BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013762w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3762 (Cy.311)

AER GLÂN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001

  Wedi'i gwneud 20 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 17 Rhafyr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993
    
2. Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm anweddolrwydd isel a'r tanwyddau a ddisgrifir yn Atodlen 1 yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993.

Diddymu ac eithrio
    
3.  - (1) Mae'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u diddymu.

    (2) Bydd unrhyw danwydd a weithgynhyrchwyd cyn 17 Rhagfyr 2001 a oedd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn danwydd awdurdodedig yn parhau yn danwydd awdurdodedig er bod y Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u diddymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2001



ATODLEN 1
Rheoliad 2


TANWYDDAU AWDURDODEDIG


     1 Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham - 

     2 Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire - 

     3 Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire - 

     4 Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire - 

     5 Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon - 

     6 Bryant and May Firelogs a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria - 

     7 Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczon aowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl - 

     8 Coalite a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, yn ymyl Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses carboneiddio tymheredd isel.

     9 Golosg a weithgynhyrchir gan - 

     10 Cosycoke (sy'n cael ei farchnata hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus) a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, sydd ym mhob achos - 

     11 Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon - 

     12 Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft mbH yn Hückelhoven, Yr Almaen - 

     13 Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Defumage yn Rouen, Ffrainc - 

     14 Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham - 

     15 Homefire ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire - 

     16 Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire - 

     17 Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America - 

     18 Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham - 

     19 Long Beach Lump nuts (sydd fel arall yn cael eu hadnabod fel LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America - 

     20 Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf - 

     21 Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf - 

     22 Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire - 

     23 Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire - 

     24 Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire - 

     25 Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H.J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham - 

     26 Supacite briquettes, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf - 

     27 Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham - 

     28 Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham - 

     29 Brics glo Taybrite (sydd fel arall yn cael eu hadnabod fel brics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire - 

     30 Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham - 



ATODLEN 2
Rheoliad 3(1)


DIDDYMIADAU


Y Rheoliadau sydd wedi'i diddymu: - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Pan fydd mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai - 

mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu yn ôl fel y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r holl Reoliadau blaenorol ar danwyddau awdurdodedig ac yn pennu'r holl danwyddau sy'n danwyddau awdurdodedig ar hyn o bryd at ddibenion Deddf 1993. Mae'r tanwyddau a bennir wedi'u hawdurdodi i gael eu defnyddio yng Nghymru. Er bod y rhan fwyaf o'r tanwyddau yn y rheoliadau hyn wedi bod yn danwyddau awdurdodedig o'r blaen, mae disgrifiad llawer ohonynt wedi'i ddiwygio i adlewyrchu newidiadau wrth eu gweithgynhyrchu neu yn y lle gweithgynhyrchu. Mae nifer o danwyddau awdurdodedig blaenorol na chredir eu bod yn cael eu gweithgynhyrchu neu eu marchnata yn y Deyrnas Unedig wedi'u tynnu oddi ar y rhestr o danwyddau awdurdodedig.

Mae Bord na Móna Firelogs, Bryant and May Firelogs, a brics glo Charglow wedi'u hawdurdodi i gael eu defnyddio am y tro cyntaf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi ac yn disodli Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) 1991 (O.S 1991/1282), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1992 (O.S 1992/72), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Rhif 2) 1992 (O.S 1992/3148), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1993 (O.S 1993/2499), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1996 (O.S 1996/1145), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1997 (O.S 1997/2658), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1998 (O.S 1998/2154), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio Rhif 2) 1998 (O.S 1998/3096) a Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S 2000/3156 (Cy. 2000/205 )).

Gall tanwydd a weithgynhyrchwyd cyn 17 Rhagfyr 2001 ac a awdurdodwyd gan y Rheoliadau a ddiddymir gan y Rheoliadau hyn gael ei ddefnyddio er gwaethaf y diddymu.


Notes:

[1] 1993 p.11back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1998 p. 38back



English version



ISBN 0 11090406 0


  Prepared 23 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013762w.html