BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020325w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 325 (Cy.38)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 12 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I - 

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Ystyr "ysbyty annibynnol"
4. Ystyr "clinig annibynnol"
5. Datganiad o ddiben
6. Arweiniad y cleifion
7. Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y cleifion
8. Polisïau a gweithdrefnau

RHAN II - 

PERSONAU COFRESTREDIG
9. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
10. Penodi rheolwr
11. Ffitrwydd y rheolwr
12. Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
13. Hysbysu am dramgwyddau

RHAN III - 

RHEDEG SEFYDLIADAU GOFAL IECHYD

Pennod 1

Ansawdd y gwasanaeth a ddarperir
14. Ansawdd y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir
15. Gofal a lles cleifion
16. Adolygiad o ansawdd y driniaeth a gwasanaethau eraill
17. Staffio
18. Ffitrwydd y gweithwyr
19. Canllawiau ar gyfer proffesiynolion gofal iechyd
20. Cofnodion
21. Barn y staff ynglycircn â'r ffordd y mae'r sefydliad yn cael ei redeg
22. Cwynion
23. Ymchwil

Pennod 2

Safleoedd
24. Ffitrwydd y safleoedd

Pennod 3

Rheoli
25. Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig
26. Sefyllfa ariannol

Pennod 4

Hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol
27. Hysbysu am ddigwyddiadau
28. Hysbysu am absenoldeb
29. Hysbysu am newidiadau
30. Penodi datodwyr etc
31. Marwolaeth person cofrestredig

RHAN IV - 

GOFYNION YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I YSBYTAI ANNIBYNNOL

Pennod 1

Gwasanaethau patholeg, dadebru a thrin plant mewn ysbytai annibynnol
32. Cymhwyso rheoliadau 33 i 35
33. Gwasanaethau patholeg
34. Dadebru
35. Trin plant

Pennod 2

Ysbytai annibynnol lle darperir gwasanaethau rhestredig penodol
36. Gweithdrefnau llawfeddygol
37. Triniaeth ddeintyddol o dan anesthesia cyffredinol
38. Gwasanaethau obstetrig  -  staffio
39. Gwasanaethau obstetrig  -  gofynion pellach
40. Terfynu beichiogrwydd
41. Defnyddio technegau neu dechnolegau penodol

Pennod 3

Ysbytai iechyd meddwl
42. Cymhwyso rheoliadau 43 i 46
43. Diogelwch cleifion ac eraill
44. Rheoli ymddygiad afreolaidd
45. Ymwelwyr
46. Cofnodion iechyd meddwl

RHAN V - 

GOFYNION YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GLINIGAU ANNIBYNNOL
47. Clinigau annibynnol

RHAN VI - 

AMRYWIOL
48. Cydymffurfio â rheoliadau
49. Tramgwyddau

YR ATODLENNI

  1. Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben

  2. Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli sefydliad neu weithio ynddo

  3.  
 Rhan I -  Y cyfnod y mae'n rhaid cadw cofnodion meddygol ar ei gyfer
 Rhan II -  Y cofnodion sydd i'w cadw ar gyfer archwiliadau

  4.  
 Rhan I -  Y manylion sydd i'w cofnodi ar gyfer cleifion sy'n cael gwasanaethau obstetrig
 Rhan II -  Y manylion sydd i'w cofnodi ar gyfer plentyn sy'n cael ei eni mewn ysbyty annibynnol.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(4), (7)(f) ac (8), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) a (7)(a) i (h), (j) a (k), 25(1), 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau sydd yn ei farn ef yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â sefydliadau, fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1), yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    (2) Gall y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa sy'n cael ei rheoli ganddo fel y swyddfa briodol mewn perthynas â sefydliadau sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad - 

    (4) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau a dylid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.

Ystyr "ysbyty annibynnol"
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae "gwasanaethau rhestredig", at ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, yn cynnwys triniaeth sy'n defnyddio unrhyw un o'r technegau neu'r technolegau canlynol - 

    (2) Rhaid i "wasanaethau rhestredig" beidio â chynnwys triniaeth drwy ddefnyddio'r technegau neu'r technolegau canlynol - 

    (3) At ddibenion adran 2 o'r Ddeddf, mae'r sefydliadau o'r mathau canlynol wedi'u heithrio rhag bod yn ysbytai annibynnol - 

    (4) Addasir is-adran (7) o adran 2 o'r Ddeddf drwy ychwanegu ar ddiwedd paragraff (e) (llawfeddygaeth gosmetig) y canlynol - 

Ystyr "clinig annibynnol"
     4.  - (1) At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliadau o'r mathau canlynol yn glinigau annibynnol - 

    (2) Os bydd dau neu fwy o ymarferwyr meddygol, yn defnyddio gwahanol rannau o'r un safle fel meddygfa neu ystafell ymgynghori, neu'n defnyddio'r un feddygfa neu ystafell ymgynghori ar adegau gwahanol, dylid ystyried bod pob un o'r ymarferwyr meddygol yn cynnal clinig annibynnol ar wahân oni bai eu bod yn yr un practis â'i gilydd.

