BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013806w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3806 (Cy.314)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 28 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd- destun yn mynnu fel arall  - 

    (2) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir mewn ysgrifen neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebiad electronig sydd wedi'i gofnodi ac a all gael ei atgynhyrchu o ganlyniad i hynny.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud.

Grant Menter Ffermydd
     3.  - (1) Gall y Cynulliad Cenedlaethol, pan fydd wedi'i fodloni bod gweithrediad yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol, dalu grant, o'r enw Grant Menter Ffermydd, i fusnes fferm cymwys, tuag at wariant a gymeradwywyd sy'n cael ei dynnu gan y busnes hwnnw mewn cysylltiad â'r gweithrediad.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ac i reoliad 6 a rheoliad 7, ni fydd swm y grant a delir o dan baragraff (1) yn fwy na 35% o'r gwariant a gymeradwywyd.

    (3) £525 fydd isafswm y grant sy'n daladwy o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw gais am gymorth ariannol.

Grant Gwella Ffermydd
    
4.  - (1) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod gweithrediad yn cydymffurfio â gofynion y deddfwriaeth Gymunedol, gall dalu grant, o'r enw Grant Gwella Ffermydd, i fusnes fferm cymwys, tuag at wariant a gymeradwywyd sy'n cael ei dynnu gan y busnes hwnnw mewn cysylltiad â'r gweithrediad.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ac i reoliad 6 a rheoliad 7, ni fydd swm y grant a delir o dan baragraff (1) yn fwy na 30% o'r gwariant a gymeradwywyd.

    (3) £450 fydd isafswm y grant a delir o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw gais am gymorth ariannol.

Grant Ychwanegol
    
5.  - (1) Pan fo busnes ffermio cymwys hefyd yn fusnes perthnasol gall y Cynulliad Cenedlaethol gynyddu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 3 neu reoliad 4 gan swm sy'n cyfateb i 10 y cant o'r gwariant a gymeradwywyd.

    (2) Pan fo grp.

Terfynau Grant
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), bydd talu'r Grant Gwella Ffermydd o dan reoliad 4 yn cael ei gyfyngu i swm o £16,000 i bob busnes fferm cymwys fesul pob cylch grant.

    (2) Pan fo busnes fferm cymwys yn gymwys i dderbyn grant ychwanegol o dan reoliad 5, £20,000 i bob busnes fferm cymwys fesul pob cylch grant fydd terfyn y grant a bennir ym mharagraff (1).

    (3) Caiff cyfanswm cronnol y grant sy'n daladwy o dan reoliad 3 a 4 ei gyfyngu i swm o £75,000 i bob busnes fferm fesul pob cylch grant.

Gostwng Grantiau
    
7. Os oes unrhyw grant arall yn daladwy o gronfeydd cyhoeddus mewn cysylltiad â'r gwariant a gymeradwywyd, swm y grant a delir fydd swm a fyddai, ar ôl ei ychwanegu i'r grant arall hwnnw, yn arwain at y gwerthoedd canlynol,

Cymeradwyo gwariant
    
8.  - (1) Rhaid i gais am gymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad gael ei wneud ar y ffurf ac ar yr adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

    (2) Rhaid i gais gynnwys unrhyw wybodaeth arall y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cymeradwyo gwariant mewn cysylltiad â gweithrediad, neu ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ond, beth bynnag fo'r achos, ni chaiff ei gymeradwyo oni bai ei fod wedi'i fodloni ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth Cymunedol yn unol â'r rhan berthnasol o'r CDGC a/neu'r DRS.

    (4) Gall cymeradwyaeth gael ei roi o dan unrhyw amodau y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol armywio unrhyw gymeradwyaeth o'r fath drwy amrywio unrhyw amod y mae'n ddarostyngedig iddo, neu drwy osod amodau.

    (6) Cyn amrywio cymeradwyaeth o dan baragraff (5), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (7) Rhaid i gymeradwyaeth neu amrywiad o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen.

Hawliadau
    
9. Rhaid i hawliad am gymorth ariannol gael ei wneud ar adeg ac ar ffurf a chael ei anfon ynghyd a'r wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

Talu
    
10.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant mewn perthynas â gwariant a gymeradwywyd mewn cysylltiad â gweithrediad mewn un cyfandaliad neu mewn rhandaliadau.

    (2) Gall taliadau gael eu gwneud - 

Gwybodaeth
    
11.  - (1) Rhaid i fuddiolwr roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unryw wybodaeth am unrhyw wariant a gymeradwywyd ac unrhyw weithrediad y mae gwariant o'r fath yn cael ei dynnu mewn cysylltiad ag ef ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani.

    (2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth o'r fath, rhaid i'r buddiolwr ei rhoi o fewn unrhyw gyfnod y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn rhesymol arno.

Cadw cofnodion
    
12.  - (1) Rhaid i fuddiolwr gadw unrhyw anfoneb, cyfrif neu ddogfen arall sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd neu unrhyw weithrediad yr eir i wariant mewn perthynas â hwy am y cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan wneir taliad olaf y gefnogaeth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo mewn cysylltiad â'r gwariant neu'r gweithrediad hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3).

