BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013907w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3907 (Cy.320)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001

  Wedi'i wneud 4 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 24(3) a 30(1) o Ddeddf Addysg 1997[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2001.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Rhoi swyddogaeth
     3.  - (1) Mewn perthynas â chymwysterau o'r fath a bennir ym mharagraff (2) isod, rhoir y swyddogaeth o fewn paragraff (gg) o adran 24(2) o Ddeddf 1997 i ACCAC.

    (2) Y cymwysterau hynny yw pob cymhwyster allanol ar wahân i Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.

    (3) Mae'r swyddogaeth a roddir gan yr erthygl hon yn cael ei rhoi i fod yn arferadwy gan ACCAC yn unig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru ("ACCAC") y swyddogaeth, sydd i'w harfer gan ACCAC yn unig, o wneud trefniadau ar gyfer datblygu, gosod a gweinyddu profion sydd i'w sefyll gyda golwg ar ennill pob cymhwyster allanol (ac eithrio Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol).


Notes:

[1] 1997 p.44. Mewnosodwyd paragraff newydd (gg) yn is-adran (2) o adran 24 o'r Ddeddf honno gan is-adran (2) o adran 103 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a diwygiwyd adran 30(2) o Ddeddf 1997 gan adran 103(3) o Ddeddf 2000 i gynnwys cyfeiriad at yr adran 24(2)(gg) newydd yn Neddf 1997.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 150 o Dddeddf Dysgu a Medrau 2000.back

[3] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090391 9


  Prepared 27 December 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013907w.html