BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014002w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 13 Rhagfyr 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Ionawr 2002 |
(2) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
Sefydlu fforwm
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod penodi sefydlu fforwm neu fforymau ar gyfer yr ardal gyfan y mae'n awdurdod penodi iddi.
(2) Gall awdurdod penodi naill ai sefydlu un fforwm ar gyfer yr holl ardal y mae'n awdurdod penodi iddi neu, fel arall, nifer o fforymau, a phob un ar gyfer rhan o'r ardal y mae'n awdurdod penodi iddi fel y gwêl yn dda.
(3) Nid yw'r ddyletswydd a osodir ar awdurdod penodi gan baragraff (1) yn gymwys i'r ardal y mae'n awdurdod penodi ar ei chyfer neu i ran o'r ardal honno os oes cyfarwyddyd mewn grym mewn perthynas â'r ardal neu'r rhan honno o'r ardal wedi'i roi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 94(8) o'r Ddeddf.
(4) Rhaid i'r awdurdod penodi gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un flwyddyn galendr o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(5) Gall awdurdod penodi, mewn perthynas ag unrhyw ardal y mae'n awdurdod penodi ar ei chyfer neu ran o'r ardal honno, gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) drwy benodi fforwm ar y cyd gydag un neu fwy o awdurdodau penodi eraill, yn unol ag unrhyw drefniadau y bydd yn eu gwneud gydag awdurdod neu awdurdodau penodi eraill o'r fath, mewn perthynas ag ardal sy'n cynnwys yr ardal honno neu ran o'r ardal honno.
(6) Os bydd yr awdurdod penodi o'r farn ei bod yn briodol sefydlu fforwm ar gyfer rhan o'i ardal, rhaid iddo, wrth ystyried yr ardal y mae'r fforwm i'w chynnwys, ymgynghori ag unrhyw awdurdodau lleol a chyrff eraill y gwêl yn dda.
Aelodaeth fforwm
4.
- (1) Rhaid i fforwm gynnwys Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd, a benodir yn unol â rheoliad 12, ac Ysgrifennydd, ynghyd â dim llai na 10 a dim mwy nag 20 o aelodau eraill (neu unrhyw nifer arall o aelodau y tu allan i'r ystod hwnnw y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei awdurdodi yn ysgrifenedig).
(2) Bernir bod fforwm wedi'i sefydlu ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod penodi yn y llythyrau penodi y mae'n eu hanfon at y personau sydd i'w penodi yn aelodau o'r fforwm, a'r dyddiad hwnnw yw dyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm.
(3) Mae aelodaeth person o fforwm yn parhau nes y daw'r cyfnod o dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm, neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan yr awdurdod penodi yn y llythyrau penodi y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), onid yw aelodaeth y person hwnnw yn terfynu yn unol â rheoliad 14.
(4) Mae person sy'n peidio â bod yn aelod o fforwm yn gymwys i gael ei ailethol.
5.
- (1) Gall awdurdod penodi, yn ychwanegol at benodi aelodau er mwyn llenwi swyddi gwag dros dro yn aelodaeth fforwm, benodi aelodau pellach i fforwm ar unrhyw adeg ar yr amod nad yw cyfanswm yr aelodau, heb gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd, o ganlyniad i hynny yn fwy na 20 (neu'r nifer arall hwnnw y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei awdurdodi yn unol â rheoliad 4(1)).
(2) Pan fydd swydd wag dros dro yn codi yn aelodaeth fforwm, gall yr awdurdod penodi ymatal rhag penodi aelod i lenwi'r swydd honno ar yr amod nad yw aelodaeth fforwm, heb gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd, o ganlyniad i hynny yn disgyn yn is na 10 (neu unrhyw nifer arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 4(1)).
