BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014008w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 4008 (Cy.334)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 13 Rhagfyr 2001 
  Yn dod i rym 11 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132(3) a (4)[1], a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[2] fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[3], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac ni fyddant yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau
    
2. Yn y ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[4]) - 

     3. Yn y Ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999[6]:



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (O.S. 1999/2315 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (O.S. 1997/2847 fel y'i diwygiwyd).

Mae Rheoliadau Grantiau Adleoli 1997 (O.S. 1997/2764) yn cymhwyso Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) fel y maent yn effeithiol o dro i dro, gyda'r newidiadau sydd wedi'u rhagnodi. Gan hynny, mae diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4007 (Cy.333)) wedi'i gwneud yn angenrheidiol diwygio'r ffurflenni, a'r Rheoliadau hyn sy'n gwneud y diwygiadau angenrheidiol.

Mae'r diwygiadau'n ymwneud â thaliadau arbennig a delir i ddioddefwyr amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob a'u teuluoedd agos.


Notes:

[1] Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 140(1).back

[2] 1996 p.53; gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] 1993 p.38back

[4] O.S. 1997/2847, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/810, 1999/1541, 1999/3469 (Cy. 55), 2000/1710 (Cy. 116) a 2001/2072 (Cy. 144).back

[5] Mewnosodwyd cwestiwn 4.34A gan O.S. 2001/780.back

[6] O.S. 1999/2315 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy. 55), 2000/1710 (Cy. 116) a 2001/2072 (Cy. 144).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090399 4


  Prepared 14 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014008w.html