BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020327w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 327 (Cy.40)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 12 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I - 

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Sefydliadau nad ydynt yn gartrefi plant
4. Datganiad o ddiben ac arweiniad y plant
5. Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y plant

RHAN II - 

PERSONAU COFRESTREDIG
6. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
7. Penodi rheolwr
8. Ffitrwydd y rheolwr
9. Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol
10. Hysbysu tramgwyddau

RHAN III - 

RHEDEG CARTREFI PLANT

Pennod 1

Lles y plant
11. Hybu lles
12. Cynllun lleoliad y plentyn
13. Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant
14. Darparu dillad, arian poced ac angenrheidiau personol
15. Cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu
16. Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
17. Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal
18. Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden
19. Cadw defodau crefyddol
20. Anghenion iechyd plant
21. Meddyginiaethau
22. Defnyddio gwyliadwriaeth
23. Peryglon a diogelwch
24. Cynrychioliadau a chwynion

Pennod 2

Staffio
25. Staffio cartrefi plant
26. Ffitrwydd y gweithwyr
27. Cyflogi staff

Pennod 3

Cofnodion
28. Cofnodion
29. Digwyddiadau hysbysadwy

RHAN IV - 

SAFLEOEDD
30. Ffitrwydd safleoedd
31. Rhagofalon tân

RHAN V - 

RHEOLI CARTREFI
32. Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig
33. Adolygu ansawdd y gofal
34. Rheoliadau a safonau gofynnol cenedlaethol
35. Y sefyllfa ariannol

RHAN VI - 

AMRYWIOL
36. Hysbysu absenoldeb
37. Hysbysu newidiadau
38. Penodi datodwyr etc
39. Marwolaeth person cofrestredig
40. Tramgwyddau
41. Cydymffurfio â'r rheoliadau
42. Pennu swyddfeydd priodol
43. Diddymu

ATODLENNI

  1. Y materion sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben

  2. Yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un

  3. Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yng nghofnodion achosion plant sy'n cael eu lletya mewn cartrefi plant

  4. Cofnodion eraill

  5. Digwyddiadau a hysbysiadau

  6. Y materion sydd i'w monitro a'u hadolygu gan y person cofrestredig

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(4), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) ac (c), (7)(a) i (h) (j), (8)(c), 25(1), 33, 34(1), 35, 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad - 

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys - 

a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref plant yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref plant.

Sefydliadau nad ydynt yn gartrefi plant
     3.  - (1) At ddibenion y Ddeddf, mae unrhyw sefydliad sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol wedi'i eithrio o fod yn gartref plant - 

    (2) Nid yw'r eithriadau ym mharagraff 1(b), (c) ac (ch) yn gymwys i unrhyw sefydliad y mae'r llety y mae yn ei ddarparu yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant o ddisgrifiad sy'n dod o fewn adran 3(2) o'r Ddeddf[12].

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i safleoedd a ddisgrifir ym mharagraff 1(c) os bydd, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 28 neu ragor o gyfnodau 24 awr pan fydd mwy na 15 awr o ofal dydd yn cael eu darparu mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (boed y plentyn hwnnw o dan wyth oed neu beidio), ac at ddibenion y paragraff hwn rhaid cymryd nad oes unrhyw ofal dydd yn cael ei ddarparu pan fydd plentyn yng ngofal ei riant, ei berthynas neu ei riant maeth.

Datganiad o ddiben ac arweiniad y plant
     4.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r cartref plant ddatganiad a ysgrifennir ar bapur a fydd yn cynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1 ("y datganiad o ddiben").

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio ar unrhyw adeg resymol gan - 

ac yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant yn cynnwys plentyn y mae llety yn y cartref plant yn cael ei ystyried ar ei gyfer.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â chydymffurfio â pharagraff 2(c) mewn perthynas â phlentyn os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gyswllt rhwng y plentyn a'i riant a'i bod yn angenrheidiol cyfyngu ar argaeledd y datganiad, neu unrhyw ran ohono, er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn.

    (4) Yn y rheoliad hwn ystyr 'deddfwriaeth addysg' yw'r Deddfau Addysg (fel y'u diffinnir gan adran 578 o Ddeddf Addysg 1996[
13]).