(3) Cyn bod awdurdod penodi yn arfer ei bwerau o dan baragraff (1) i benodi aelod neu aelodau pellach o'r fforwm yn ychwanegol at unrhyw rai y mae eu hangen i lenwi swydd wag dros dro, neu cyn iddo arfer ei bŵ er o dan baragraff (2) i ymatal rhag penodi aelod i lenwi swydd wag dros dro yn aelodaeth fforwm, rhaid iddo ymgynghori â'r fforwm ac unrhyw gyrff eraill y gwêl yn dda.
6.
- (1) Pan fydd ardal fforwm yn dod yn llwyr o fewn ardal yr awdurdod penodi, rhaid i'r awdurdod hwnnw benodi un (ond ni all benodi mwy nag un) aelod o'r fforwm sydd naill ai'n swyddog neu'n aelod o'r awdurdod penodi.
(2) Pan fydd ardal fforwm yn dod o fewn ardal mwy nag un awdurdod penodi a bod -
7.
Wrth ystyried pa bersonau i'w penodi yn aelodau o'r fforwm, rhaid i awdurdod penodi:
8.
Rhaid i awdurdod penodi beidio â phenodi unrhyw person yn aelod o fforwm y mae'n ymddangos i'r awdurdod fod ganddo, neu y mae'n debygol bod ganddo, fuddiant ariannol neu fuddiant fel arall yn y materion y mae'n ofynnol i'r fforwm gynghori arnynt a'r buddiant hwnnw yn debygol o gael effaith sylweddol andwyol ar allu'r person hwnnw i gyflawni'r swyddogaeth yn briodol ac yn effeithiol fel aelod o'r fforwm.
9.
Cyn penodi person yn aelod o fforwm rhaid i'r awdurdod pendodi ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi iddo unrhyw wybodaeth y gall yn rhesymol ofyn amdani at y diben o asesu addasrwydd y person hwnnw i fod yn aelod o'r fforwm hwnnw.
Gweinyddu Fforwm
10.
- (1) Rhaid i'r awdurdod penodi mewn perthynas â phob fforwm benodi person (a rhaid iddo beidio â bod yn aelod o'r fforwm) i weithredu fel ei Ysgrifennydd a bod yn gyfrifol am weinyddu'r fforwm.
(2) Er gwaethaf cyffredinolrwydd paragraff (1), mae dyletswyddau'r Ysgrifennwydd yn cynnwys -
yn cael eu cyflwyno naill ai'n bersonol neu drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, i bob aelod o'r fforwm fel y ceir hwy (neu yn achos cyflwyno drwy'r post fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol) o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod;
(ch) tynnu sylw'r fforwm at ddarpariaethau unrhyw godau ymarfer cenedlaethol, canllawiau a roddir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r gofynion statudol y mae'r fforwm i roi sylw iddynt wrth arfer ei swyddogaethau.
(3) Rhaid i'r Ysgrifennydd fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd fforwm a gall fod yn bresennol yng nghyfarfodydd unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan reoliad 13.
(4) Os bydd yr Ysgrifennydd yn analluog dros dro, rhaid i'r awdurdod penodi benodi Ysgrifennydd Gweithredol i gyflawni dyletswyddau'r Ysgrifennydd yn ystod cyfnod ei analluedd.
11.
Rhaid i'r awdurdod penodi dalu'r holl gostau rhesymol a dynnir gan fforwm wrth gyflawni ei ddyletswyddau gan gynnwys y costau hynny (heblaw colli enillion a chostau eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflogaeth person) a dynnir yn rhesymol ac yn angenrheidiol gan y Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd ac aelodau o'r fforwm wrth fynychu cyfarfodydd.
Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd
12.
- (1) Rhaid i'r Ysgrifennydd -
(2) Rhaid i'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd fod yn aelodau o'r fforwm yr etholir hwy yn Gadeirydd ac yn Ddirprwy Gadeirydd arno a rhaid iddynt gael eu hethol gan aelodau o'r fforwm drwy bleidlais gyfrinachol.
