BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021176w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1176 (Cy.124)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 25 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym 30 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55 (3) a 118(5) a (6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr "Gweithiwr Gofal Cymdeithasol") (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Personau sydd i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol
    
3. At ddibenion y swyddogaeth sydd gan y Cyngor o dan adran 54(3) o'r Ddeddf yn unig mae personau o unrhyw un o'r disgrifiadau yn is-baragraffau (a) i (g) o baragraff (3) o adran 55 o'r Ddeddf i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Ebrill 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu, at ddibenion y swyddogaeth sydd gan Gyngor Gofal Cymru o dan adran 54(3) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") yn unig, fod personau penodol i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol. O dan adran 54(3) o'r Ddeddf rhaid i Gyngor Gofal Cymru hyrwyddo mewn perthynas â Chymru safonau ymddygiad a safonau ymarfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol, a safonau uchel ar gyfer eu hyfforddiant.

Y personau a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (g) o adran 55(3) o'r Ddeddf yw'r rhai sydd i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol at y dibenion sydd newydd eu crybwyll. Maent yn cynnwys personau sy'n ymgymryd â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (neu â darparu gwasanaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu darparu wrth arfer y swyddogaethau hynny); personau sy'n ymgymryd â darparu gofal personol i unrhyw berson; personau penodol sy'n ymwneud ag asiantaethau gwaith cymdeithasol; personau sy'n cael eu cyflogi mewn canolfannau dydd; a myfyrwyr penodol sy'n astudio gwaith cymdeithasol.


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol ("appropriate Minister"). Diffinnir yr "appropriate Minister" yn adran 121(1). Mae'n golygu'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru (mae adran 5(b) yn darparu mai ystyr "y Cynulliad" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru); mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol. Diffinir "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090508 3


  Prepared 20 June 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021176w.html