BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 329 (Cy.42)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
13 Chwefror 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2002 | |
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
2.
Caiff Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[3] eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliadau 3 i 8 isod.
3.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(a) yn y diffiniad o "Directive 95/2/EC", yn lle'r geiriau "and European Parliament and Council Directive 98/72/EC" rhoddir y geiriau ", European Parliament and Council Directive 98/72/EC[4] and European Parliament and Council Directive 2001/5/EC"[5]
(b) yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC", yn lle'r geiriau "and Commission Directive 2000/63/EC", rhoddir y geiriau ", Commission Directive 2000/63/EC[6] and Commission Directive 2001/30 /EC"[7]), ac
(c) yn y diffiniad o "purity criteria", yn lle paragraff (b), rhoddir y paragraff canlynol -
"
(b) in the case of magnesium carbonates (E504), the purity criteria referred to in Schedule 5;".
4.
Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) rhoddir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (1C) -
"
(1D) In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additive or food, it shall be a defence to prove that -
(a) the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 March 2002; and
(b) the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3(b) and (c) and 8 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2002 had not been in force when that matter occurred.".
5.
Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8) -
(a) yn nodyn (2), yn lle'r geiriau "and E 948" rhoddir y geiriau ", E 948 and E 949"; a
(b) yn y Tabl -
(i) yn y golofn gyntaf yn union ar ôl y cyfeiriad at "E948", rhoddir cyfeiriad at "E949", a
(ii) yn yr ail golofn, yn union ar ôl y cyfeiriad at "Oxygen", rhoddir cyfeiriad at "Hydrogen".
6.
Yn y Tabl i Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir) -
(a) yn y cofnod ar gyfer esterau Glycerol rosinau coed (E 445) -
(i) yn y drydedd golofn, ar ôl y cyfeiriad at "non-alcoholic flavoured cloudy drinks", ychwanegir y cyfeiriadau canlynol -
"
Cloudy spirit drinks in accordance with Council Regulation (EEC) No. 1576/89 laying down general rules on the definition, designation and presentation of spirit drinks[8]
Cloudy spirit drinks containing less than 15% alcohol by volume";
(ii) yn y bedwaredd golofn, gyferbyn â phob un o'r cyfeiriadau a ychwanegir gan y paragraff hwn, ychwanegir cyfeiriadau at "100mg/l";
(b) yn union ar ôl y cofnod ar gyfer Disodium 5'-ribonucleotides (E 635), mewnosodir y cofnod canlynol -
E 650 |
Zinc acetate |
Chewing gum |
1000 mg/kg"; |
(c) yn union ar ôl y cofnod ar gyfer Carbamide (E 927b) mewnosodir y cofnodion canlynol -
"E 943a
E 943b
E 944
|
Butane
Iso-butane
Propane
|
} |
Vegetable oil pan spray (for professional use only) Water-based emulsion spray |
quantum satis". |
7.
Yn Atodlen 4 (carwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir), yn y cofnod ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) mewnosodir yn y golofn cyntaf y cyfeiriad "E 1520".
8.
Yn Atodlen 5 (meini prawf purdeb) -
(a) yn lle'r testun ar y dechrau sy'n cychwyn gyda'r geiriau "Each miscellaneous additive for which specific purity criteria are specified" ac sy'n gorffen gyda'r ymadrodd "E 957 Thaumatin.", rhoddir y testun canlynol -
"
The miscellaneous additives for which specific purity criteria are referred to below shall not contain -
(a) more than 2 milligrams per kilogram of arsenic;
(b) more than 10 milligrams per kilogram of lead;
(c) more than 50 milligrams per kilogram of copper;
(d) more than 25 milligrams per kilogram of zinc; or
(e) more than 50 milligrams per kilogram of any combination of copper and zinc"; a
(b) hepgorir gweddill yr Atodlen ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud â magnesium carbonates (E 504).
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001
9.
Hepgorir paragraff (2) o reoliad 6 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001[9].
(2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1997[10], Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[11], Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001[12]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001[13] a'r Rheoliadau hyn:
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966[14]); Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976[15]; Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976[16]; Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977[17]); Rheoliadau Llaeth Tew a Llaeth Sych 1977[18]; Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981[19]); Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[20]; Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[21]; Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[22].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[23].
John Marek
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes ("y prif Reoliadau") sy'n gymwys i Brydain Fawr.
Mae'r Rheoliadau yn gweithredu -
(a) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/30/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n nodi meini prawf purdeb penodol ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1), a
(b) Cyfarwyddeb 2001/5/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2 ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L55, 24.2.2001, t.59).
Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, mae'r Rheoliadau'n pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennir yn yr Atodiad i gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/30/EC (rheoliadau 3(b) ac (c), 4 ac 8) ac yn gwneud diwygiadau i Reoliadau penodol o ran cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 9).
Mae'r Rheoliadau hefyd -
(a) yn ychwanegu un ychwanegyn newydd at y rhestr, yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, o ychwanegion bwyd amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8 i'r Rheoliadau hynny (rheoliad 5);
(b) yn addasu'r rhestr, yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau, o ychwanegion bwyd amrywiol a all gael eu cynnwys mewn bwydydd penodol, drwy ychwanegu pedwar ychwanegyn newydd at y rhestr honno a phennu bwydydd ychwanegol y gellir cynnwys esterau Glycerol o rosinau coed ynddynt (rheoliad 6); ac
(c) yn addasu'r rhestr o garwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau drwy ymgorffori Rhif E ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) (rheoliad 7).
Notes:
[1]
1990 (p. 16).back
[2]
Cafodd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 ac O.S. 2001/1440 sy'n gymwys i Gymru yn unig.back
[4]
OJ Rhif L295, 4.11.98, t. 18.back
[5]
OJ Rhif L55, 24.2.2001, 2. 59.back
[6]
OJ Rhif L277, 30.10.2000, t. 1 .back
[7]
OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1.back
[8]
OJ Rhif L160, 12.6.1989, t. 1.back
[9]
O.S. 2001/1787.back
[10]
O.S. 1997/1413.back
[11]
O.S. 1999/1136.back
[12]
O.S. 2001/1440.back
[13]
O.S. 2001/1787.back
[14]
O.S. 1966/1073; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[15]
O.S. 1976/509; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[16]
O.S. 1976/541; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[17]
O.S. 1977/927; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[18]
O.S. 1977/928; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[19]
O.S. 1981/1063; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[20]
O.S. 1984/1566; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[21]
O.S. 1992/1978; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back
[22]
O.S. 1996/1499; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[23]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090432 X
|
Prepared
27 February 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020329w.html