(3) Rhaid i'r Ysgrifennydd lywyddu yn unrhyw gyfarfod o'r fforwm hyd nes yr etholir Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd a rhaid iddo gynnal etholiad y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd.
(4) Os canlyniad y bleidlais gyntaf neu bleidlais bellach yw bod ymgeisydd yn cael pleidleisiau mwy na hanner yr aelodau sy'n pleidleisio rhaid i'r Ysgrifennydd ddatgan bod y person wedi'i ethol.
(5) Os canlyniad y bleidlais gyntaf neu bleidlais bellach yw nad oes unrhyw ymgeisydd yn cael pleidleisiau mwy na hanner yr aelodau sy'n pleidleisio, rhaid i'r Ysgrifennydd gynnal pleidlais bellach gan wahardd yr ymgeisydd a gafodd y nifer lleiaf o bleidleisiau yn y bleidlais flaenorol.
(6) Os digwydd mewn unrhyw bleidlais fod pleidleisiau cyfartal rhwng dau ymgeisydd a bod nifer y pleidleisiau y maent yn eu cael yn llai na'r hyn a gafwyd gan unrhyw ymgeisydd arall rhaid i'r Ysgrifennydd benderfynu drwy ddulliau hap pa un ohonynt a waherddir rhag unrhyw bleidlais bellach.
Sefydlu pwyllgor gan fforwm
13.
- (1) Gall aelodau fforwm, gyda chytundeb y Cadeirydd, sefydlu unrhyw bwyllgor neu bwyllgorau o aelodau y gwelant yn dda.
(2) Yn ddarostyngedig i unrhyw beth i'r gwrthwyneb a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, pan sefydlir pwyllgor, penderfynir y dull y caiff ei gadeirio, dull penodi ei aelodau, a'i gylch gwaith gan aelodau'r fforwm a'i sefydlodd.
Terfynu aelodaeth
14.
- (1) Mae aelodaeth person o fforwm, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd, yn terfynu pan ddigwydd un o'r canlynol:
(2) Rhaid i'r Ysgrifennydd hysbysu'r awdurdod penodi o unrhyw le gwag yn aelodaeth y fforwm nad yw'r awdurdod penodi yn ymwybodol ohono neu efallai nad yw fel arall yn ymwybodol ohono a rhaid i'r awdurdod penodi sy'n dod yn ymwybodol o le gwag o'r fath, yn ddarostyngedig i reoliad 5, benodi person i lenwi'r lle gwag hwnnw.
(3) Os etholir aelod o fforwm yn Gadeirydd neu'n Ddirprwy Gadeirydd o'r fforwm hwnnw, rhaid i'r awdurdod penodi, yn ddarostyngedig i reoliad 5, benodi person yn aelod o'r fforwm fel pe bai'r person a etholir yn Gadeirydd neu'n Ddirprwy Gadeirydd wedi peidio â bod yn aelod o'r fforwm.
Cynal cyfarfodydd fforwm
15.
- (1) Mae cyfarfod cyntaf y fforwm ar ôl y cyfarfod y daw penodiad holl aelodau'r fforwm yn weithredol ynddo (naill ai pan sefydlir y fforwm neu pan benodir aelodau ar ôl i aelodaeth yr holl aelodau ddod i ben o dan reoliad 4(3)) i ddigwydd yn yr amser a'r lle a benderfynir gan yr awdurdod penodi, mae ei agenda i'w benderfynu gan yr awdurdod penodi, ac mae'r Ysgrifennydd i lywyddu arno, ond wedyn gall y fforwm gyfarfod bob hyn a hyn fel y gwêl yn dda, ond rhaid iddo gyfarfod o leiaf ddwywaith ymhob cyfnod o 12 mis wedi'i gyfrifo drwy gyfeirio at y dyddiad pan sefydlwyd ef.