    (2) Os yw'r gwreiddiol o unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei throsglwyddo gan fuddiolwr i berson arall fel rhan o'i waith beunyddiol, rhaid i'r buddiolwr gadw copi o'r ddogfen honno ar gyfer y cyfnod hwnnw.

    (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r ddogfen wedi cael ei symud oddi yno gan unrhyw berson a awdurdowyd yn gyfreithlon i wneud hynny.

Pwerau personau awdurdodedig
    
13.  - (1) Gall person awdurdodedig ar bob adeg rhesymol, os bydd yn cyflwyno dogfen wedi'i dilysu yn briodol, os bydd galw am hynny, yn dangos ei awdurdod, fynd ar dir, heblaw am dir a ddefnyddir yn unig at ddiben t annedd:

ar gyfer unrhyw un o'r dibenion a grybwyllwyd ym mharagraff (2).

    (2) Y dibenion hynny yw  - 

    (3) Gall person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir o dan baragraff (1)  - 

    (4) Rhaid i fuddiolwyr neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr roi i berson awdurdodedig bob cymorth rhesymol mewn perthynas ag arfer ei bwerau o dan baragraffau (1) a (3).

    (5) Caiff person awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw dir o dan baragraff (1) fynd yng nghwmni  - 

a bydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw bersonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) wrth weithredu o dan gyfarwyddiadau person awdurdodedig, fel pe bai'n berson awdurdodedig.

Torri ymrwymiadau
    
14.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2),

    (2) At ddibenion paragraff (1) (ch), mae swm yn dyblygu cymorth o'r fath os câi ei dalu ar gyfer unrhyw un o'r un dibenion.

    (3) Os bydd  - 

caiff y buddiolwr ei ryddhau o'i ymrwymiad, heblaw mewn perthynas ag unrhyw doriad neu fater arall sy'n digwydd cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol dderbyn ymgymeriad y trosglwyddai.

Achosion eraill lle mae pwerau adennill ayb. yn gymwys
    
15. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer y pwerau a bennir ym mharagraffau (1)(a) a (b) o reoliad 16  - 

Pwerau'r Cynulliad i adennill ayb.
    
16.  - (1) Y pwerau a roddir gan reoliadau 14(1) a 15 yw  - 

    (2) Pan fydd yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 14(1) wedi eu bwriadu gan y buddiolwr, neu'n codi oherwydd iddo fod yn ddi-hid, caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd fynnu bod y buddiolwr yn talu iddo swm ychwanegol sy'n cyfateb i ddim mwy na 10% o'r symiau a dalwyd neu sy'n daladwy iddo neu iddi.

    (3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), caiff hefyd atal neu derfynu unrhyw gymorth ariannol a/neu unrhyw ymrwymiad a wnaed gan fuddiolwr, ac o wneud hynny bydd unrhyw hawl sydd gan y buddiolwr i gael taliad mewn perthynas â'r cyfnod o'r ymrwymiad sydd heb ddod i ben hefyd yn cael ei hatal neu ei therfynu yn ôl fel y digwydd.

    (4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn terfynu ymrwymiad o dan baragraff (3), caiff hefyd wahardd y buddiolwr rhag gwneud unrhyw ymrwymiad newydd am unrhyw gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) o'r dyddiad terfynu y mae'n ei bennu.

    (5) Bydd y pwerau a roddir i'r Cynulliad gan baragraffau (2), (3) a (4) yn arferadwy drwy gyfrwng hysbysiad a gyflwynir i'r buddiolwr drwy'r post yn ei gyfeiriad hysbys diwethaf, ac ym mharagraff (4) ystyr "ei bennu" yw ei bennu mewn hysbysiad o'r fath.

    (6) Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), (2), (3) neu (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol  - 

Adennill Llog
    
17.  - (1) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfer y per a roddir gan reoliad 16(1)(b), fe gaiff hefyd adennill llog ar y swm sydd i'w adennill, ar gais, ac un y cant uwchben LIBOR fesul dydd fydd y gyfradd llog.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "LIBOR" yw'r gyfradd sterling sy'n cael ei gynnig rhwng banciau Llundain am dri mis sydd mewn grym rhwng y dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y taliad sydd i'w adennill a'r dyddiad y mae'n ei adennill.

    (3) Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan y LIBOR a oedd yn gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r gyfradd a oedd yn gymwys yn ystod y cyfnod penodedig os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi rhoi gwybod am y gyfradd honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol i fod yn adenilladwy fel dyled
    
18. Mewn unrhyw achos lle mae swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd cam a gymerir odanynt), bydd y swm sydd i'w dalu felly yn adenilladwy fel dyled.

