![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] [DONATE] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013709w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 15 Tachwedd 2001 | ||
Yn dod i rym | 7 Rhagfyr 2001 |
(2) Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad -
Talu'r grantiau a symiau'r grantiau
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 7 Rhagfyr 2001 ond cyn 17 Ebrill 2003 ac -
(ii) unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei roi mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;
(b) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur gyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf;
(c) sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn; ac
(ch) nad yw'n fwy na chyfanswm o £85,000.
(2) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol bod gwariant yr hawlir grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) wedi'i dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.
Cyfyngiadau ar roi grantiau
4.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 -
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 oni bai ei fod wedi'i fodloni y bydd y gwariant y rhoddir y grant tuag ato yn arwain at rywfaint o leiaf o fantais amgylcheddol i'r parth perygl nitradau o dan sylw.
Hawliadau Grant
5.
- (1) Rhaid i unrhyw hawl am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu pennu, a rhaid i'r hawliwr o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch yr hawliad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, yr holl ddogfennau a chofnodion perthnasol.
(2) Yn is-baragraff (1), mae'r cyfeiriad at ddogfennau a chofnodion perthnasol yn cynnwys cyfeiriad at gopïau ardystiedig ohonynt.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod yn ysgrifenedig i hawliwr a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.
Dal grantiau yn ôl
6.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddal y cyfan neu unrhyw ran o grant sydd fel arall yn daladwy o dan y Cynllun hwn yn ôl neu eu hadennill os yw o'r farn -
(2) Cyn gweithredu o dan is-baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
Diddymu a darpariaethau trosiannol
7.
Mae Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996[4] drwy hyn wedi'i ddiddymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2001
[2] OS 1996/888 addiwygiwyd gan OS 1997/2971 a 1998/1202.back
[3] OS 1991/324 a ddiwygiwyd gan OS 1997/547.back
Prepared
27 December 2001