BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013545w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif. 3545 (Cy.289)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD,CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 29 Hydref 2001 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 34(5) a 62(1) i (3) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol [2]drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym  - 

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996
    
2. Mae Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996[3] wedi'u diwygio fel a ganlyn.

Diweddaru'r arweiniad i ddulliau dosbarthu a labelu a gymeradwywyd a'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd
     3. Yn rheoliad 1(4) (dehongli) - 

Nodiadau traddodi: achosion pan nad oes angen rhaghysbysu
     4. Yn rheoliad 6(1)(e) (nodiadau traddodi: achosion pan nad oes angen rhaghysbysu), hepgorwch "motor vehicle".

Nodiadau traddodi: y weithdrefn pan nad oes angen rhaghysbysu
    
5. Yn rheoliad 7 (nodiadau traddodi: y weithdrefn pan nad oes angen rhaghysbysu) mewnosodwch ar ôl paragraff (a) - 

Nodiadau traddodi: cylchdeithiau'r cludwr
    
6. Yn rheoliad 8, (nodiadau traddodi: cylchdeithiau'r cludwr):

Nodiadau traddodi: dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn llwyth sy'n cael ei gyflenwi
    
7. Yn rheoliad 10 (nodiadau traddodi etc.: dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn llwyth sy'n cael ei gyflenwi) ym mharagraff (3)(c), ar ôl "regulation 8," mewnosodwch "(annotated to show which consignment is not accepted)".

Nodiadau traddodi: llwythi sydd wedi'u gwrthod
    
8. Ar ôl Rheoliad 10 mewnosodwch  - 

Ffioedd
    
9. Yn rheoliad 14 (ffioedd) - 

Ffurf ar nodyn traddodi
     10. Yn Atodlen 1, Rhan I (ffurf ar nodyn traddodi) - 

Atodlen y cludwr
    
11. Yn Atodlen 1, yn lle Rhan II (atodlen y cludwr) rhowch yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad

29 Hydref 2001



ATODLEN/SCHEDULE

FORM OF SCHEDULE




Special Waste Regulation Form


EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996 [O.S. 1996/972] ("y Prif Reoliadau") mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriadau yn rheoliad 1 o'r Prif Reoliadau at yr argraffiadau presennol o'r arweiniad i'r dulliau dosbarthu a labelu a gymeradwywyd a'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd o dan Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 1994. Cafodd Rheoliadau 1994 eu diwygio'n fwyaf diweddar gan Reoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) (Diwygio) 2000 [O.S. 2000/2381] a gellir cael copïau o'r (Pedwerydd) argraffiad newydd o'r arweiniad i ddulliau labelu a gymadwywyd a'r (Chweched) argraffiad newydd o'r rhestr gyflenwi a gymeradwywyd oddi wrth HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 2WA.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6(1) o'r Prif Reoliadau drwy ddileu'r cyfyngiad ynghylch batris "cerbydau modur" mewn perthynas â llwythi batris asid plwm nad oes angen rhaghysbysiad ar eu cyfer.

Yn achos ail draddodi a thraddodi dilynol mewn cyfres o draddodiadau mae Rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau fel bod rhaid rhoi'r cod sy'n dynodi'r traddodi cyntaf yn y gyfres honno ar y nodyn traddodi yn ychwanegol at y cod perthnasol ar gyfer y traddodi o dan sylw.

Mae Rheoliad 6(a) yn diwygio rheoliad 8(1)(d) o'r Prif Reoliadau drwy estyn o 24 awr i 72 awr yr amser y mae'n rhaid i gylchdaith cludwr gael ei chwblhau ynddo. Mae Rheoliad 6(b) yn dileu'r cyfyngiad ynghylch batris "cerbydau modur" o'r eithriad ynghylch llwythau batris asid plwm yn rheoliad 8(2)(ii) o'r Prif Reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cludwr ddarparu copi o'r nodyn traddodi i'r Asiantaeth cyn symud y gwastraff cyntaf ar y gylchdaith.

Mae Rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 10(3)(c) o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn ofynnol, pan fydd traddodai sy'n gwrthod cyflenwad wedi cael nodyn traddodi, bod y copi o unrhyw atodlen gludwr y mae'n ei anfon ymlaen at Asiantaeth yr Amgylchedd ("yr Asiantaeth") ar gyfer y cyrchnod newydd yn cael ei anodi i ddangos pa rai oedd y llwythi na chawsant eu derbyn.

Mae rheoliad 8 yn mewnosod rheoliad 10A newydd. Mae rheoliad 10A yn darparu bod rhaid paratoi nodyn traddodi newydd os yw llwyth yn cael ei wrthod gan y traddodai ac yn cael ei ailgyfeirio at safle heblaw'r un y cafodd ei gasglu ohono neu lle'r oedd wedi'i gynhyrchu ac yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer y nodyn traddodi newydd. Mae'n caniatáu hefyd i gludwr lofnodi Rhan D o'r nodyn traddodi os oes ganddo ganiatâd ysgrifenedig gan y traddodwr.

Mae rheoliad 9(a) yn diwygio rheoliad 14(1) o'r Prif Reoliadau fel bod ffioedd yn cael eu pennu gan yr Asiantaeth mewn cynllun codi tâl o dan adran 41 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, yn hytrach na chan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae rheoliad 9(b) yn diwygio rheoliad 14(2)(a) drwy ddileu'r amod cyntaf ar gyfer esemptio ail gylchdaith cludwr neu gylchdaith ddilynol mewn cyfres o gylchdeithiau rhag taliad o ffi ar gyfer neilltuo cod (sef mai'r cludwr yw'r traddodai hefyd mewn perthynas â phob traddodi ym mhob un o'r cylchdeithiau). Mae rheoliad 9(c) yn diwygio'r amodau yn rheoliad 14(2)(a)(iii) o'r Prif Reoliadau drwy ei gwneud yn glir bod cyfanswm y terfyn pwysau o 400kg yn gymwys i bob cylchdaith yn y gyfres.

Mae rheoliad 10 yn gwneud mân ddiwygiadau i'r ffurf ragnodedig ar nodyn traddodi yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 11 yn rhoi ffurf ragnodedig newydd o atodlen cludwr yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau. Cod post cyfeiriad y tarddle, yr amser y llofnododd y cludwr, a disgrifiad o'r gwastraff sy'n cael ei symud yw'r wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen.


Notes:

[1] 1990 p.43; diwygiwyd adran 62 gan baragraff 80 o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gall yr Ysgrifennydd Gwladol arfer y pwerau hyn a'r rhai sy'n dod o dan Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 ("Deddf 1974") mewn perthynas â Lloegr yn unig; gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a'r cofnodion sy'n ymwneud â Deddf 1974 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd yn Atodlen 1 iddo ac adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46).back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1996/972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2019 a 1997/251.back

[4] Diwygiwyd y diffiniad o "approved supply list" gan baragraff 2 i'r Atodlen i O.S. 1996/2019.back

[5] 1995 p.25.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090357 9


  Prepared 7 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013545w.html