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad i'r cartref plant ar ffurf sy'n briodol ar gyfer oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant sydd i gael eu lletya yn y cartref ("arweiniad y plant") a rhaid iddo gynnwys - 

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

    (8) Nid oes dim ym mharagraff (7) nac yn rheoliad 30(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy - 

Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y plant
     5.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (2) Pryd bynnag y bydd yn ymarferol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn weithredol.



RHAN II

PERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
    
6.  - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant oni bai bod y person - 

    (3) Dyma'r gofynion - 

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[14] i rym.

    (5) Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant - 

Penodi rheolwr
     7.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg y cartref plant - 

    (2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref plant, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith - 

    (3) Os y darparydd cofrestredig yw'r person sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.

Ffitrwydd y rheolwr
    
8.  - (1) Rhaid i berson beidio â rheoli cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli cartref plant - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[15] i rym.

Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
     9.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i'r canlynol - 

redeg y cartref neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol;

    (2) Os yw'r darparydd cofrestredig - 

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref plant.

    (3) Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r cartref ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref plant.

Hysbysu tramgwyddau
    
10.  - (1) Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith - 

    (2) Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[16] (Amddiffyn Plant) rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono ac o ddyddiad a man y cyhuddiad.



RHAN III

RHEDEG CARTREFI PLANT



PENNOD 1

LLES Y PLANT

Hybu lles
     11.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref yn cael ei redeg - 

Cynllun lleoliad y plentyn
    
12.  - (1) Cyn darparu llety ar gyfer plentyn mewn cartref plant, neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted â phosibl wedyn, rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig ("cynllun lleoliad") ar gyfer y plentyn, gan ymgynghori ag awdurdod lleoli'r plentyn, a chan nodi yn benodol - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw golwg ar y cynllun lleoliad a'i adolygu yn ôl yr angen.

    (3) Wrth baratoi neu adolygu cynllun lleoliad, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol a chan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn, ofyn barn y plentyn a'i chymryd i ystyriaeth.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig - 

Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant
    
13.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant yn cael - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw angen deietegol arbennig sydd gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref, oherwydd ei iechyd, ei argyhoeddiad crefyddol, ei darddiad hiliol neu ei gefndir diwylliannol, yn cael ei fodloni.

Darparu dillad, arian poced ac angenrheidiau personol
    
14.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod anghenion a dewisiadau rhesymol pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref o ran dillad, gan gynnwys esgidiau, ac angenrheidiau personol yn cael eu bodloni.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig roi i'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref unrhyw symiau arian mewn perthynas â'u costau personol achlysurol sy'n briodol i'w hoedran a'u dealltwriaeth.

Cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu
    
15.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (2) Dyma'r personau - 

    (3) Yn achos cartref y mae tystysgrif o dan adran 51 o Ddeddf 1989 mewn grym mewn perthynas ag ef, gall y cyfleusterau fod mewn cyfeiriad sy'n wahanol i gyfeiriad y cartref.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) ac (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio'r canlynol, ar bob adeg resymol, heb gyfeirio at bersonau sy'n gweithio yn y cartref - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio unrhyw gynorthwyon ac offer y gall fod arno eu hangen oherwydd ei anabledd er mwyn ei hwyluso i gyfathrebu ag eraill.

    (6) Caiff y person cofrestredig (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)) osod cyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau ar gysylltiadau plentyn ag unrhyw berson o dan baragraff (1)(a), neu ar gyfarfodydd preifat y plentyn yn y cartref â'r personau hynny, neu ar ei gyfle i gyfathrebu o dan baragraff (4), os yw o'r farn resymol ei bod yn angenrheidiol eu gosod er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn o dan sylw.

    (7) Ni all unrhyw fesur gael ei osod gan y person cofrestredig yn unol â pharagraff (6) oni bai - 

    (8) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson.

