BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013669w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3669 (Cy.300)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 29 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau o dan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964[1] sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno, â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod o bwys iddynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

    (2) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993.

Rheoliad 3 (Dehongli)
     3.  - (1) Ym mharagraff (1) o reoliad 3  - 

    (2) Ar ôl paragraff (3) o reoliad 3 mewnosodwch  - 

    (3) Ar ôl paragraff (5) o reoliad 3, ychwanegwch  - 

Rheoliad 4 (Hadau y mae Rheoliadau Planhigion Olew a Ffibr 1993 yn gymwys iddynt)
     4. Yn rheoliad 4  - 

Rheoliad 5 (Marchnata hadau)
    
5. Yn rheoliad 5  - 

Rheoliad 9 (Labelu pecynnau)
     6. Yn rheoliad 9  - 

Rheoliad 9A (Labelu pecynnau  -  cadarnhad y bridiwr)
    
7. Yn rheoliad 9A(4)(b) yn lle "Part IV" rhowch "Part V".

Atodlen 6 (Gofynion labelu)
    
8. Yn Atodlen 6  - 





Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993, O.S. 1993/2007, (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1423, 1996/1451,1997/616 a 1999/1862) (Rheoliadau 1993). Maent yn dod i rym ar 29 Tachwedd 2001 ac yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn peri bod Cyfarwyddebau canlynol y Cyngor, a ddiwygiodd gyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a'r catalog cyffredin o amrywiadau o rywogaethau planhigion amaethyddol, yn effeithiol yng Nghymru : - 

Mae'r cyfarwyddebau mewn perthynas â marchnata hadau a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/95/EC a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC yn cynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 69/208/EEC (OJ Rhif L169, 10.7.69, t.3) ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr.

Mae'r Rheoliadau hyn  - 

Mae Rheoliadau tebyg wedi'u gwneud er mwyn diwygio Rheoliadau 1993 i'r graddau y maent yn gymwys i Loegr ac i'r Alban gan O.S. 2000/1789 ac O.S.A. 2000/249 yn y drefn honno. Mae Rheolau diwygio tebyg wedi cael eu gwneud gan yr awdurdod priodol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru ynglyn â'r canlynol:

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau hynny, cysylltwch â'r Is-adran Cefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi.back

[2] Gweler adran 38(1) i gael diffiniad o "the Minister". O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiadau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd y swyddogaethau a enwyd eu trosglwyddo oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cafwyd diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[3] O.S. 1993/2007, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1423, 1996/1451, 1997/616 ac O.S. 1999/1862.back

[4] OJRhif L117, 8.5.90, t.15; fel yr effeithiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L 106, 17.04.2001, t.1) a fydd yn diddymu 90/220/EEC ar 17 Hydref, 2002.back

[5] OJ Rhif L296, 9.12.95, t.34.back

[6] OJ Rhif L225, 12.10.1970, t.1; fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/96/EC (OJ Rhif L 25, 1.2.1999, t.27).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090372 2


  Prepared 29 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013669w.html