BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020813w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 813 (Cy.93)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 22 Mawrth 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 93 a 94(1)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o'r Ddeddf honno, a rhoi sylw i'r materion a bennir yn adran 93(6) o'r Ddeddf honno, fel sy'n ofynnol o dan adran 93(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 22 Mawrth 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997
    
2.  - (1) Diwygir Atodlen 2 (rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu) i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997[3] fel a ganlyn - 

    (2) ym mharagraff 4, yn lle "and (c) for any subsequent year, 56%.", rhodder "(c) for the year 2001, 56%; and (d) for any subsequent year, 59%.".

    (3) ym mharagraff 5, yn lle "and (c) for any subsequent year, 18%.", rhodder "(c) for the year 2001, 18%; and (d) for any subsequent year, 19%.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 ("y Prif Reoliadau") yn gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr i adennill ac ailgylchu gwastraff deunydd pacio, ac yn gosod rhwymedigaethau cysylltiedig arnynt.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r targedau adennill ac ailgylchu yn Atodlen 2 i'r Prif Reoliadau ar gyfer 2002 ymlaen. Defnyddir y targedau hyn er mwyn cyfrifo rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu. Mae Rheoliad 2(2) yn codi'r darged ar gyfer adennill o 56% i 59% ac mae rheoliad 2(3) yn codi'r darged ar gyfer ailgylchu o 18% i 19%.


Notes:

[1] 1995 p. 25; gweler adran 93(8) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1997/648, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1361, O.S. 1999/3447 ac O.S. 2000/3375.back

[4] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090486 9


  Prepared 15 May 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020813w.html