Datganiad o ddiben
    
5.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r sefydliad ddatganiad ar bapur (sef datganiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") y mae'n rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

    (2) Rhaid i'r person cofrestedig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael i'w archwilio ar bob adeg resymol gan bob claf ac unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran claf.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

    (4) Ni fydd dim ym mharagraff (3), rheoliad 14(1) na 24(1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig dorri nac yn ei awdurdodi i dorri - 

Arweiniad y cleifion
    
6.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r sefydliad (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "arweiniad y cleifion") sy'n cynnwys - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o arweiniad cyntaf y cleifion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, a rhaid iddo sicrhau bod copi o fersiwn gyfredol arweiniad y cleifion yn cael ei ddarparu i bob claf ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran claf.

Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y cleifion
    
7. Rhaid i'r person cofrestredig - 

Polisïau a gweithdrefnau
    
8.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a rhoi ar waith ddatganiadau ysgrifenedig o'r polisïau a gaiff eu defnyddio a'r gweithdrefnau a gaiff eu dilyn mewn neu at ddibenion sefydliad mewn perthynas ag - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a rhoi ar waith ddatganiadau ysgrifenedig o bolisïau sydd i'w cymhwyso a gweithdrefnau sydd i'w dilyn mewn neu at ddibenion sefydliad i sicrhau - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig gadw golwg ar sut y bydd pob polisi a gweithdrefn a roddir ar waith o dan y canlynol yn cael eu gweithredu - 

a hynny o leiaf bob tair blynedd, a phan fo hynny'n briodol, rhaid iddo baratoi a rhoi ar waith bolisïau a gweithdrefnau diwygiedig.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod copi o'r holl ddatganiadau ysgrifenedig a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn ar gael i'w harchwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol.



RHAN II

PERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
    
9.  - (1) Ni chaiff person weithredu sefydliad neu asiantaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad oni bai bod y person - 

    (3) Y gofynion yw - 

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[20] wedi'i dwyn i rym.

    (5) Nid yw person yn ffit i redeg sefydliad - 

Penodi rheolwr
     10.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg y sefydliad - 

    (2) Os yw'r darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r sefydliad, rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r canlynol - 

    (3) Os y darparydd cofresredig sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae ei reolaeth i fod i ddechrau.

Ffitrwydd y rheolwr
    
11.  - (1) Ni chaiff person reoli sefydliad oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli sefydliad oni bai:

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[21] wedi'i dwyn i rym.

Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
     12.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig redeg neu, yn ôl fel y digwydd, reoli'r sefydliad gyda gofal, cymhwysedd a medr digonol, o ystyried maint y sefydliad, y datganiad o ddiben a niferoedd ac anghenion y cleifion.

    (2) Os yw'r darparydd cofrestredig - 

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r medrau angenrheidiol i weithredu'r sefydliad.

    (3) Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r sefydliad, o bryd i'w gilydd, ymgymryd â hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r medrau angenrheidiol i reoli'r sefydliad.

Hysbysu am dramgwyddau
    
13.  - (1) Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid i'r person a gollfarnwyd hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith yn ysgrifenedig o'r canlynol - 

    (2) Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[22] (Amddiffyn Plant) rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith yn ysgrifenedig o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono a dyddiad a man y cyhuddiad.



RHAN III

RHEDEG SEFYDLIADAU GOFAL IECHYD



PENNOD 1

ANSAWDD Y GWASANAETH A DDARPERIR

Ansawdd y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir
     14.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu triniaeth ac unrhyw wasanaethau eraill i gleifion yn unol â'r datganiad o ddiben a rhaid iddo sicrhau bod y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir i bob claf - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir yn y y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad - 

    (3) Pan ddefnyddir dyfeisiau meddygol y gellir eu hailddefnyddio mewn sefydliad, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gweithdrefnau priodol yn cael eu gweithredu ar gyfer glanhau, diheintio, archwilio, pacio, sterileiddio, cludo a storio dyfeisiau o'r fath.

    (4) Rhaid i'r gweithdrefnau a weithredir yn unol â pharagraff (3) fod yn rhai a fydd yn sicrhau bod dyfeisiau meddygol y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu trafod yn ddiogel ac yn cael eu diheintio'n effeithiol cyn y byddant yn cael eu hailddefnyddio.

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau priodol ar gyfer archebu, cofnodi, trin, cadw'n ddiogel, rhoi a gwaredu yn ddiogel y cyffuriau a ddefnyddir yn neu at ddibenion y sefydliad, neu at ddibenion yr asiantaeth.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i leihau'r risg o amodau heintiedig a gwenwynig ac ymlediad heintiadau rhwng y cleifion a'r staff (gan gynnwys ymarferwyr meddygol â breintiau ymarfer).

    (7) Os yw sefydliad yn darparu bwyd ar gyfer cleifion, rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau - 

a bod y fwydlen yn cael ei hamrywio bob hyn a hyn fel y bo'n addas.

