BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013731w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3731 (Cy.308)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 20 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 66(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru [2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990[3] ("Rheoliadau 1990") fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 1 (dehongli)  - 

    (3) Yn rheoliad 2 (buddsoddiadau wedi'u cymeradwyo)  - 

Darpariaeth arbed
     3. Bydd unrhyw fuddsoddiad a wnaed gan awdurdod lleol ar neu cyn 30 Tachwedd 2001 a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn fuddsoddiad wedi'i gymeradwyo at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cyfrifon refeniw a chyllid cyfalaf yr awdurdodau lleol) yn rhinwedd rheoliad 2 o Reoliadau 1990 yn parhau yn fuddsoddiad wedi'i gymeradwyo at ddibenion Rhan IV er gwaethaf y diwygiadau i Reoliadau 1990 a wneir gan y Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990 yn cynnwys rhestr o fuddsoddiadau sydd wedi'u cymeradwyo at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (sy'n gosod rheolau ar gyfrifon refeniw a chyllid cyfalaf yr awdurdodau lleol).

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau 1990 ar ôl i Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 ddod i rym. Darpariaeth arbed yw rheoliad 4, a'i effaith yw bod buddsoddiadau a oedd yn fuddsoddiadau wedi'u cymeradwyo ar 30 Tachwedd 2001 yn parhau yn fuddsoddiadau wedi'u cymeradwyo at ddibenion Rhan IV.


Notes:

[1] 1989 p.42.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1990/426; cafodd diwygiad perthnasol ei wneud gan O.S. 1995/1982.back

[4] Mewnsodwyd diffiniad "deposit-taker" yn adran 43 gan Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) 2001 (O.S. 2001/3649).back

[5] O.S. 2001/544.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090373 0


  Prepared 29 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013731w.html