BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013664w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3664 (Cy. 296 )

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 29 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau o dan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964[1] sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno, â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod o bwys iddynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd 1993
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd 1993[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

    (2) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd 1993.

Rheoliad 3 (Dehongli)
     3.  - (1) Ym mharagraff (1) o reoliad 3  - 

    (2) Yn rheoliad 3(3)  - 

    (3) Ar ôl paragraff (3) o reoliad 3 mewnosodwch  - 

    (4) Ar ôl paragraff (5) o reoliad 3 ychwanegwch y paragraffau canlynol - 

Rheoliad 4 (Hadau y mae Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd 1993 yn gymwys iddynt)
     4. Yn rheoliad 4  - 

Rheoliad 5 (Marchnata hadau)
    
5. Yn rheoliad 5  - 

Rheoliad 9 (Labelu pecynnau)
     6. Yn rheoliad 9  - 

Rheoliad 9A (labelu pecynnau  -  cadarnhad y bridiwr)
    
7. Yn rheoliad 9A(4)(b), yn lle "Part V" rhodder "Part VI".

Atodlen 4 (Gofynion ar gyfer hadau sylfaenol, hadau a ardystiwyd a hadau'r genhedlaeth gyntaf a'r ail genhedlaeth a ardystiwyd)
    
8.  - (1) Diwygir Atodlen 4 yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Yn Rhan I (amodau yngln â chnydau y ceir hadau ohonynt)  - 

    (3) Yn Rhan II (amodau yngln â'r hadau)  - 

"
Germination (% by number) All categories 85 85"


"
Germination (% by number) All categories (except triticale) 85 85
     triticale. 80  - "

Atodlen 6 (Gofynion labelu)
    
9. Yn Atodlen 6  - 





Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Grawnfwydydd 1993, O.S. 1993/2005, (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1482, 1997/616 a 1999/1860) ("Rheoliadau 1993"). Deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn peri bod Cyfarwyddebau canlynol y Cyngor, a ddiwygiodd gyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau o rywogaethau planhigion amaethyddol, yn effeithiol yng Nghymru: - 

Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2309/66) (OJ/SE 1965 - 66, t.143) ar farchnata hadau grawnfwydydd.

Mae'r Rheoliadau diwygio hyn  - 

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn peri bod Cyfarwyddeb y Comisiwn 99/8/EC (OJ Rhif L50, 26.2.99, t.26) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 99/54/EC (OJ Rhif L142, 5.6.99, t.30) sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2309/66) (OJ/SE 1965 - 66, t.143) ar farchnata hadau grawnfwydydd, yn effeithiol yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 i ganiatáu marchnata hadau croesrywiau hunan-beilliol o amrywiadau triticêl fel Hadau Sylfaenol a Hadau a Ardystiwyd (rheoliadau 3 a 4(2)). Maent hefyd yn sefydlu'r amodau sydd i'w bodloni gan y cnydau y ceir yr hadau ohonynt a chan yr hadau eu hunain yn achos y croesryw hwn a chroesrywiau ceirch, barlys, gwenith, gwenith durum a gwenith yr Almaen (rheoliadau 8(2) a (3)).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 1993 i leihau isafswm y gofyniad egino ar gyfer triticêl o 85 y cant i 80 y cant ac i gyflwyno safonau purdeb ar gyfer samplau Hadau a Ardystiwyd (yn ôl Isafswm y Safon) (rheoliad 8(3)).

Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1993 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ac i'r Alban (gan O.S. 1999/2196 a 2000/1793 ac O.S.A. 2000/248 yn y drefn honno).

Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru yngln â'r canlynol: - 

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hynny, cysylltwch â'r Is-adran Cefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi.back

[2] Gweler adran 38(1) i gael diffiniad o "the Minister". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol . Cafodd y swyddogaethau a enwyd yr Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cafwyd diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[3] O.S. 1993/2005, y cafwyd diwygiadau perthnasol iddo gan O.S. 1995/1482, O.S. 1997/616 ac O.S. 1999/1860.back

[4] OJ Rhif L117, 8.5.90, t.15; fel yr effeithiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L106, 17.04.2001, t.1) a fydd yn diddymu 90/220/EEC ar 17 Hydref 2002.back

[5] OJ Rhif L296, 9.2.95, t.34.back

[6] OJ Rhif L225, 12.10.1970, t.1.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090368 4


  Prepared 28 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013664w.html