    (9) Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraffau (6) ac (8), os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
     16.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig - 

    (2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu - 

Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal
    
17.  - (1) Heb ragfarnu paragraff (5), rhaid peidio â defnyddio, ar unrhyw adeg, unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol neu'n afresymol ar blant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, baratoi a dilyn polisi ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel "polisi rheoli ymddygiad") sy'n nodi - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau o fewn 24 awr o ddefnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu mewn cartref plant fod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud mewn cyfrol a gedwir at y diben, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys - 

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol yn erbyn plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant - 

    (6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd - 

    (7) Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraff (6) os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden
    
18.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig hybu cyrhaeddiad addysgol plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant, a rhaid i'r gwaith hybu hwnnw sicrhau - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref - 

    (3) Pan fydd unrhyw blentyn mewn cartref plant wedi cyrraedd oedran nad yw'n ofynnol mwyach iddo gael addysg amser llawn orfodol, rhaid i'r person cofrestredig helpu i wneud trefniadau ar gyfer y plentyn mewn perthynas â'i addysg, ei hyfforddiant a'i gyflogaeth, a'u rhoi ar waith.

Cadw defodau crefyddol
    
19. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob plentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn cael ei alluogi, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol - 

Anghenion iechyd plant
    
20.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig hybu ac amddiffyn iechyd y plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.

    (2) Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

Meddyginiaethau
    
21.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi unrhyw feddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref plant, eu trafod, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi'n ddiogel a'u gwaredu.

    (2) Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3) - 

    (3) Nid yw paragraff (2) yn atal meddyginiaeth - 

os yw gwneud hynny yn ddiogel i'r plentyn ac i eraill.

    (4) Yn y rheoliad hwn, ystyr "rhagnodi" yw - 

Defnyddio gwyliadwriaeth
     22. Yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion i fonitro y mae llys yn eu gosod o dan unrhyw ddeddfiad, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd dyfais ar gyfer gwylio plant yn cael ei defnyddio mewn cartref plant ac eithrio er mwyn diogelu a hybu lles y plentyn o dan sylw neu blant eraill sy'n cael eu lletya yn y cartref plant ac os yw'r amodau canlynol wedi'u bodloni - 

Peryglon a diogelwch
    
23. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

Cynrychioliadau a chwynion
    
24.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cynrychioliadau a chwynion sy'n cael eu gwneud gan neu ar ran plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

    (2) Rhaid i'r weithdrefn ddarparu, yn benodol - 

    (3) Rhaid rhoi copi o'r weithdrefn pan ofynnir amdano i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).

    (4) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a roddir o dan baragraff (3) gynnwys - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt.

    (8) Nid yw'r rheoliad hwn (ar wahân i baragraff (6)) yn gymwys i unrhyw gynrychioliadau y mae Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991[
20] yn gymwys iddynt.



PENNOD 2

STAFFIO

Staffio cartrefi plant
     25.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd yna bob amser nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas, yn gweithio yn y cartref plant, o roi sylw - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref plant yn atal y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol er mwyn diwallu eu hanghenion.

Ffitrwydd gweithwyr
    
26.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio - 

    (2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref plant oni bai - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[21] i rym.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (5) Os yw'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraff (4)(b) - 

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant ac nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob adeg.

Cyflogi staff
     27.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol - 

    (3) At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw'r darparydd cofrestredig, un o swyddogion naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi, neu'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu gwnstabl.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir ganddo - 



PENNOD 3

COFNODION

Cofnodion
    
28.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, ar ran awdurdod lleoli plentyn, gadw cofnod ar ffurf adroddiad mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, a hwnnw - 

    (2) Rhaid peidio â datgelu'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol - 

    (3) Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig gadw y cofnod a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref plant neu, os yw'r cartref yn cau, rhaid iddo ei gadw mewn man arall a threfnu iddo fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdano.

    (5) Rhaid cadw cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) am o leiaf bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnodiad diwethaf, ac eithrio cofnodion am fwydlenni, y mae angen eu cadw am flwyddyn yn unig.

    (6) Nid yw'r rheoliad hwn na rheoliad 29 yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) nac unrhyw reol gyfreithiol am gofnodion neu wybodaeth.

Digwyddiadau hysbysadwy
     29.  - (1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 5 yn digwydd mewn perthynas â chartref plant, rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu'r personau a nodir mewn perthynas â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.

