blynyddol (rheoliad 15) ac ynghylch cyhoeddi adroddiadau (rheoliad 16).

Mae Rhan VII yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch y cyfyngiadau ar arfer swyddogaethau penodol lle maent yn gorgyffwrdd â swyddogaethau cyrff eraill sydd wedi'u rhagnodi (rheoliad 17); i bennu cyfnod y flwyddyn ariannol gychwynnol a'r blynyddoedd ariannol canlynol (rheoliad 18); ynghylch y modd y rhoddir gwybodaeth (rheoliad 19); ynghylch talu treuliau a lwfansau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth (rheoliad 20) ac ynghylch dehongli cyfeiriadau penodol at blant (rheoliad 21). Yn olaf, mae'r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer ei swyddogaethau (rheoliad 22).


Notes:

[1] 2000 p.14. Gweler adran 78(7) i gael y diffiniad o "regulations". Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud i adrannau 74, 76 a 78 gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (p.18).back

[2] Cafodd Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd ("CAFCASS") ei sefydlu ar 1 Ebrill 2001 o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p. 43).back

[3] Gweler Papur Gorchymyn 1668back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090329 3


  Prepared 24 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012787w.html