BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hawliau Cadw (Trosglwyddo Cyfrifoldebau i'r Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013985w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3985 (Cy.326)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Hawliau Cadw (Trosglwyddo Cyfrifoldebau i'r Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 19 Rhagfyr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50(7), (8), (9) a (10) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol  - 

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Daw'r Rheoliadau hyn, a enwir Rheoliadau Hawliau Cadw (Trosglwyddo Cyfrifoldebau i'r Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2001, i rym ar 19 Rhagfyr 2001.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Personau â hawliau cadw lle nad yw cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol yn gymwys
     2.  - (1) At ddibenion adran 50(8) nid oes yr un rhan o adrannau 50(3) i (7) (cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol mewn achosion hawliau cadw) yn gymwys i berson a bennir at ddibenion y rheoliad hwn ym mharagraff (2) isod.

    (2) Mae person a bennir at ddibenion y rheoliad hwn yn berson sydd, mewn perthynas â'r diwrnod yn union cyn y diwrnod penodedig  - 

Adennill symiau mewn perthynas â thaliadau gan awdurdodau lleol
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os oes awdurdod cyfrifol wedi gwneud taliad mewn perthynas â pherson yn unol ag adran 50(6) (rhwymedigaeth yr awdurdod cyfrifol i wneud taliadau o dan drefniadau a oedd yn bodoli ar y diwrnod penodedig os nad oes gwasanaethau'n cael eu darparu o'r diwrnod hwnnw ymlaen yn unol ag adran 50(3) i (5)).

    (2) At ddibenion adran 50(7) y swm sy'n adenilladwy oddi ar y person yw'r swm a fyddai'n adenilladwy o dan adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
5] a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno[6]) os oedd y llety'n cael ei ddarparu gan yr awdurdod cyfrifol o dan Ran III o'r Ddeddf honno, ac os oedd swm y taliad gan yr awdurdod yn unol ag adran 50(6) yr un fath â'r gyfradd safonol a bennwyd ar gyfer y llety y cyfeirir ato yn adran 22 o'r Ddeddf honno.

Fel arfer yn preswylio
     4.  - (1) Mae person i'w drin fel pe bai fel arfer yn preswylio mewn unrhyw safle at ddibenion adran 50 os yw mewn gwirionedd yn preswylio mewn safle felly neu'n absennol dros dro o safle felly.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "absennol dros dro" yw absennol am gyfnod nad yw yn fwy  - 

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 50 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("Deddf 2001") sy'n ymwneud â dileu gwaharddiadau sy'n atal yr awdurdodau lleol rhag darparu llety ar gyfer personau a oedd mewn llety o'r fath ar 31 Mawrth 1993 ("achosion hawliau cadw"). Yng Nghymru yn unig y maent yn gymwys.

Mae rheoliad 2 yn darparu eithriadau rhag y dyletswyddau y mae adrannau 50(3) i (7) o Ddeddf 2001 yn eu gosod ar yr awdurdodau lleol i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymunedol yn cael eu darparu ar gyfer pobl a oedd yn achosion hawliau cadw cyn y diwrnod a benodir i adran 50(1) ddod i rym. Mae'r eithriadau'n ymwneud â pherson nad oes ganddo hawl, mewn perthynas â'r diwrnod cyn y diwrnod penodedig, i gael cymhorthdal incwm, neu y mae ganddo hawl felly ond nid yn ôl y gyfradd hawliau cadw, neu berson sy'n cael gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer y swm a all gael ei adennill os yw awdurdodau penodol yn gyfrifol, o dan adran 50(6) o Ddeddf 2001, am daliadau o dan drefniadau a oedd yn bodoli cyn y diwrnod penodedig ("y trefniadau a oedd yn bodoli") ac a fydd yn parhau nes y caiff gwasanaethau gofal cymunedol eu darparu. Mae'r swm y darperir ar ei gyfer yr un fath â'r swm y gellid ei adennill o dan adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a rheoliadau sy'n gysylltiedig â hi os oedd y trefniadau a oedd yn bodoli yn drefniadau ar gyfer darparu llety gan yr awdurdod o dan Ran III o Ddeddf 1948 a bod y tâl yr oedd yr awdurdod yn ei roi am y trefniadau a oedd yn bodoli yr un fath â'r gyfradd safonol a bennwyd ar gyfer y llety.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person i gael ei drin fel un sydd fel arfer yn preswylio at ddibenion adran 50 o Ddeddf 2001.


Notes:

[1] 2001 p.15. Cyfeirir at adran 50(10) oherwydd yr ystyr a roddir i'r gair "prescribed".back

[2] O.S. 1987/1967. Diwygiwyd Rheoliad 19 gan O.S. 1988/663, 1445 a 2022, O.S. 1989/1678, O.S.1991/1033, O.S. 1992/3147, O.S. 1993/2119, O.S. 1994/527 a 2139 ac O.S. 1996/206 a 462.back

[3] 1992 p.4.back

[4] 1983 p.20.back

[5] 1948 p.29.back

[6] Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 yw'r rheoliadau hyn, sef O.S. 1992/2977 fel y'u diwygiwyd mewn perthynas â Chymru gan O.S. 1993/964 a 2230, O.S. 1994/825 a 2385, O.S. 1995/858 a 3054, O.S. 1996/602, O.S. 1997/485, O.S. 1998/497 a 1730 ac O.S. 2001/276(Cy.12) a 1409(Cy.95).back

[7] O.S. 1975/555. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2595 a 1999/1326.back

[8] 1998 p.38. back



English version



ISBN 0 11090393 5


  Prepared 21 December 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013985w.html