BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020304w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 304 (Cy.35)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFIEILIAID

Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 11 Chwefror 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Chwefror 2002.

Diwygio Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998
    
2. I'r graddau y bônt yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998[3] yn cael eu diwygio drwy osod y rhif "3" yn lle'r rhif "7" yn rheoliad 7(e).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad

8 Chwefror 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau'r Gronfa Ddata Gwartheg 1998 (O.S. 1998/1796) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid i geidwad roi hysbysiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am symudiad gwartheg.

Effaith y diwygiad sy'n cael ei wneud gan y Rheoliadau yw lleihau'r cyfnod y mae'n rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ynddo drwy'r post neu drwy ddull electronig am symudiad anifeiliaid o saith diwrnod i dri (rheoliad 2). Mae hyn yn unol â gofynion ail indent Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1998/1796.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090428 1


  Prepared 22 February 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020304w.html