Gofal a lles cleifion
    
15.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn y fath fodd ag i hybu lles y cleifion a darparu'n briodol ar ei gyfer a rhaid iddo, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, alluogi cleifion i wneud penderfyniadau ynghylch materion sy'n effeithio ar eu gofal a'u lles cyffredinol.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y caniateir i'r cleifion reoli eu harian eu hunain, ac eithrio os nad yw claf yn dymuno hynny, neu nad yw'n gymwys i wneud hynny, ac os felly, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod arian y claf yn cael ei gadw a'i gofnodi'n briodol a bod derbynebau yn cael eu rhoi fel y bo'n briodol.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, ganfod a chymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau pob un o'r cleifion wrth benderfynu ar y dull o ofalu amdanynt a'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y sefydliad yn cael ei gynnal - 

    (5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y sefydliad yn cael ei gynnal ar sail perthynas bersonol a phroffesiynol dda - 

Adolygiad o ansawdd y driniaeth a gwasanaethau eraill
    
16.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno a chynnal system ar gyfer adolygu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol ansawdd y driniaeth a'r gwasanaethau eraill a ddarperir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir gan y person cofrestredig at ddibenion paragraff (1) a sicrhau bod copi o'r adroddiad ar gael i'r cleifion.

    (3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â chleifion a'u cynrychiolwyr.

Staffio
    
17.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, o ystyried natur y sefydliad a nifer ac anghenion y cleifion - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad ac unrhyw ymarferydd meddygol â breintiau ymarfer yn cael eu gwerthuso yn rheolaidd ac yn briodol a rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd - 

y cafwyd ei fod yn anfoddhaol.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw bersonau sy'n gweithio yn y sefydliad neu at ddiben y sefydliad, nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y person cofrestredig ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn cael eu goruchwylio'n briodol tra bônt yn cyflawni eu swyddogaethau.

Ffitrwydd y gweithwyr
    
18.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol - 

    (2) At ddibenion paragraff (1) nid yw person yn ffit i weithio mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad oni bai - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[23] wedi'i dwyn i rym.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (5) Os bydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson heblaw proffesiynolyn gofal iechyd i ddechrau gweithio yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad er gwaethaf paragraff (4)(b) - 

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad ac nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob tro y mae mewn cysylltiad â chleifion.

Canllawiau ar gyfer proffesiynolion gofal iechyd
     19. Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod unrhyw god ar foeseg neu arferion proffesiynol sydd wedi'i baratoi gan gorff sy'n gyfrifol am reoleiddio aelodau o broffesiwn gofal iechyd ar gael yn y sefydliad i aelodau'r proffesiwn gofal iechyd o dan sylw.

Cofnodion
    
20.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, ac eithrio mewn achosion lle mae rheoliad 39(5) yn gymwys, fod - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (3) Yn ogystal â'r cofnodion meddygol a gedwir yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau fod y cofnodion a bennir yn Rhan II o Atodlen 3 yn cael eu cadw a'u bod - 

    (4) Os bydd sefydliad yn cau, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion sy'n cael eu cadw yn unol â pharagraffau (1) a (3) yn cael eu cadw'n ddiogel mewn man arall a rhaid iddo drefnu iddynt fod ar gael i'w harchwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdanynt.

Barn y staff ynglycircn â'r ffordd y mae'r sefydliad yn cael ei redeg
    
21.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ffordd y mae'r sefydliad yn cael ei redeg i'r graddau ag y gall effeithio ar iechyd neu les y cleifion.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad ac unrhyw ymarferydd meddygol gyda breintiau ymarfer i hysbysu'r person cofrestredig a'r Cynulliad Cenedlaethol o'u barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.

Cwynion
    
22.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y weithdrefn gwyno") ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan glaf neu berson sy'n gweithredu ar ran claf.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gwyn a wneir o dan y weithdrefn gwyno yn cael ei hymchwilio'n llawn.

    (3) Os gofynnir amdano, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno - 

    (4) Rhaid i'r copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno gynnwys - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiladau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny, a bydd gofynion rheoliad 20(3)(b) ac (c) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdanynt, gopïau o'r cofnodion sy'n cael eu cadw o dan baragraff (5).

Ymchwil
    
23.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (2) At ddibenion paragraff (1)(a), ystyr "y Pwyllgor Moeseg Ymchwil priodol" yw pwyllgor moeseg ymchwil sydd wedi'i sefydlu yn unol â chanllawiau sy'n cael eu rhoi o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.



PENNOD 2

SAFLEOEDD

Ffitrwydd y safle
    
24.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle fel sefydliad oni bai bod y safle hwnnw mewn lleoliad, a'i fod o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu'r canlynol ar gyfer y cyflogeion ac ymarferwyr meddygol gyda breintiau ymarfer - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (5) Yn y rheoliad hwn, ystyr "awdurdod tân", mewn perthynas â sefydliad, yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal lle mae'r sefydliad wedi'i leoli, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[24].



PENNOD 3

RHEOLAETH

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig
     25.  - (1) Os yw'r darparydd cofrestredig yn unigolyn, nad yw'n rheoli'r sefydliad, rhaid i'r unigolyn hwnnw ymweld â'r sefydliad yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Os yw'r darparydd cofrestredig yn gorff, rhaid i un o'r personau canlynol ymweld â'r sefydliad yn unol â'r rheoliad hwn - 

    (3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) gael eu cynnal o leiaf unwaith bob tri mis a gallant fod yn ddirybudd.

    (4) Rhaid i'r person a fydd yn ymweld - 

    (5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig ddarparu copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei wneud o dan baragraff (4)(c) i - 

Sefyllfa ariannol
    
26.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg y cartref plant mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y sefydliad yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei ddatganiad o ddiben.

