BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013996w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3996 (Cy.327)

AER GLÂN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 13 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 17 Rhagfyr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001.(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993
    
2.  - (1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001[3]fel a ganlyn:

    (2) Ar ôl paragraff 5 mewnosodir



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Pan fydd mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai - 

mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("y Ddeddf") yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu yn ôl fel y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

O dan adran 20(6) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, ddatgan bod tanwydd yn danwydd awdurdodedig at y diben hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 fel bod Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes) yn danwydd awdurdodedig ychwanegol.


Notes:

[1] 1993 p.11.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 2001/3762 (Cy.311).back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090407 9


  Prepared 23 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013996w.html