BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwylgio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013666w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3666 (Cy. 298 )

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwylgio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 29 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau o dan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964[1] sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswlt hwnnw, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno, â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod o bwys iddynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd 1991
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd 1991[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

    (2) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliadau Tatws Hadyd 1991.

Rheoliad 2 (Dehongli)
     3.  - (1) Ym mharagraff (1) o reoliad 2  - 

rhowch  - 

    (2) Ar ddiwedd rheoliad 2 ychwanegwch  - 

Rheoliad 5 (tatws nad yw'r Rheoliadau'n gymwys iddynt)
     4. Hepgorwch reoliad 5.

Rheoliad 6 (marchnata tatws hadyd)
    
5. Yn rheoliad 6, yn lle paragraffau (2) a (3) rhowch  - 

Rheoliad 7 (Dosbarthu tatws hadyd)
     6. Yn rheoliad 7(2), ar y dechrau, mewnosodwch "Pre-basic seed potatoes and".

Rheoliad 8 (Archwilio tatws hadyd yn swyddogol)
    
7. Yn rheoliad 8, yn lle "basic or certified seed potatoes" rhowch "pre-basic, basic or certified seed potatoes".

Rheoliad 9 (Tatws hadyd sylfaenol ac ardystiedig: eu hadnabod a'u pacio)
    
8. Yn rheoliad 9 yn lle  - 

rhowch  - 

Tatws hadyd a addaswyd yn enetig
    
9. Ar ôl rheoliad 10 (pecynnau a chynwysyddio ar gyfer tatws hadyd) mewnosodwch  - 

Tatws hadyd sylfaenol ac ardystiedig o drydydd gwledydd: gwybodaeth
    
10. Ar ôl rheoliad 12 mewnosodwch  - 

Atodlen 1 (dosbarthu tatws hadyd)
    
11. Yn Atodlen 1 (dosbarthu tatws hadyd)



Atodlen 3 (dosbarthu tatws hadyd sylfaenol)
    
12. Yn Atodlen 3, paragraff 2  - 

Atodlen 4 (label swyddogol etc)
    
13. Yn Atodlen 4  - 



Atodlen 5 (clefydau neu blâu penodedig etc)
    
14. Yn Atodlen 5, Rhan I, Rhan II a Rhan III yn lle "Brown Rot (Pseudomonas solanacearum (E. F. Smith) Jensen)" (ym mob lle) rhowch "Brown Rot (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.)".

Atodlen 6 (y manylion sydd i'w pennu mewn nodyn gwerthu etc)
    
15. Yn lle Atodlen 6, rhowch  - 



Diwygiadau amrywiol
    
16.  - (1) Yn y darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn lle "basic seed potatoes or certified seed potatoes" (ble bynnag y'u gwelir) rhowch "pre-basic seed potatoes, basic seed potatoes or certified seed potatoes".

    (2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt  - 

    (3) Ym mhennawd pob un o reoliadau 11, 12, 14 a 15 yn lle "Basic and Certified seed potatoes", rhowch "Pre-basic, basic and certified seed potatoes".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd 1991, O.S. 1991/2206 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/1031, 1993/1878, 1994/2592 a 1997/1474) (Rheoliadau 1991). Deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1991 yn peri bod Cyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.1) yn effeithiol yng Nghymru gan ddiwygio, mewn perthynas â chyfuno'r farchnad fewnol, adnoddau planhigion a addaswyd yn enetig ac adnoddau genetig planhigion, cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau rhywogaethau planhigion amaethyddol.

Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 66/403/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2320) (OJ/SE 1965 - 66, t.154) ar farchnata tatws hadyd. Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.27) hefyd yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 66/403/EEC ond nid yw'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol diwygio Rheoliadau 1991.

Mae'r Rheoliadau hyn  - 

Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1991 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr (gweler O.S. 2000/1788). Yn yr Alban, mae Rheoliadau newydd sy'n disodli Rheoliadau 1991 mewn perthynas â'r Alban wedi'u gwneud (gweler O.S.A. 2000/201).


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi.back

[2] Gweler adran 38(1) i gael diffiniad o "the Minister". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd swyddogaethau a enwyd yr Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cafwyd diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[3] O.S. 1991/2206, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/1031, 1993/1878, 1994/2592, 1997/1474.back

[4] OJ Rhif L117, 8.5.90, t.15; fel yr effeithiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L106, 17.04.2001, t.1) a fydd yn diddymu 90/220/EEC ar 17 Hydref, 2002back

[5] OJ Rhif L296, 8.12.95, t.34.back

[6] OJ Rhif L225, 12.10.1970, t.1 (Atodiad Argraffiad Arbennig Saesneg Cyfres 1 (66 - 70) t.36); fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L25, 1.2.1999, t.27).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090370 6


  Prepared 29 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013666w.html