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani, rhaid i'r person cofrestredig roi unrhyw wybodaeth a dogfennau ag y bydd ar y Cynulliad ei angen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y sefydliad, gan gynnwys - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig hefyd ddarparu unrhyw wybodaeth arall i'r Cynulliad Cenedlaethol ag y bydd ar y Cynulliad ei hangen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y sefydliad, gan gynnwys - 

    (4) Yn y rheoliad hwn, mae un cwmni yn gysylltiedig ag un arall os yw un ohonynt yn rheoli'r llall, neu fod y ddau o dan reolaeth yr un person.



PENNOD 4

HYSBYSU'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Hysbysu am ddigwyddiadau
    
27.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r Cynulliad - 

    (2) Rhaid rhoi hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o 24 awr sy'n dechrau gyda'r digwyddiad o dan sylw ac, os rhoddir hysbysiad ar lafar, rhaid ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol.

Hysbysu am absenoldeb
    
28.  - (1) Os yw - 

yn bwriadu bod yn absennol o'r sefydliad am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig am yr absenoldeb.

    (2) Ac eithrio yn achos argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig gychwyn, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno arno a rhaid i'r hysbysiad bennu mewn perthynas â'r absenoldeb - 

    (3) Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion sydd wedi'u nodi yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (4) Os yw - 

wedi bod yn absennol o'r sefydliad am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, ac na roddwyd hybysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi-oed i'r swyddfa honno yn pennu'r materion a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod person a grybwyllir yn is-baragraffau (a) neu (b) o baragraff (4) wedi dychwelyd i'r gwaith a hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i'r person hwnnw ddychwelyd.

Hysbysu am newidiadau
    
29. Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu y bwriedir iddynt ddigwydd - 

Penodi datodwyr etc.
    
30.  - (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i bob person a benodwyd - 

Marwolaeth person cofrestredig
    
31.  - (1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â sefydliad, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.

    (2) Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â sefydliad, a bod y person yn marw, rhaid i gynrychiolwyr personol y person hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig - 

    (3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y sefydliad heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef - 

    (4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) ag unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn fwy na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dyfarnu, a rhaid iddo hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.

    (5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i ysgwyddo'r cyfrifoldeb amser-llawn dros y sefydliad o ddydd i ddydd yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y sefydliad, yn unol â pharagraff (3), heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.



RHAN IV

GOFYNION YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I YSBYTAI ANNIBYNNOL



PENNOD 1

GWASANAETHAU PATHOLEG, DADEBRU A THRIN PLANT MEWN YSBYTAI ANNIBYNNOL

Cymhwyso rheoliadau 33 i 35
    
32.  - (1) Mae rheoliadau 33 i 35 yn gymwys i ysbytai annibynnol o'r mathau canlynol - 

    (2) Mae rheoliad 33 hefyd yn gymwys i unrhyw sefydliad sy'n darparu gwasanaethau patholeg.

Gwasanaethau patholeg
    
33. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

Dadebru
    
34.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a rhoi ar waith ddatganiad ysgrifenedig o'r polisïau sydd i'w cymhwyso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn yn yr ysbyty mewn perthynas â dadebru cleifion a rhaid iddo adolygu'r datganiad hwnnw bob blwyddyn.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y polisïau a'r gweithdrefnau sy'n cael eu rhoi ar waith yn unol â pharagraff (1) - 

Trin plant
    
35. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, pan fo plentyn yn cael ei drin yn yr ysbyty - 



PENNOD 2

YSBYTAI ANNIBYNNOL LLE DARPERIR GWASANAETHAU RHESTREDIG PENODOL

Gweithdrefnau llawfeddygol
    
36.  - (1) Pan ddarperir triniaeth feddygol (gan gynnwys llawdriniaeth gosmetig) o dan anesthesia neu dawelydd mewn ysbyty annibynnol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau cyn i glaf gydsynio ag unrhyw lawdriniaeth a gynigir gan yr ysbyty annibynnol, bod y claf wedi cael gwybodaeth glir a chynhwysfawr ynghylch y weithdrefn ac unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â hi.

    (3) Yn achos claf nad yw'n gymwys i gydsynio â llawdriniaeth, rhaid darparu'r wybodaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (2), pryd bynnag y bo modd, i'w gynrychiolwyr.

Triniaeth ddeintyddol o dan anesthesia cyffredinol
    
37. Pan fo'r driniaeth a ddarperir mewn ysbyty annibynnol yn cynnwys triniaeth ddeintyddol o dan anesthesia cyffredinol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

Gwasanaethau obstetrig  -  staffio
    
38.  - (1) Mae'r rheoliad hwn a rheoliad 39 yn gymwys i ysbyty annibynnol lle darperir gwasanaethau obstetrig ac, mewn perthynas â geni plant, gwasanaethau meddygol.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig benodi Pennaeth Gwasanaethau Bydwreigiaeth sy'n gyfrifol am reoli darpariaeth gwasanaethau bydwreigiaeth yn yr ysbyty annibynnol a, heblaw mewn achosion lle darperir gwasanaethau obstetrig yn yr ysbyty yn bennaf gan fydwragedd, Pennaeth Gwasanaethau Obstetrig y mae ei enw wedi'i gynnwys yn y gofrestr feddygol arbenigol mewn perthynas ag arbenigeddd mewn obstetreg ac sy'n gyfrifol am reoli darpariaeth gwasanaethau obstetrig.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y proffesiynolyn gofal iechyd sy'n bennaf cyfrifol am ofalu am fenywod beichiog a chynorthwyo adeg geni plant yn fydwraig, ymarferydd cyffredinol a chanddo gymwysterau priodol, neu ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi'i gynnwys yn y gofrestr feddygol arbenigol mewn perthynas ag arbenigedd mewn obstetreg.

