[New search]
[Help]
2002 Rhif 328 (Cy.41)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
13 Chwefror 2002 | |
|
Yn dod i rym |
28 Chwefror 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y p
er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 32(9) a 33(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Grant arbennig perthnasol
2.
Yn lle is-adran (12) o adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 rhoddir -
"
(12) In this section and in section 33 below, "relevant special grant" means the special grant payable in accordance with the special grant report (Special Grant Report (No 20) (Wales) 2001) approved by the National Assembly for Wales pursuant to section 88B of the 1988 Act on 24 January 2002."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 32 a 33, yn y drefn honno, o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("y Ddeddf") yn nodi sut mae awdurdod bilio i gyfrifo anghenion ei gyllideb a swm sylfaenol ei dreth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o "relevant special grant" yn adran 32(12) o'r Ddeddf ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 mewn perthynas â Chymru yn unig. Mae'r diffiniad yn berthnasol ar gyfer gweithredu adran 32 ac adran 33.
Mae copi o'r adroddiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes:
[1]
1992 p. 14. Mewnosodwyd is-adran (12) o adran 32 gan O.S. 1995/234 a'i amnewid, mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2001, gan O.S. 2001/559.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090434 6
|
Prepared
6 March 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020328w.html