    (2) Dim ond os yw'n angenrheidiol y mae'n rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys enw plentyn.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref o unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny neu y byddai'n rhoi lles y plentyn mewn risg.

    (4) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ac a roddir ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.



RHAN IV

SAFLEOEDD

Ffitrwydd safleoedd
    
30.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(8) rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref plant oni bai bod y safle hwnnw mewn lleoliad, a'i fod o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn natganiad y cartref o'i ddiben.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob rhan o'r cartref a ddefnyddir gan blant - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei gadw'n rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y canlynol ar gael o fewn y cartref plant i gael eu defnyddio gan y plant sy'n cael eu lletya yno mewn preifatrwydd priodol - 

ar gyfer nifer a rhyw y plant sy'n cael eu lletya.

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant - 

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau digonol ar gael o fewn cartref plant ar gyfer golchi llieiniau a dillad, ac, ar gyfer y plant sy'n dymuno gwneud hynny, i olchi, sychu a smwddio eu dillad eu hunain.

    (7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y canlynol yn cael eu darparu o fewn cartref plant - 

    (8) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob plentyn yn cael lle i gysgu sydd - 

    (9) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn rhannu ystafell wely gydag oedolyn, nac ychwaith (ac eithrio yn achos brodyr a chwiorydd) gyda phlentyn o'r rhyw arall, na chyda phlentyn o oedran sy'n arwyddocaol wahanol.

    (10) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer personau sy'n gweithio yn y cartref plant - 

Rhagofalon tân
    
31.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (2) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod tân" yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal y mae cartref plant wedi'i leoli ynddi, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[23].



RHAN V

RHEOLI CARTREFI

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig
     32.  - (1) Os yw'r darparydd cofrestredig yn unigolyn nad yw'n rheoli'r cartref, rhaid iddo ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn - 

    (3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith y mis a gallant fod yn ddirybudd.

    (4) Rhaid i'r person sy'n ymweld - 

    (5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c) - 

Adolygu ansawdd y gofal
    
33.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa brioodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob adolygiad a gynhelir at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi ar gael ar gais i'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, eu rhieni a'r awdurdodau lleoli.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, eu rhieni a'u hawdurdodau lleoli.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig beidio ag anelu at sicrhau ymgynghoriad â rhiant plentyn o dan baragraff (3) os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'r rhiant a'i bod yn angenrheidiol atal ymgynghoriad o'r fath, neu gyfynu arno, er mwyn hybu neu ddiogelu lles y plentyn.

Rheoliadau a safonau gofynnol cenedlaethol
    
34. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod copi o'r Rheoliadau hyn (ac o unrhyw ddiwygiadau iddynt) ac o'r safonau gofynnol cenedlaethol[24] (ac o unrhyw ddiwygiadau iddynt) sy'n gymwys i gartrefi plant a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 23(1) o'r Ddeddf yn cael eu cadw yn y cartref a threfnu eu bod ar gael pan ofynnir amdanynt - 

Y sefyllfa ariannol
     35.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg y cartref plant mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y cartref yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei ddatganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y cartref plant, gan gynnwys - 

    (4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.



RHAN VI

AMRYWIOL

Hysbysu absenoldeb
    
36.  - (1) Os yw - 

i fod yn absennol o'r cartref am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb.

    (2) Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb ddechrau neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu mewn perthynas â'r absenoldeb - 

    (3) Os yw absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraff (a) i (d) o baragraff (2).

    (4) Os yw - 

wedi bod yn absennol o'r cartref plant am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, ac na roddwyd hybysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno yn pennu'r materion a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) wedi dychwelyd i'r gwaith a hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau
    
37. Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny - 

Penodi datodwyr etc
    
38.  - (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir - 

Marwolaeth person cofrestredig
    
39.  - (1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.

    (2) Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig - 

    (3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef - 

    (4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion pargraff (3)(b) a rhaid iddynt hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.

    (5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref plant, yn unol â pharagraff (3), heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.

Tramgwyddau
    
40.  - (1) Mae torri neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 4 i 37 yn dramgwydd.