    (4) Pan gaiff gwasanaethau obstetrig eu darparu mewn ysbyty annibynnol yn bennaf gan fydwragedd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwasanaethau ymarferydd meddygol sy'n gymwys i ddelio ag argyfyngau obstetreg ar gael bob amser.

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod proffesiynolyn gofal iechyd sy'n gymwys i ymgymryd â dadebru baban newydd anedig ar gael yn yr ysbyty bob amser a bod medrau'r person hwnnw yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ac, os oes angen, eu diweddaru.

Gwasanaethau obstetrig  -  gofynion pellach
    
39.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau ar gael o fewn yr ysbyty i ddarparu triniaeth ddigonol i gleifion yr oedd angen ymyrraeth lawfeddygol arnynt neu fod gefeiliau wedi cael eu defnyddio arnynt wrth eni eu plentyn a bod bydwraig a chanddi brofiad priodol yn gofalu am gleifion o'r fath.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod trefniadau priodol yn bodoli ar gyfer trosglwyddo claf a'i phlentyn newydd-anedig i gyfleusterau gofal critigol o fewn yr ysbyty neu rywle arall yn y cyffiniau agos, pan fo hynny'n angenrheidiol, a hynny ar unwaith.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod trefniadau priodol yn bodoli ar gyfer trin, ac, os oes angen, trosglwyddo i gyfleuster gofal arbenigol, glaf sâl iawn neu blentyn newydd-anedig.

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod mamolaeth yn cael ei gynnal ar gyfer pob claf sy'n cael gwasanaethau obstetrig a phob plentyn a enir yn yr ysbyty, a'i fod - 

    (6) Yn y rheoliad hwn - 

Terfynu beichiogrwydd
     40.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ysbyty annibynnol lle mae beichiogrwydd yn cael ei derfynu.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw glaf ei dderbyn i ysbyty i derfynu beichiogrwydd, ac na chodir ac na dderbynnir ffi oddi wrth glaf mewn perthynas â therfynu, oni dderbyniwyd dwy dystysgrif barn mewn perthynas â'r claf.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y tystysgrifau barn sy'n ofynnol o dan baragraff (2) yn cael eu cynnwys gyda chofnod meddygol y claf, o fewn ystyr rheoliad 20.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na therfynnir unrhyw feichiogrwydd ar ôl 20fed wythnos beichiogiad, oni bai - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff beichiogrwydd ei derfynu wedi 24ain wythnos beichiogiad.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofrestr o gleifion sy'n terfynu eu beichiogrwydd yn cael ei chadw yn yr ysbyty, a'i bod - 

    (7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o gyfanswm niferoedd y terfyniadau a wnaed yn yr ysbyty, a bydd gofynion rheoliad 20(3) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.

    (8) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod hysbysiad ysgrifenedig yn cael ei anfon at Brif Swyddog Meddygol y Cynulliad Cenedlaethol o bob beichiogrwydd a derfynir yn yr ysbyty[
27].

    (9) Os bydd y person cofrestredig - 

    (10) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu gweithdrefnau priodol yn yr ysbyty er mwyn sicrhau bod meinwe ffetysol yn cael ei thrin â pharch.

    (11) Yn y rheoliad hwn, ystyr "tystysgrif barn" yw tystysgrif sy'n ofynnol gan reoliadau a wnaed o dan adran 2(1) o Ddeddf Erthylu 1967[28].

Defnyddio technegau neu dechnolegau penodol
     41.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na ddefnyddir unrhyw gynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 (o fewn ystyr rheoliad 3(1)), na ffynhonnell golau dwys (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw) mewn ysbyty annibynnol neu at ddibenion ysbyty o'r fath oni bai bod yr ysbyty hwnnw wedi sefydlu protocol proffesiynol sydd wedi'i lunio gan ymarferydd meddygol neu ddeintydd hyfforddedig a phrofiadol yn y ddisgyblaeth berthnasol, bod y driniaeth i'w darparu yn unol â'r protocol hwnnw a bod y driniaeth yn cael ei darparu yn unol ag ef.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau mai dim ond gan berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol ac sydd wedi dangos ei fod yn deall y materion canlynol y mae cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys o'r fath yn cael eu defnyddio yn yr ysbyty neu at ddibenion yr ysbyty - 



PENNOD 3

YSBYTAI IECHYD MEDDWL

Cymhwyso rheoliadau 43 i 46
    
42. Mae rheoliadau 43 i 46 yn gymwys i ysbytai annibynnol o'r mathau canlynol - 

Diogelwch cleifion ac eraill
     43.  - (1) Rhaid i'r datganiad o bolisïau a gweithdrefnau sydd i'w baratoi a'i weithredu gan y person cofrestredig yn unol â rheoliad 8(1)(d) gynnwys polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â'r canlynol - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig, yn benodol, baratoi a gweithredu protocol hunanladdiad yn yr ysbyty sy'n gofyn am - 

Rheoli ymddygiad afreolaidd
    
44. Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig sy'n nodi - 

Ymwelwyr
    
45. Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig yn yr ysbyty mewn perthynas â chleifion yn derbyn ymwelwyr.

