BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013909w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3909 (Cy.321)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 4 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], gan roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â'r Ddeddf honno â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau canlynol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Ionawr 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995
    
2. Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliad 3.

     3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 95/45/EC", ychwanegir y geiriau "and Directive 2001/50/EC" ar y diwedd[4].

Diwygiadau canlyniadol
     4.  - (1) Caiff rheoliad 3 o Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000[5] ei hepgor.

    (2) Yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (3), caiff cyfeiriadau at Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, eu cymryd fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y maent wedi'u diwygio gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000 a chan y rheoliadau hyn.

    (3) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn cyfeirio atynt - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, sy'n gymwys i Brydain Fawr.

Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb 95/45/EC ynghylch purdeb penodol er mwyn ymdrin â'r diwygiad i'r Gyfarwyddeb honno a wnaed gan Gyfarwyddeb 2001/50/EC o ran y manylebau ar gyfer carotenau cymysg a beta-caroten.

Mae rheoliad 4 yn diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 yn Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981, Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984, Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996.

Nid oes arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i wneud mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1990 p.16; diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 17(1) gan baragraff 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 (p.28) a diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 ohoni.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1995/3124 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/1799 (Cy. 124)back

[4] Cyfeirnod Cyfarwyddeb 2001/50/EC yw OJ Rhif L 190, 12.7.2001, t.14.back

[5] O.S. 2000/1799 (Cy. 124)back

[6] O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124back

[7] O.S. 1984/1566; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.back

[8] O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.back

[9] O.S. 1995/3187; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[10] O.S. 1996/1499; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.; gweler hefyd O.S. 1999/1136back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090400 1


  Prepared 15 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013909w.html