BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014007w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 4007 (Cy.333)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 13 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 11 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac ni fyddant yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau am grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygio
    
2. Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 [2] yn cael eu diwygio drwy ychwanegu'r paragraff canlynol ar ddiwedd Atodlen 4 (cyfalaf i'w ddiystyru) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant adnewyddu a'r grant cyfleusterau i'r anabl y gall awdurdodau tai lleol ei dalu i geiswyr sy'n berchen-feddianwyr neu'n denantiaid o dan Bennod I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r diwygiadau yn dilyn newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971) y seilir y prawf moddion arnynt.

Ceir ychwanegiad at y rhestr o symiau y gellir eu diystyru fel cyfalaf. Mae'n ymwneud â thaliadau arbennig i ddioddefwyr amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob a'u teuluoedd agos.


Notes:

[1] 1996 p.53; gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[2] O.S. 1996/2890, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/977, 1998/808, 1999/1523, 1999/3468 (Cy.54), 2000/973 (Cy.43) a 2001/2073 (Cy.145).back

[3] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090398 6


  Prepared 14 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014007w.html