Cofnodion iechyd meddwl
    
46. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidwadaeth a Chydsynio â Thriniaeth) 1983[30], ac sy'n ymwneud â chadw claf o dan orchymyn mewn ysbyty annibynnol neu ei drin, yn cael eu cadw am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r person y maent yn ymwneud ag ef yn peidio â bod yn glaf yn yr ysbyty.



RHAN V

GOFYNION YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GLINIGAU ANNIBYNNOL

Clinigau annibynnol
     47. Pan fo clinig annibynnol yn darparu gofal cynenedigol i gleifion, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y proffesiynolyn gofal iechyd sy'n bennaf gyfrifol am ddarparu'r gofal hwnnw yn fydwraig, yn ymarferydd cyffredinol â chymwysterau priodol, neu'n ymarferydd meddygol â chymwysterau arbenigol mewn obstetreg.



RHAN VI

AMRYWIOL

Cydymffurfio â rheoliadau
    
48. Pan fo mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â sefydliad, nid oes rhaid i unrhyw beth y mae'n ofynnol i'r person cofrestredig ei wneud o dan y rheoliadau hyn, os yw'n cael ei wneud gan un o'r personau cofrestredig, gael ei wneud gan unrhyw un o'r personau cofrestredig eraill.

Tramgwyddau
    
49.  - (1) Bydd torri, neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 i 14, 15(1) i (4), 16 i 31, 33 i 41 a 43 i 47 yn dramgwydd.

    (2) Gall y Cynulliad ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 20 ar ôl i'r person beidio â bod yn berson cofrestredig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
31]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Chwefror 2002



ATODLEN 1
Rheoliad 5


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN


     1. Nodau ac amcanion y sefydliad.

     2. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.

     3. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.

     4. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio yn y sefydliad.

     5. Strwythur trefniadol y sefydliad.

     6. Y mathau o driniaethau ac unrhyw wasanaethau eraill a ddarperir at ddibenion y sefydliad, yr ystod o anghenion y bwriadwyd i'r gwasanaethau hynny eu bodloni a'r cyfleusterau sydd ar gael er budd y cleifion.

     7. Y trefniadau a wnaed ar gyfer ymgynghori â chleifion ynghylch gweithrediad y sefydliad.

     8. Y trefniadau a wnaed ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw gleifion mewnol a'u perthnasau, cyfeillion a chynrychiolwyr.

     9. Y trefniadau ar gyfer delio â chwynion.

     10. Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas y cleifion.



ATODLEN 2
Rheoliadau 9(3), 11(2) a 18(2)


YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SYDD AM REDEG NEU REOLI SEFYDLIAD NEU WEITHIO YNDDO


     1. Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     2. Naill ai - 

gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[34].

     3. Tystlythyron ysgrifenedig oddi wrth y naill a'r llall o ddau gyflogwr diweddaraf y person.

     4. Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

     7. Os proffesiynolyn gofal iechyd yw'r person, manylion cofrestriad y person gyda'r corff (os oes un) sy'n gyfrifol am reoleiddio aelodau o'r proffesiwn gofal iechyd o dan sylw.

     8. Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol - 



ATODLEN 3
Rheoliad 20(1),(3)



RHAN I

Y CYFNODAU Y MAE'N RHAID CADW COFNODION MEDDYGOL AR EU CYFER

Math y claf Isafswm cyfnod cadw
(a) Claf oedd o dan 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben.

Hyd pen-blwydd y claf yn 25ain
(b) Claf a oedd yn 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben.

Hyd pen-blwydd y claf yn 26ain
(c) Claf a fu farw cyn cyrraedd 18 oed.

Cyfnod o 8 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf
(ch) Claf a dderbyniodd driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol yn ystod y cyfnod y mae'r cofnodion yn cyfeirio ato.

Cyfnod o 20 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cofnod olaf yn y cofnod
(d) Claf a dderbyniodd driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol yn ystod y cyfnod y mae'r cofnodion yn cyfeirio ato ac a fu farw tra'n derbyn y driniaeth honno.

Cyfnod o 8 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf
(dd) Claf y mae ei gofnodion yn ymwneud â thriniaeth gan ymarferydd cyffredinol.

Cyfnod o 10 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cofnod olaf yn y cofnod
(e) Claf sydd wedi cael organ a drawsblannwyd.

Cyfnod o 11 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad marwolaeth neu ryddhad y claf p'un bynnag yw'r cynharaf
(f) Pob achos arall.

