BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020136w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 136 (Cy.19)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 25 Ionawr 2002 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2002.

Diwygio'r Rheoliadau
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 3, hepgorwch baragraff (a) ac ar ôl paragraff (d), mewnosodwch - 

    (3) Yn rheoliad 7, o flaen "A local education authority", mewnosodwch "(1) Subject to paragraph (2)," ac ar ddiwedd y rheoliad hwnnw mewnosodwch - 

    (4) Yn rheoliad 19, ym mharagraff (1) yn lle "to take account of", rhowch ", if they so wish, to take account wholly or partly of", ac ar ôl paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw mewnosodwch - 

    (5) Yn rheoliad 20, yn lle 'B' yn y fformwla a bennir ym mharagraff (2), rhowch - 

    (6) Yn rheoliad 22, hepgorwch ", less the aggregate of the sum of the budget shares of special schools and any transitional funding determined under regulation 18", a mewnosodwch ar y diwedd - 

    (7) Ar ôl rheoliad 23 mewnosodwch - 

    (8) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, ar ôl "used" mewnosodwch "except where the grant is made to the authority under a condition requiring it to be treated as part of the authority's individual schools budget".

    (9) Ar ôl paragraff 2 o'r Atodlen honno mewnosodwch - 

    (10) Ym mharagraff 14 o'r Atodlen honno, mewnosodwch ar ôl "1989", "and other functions relating to child protection".

    (11) Yn lle paragraff 19 o'r Atodlen honno rhowch - 

    (12) Ym mharagraff 28 o'r Atodlen honno ar ôl is-baragraff (b), mewnosodwch - 

    (13) Yn lle paragraff 28(p) o'r Atodlen honno, rhowch - 

    (14) Yn lle paragraff 33 o'r Atodlen honno, rhowch - 

    (15) Yn lle paragraff 34 o'r Atodlen honno, rhowch - 

    (16) Ar ddiwedd y paragraff heb rif ar ddechrau Atodlen 3 mewnosodwch - 

    (17) Ar ôl paragraff 29 o Atodlen 3, mewnosodwch - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


J. E. Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad

25 Ionawr 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sy'n gymwys i Gymru yn unig erbyn hyn).

Mae Rheoliadau 1999 yn rhagnodi'r gwariant sy'n ffurfio "cyllideb ysgolion lleol" awdurdod addysg lleol ac yn pennu pa wariant a all gael ei ddidynnu gan yr awdurdod o'r gyllideb ysgolion lleol er mwyn cyfrifo'u cyllideb ysgolion unigol. Maent yn darparu hefyd ar ba sail y mae'r gyllideb ysgolion unigol i gael ei dosbarthu rhwng yr ysgolion. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol ymdrin, mewn cynllun a baratoir ganddynt, â materion penodedig sy'n gysylltiedig ag ariannu'r ysgolion y maent yn eu cynnal.

Mae'r Rheoliadau presennol yn gwneud nifer o newidiadau i Reoliadau 1999. Amlinellir y rhai pwysicaf isod: - 

    
1. Mae Rheoliad 3 yn cael ei ddiwygio fel bod gwariant mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ysgolion lleol ac fel bod y diffiniad o gostau ariannu cyfalaf nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ysgolion lleol hefyd yn cynnwys yr elfennau ar gyfer ariannu cyfalaf a geir yn nhaliadau'r Fenter Cyllid Preifat (PFI).

    
2. Mae Rheoliad 7 yn cael ei ddiwygio er mwyn galluogi awdurdod addysg lleol i beidio â dyrannu'r cyfan o'u cyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, ac yn hytrach na hynny gadw swm ar gyfer ail-benderfynu neu ar gyfer cywiro gwallau.

    
3. Mae Rheoliad 19 yn cael ei ddiwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn eu fformwla i ail-benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb ac i ddosbarthu unrhyw falans ar unrhyw swm sy'n cael ei gadw o dan Reoliad 7 i'r ysgolion cyn diwedd y flwyddyn ariannol os yw heb ei ddyrannu.

    
4. Mae Rheoliad 20 yn cael ei ddiwygio er mwyn i'r cyfrifiad ar gyfer addasu cyfran ysgol o'r gyllideb pan fydd disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol ar neu ar ôl 1 Ebrill yn cynnwys symud o ysgol fabanod i ysgol iau hefyd.

    
5. Mae Rheoliad 22 yn cael ei ddiwygio er mwyn hepgor o'r gyllideb ysgolion unigol unrhyw ran ohoni a gafodd ei chadw ar y dechrau, at ddibenion cyfrifo'r ffigur o 75% o leiaf o'r cyllid y mae'n rhaid ei seilio ar niferoedd disgyblion.

    
6. Mae Atodlen 2 (sy'n rhestru'r gwariant cynlluniedig a all gael ei ddidynnu o'r gyllideb ysgolion lleol) yn cael ei diwygio fel a ganlyn:

     7. Mae Atodlen 3 (ffactorau neu feini prawf ychwanegol a all gael eu cymryd i ystyriaeth yn fformwla awdurdod addysg lleol ar gyfer dyrannu arian i ysgolion unigol) yn cael ei diwygio er mwyn caniatáu trefniadau trosiannol os bydd awdurdod addysg lleol yn cynnwys ffactorau neu feini prawf newydd yn eu fformwla; ac yn ychwanegu ffactor ar gyfer costau gweinyddu'r gyflogres.


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy. 40) a 2001/495 (Cy.22). Yn wreiddiol, yr oedd y rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, ond cawsant eu dileu mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/478.back

[4] 1999 p.27.back

[5] 1974 p.37.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090417 6


  Prepared 7 February 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020136w.html