BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020438w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 438 (Cy.56)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 28 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy ar ei gyfer
     3. Ni fydd grantiau ond yn daladwy ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol ac ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant hwnnw am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Grantiau ar gyfer taliadau i drydydd partïon
    
4. Os - 

rhaid i'r taliadau hynny, i'r graddau hynny, gael eu trin yn wariant a ragnodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y Grantiau
    
5. Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny o'r math y cyfeirir ato yn y paragraffau o'r Atodlen a restrir yn y golofn ar y chwith i'r tabl isod yn ôl cyfradd ganrannol y gwariant a bennir mewn perthynas ag ef yn y golofn ar y dde i'r tabl.


TABL
Paragraff yr Atodlen Cyfradd ganrannol y grant
1(h), 3(b) a 9(ch) 100
Pob paragraff arall 60

Amodau talau grantiau
    
6.  - (1) Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ei ddirprwy.

    (2) Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd y bydd yn cael ei dynnu gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny.

    (3) Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw - 

    (4) Os cyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd iddo gael ei dynnu yn ystod y cyfnod sy'n ymestyn o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn o dan baragraff (1), ceir gwneud yn ddi-oed unrhyw daliad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno nad yw'n fwy na thri chwarter o'r grant y gwnaed cais amdano mewn perthynas â'r gwariant hwnnw, ac eithrio pan fydd yn penderfynu fel arall, ond ni thelir grant pellach ar gyfer y gwariant hwnnw hyd nes cyflwyno datganiad yn unol â pharagraff (5)(a).

    (5) Rhaid i bob awdurdod addysg a dderbyniodd grant neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw - 

    (6) Ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) am y flwyddyn honno.

    (7) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.

     7. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, ar adeg cymeradwyo gwariant at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn mynnu gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiben a restrir yn yr Atodlen, bydd talu'r grant at y diben hwnnw yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg i gael taliad y grant.

    
8.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd talu yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

    (2) Os penderfynwyd ar amodau yn unol â'r rheoliad hwn ni cheir talu grant oni fydd yr amodau hynny wedi'u cyflawni neu wedi'u tynnu'n ôl yn unol â pharagraff (3).

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio'r amodau y penderfynwyd arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy
    
9. Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei fynnu, roi iddo unrhyw wybodaeth bellach y bydd yn ei mynnu i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu'n briodol o dan y Rheoliadau hyn.

    
10. Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion (gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag ad-dalu'r grant neu dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw symiau sy'n perthyn i werth asedau a gaffaelwyd, a ddarparwyd neu a wellhawyd drwy gymorth grant neu log ar symiau sy'n ddyledus iddo) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

    
11.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod yn rhaid i unrhyw awdurdod addysg ddirprwyo penderfyniadau ynghylch gwario - 

i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio gofynion y penderfynir arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Darpariaethau diddymu ac eithriadu
    
12. Drwy hyn mae Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001[13] yn cael eu diddymu, ond bydd y rheoliadau hynny'n parhau'n gymwys i daliadau grant a awdurdodwyd gan y Rheoliadau hynny mewn perthynas â gwariant a dynnwyd cyn y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac i unrhyw amod neu ofyniad a bennwyd gan y Rheoliadau sydd wedi'u diddymu, nac yn unol â hwy.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefror 2002



ATODLEN
Rheoliadau 2 a 3


DIBENION Y MAE GRANTIAU'N DALADWY ATYNT NEU'N GYSYLLTIEDIG Â HWY


     1. Darparu - 

     2.

     3.

     4.

     5.

     6.

     7. Hyfforddiant athrawon ac athrawesau i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg y pynciau y mae'n ofynnol eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol.

     8.

     9.

     10.

     11. Darparu hyfforddiant a chyngor i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â chamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch tir ac adeiladau ysgolion a diogelwch personol disgyblion a phersonau sy'n gweithio mewn ysgolion.

     12. Hyfforddiant, ar gyfer athrawon ac athrawesau pynciau y mae cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch yn arbennig o berthnasol iddynt, ac a anelir at eu cymhwyso (neu at eu cymhwyso'n well) i roi cymorth cyntaf ac at roi gwybodaeth iddynt am faterion iechyd a diogelwch.

     13. Darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnodau pan fydd athrawon ac athrawesau yn mynychu cyrsiau hyfforddu.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sydd yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglycircn â gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol, neu mewn cysylltiad â hwy, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog gwariant o'r fath er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r fath grantiau. Maent yn ailddeddfu, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001. Amlinellir darpariaethau'r Rheoliadau, a'r newidiadau i'r Rheoliadau cynt, isod.

Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymwyso. Daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.

Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grantiau'n daladwy ond ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg lleol at y dibenion, neu mewn cysylltiad â'r dibenion, a nodir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol, a dim ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglycircn â gwariant gan awdurdodau addysg lleol i dalu trydydd partïon am wariant ganddynt os byddai'r gwariant hwnnw'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyfradd y grantiau sy'n daladwy.

Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae'r dyddiad yn rheoliad 6(5) ar gyfer cyflwyno datganiad a thystysgrif archwilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei newid o 31 Gorffennaf i 31 Hydref.

Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol fynnu i awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth iddo.

Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad osod gofynion ychwanegol.

Mae Rheoliad 11 yn caniatáu i'r Cynulliad fynnu i awdurdodau addysg lleol ddirprwyo penderfyniadau ar wario i gyrff llywodraethu ysgolion.

Mae Rheoliad 12 yn diddymu'r Rheoliadau blaenorol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol.

Mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer dibenion y mae grantiau'n daladwy atynt, neu'n gysylltiedig â hwy. Mae'r prif newidiadau i'r Atodlen fel a ganlyn:


Notes:

[1] 1996 p.56; diwygiwyd adrannau 484 a 489 gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. I gael ystyr "regulations" gweler adran 579(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1996 p.57.back

[4] O.S. 1999/2817 (Cy.18).back

[5] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym oedd, ar gyfer Cymru, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)), ac ar gyfer Lloegr, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).back

[6] Diwygiwyd adran 218 (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13); gan adran 14(1) a (3) o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 8(4) o Atodlen 2 iddi; gan baragraff 76 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996; gan adran 49(1)-(4) o Ddeddf Addysg 1997; a chan baragraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a chan adrannau 10, 11, ac 13 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back

[7] O.S. 1994/1047.back

[8] 1997 p.44. Diwygiwyd adran 15 gan baragraff 209 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[9] 1998 p.31.back

[10] Diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[11] 1988 p.18.back

[12] Diwygiwyd adran 484 gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.back

[13] O.S. 2001/891 (Cy.42).back

[14] 1998 p.38.back

[15] Diwygiwyd Pennod II gan baragraffau 26-28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a chan baragraffau 87-91 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[16] O.S. 1997/2009 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1977.back

[17] O.S. 1997/2010 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1976.back

[18] O.S. 2002/45(Cy.4).back

[19] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1) (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back

[20] ISBN 1 86112 223 3.back

[21] ISBN 1 86112 2225.back

[22] 1989 p.41; diwygiwyd adran 22(1) gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).back

[23] Diwygiwyd adran 218(3) gan adran 14(3) o Ddeddf Addysg 1994 a chan adran 10 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.back



English version



ISBN 0 11090447 8


  Prepared 26 March 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020438w.html