    (2) Heb ragfarnu pwerau'r Cynulliad o dan adran 29 o'r Ddeddf[
25] i ddwyn achos yn erbyn personau a fu unwaith, ond nad ydynt mwyach, yn gofrestredig mewn perthynas â chartref plant, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith, ond nad yw mwyach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 28(5) ar ôl iddo beidio â bod yn berson cofrestredig.

Cydymffurfio â'r rheoliadau
     41. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chartref plant, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Pennu swyddfeydd priodol
    
42. Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chartrefi plant sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.

Diddymu
    
43. Mae'r Rheoliadau canlynol yn cael eu diddymu i'r graddau y bônt yn gymwys i Gymru - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[31]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Chwefror 2002



ATODLEN 1
Rheoliad 4(1)


Y MATERION SYDD I'W CYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN


     1. Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

     2. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

     3. Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.

     4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.

     5. Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw.

     6. Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion.

     7. Strwythur trefniadol y cartref.

     8. Y manylion canlynol - 

     9. Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).

     10. Os yw'r cartref yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref ynglycircn â mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o faint y cartref ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

     11. Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref, a sail damcaniaethol neu therapiwtig y gofal sy'n cael ei ddarparu.

     12. Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

     13. Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.

     14. Y trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y plant mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.

     15. Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref ynghylch ei weithrediad.

     16. Manylion - 

     17. Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.

     18. Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref nad yw wedi'i awdurdodi.

     19. Manylion unrhyw gyfrwng gwyliadwriaeth i gadw golwg ar blant y gellir ei ddefnyddio yn y cartref.

     20. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref.

     21. Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.

     22. Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.

     23. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y plant sy'n cael eu lletya yno.

     24. Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o gynlluniau lleoliad.

     25. Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y gall plant rannu ystafelloedd gwely.

     26. Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

     27. Manylion polisi'r cartref ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu yng nghyswllt phlant a hawliau plant.



ATODLEN 2
Rheoliadau 6, 8, 26


YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CARTREF PLANT NEU WEITHIO MEWN UN


     1. Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.

     2. Naill ai - 

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[33].

     3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.

     4. Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y swydd neu'r gyflogaeth i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

     7. Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol - 



ATODLEN 3
Rheoliad 28(1)


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YNG NGHOFNODION ACHOSION PLANT SY'N CAEL EU LLETYA MEWN CARTREFI PLANT


     1. Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu.

     2. Dyddiad geni a rhyw y plentyn.

     3. Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un.

     4. Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

     5. Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref.

     6. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn.

     7. Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani.

     8. Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un.

     9. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli.

     10. Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn).

     11. Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb.

     12. Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto.

     13. Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996[
36] a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath.

     14. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn.

     15. Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn.

     16. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn.

     17. Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

     18. Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall.

     19. Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad.

     20. Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn.

     21. Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn.

     22. Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

     23. Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol.

     24. Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi.

     25. Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn.

     26. Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr.

     27. Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref.



ATODLEN 4
Rheoliad 28(4)


COFNODION ERAILL


     1. Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant - 

     2. Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1) - 

     3. Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.

     4. Cofnod o bob damwain sy'n digwydd yn y cartref plant, neu i blant tra maent yn cael eu lletya yn y cartref.

     5. Cofnod o unrhyw feddyginiaeth a dderbyniwyd, a waredir ac a roddwyd i unrhyw blentyn.

     6. Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf larwm tân a gynhelir, gyda manylion unrhyw ddiffyg naill ai yn y weithdrefn neu yn yr offer o dan sylw, ynghyd â manylion y camau a gymerwyd i gywiro'r diffyg hwnnw.

     7. Cofnod o bob arian a adneuwyd gan blentyn i'w gadw'n ddiogel, ynghyd â dyddiad tynnu'r arian hwnnw, neu'r dyddiad y dychwelwyd ef.

     8. Cofnod o bob peth gwerthfawr a adneuwyd gan blentyn a dyddiad ei ddychwelyd.

     9. Cofnodion o bob cyfrif a gedwir yn y cartref plant.

     10. Cofnod o'r bwydlenni a weinwyd.

     11. Cofnod, yn unol â rheoliad 17(4), o bob mesur disgyblu a orfodwyd ar blentyn.

     12. Cofnodion o bob roster dyletswyddau staff, a chofnod o'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.

     13. Lòg dyddiol o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn y cartref.

     14. Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref ac â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr a'r rhesymau am yr ymweliad.