Cyfnod o 8 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cofnod olaf yn y cofnod



RHAN II

Y COFNODION I'W CADW AR GYFER ARCHWILIADAU

1. Cofrestr o gleifion, yn cynnwys - 

     2. Cofrestr o'r holl lawdriniaethau llawfeddygol a gyflawnwyd mewn sefydliad, gan gynnwys - 

     3. Cofrestr o bob achlysur pan ddefnyddiwyd techneg neu dechnoleg y mae rheoliad 41 yn gymwys iddynt, gan gynnwys - 

     4. Cofrestr o bob cyfarpar mecanyddol neu dechnegol a ddefnyddiwyd at ddibenion y driniaeth a ddarperir gan y sefydliad, gan gynnwys - 

     5. Cofrestr o bob digwyddiad y mae'n rhaid hysbysu'r Cynulliad ohonynt yn unol â rheoliad 27.

     6. Cofnod o'r sifftiau a drefnwyd ar gyfer bob cyflogai a chofnod o'r oriau a weithiodd bob person mewn gwirionedd.

     7. Cofnod o bob person sy'n cael ei gyflogi yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y materion canlynol mewn perthynas ag unigolyn a ddisgrifir yn rheoliad 18(1) - 



ATODLEN 4
Rheoliad 39(5)



RHAN I

Y MANYLION SYDD I'W COFNODI MEWN PERTHYNAS Â CHLEIFION SY'N CAEL GWASANAETHAU OBSTETRIG

     1. Dyddiad ac amser geni plentyn bob claf, nifer y plant a anwyd i'r claf, rhyw pob plentyn a ph'un ai oedd yr enedigaeth yn enedigaeth fyw neu'n enedigaeth farw.

     2. Enw a chymwysterau'r person a ddaeth â'r plentyn i'r byd.

     3. Dyddiad ac amser unrhyw gamesgor a ddigwyddodd yn yr ysbyty.

     4. Y dyddiad pan ymadawodd unrhyw blentyn a anwyd i glaf â'r ysbyty.

     5. Os bu farw unrhyw blentyn a aned i glaf yn yr ysbyty, dyddiad ac amser y farwolaeth.



RHAN II

Y MANYLION SYDD I'W COFNODI MEWN PERTHYNAS Â PHLENTYN SY'N CAEL EI ENI MEWN YSBYTY ANNIBYNNOL

     1. Manylion pwysau a chyflwr y plentyn adeg yr enedigaeth.

     2. Datganiad dyddiol o iechyd y plentyn.

     3. Os oes unrhyw archwiliad pediatrig yn cael ei gynnal sy'n cynnwys unrhyw un o'r dulliau canlynol - 

manylion unrhyw archwiliad o'r fath a'r canlyniad.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") ac maent yn gymwys i ysbytai annibynnol a chlinigau annibynnol yng Nghymru. Mewn perthynas â Chymru mae'r Ddeddf yn darparu bod sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys sefydliadau gofal iechyd preifat a gwirfoddol, yn cael eu cofrestru a'u harchwilio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n llywodraethu eu hymddygiad.

Mae adran 2 o'r Ddeddf yn diffinio nifer o "listed services" ("gwasanaethau rhestredig") sydd (os ydynt yn cael eu darparu mewn sefydliad) yn dod â sefydliad o fewn y diffiniad o ysbyty annibynnol. Mae rheoliad 3 yn darparu bod "gwasanaethau rhestredig" yn cynnwys triniaeth drwy ddefnyddio'r technegau a'r technolegau rhagnodedig sydd wedi'u nodi yn rheoliad 3(1). Mae rheoliad 3(2) yn eithrio technegau penodol a thechnoleg benodol, sef triniaeth wres is-goch benodol, triniaeth laser benodol a defnyddio lampau uwchfioled i gael lliw haul artiffisial, rhag bod yn "wasanaethau rhestredig". Mae rheoliad 3(2) yn hepgor sefydliadau penodol o'r diffiniad o ysbyty annibynnol o dan adran 2 o'r Ddeddf. Mae'r eithriadau yn cynnwys sefydliadau sy'n darparu triniaeth feddygol neu seiciatrig ond nad oes ganddynt welyau dros nos i gleifion, sefydliadau sy'n ysbytai'r lluoedd arfog o dan Ddeddf Lluoedd Arfog 1981, neu sy'n sefydliadau sy'n darparu ar gyfer tramgwyddwyr o dan Ddeddf Carchardai 1952. Yn ychwanegol, mae clinigau annibynnol (fel y'u diffinnir yn y Rheoliadau hyn) yn cael eu hepgor, yn ogystal â sefydliadau lle mae ymarferwyr cyffredinol yn darparu gwasanaethau GIG, ond lle gall fod lleiafrif bychan o gleifion preifat sy'n cael triniaeth hefyd. Mae preswylfan preifat claf yn cael ei hepgor hefyd ar yr amod mai dim ond i'r claf hwnnw y mae triniaeth yn cael ei darparu yno. Mae meddygfeydd ac ystafelloedd ymgynghori (sy'n rhai ar wahân i ysbyty) sy'n darparu gwasnaethau meddygol o dan drefniadau sy'n cael eu gwneud ar ran cleifion gan eu cyflogwyr neu eraill yn cael eu hepgor hefyd, yn ogystal â meysydd chwarae a champfeydd lle mae triniaeth yn cael ei rhoi i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau chwaraeon.

Mae rheoliad 3(4) yn addasu'r diffiniad o lawfeddygaeth gosmetig at ddibenion adran 2(7) o'r Ddeddf fel nad yw "gwasanaethau rhestredig" yn cynnwys tyllu'r clustiau a'r corff, tatwcirc io, chwistrellu sylweddau i mewn i'r croen at ddibenion cosmetig a thynnu gwreiddiau gwallt a mân feflau ar y croen drwy ddefnyddio gwres sy'n defnyddio cerrynt trydan.

Mae rheoliad 4 yn difinio ystyr y term "clinig annibynnol".