(2) Gellir cynnal cyfarforydd y fforwm ar unrhyw ddyddiau a lle y bydd yr aelodau yn cytuno arnynt a rhaid iddynt fod yn agored i'r cyhoedd oni fydd y person sy'n llywyddu yn dyfarnu bod eitem benodol o fusnes i'w hystyried mewn cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i'r cyhoedd gael eu gwahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno.
(3) Mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, y person sydd i lywyddu (y "person sy'n llywyddu" ) yw'r canlynol, yn ddarostyngedig i reoliad 12(3) -
(4) Ni chynhelir unrhyw fusnes gan y fforwm onid yw nifer yr aelodau sy'n bresennol, heb gynnwys y person sy'n llywyddu, yn fwy na thraean o'r aelodaeth lawn.
(5) Yn ddarostyngedig i unrhyw beth i'r gwrthwyneb a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, neu i unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 94(6)(c) o'r Ddeddf, gall fforwm reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(6) Ni fydd trafodion unrhyw gyfarfod yn cael eu hannilysu os bydd unrhyw berson sydd â hawl i'w cael yn methu â chael unrhyw hysbysiad neu ddogfennau eraill sy'n berthnasol i'r cyfarfod o dan sylw y mae'n ofynnol iddynt fel arall gael eu cyflwyno neu eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn.
(7) Rhaid paratoi cofnodion trafodion unrhyw gyfarfod (ac mae'n rhaid iddynt gynnwys enwau'r aelodau hynny sy'n bresennol ac yn absennol), eu cyflwyno i'w cytuno yn y cyfarfod nesaf a'u llofnodi gan y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod nesaf hwnnw.
(8) Gall y Cadeirydd wahodd sylwebyddion a/neu gynghorwyr i gyfarfod, a chaiff y sawl a wahoddir, os yw'r person sy'n llywyddu yn ystyried hynny'n briodol, gyfrannu at drafodion y fforwm.
(9) Gall cynrychiolydd o'r Cynulliad Cenedlaethol a/neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac unrhyw swyddog o awdurdod (mewn perthynas â'r fforwm o dan sylw) sy'n awdurdod penodi, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, neu o bwyllgor a sefydlir gan y fforwm hwnnw, fel sylwebydd.
(10) Pan fydd y person sy'n llywyddu yn ystyried ei bod yn briodol pleidleisio ynghylch unrhyw gwestiwn, rhaid i'r person sy'n llywyddu ffurfio'r cwestiwn hwnnw, yn ysgrifenedig os gofynnir amdano, a phleidleisir drwy i'r aelodau sy'n bresennol godi llaw (ac eithrio nad oes gan y person sy'n llywyddu yr hawl i bleidleisio onid yw'r pleidleisiau'n gyfartal, ac os felly mae'r person sy'n llywyddu i gael pleidlais fwrw).
Adroddiadau blynyddol
16.
- (1) Rhaid i'r awdurdod penodi baratoi a chymeradwyo, mewn perthynas â phob fforwm y mae'n awdurdod penodi arno, adroddiad blynyddol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 31 Mawrth ym mhob blwyddyn.
(2) Rhaid i adroddiad blynyddol a baratoir o dan baragraff (1) gynnwys -
(3) Rhaid sicrhau bod copi o'r adroddiad blynyddol, wedi iddo gael ei gymeradwyo, ar gael ar gyfer archwiliad gan aelodau o'r cyhoedd yn swyddfeydd yr awdurdod penodi yn ystod oriau swyddfa arferol yn rhad ac am ddim.
(4) Rhaid i awdurdod penodi, ar gais unrhyw aelod o'r cyhoedd, ddarparu copi i'r person hwnnw o unrhyw adroddiad blynyddol sydd wedi'i baratoi a'i gymeradwyo o dan y Rheoliad hwn, neu unrhyw ran ohono, pan delir cost y postio ac unrhyw swm pellach nad yw'n fwy na 10 ceiniog y tudalen y bydd yr awdurdod penodi yn gofyn amdano.
Hysbysu penodiadau etc.
17.
Rhaid i'r awdurdod penodi:
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2001