ATODLEN 5
Rheoliad 29(1)


DIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU


Colofn 1 Colofn 2
Y digwyddiad: I'w hysbysu i:
     Swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol Yr awdurdod Lleoli Yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal Swyddog heddlu priodol Yr awdurdod iechyd lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal
Marwolaeth plentyn sy'n cael ie letya yn y cartref ie ie ie      ie
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio yn y cartref at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999[37] ie ie               
Salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol sydd wedi'u dioddef gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref ie ie               
Brigiad clefyd heintus sydd ym marn ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ymweld â'r cartref yn ddigon difrifol i gael ei hybysu fel y cyfryw ie ie           ie
Honiad bod plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref wedi cyflawni tramgwydd difrifol      ie      ie     
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn ymwneud â phuteindra, neu amheuaeth ei fod yn ymwneud ag ef ie ie ie ie     
Digwyddiad difrifol sy'n golygu bod angen galw'r heddlu i'r cartref ie ie               
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn rhedeg i ffwrdd      ie               
Unrhyw gwyn ddifrifol ynghylch y cartref neu bersonau sy'n gweithio yno ie ie               
Cychwyn unrhyw ymchwiliad amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a chanlyniad dilynol yr ymchwiliad ie ie               



ATODLEN 6
Rheoliad 33(1)


Y MATERION SYDD I'W MONITRO A'U HADOLYGU GAN Y PERSON COFRESTREDIG


     1. Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad.

     2. Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel.

     3. Bwydlenni dyddiol.

     4. Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno.

     5. Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

     6. Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau.

     7. Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.

     8. Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref.

     9. Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref.

     10. Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.

     11. Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno.

     12. Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

     13. Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn.

     14. Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.

     15. Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol.

     16. Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.

     17. Lòg dyddiol y cartref.

     18. Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân.

     19. Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion.

     20. Cofnodion cyfarfodydd staff.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ac maent yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau mewn perthynas â Chymru. Mae'r Ddeddf yn darparu pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhan fwyaf o Rannau I a II o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2002.

Mae'r trefniadau newydd hyn yn amnewid y system statudol mewn perthynas â chartrefi plant y darparwyd ar ei chyfer gan Ddeddf Plant 1989 ac mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 (fel y'u diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Mae rheoliad 3 yn eithrio sefydliadau penodol o'r diffiniad o gartref plant o dan adran 1 o'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau sy'n darparu gofal byr-dymor dros nos, gwyliau, neu weithgareddau eraill am lai nag 28 o ddiwrnodau y flwyddyn mewn perthynas ag unrhyw un plentyn, ac ystod eang o sefydliadau sy'n darparu llety i'r rhai dros 16 oed a throsodd oni bai, yn y naill achos neu'r llall, fod y sefydliad yn lletya'n bennaf blant sy'n anabl neu sydd fel arall yn dod o dan y disgrifiadau yn adran 3(2) o'r Ddeddf. Mae colegau addysg bellach a sefydliadau ar gyfer tramgwyddwyr ifanc yn cael eu heithrio hefyd.

O dan reoliad 4, rhaid bod gan bob cartref ddatganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1, ac arweiniad y plant i'r cartref. Rhaid i'r cartref gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae rheoliadau 6 i 10 yn gwneud darpariaeth ynglycircn â'r personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r cartref, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r cartref, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael amdano (rheoliad 6). Mae rheoliad 7 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y cartref, ac mae rheoliad 9 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y cartref yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae cartrefi plant yn cael eu rhedeg, yn enwedig ynglycircn â'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.

Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd safleoedd ac ynghylch y rhagofalon tân sydd i'w cymryd. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli cartrefi plant. Mae rheoliad 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r cartref fel a ragnodir, ac mae rheoliad 34 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig adolygu a monitro'r materion a nodir yn Atodlen 6 sy'n ymwneud ag ansawdd y gofal sydd i'w ddarparu gan y cartref. Mae Rheoliad 36 yn gosod gofynion ynglycircn â sefyllfa ariannol y cartref.

Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 41 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir cael bod torri'r rheoliadau a bennir yn rheoliad 41 yn dramgwydd ar ran y person cofrestredig. Mae rheoliad 42 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfeydd mewn rhannau o Gymru ar gyfer ei hysbysu o dan y rheoliadau.


Notes:

[1] 2000 p. 14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Diffinnir "prescribed" a "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf.back

[2] Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf i gael gweld y gofyniad i ymgynghori.back

[3] Adran 59 o Ddeddf 1989 sy'n llywodraethu darparu llety i blant gan gyrff gwirfoddol.back

[4] Gweler adran 121(6) i (8) i gael y ddarpariaeth ynghylch personau sy'n cael eu cymryd ymlaen i redeg a rheoli cartref cymunedol a ddarperir gan gorff gwirfoddol.back

[5] 1989 p.41.back

[6] 1977 p.49.back

[7] 1997 p.46.back

[8] 1984 p.24.back

[9] 1992 p.13.back

[10] Gweler adran 9(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000.back

[11] 1952 p.52. Fe'i hamnewidiwyd gan adran 170(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 15 iddi, ac Atodlen 16 iddi; adrannau 5(2), 18(3) a 168(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33); adran 119 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37); ac adran 165(1) o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6), adran 5 o Atodlen 9 iddi. Mae is-adran 1(a) o Ddeddf 1952 i'w diddymu gan adrannau 59 a 75 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43) ac Atodlen 8 iddi ar ddyddiad sydd i'w bennu.back

[12] Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu sydd wedi bod yn sâl; at bersonau y mae neu yr oedd ganddynt anhwylder meddwl; at bersonau sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol neu sydd wedi bod yn ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.back

[13] 1996 p.56.back

[14] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i bargraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back

[15] Gweler y troednodyn i reoliad 6(4).back

[16] 2000 p.50.back

[17] Sefydlwyd Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Llysoedd Plant a Theuluoedd gan Bennod II o Ran I o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43. Mae swyddogion y Gwasanaeth yn cael eu penodi ar gyfer plant mewn achosion penodedig (adran 41).back

[18] O.S. 1991/894 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033 ac O.S. 1993/3069.back

[19] 1968 p.67. Mae adran 58 wedi'i diwygio gan adran 1 o Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc 1992 (p.28).back

[20] Gweler y troednodyn i reoliad 15(2)(ch).back

[21] 1997 p. 50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.back

[22] O dan Reoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 (O.S. 1991/890), rhaid i'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas â phlentyn sydd wedi'i leoli mewn cartref plant ddal eu gafael ar eu cofnodion achos (sy'n cynnwys unrhyw adroddiad yn eu meddiant ynghylch lles y plentyn) am bymtheg a thrigain o flynyddoedd ar ôl marwolaeth y plentyn neu, os yw'r plentyn yn marw cyn cyrraedd deunaw oed, am bymtheng mlynedd o ddyddiad y farwolaeth.back

[23] 1947 p.41.back

[24] O dan adran 23 o'r Ddeddf gall y Cynulliad Cenedlaethol baratoi a chyhoeddi datganiadau ar y safonau gofynnol cenedlaethol sy'n gymwys i gartrefi plant, sy'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth mewn penderfyniadau ac achosion penodol o dan Ran II o'r Ddeddf.back

[25] O dan adran 29 o'r Ddeddf gall y Cynulliad Cenedlaethol, o fewn y terfynau amser sydd wedi'u pennu yno, ddwyn achos am dramgwyddau o dan reoliadau a wnaed o dan Ran II o'r Ddeddf.back

[26] O.S. 1991/1506.back

[27] O.S. 1993/3069.back

[28] O.S. 1994/1511.back

[29] O.S. 1997/2308.back

[30] O.S. 2001/140.back

[31] 1998 p.38.back

[32] Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.back

[33] Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back

[34] 1974 p.53.back

[35] O.S. 1975/1023. Ar y ddyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.back

[36] 1996 p.56. Mae adran 324 yn cael ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 77 o Atodlen 30 iddi, a chan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).back

[37] 1999 p.14.back



English version



ISBN 0 11 090448 6


  Prepared 28 March 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020327w.html