Rhaid i bob sefydliad gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion sydd wedi'u nodi yn Atodlen 1 ac arweiniad cleifion i'r sefydliad y mae'n rhaid eu cadw o dan sylw (rheoliadau 5 i 7). Yn rhinwedd rheoliad 5(3) rhaid i'r sefydliad gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae rheoliad 8 yn nodi'r polisïau a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid eu paratoi a'u gweithredu mewn perthynas â sefydliad.

Mae rheoliadau 9 i 13 yn gwneud darparariaeth ynglycircn â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli sefydliad ac yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 9). Mae rheoliadau 10 ac 11 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y sefydliad ac yn rhagnodi gofynion ar gyfer ffitrwydd rheolwr. Mae rheoliad 12 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â'r dull priodol o redeg sefydliad a'r angen am hyfforddiant priodol. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o dramgwyddau a chyhuddiadau o dramgwyddau penodol.

Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch rhedeg sefydliadau, yn enwedig ynghylch ansawdd y gwasanaethau sydd i'w darparu mewn sefydliad, gan gynnwys materion ynglycircn â phreifatrwydd ac urddas cleifion a'r defodau crefyddol y maent yn eu parchu, staffio'r sefydliad, addasrwydd y cyflogeion ac ynghylch cwynion a chadw cofnodion. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch addasrwydd safleoedd a'r rhagofalon tân sydd i'w cymryd a dull rheoli'r sefydliadau. Mae'n ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r sefydliad fel a ragnodir (rheoliad 25) ac mae rheoliad 26 yn gosod gofynion ynghylch hyfywdra ariannol y sefydliad. Mae rheoliadau 27 i 31 yn ymdrin â rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd yna ddigwyddiadau penodol megis marwolaeth claf neu anaf difrifol iddo; yn achos absenoldeb rheolwr o'r sefydliad; pan fydd newidiadau penodol yn digwydd, er enghraifft, newid yn y person cofrestredig a phersonél eraill neu newidiadau sylweddol i safleoedd; pan fydd datodwyr ac eraill yn cael eu penodi a phan fydd y person cofrestredig yn marw.

Mae Rhan IV ac Atodlen 4 yn nodi gofynion ychwanegol sy'n gymwys i ysbytai annibynnol mewn perthynas â gwasanaethau patholeg, dadebru, trin plant, gweithdrefnau llawfeddygol penodol, triniaeth ddeintyddol, gwasanaethau obstetrig a defnyddio technegau a thechnolegau penodol.

Mae Rhan V (rheoliad 47) yn cynnwys gofynion ychwanegol pan fo clinig annibynnol yn darparu gofal cynenedigol.

Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol. Yn benodol, mae rheoliad 49 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir dyfarnu bod torri rheoliadau 5 i 14, 15(1) i (4), 16 i 31, 33 i 41 a 43 i 47 yn dramgwydd.


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 121(1), mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diffinnir ystyr "prescribed" a "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf.back

[2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 am y gofyn i ymgynghori.back

[3] Gweler Deddf Dehongli 1978, Atodlen 1. Mewnosodwyd diffiniad o "registered" mewn perthynas â bydwragedd gan Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979 (p.36), Atodlen 7, paragraff 30.back

[4] 1997 p.24.back

[5] O.S. 1995/3208, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2928, 1999/1373 a 3154.back

[6] 1977 p.49.back

[7] 1984 p.24.back

[8] O.S. 1994/3017.back

[9] 1999 p.8.back

[10] 1983 p.20.back

[11] Gweler adran 2(7).back

[12] 1997 p.46.back

[13] Gweler Deddf Dehongli 1978 (p.30), Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Feddygol 1983 (p.54), adran 56(1), Atodlen 5, paragraff 18.back

[14] Gellir cael copïau o BS EN 60825-1 oddi wrth BSI Customer Services, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL.back

[15] O.S. 1997/2776.back

[16] O.S. 1996/1656.back

[17] 1990 p.37.back

[18] 1981 p.55.back

[19] 1952 p.52. Gweler adran 53(1) ac adran 43, fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48), adran 11 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33), Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53).back

[20] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.back

[21] Gweler y troednodyn i reoliad 9(4).back

[22] 2000 p.50.back

[23] Gweler y troednodyn i reoliad 9(4).back

[24] 1947 p.41.back

[25] Mae'r Ymchwiliad Cyfrinachol i Farwolaethau Mamau a'r Ymchwiliad Cyfrinachol i Enedigaethau Marw a Marwolaethau mewn Babandod yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac Adrannau eraill gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol.back

[26] 1953 p.20. Gweler adran 41, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Genedigaethau Marw (Diffiniad) 1992 (p.29), adran 1(1).back

[27] Gweler O.S. 1991/499, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i hysbysiad o'r fath gael ei roi gan yr ymarferydd meddygol sy'n gwneud y terfyniad.back

[28] 1967 p.87. Gweler O.S. 1991/499.back

[29] 1983 p.20.back

[30] O.S. 1983/893, fel y'i diwygiwyd.back

[31] 1998 p.38.back

[32] Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.back

[33] Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio, neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.back

[34] Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back

[35] 1974 p.53.back

[36] O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249; O.S. 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.back



English version



ISBN 0 11 090453 2


  Prepared 3 April 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020325w.html