[New search]
[Help]
2002 Rhif 107 (Cy.12)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'u gwneud |
22 Ionawr 2002 | |
|
Yn dod i rym |
18 Chwefror 2002 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000[3] yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.
3.
Ar ddiwedd rheoliad 3 ychwanegir y paragraff canlynol -
"
(6) Mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2001 - 2002 cymerir y cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau fel cyfeiriad at 378 o sesiynau."
4.
Ychwanegir y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 4 -
"
5.
- (1) Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2002 - 2003 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 3 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.
(2) Ni chaiff paragraff (1) effaith mewn perthynas â mwy na dwy sesiwn ysgol.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud ag addysgu disgyblion yn yr ysgol sydd yn yr ail gyfnod allweddol neu'r trydydd cyfnod allweddol."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Ionawr 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 ("Rheoliadau 2000"). Mae Rheoliadau 2000 yn gwneud darpariaethau ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac ymhellach yn gwneud darpariaeth am nifer y sesiynau ysgol y gellir eu neilltuo i hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol a strwythurau staffio ysgol.
Diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau 2000 er mwyn lleihau hyd y flwyddyn ysgol 2001 - 2002 gan un diwrnod, o 380 o sesiynau i 378 o sesiynau, ar gyfer ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal felly. Bydd y rheoliad hwnnw'n caniatáu i'r ysgolion hynny gymryd diwrnod ychwanegol o wyliau yn ystod blwyddyn ysgol 2001 - 2002 mewn perthynas â gŵ yl banc jiwbili aur y Frenhines sy'n digwydd yn ystod wythnos gwyliau hanner tymor, ddydd Llun 3 Mehefin 2002.
Ychwanegir rheoliad 5 newydd i Reoliadau 2000 sydd yn ymestyn y mwyafrif o sesiynau y gellir eu neilltuo yn llwyr neu yn bennaf ar gyfer hyfforddi gan ddwy sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2002 - 2003 ar gyfer hyfforddi sydd yn ymwneud ag addysgu plant yn yr ail a'r trydydd cyfnod allweddol.
Notes:
[1]
1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Mae adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio "regulations" i olygu rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2000/1323 (Cy.101).back
[4]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090416 8
|
Prepared
7 February 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020107w.html