[New search]
[Help]
2001 Rhif 3910 (Cy.322)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001
|
Wedi'u gwneud |
4 Rhagfyr 2001 | |
|
Yn dod i rym |
31 Rhagfyr 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1992" yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[3].
Diwygio Rheoliadau 1992
2.
Ynglyn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2002, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: -
(a) ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1, yn lle "75 per cent" rhoddir "90 per cent";
(b) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle "1.004" rhoddir "0.995"; ac
(c) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001
ATODLENRheoliad 2
"
SCHEDULE 4Regulation 6
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area |
Prescribed figure |
Blaenau Gwent |
54,438 |
Bridgend |
101,462 |
Caerphilly |
128,738 |
Carmarthenshire |
133,164 |
Cardiff |
251,733 |
Ceredigion |
58,082 |
Conwy |
89,317 |
Denbighshire |
71,214 |
Flintshire |
114,556 |
Gwynedd |
91,623 |
Isle of Anglesey |
50,068 |
Merthyr Tydfil |
41,805 |
Monmouthshire |
68,197 |
Neath Port Talbot |
106,999 |
Newport |
104,507 |
Pembrokeshire |
88,716 |
Powys |
99,692 |
Rhondda Cynon Taff |
184,119 |
Swansea |
180,714 |
Torfaen |
68,089 |
Vale of Glamorgan (The) |
93,719 |
Wrexham |
97,374" |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhwysir rheolau i gyfrifo'r symiau hynny yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy roi canran newydd ym mharagraff 3(1)(b) o Atodlen 1 (didyniadau o'r swm gros), lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglyn â'r swm gros) ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).
Notes:
[1]
1988 p.41.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back
[3]
O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47) a 2000/3382 (Cy. 220).back
[4]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11090392 7
|
Prepared
28 December 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013910w.html