Tramgwyddo a chosbi
    
19.  - (1) Mae person yn euog o dramgwydd os yw  - 

    (2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1)(a) yn agored  - 

    (3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1)(b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

    (4) Rhaid peidio â dechrau erlyniad yngln â thramgwydd o dan baragraff (1) a all gael ei brofi, yn rhinwedd paragraff 2(a), yn ddiannod, ar ôl i dair blynedd ddod i ben o gyflawni'r tramgwydd neu un flwyddyn o'r dyddiad y cafodd yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos, pa bynnag un sydd gyntaf.

    (5) Os yw paragraff (4) yn gymwys  - 

    (6) Pan brofir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff hwnnw, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, mae'r person hwnnw hefyd yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (7) Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (6) yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Tachwedd 2001



YR ATODLEN
Rheoliad 2(1)


YSTYR "Y DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL"


     1. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80).

     2. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 dyddiedig 23 Gorffennaf 1999 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) (OJ Rhif L214, 13.8.99, t.31) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2000 dyddiedig 29 Medi 2000 (OJ Rhif L246, 30.9.2000, t.46)).

     3. Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2932 dyddiedig 11 Hydref 2000 yn cymeradwyo dogfen rhaglen datblygu gwledig ar gyfer Cymru (DU) ar gyfer cyfnod rhaglennu 2000  -  06.

     4. Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer Cymorth Strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1, ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn y Deyrnas Unedig.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol sy'n cael ei rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau ("y ddeddfwriaeth Gymunedol"). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop ("cymorth Cymunedol") tuag at fuddsoddi at ddibenion gwella daliadau amaethyddol. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu o fewn cwmpas y darpariaethau hyn er mwyn caniatáu talu grant tuag at wariant sy'n cael ei dynnu mewn cysylltiad â gweithrediadau sy'n cynnwys gwelliannau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth, fel rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru ("y CDGC") a'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ("y DRS"), i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") dalu grantiau mewn perthynas ag unrhyw wariant y mae wedi'i gymeradwyo.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu dau fath o grant: Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd. O dan y naill 35% o'r gwariant a gymeradwywyd fydd uchafswm y grant fydd ar gael (yn ddarostyngedig i isafswm hawliad o £525) ac o dan y llall 30% o'r gwariant a gymeradwywyd (yn ddarostyngedig i isafswm hawliad o £450). Gellir cynyddu'r uchafswm cyfraddau hyn 10% mewn perthynas â cheisiadau a gyflwynir gan ffermwyr ifanc, neu sy'n ymwneud â hwy (rhwng 18 a 39 oed yn gynwysedig) (rheoliadau 3,4 a 5).

Mae talu'r Grant Gwella Ffermydd yn ddarostyngedig i uchafswm o £16,000 fesul pob cyfnod o 24 mis (£20,000 mewn perthynas â cheisiadau a gyflwynir gan ffermwyr ifanc, neu sy'n ymwneud â hwy). Yn ogystal, cyfanswm cronnol y swm a delir i bob ceisydd mewn perthynas â'r ddau fath o grant fydd £75,000 fesul pob cyfnod o 24 mis (rheoliad 6). Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu i grant gael ei ostwng o dan amgylchiadau penodol (rheoliad 7).

Gellir cymeradwyo gwariant os yw'n gymwys i gael cymorth o dan y ddeddfwriaeth Gymunedol a'i fod yn wariant sy'n dod o fewn y rhannau hynny o'r CDGC neu'r DRS sy'n ymwneud â gwella daliadau amaethyddol (rheoliad 8).

Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n gweithredu ac yn cydategu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L214, 13.8.99, t.31) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.99, t.80) ("Rheoliad y Comisiwn"). Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau, a thalu grantiau, yn sgil cymeradwyaeth (rheoliadau 9 a 10) ac ar gyfer darparu gwybodaeth, a chadw cofnodion, gan y rhai sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 11 a 12). Mae rheoliad 13 yn rhoi pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig penodol (gan gynnwys swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd).

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu Erthygl 48(2) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system o gosbau i'w gosod os caiff rhwymedigaeth ei thorri) drwy roi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol ddal taliadau'n ôl neu eu hadennill ac i gymryd camau penodol eraill, gan gynnwys terfynu'r ymrwymiad (a therfynu'r hawl i gael taliadau mewn perthynas ag ef), os caiff rhwymedigaeth sy'n codi o dan y Rheoliadau ei thorri gan rywun sy'n cael cymorth ariannol (rheoliadau 14, 15 ac 16).

Mae rheoliad 17 yn darparu per i godi llog ar symiau a gaiff eu hadennill ac mae rheoliad 18 yn darparu bod symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol yn adenilladwy fel dyledion.

Mae'r rheoliadau hefyd yn creu tramgwyddau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth ffug er mwyn sicrhau cymorth ac mewn perthynas â rhwystro personau awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau (rheoliad 19).

Mae copïau o Benderfyniadau'r Comisiwn y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 a 4 o'r Atodlen, y CDGC a'r DRS, ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] 2000 p.7.back

[4] OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.back

[5] OJ Rhif L246, 30.9.2000, t.46.back

[6] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.80.back

[7] 1998, p.38.back



English version



ISBN 0 11090378 1


  Prepared 11 December 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013806w.html