BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 3443 (Cy.278)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
16 Hydref 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Tachwedd 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[1] ac adran 23(2) o Ddeddf Plant 1989[2] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 a Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991
2.
- (1) Diwygir Atodlen 2 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[4]) ac Atodlen 4 (diffiniad o gollfarn benodedig) o Reoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991[5] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 2 o'r ddwy Atodlen ar ôl is-baragraff (a) mewnosodwch -
"
(aa) in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence contrary to section 47 of the Offences Against the Person Act 1861[6] (assault occasioning actual bodily harm); or".
(3) Ym mharagraff 9 o'r ddwy Atodlen hepgorwch "other than", a mewnosodwch -
(a) in a case where the offender was under 18 at the time the offence was committed, an offence of assault; or
(b) ".
(4) Ym mharagraff 13 o'r ddwy Atodlen -
(5) Hepgorir paragraff 14.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Hydref 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 a Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991 mewn perthynas â Chymru.
Prif effaith y diwygiadau yw y caniateir i awdurdodau lleol ac eraill arfer eu disgresiwn, wrth ystyried pa mor addas yw person i fabwysiadu neu i faethu plentyn, os yw'r person wedi ei gollfarnu neu wedi'i rybuddio am dramgwydd o ymosodiad sy'n peri gwir niwed corfforol ('ymosod' yn yr Alban) a gyflawnwyd pan oedd o dan 18 oed. Cyn y diwygio, yr oedd collfarn neu rybudd o'r fath yn atal awdurdodau lleol ac eraill rhag ystyried y person ar gyfer mabwysiadu neu faethu.
Notes:
[1]
1976 p.36.back
[2]
1989 p.41.back
[3]
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â'r pwerau uchod eu trosglwyddo, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4]
O.S. 1983/1964, a addaswyd gan O.S. 1996/971 ac a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/649, O.S. 1997/2308 ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, O.S. 1999/2768.back
[5]
O.S. 1991/910, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/2015, O.S. 1997/2308 ac, mewn perthynas â Lloegr yn unig, O.S. 1999/2768.back
[6]
1861 p.100.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090356 0
|
Prepared
7 November 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013443w.html