BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013546w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3546 (Cy.290)

BWYD, CYMRU

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

  Wedi'u gwneud 31 Hydref 2001 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001.

Diddymu Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001
    
2. Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 drwy hyn wedi'i ddiddymu[3].

Diwygio Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997
     3.  - (1) I'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, caiff Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997[4]) ei ddiwygio yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) o erthygl 2 (dehongli) - 

    (3) Mewnosodir y paragraff canlynol ar ddiwedd erthygl 2 - 

    (4) Ym mharagraff (1) o erthygl 3 (deunydd defaid a geifr penodedig), mewnosodir yr ymadrodd "(subject to paragraph (2) below)" cyn yr ymadrodd "specified sheep or goat material".

    (5) Mewnosodir y paragraffau canlynol ar ddiwedd erthygl 3 - 

    (6) Mae'r paragraff canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (1) o erthygl 4 (deunydd buchol penodedig) - 

    (7) Mae'r paragraff canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (2) o erthygl 4 - 

    (8) Ychwanegir y paragraffau canlynol ar ddiwedd erthygl 4 - 

    (9) Yn erthygl 6 - 

    (10) Yn Atodlen 2 (ffurf tystysgrif fewnforio) yn lle'r datganiad rhoddir y datganiad canlynol - 

Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997
     4.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997[5] yn cael eu diwygio yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliad hwn - 

    (2) Ym mharagraffau (1) a (4) o reoliad 6 (Cymeradwyaethau ac awdurdodiadau) mae'r geiriau "the National Assembly for Wales" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "the Minister".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Hydref 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu'r rhan honno o Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 (OS 2001/2732, Cy.231), a oedd yn honni gwneud diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964), ond a oedd yn cynnwys gwallau drafftio. Yr oedd y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) gan Reoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2001 wedi'u gwneud yn ddilys ac nid ydynt yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Orchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2964, fel y'i diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Mae Gorchymyn Deunydd Risg Penodedig 1997 ("y prif Orchymyn") yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

    
3. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i'r prif Orchymyn yn adlewyrchu darpariaethau Atodiad (XI) i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1). Gosododd yr Atodiad hwnnw fesurau trosiannol mewn perthynas â thynnu deunydd risg penodedig ac fe'i mewnosodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 (OJ Rhif L177, 30.6.2001, t.60).

    
4. Yn erthygl 2 o'r prif Orchymyn, mae diffiniad o "vertebral column" yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd paragraff 1 a pharagraff 5 newydd yn cael ei ychwanegu (rheoliad 3(2) a (3)).

    
5. Mae erthygl 3 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio "specified sheep and goat material") yn cael ei diwygio i hepgor o'r diffiniad ddeunydd sy'n deillio o ddefaid a geifr a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd (rheoliad 3(4) a (5)).

    
6. Mae erthygl 4 o'r prif Orchymyn (sy'n diffinio "specified bovine material") yn cael ei ddiwygio'n sylweddol fel bod, yn benodol, deunydd sy'n deillio o anifeiliaid buchol a anwyd, a fagwyd yn barhaus ac a gigyddwyd mewn rhai trydydd gwledydd bellach y tu allan i gwmpas y diffiniad (rheoliad 3(6) i (8));

    
7. Mae erthygl 6 o'r prif Orchymyn (sy'n rheoli mewnforio deunydd risg penodedig) yn cael ei diwygio i osod gofynion newydd ynghylch mewnforio carcasau anifeiliaid buchol sy'n cynnwys esgyrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig, ac mae ffurf newydd ar dystysgrif fewnforio yn cael ei rhoi yn lle'r hen un yn Atodlen 2 (rheoliad 3(9) a (10)).

Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997
    
8. Mae mân ddiwygiadau yn cael eu gwneud i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (OS 1997/2965, fel y'u diwygiwyd eisoes) i newid cyfeiriadau anghywir at "the Minister" i "the National Assembly for Wales".

    
9. Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] OS 1999/2788.back

[2] 1972 (p.68).back

[3] OS 2001/2732 (Cy. 231).back

[4] OS 1997/2964, a ddiwygiwyd gan OS 2000/2811 ac OS 2000/3387 (Cy.224).back

[5] OS 1997/2965, fel y'i diwygiwyd gan OS 1997/3062, OS 1998/2405 (a ddiwygiwyd ei hun gan OS 1997/2431), OS 1999/539, OS 2000/656, OS 2000/2659 (Cy.172), OS 2000/3387 (Cy.224) ac OS 2000/1973.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090388 9


  Prepared 21 December 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013546w.html